12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Uwch

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:10, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Plaid Cymru, rydych yn cael eich ffordd gyda gwelliant 4 am eich bod yn ei ddisgrifio fel is-bwynt newydd. I fod yn glir, nid yw'r ffaith ein bod yn croesawu adnoddau Llywodraeth Cymru yn golygu ein bod yn credu eu bod yn ddigon. Nid wyf hyd yn oed yn argyhoeddedig eu bod yn ychwanegol, ond fe ddof at hynny maes o law. Ond gadewch inni ddechrau gyda phwynt 2 ein cynnig, fod:

'myfyrwyr yn haeddu gwerth am arian yn gyfnewid am y buddsoddiad a wnânt yn eu haddysg uwch ac addysg bellach.'

Sut mae COVID wedi effeithio ar fyfyriwr coleg? Wel, efallai y byddwn yn dal i weld niferoedd uwch o newydd-ddyfodiaid yn dewis aros gartref ar adeg o ansicrwydd mawr ynghylch teithio, cyfyngiadau symud, a chyflogaeth wrth gwrs. Efallai nad yw rhai am wynebu'r risg o ysgwyddo'r dyledion cynyddol sy'n gysylltiedig â mynd i'r brifysgol ar adeg pan fo'r farchnad swyddi, yn enwedig i bobl ifanc, yn edrych yn fwy bregus. A beth fyddant yn ei gael? Yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, dywedodd ColegauCymru fod heriau drud o'n blaenau, yn enwedig pe bai nifer y newydd-ddyfodiaid yn codi. Bydd y £23 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ddiwallu angen COVID yn sicr wedi helpu gyda heriau fel mesurau cadw pellter cymdeithasol neu ddiwallu anghenion cyfarpar TG, ond ni allwch greu tiwtoriaid mwy profiadol dros nos i ddiwallu'r angen a grëir gan yr angen i gadw pellter cymdeithasol. Mae defnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw i drosglwyddo addysgu ar-lein yn well na pheidio â'i gael o gwbl, ond nid yw hynny yr un peth â phrofiad wyneb yn wyneb. Ac er y gall dysgu ar-lein fod yn addas i rai myfyrwyr—nid wyf yn credu y dylem anwybyddu'r ffaith honno—sut y bydd yn effeithio ar gyrsiau sydd â lefel uchel o addysgu ymarferol neu brofiad yn y gweithle?

Gadewch inni beidio ag anghofio ychwaith fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu torri'r arian a oedd yn mynd i bartneriaid contract addysg bellach ar gyfer dysgu seiliedig ar waith—rhywbeth a gafodd sylw gan y Ceidwadwyr Cymreig—gan leihau hyd yn oed ymhellach y cyfle i fyfyrwyr elwa'n wirioneddol o feithrin cysylltiadau a sgiliau gyda chyflogwyr mewn amrywiaeth eang o fusnesau a chyrff arloesi. Os na all Llywodraeth Cymru warantu digon o gyllid ar gyfer offer, meddalwedd, trwyddedau, cysylltedd priodol i fyfyrwyr weithio ar gampws neu gartref, yn sicr nid oes ganddi hawl i danseilio gweithgareddau masnachol y colegau eu hunain, a allai fod yn eu hariannu yn eu lle.

Efallai fod y cwestiwn gwerth am arian wedi'i ddiffinio hyd yn oed yn fwy penodol i fyfyrwyr prifysgol. Os ydych yn mynd i gronni gwerth o leiaf £27,000 o ddyled am addysg ar gwrs israddedig, fe fyddwch yn awyddus i gael gwerth £27,000 o addysg o safon. Ac unwaith eto, gall dysgu cyfunol fod yn rhan o'r cynnig safonol hwnnw, ond fel y dywedais, os ydych yn talu'r math hwnnw o arian, rwy'n credu eich bod yn awyddus iawn i allu gweld wyneb eich tiwtor a'u cael yno i drafod gyda chi. A dyna pam ein bod yn rhoi'r pwyslais, ym mhwynt 6(b) ein cynnig, ar ffrydio byw, sydd ar gyfer colegau hefyd, gyda llaw. Ar bob cyfrif, sicrhewch fod darlithoedd a seminarau ar gael ar ffurf darpariaeth ddal i fyny, ond ar gyfer dysgu dan oruchwyliaeth, mae angen rhyngweithio wyneb yn wyneb yn y fan a'r lle er mwyn iddo fod yn deilwng o'r disgrifiad 'dan oruchwyliaeth'. A'r hyn na allwn ei gael yw 10 awr o hyfforddiant byw yn cael ei ddisodli gan dair awr o ddarlithoedd ar-lein wedi'u recordio, fel y dywedwyd wrthyf yn ddiweddar sy'n digwydd yn un o'n prifysgolion. Rwy'n siŵr mai eithriad oedd hynny, ond mae wedi digwydd. Ac er y gallem i gyd ddod o hyd i'r ffaith bod fframweithiau'r asiantaeth sicrhau ansawdd ar gyfer addysg uwch yn cynnig sicrwydd ansawdd ar gyfer cyrsiau prifysgol, ni chafwyd cyfle eto mewn gwirionedd i werthuso'n ffurfiol effaith y gwahanol ffyrdd o ddarparu'r cyrsiau hynny ar ansawdd.

Yn y cyfamser, dywedodd arolwg Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wrthym na allai 27 y cant o fyfyrwyr prifysgol gael mynediad at ddysgu ar-lein hyd yn oed os yw'r offer ganddynt; dywedodd 15 y cant nad oedd y cyfarpar ganddynt hyd yn oed; dywedodd 38 y cant nad oedd ansawdd y ddarpariaeth ar-lein o safon uchel; ac nid yw'n syndod fod dwy ran o dair o fyfyrwyr wedi dweud bod COVID yn effeithio'n negyddol ar elfennau galwedigaethol eu cyrsiau. Bydd rhai o'r myfyrwyr prifysgol hyn hefyd wedi teimlo effaith streiciau darlithwyr wrth gwrs, gan eu hamddifadu o oriau o ddysgu dan oruchwyliaeth y maent wedi talu amdanynt. Felly, nid yw'n syndod bod rhai'n mynnu ad-daliadau. 

Nid sôn am werth am arian yn unig y mae'r rhan hon o'r cynnig, mae'n sôn am fuddsoddi, a gobeithio y clywn ymateb y Gweinidog i'r cwestiwn ynglŷn â buddsoddiad dynol, os hoffwch. Unwaith eto, nododd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr nad oedd dim o'r arian a oedd yn dod gan Lywodraeth Cymru wedi'i glustnodi ar gyfer caledi myfyrwyr. Ac er fy mod yn wirioneddol falch na chafodd cyllid cynnal a chadw ei adfachu, mae anallu myfyrwyr i weithio yn ystod y cyfnod hwn i ychwanegu at eu hincwm wedi arwain at galedi gwirioneddol, yn enwedig i rai o gefndiroedd tlotach, rhai sydd â pherthynas wael â'u teuluoedd neu rai sy'n byw'n rhy bell i ffwrdd o gartref y teulu i adael eu tref brifysgol yn ystod y cyfyngiadau symud.

Aelodau, bydd yn rhaid i mi adael pwynt 6(c) o'r cynnig i eraill, mae arnaf ofn. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn dweud ychydig eiriau amdano yn ei hymateb, ond os wyf am fwrw ymlaen ar fy mhwynt olaf, a rhoi amser i eraill ddweud rhywbeth, bydd yn rhaid i mi ddod yn ôl ato ar adeg wahanol.

Fy mhwynt olaf yw hwn: mae angen arian ar golegau a phrifysgolion i ddarparu addysg o'r ansawdd gorau. Maent wedi cael ergyd ariannol yn sgil COVID, er bod £50 miliwn yn cael ei adennill i bob pwrpas o'r pot COVID gan y Gweinidog addysg, a'i ddosbarthu'n unol â hynny i'r prifysgolion a'n sefydliadau addysg bellach. Yn sicr, roedd hynny'n helpu i leddfu problemau llif arian. Mae'r cyllid myfyrwyr a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU hefyd wedi helpu gyda phroblemau llif arian, felly mae wedi bod yn ymyrraeth i'w chroesawu. Ond y rhagamcan diweddaraf ar gyfer prifysgolion Cymru, ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, yw colled o £400 miliwn i £500 miliwn, sy'n swm eithriadol yn ôl mesur unrhyw un.

Mae'r £23 miliwn ar gyfer addysg bellach a £27 miliwn ar gyfer addysg uwch yn cuddio'r ffaith bod toriad o £47 miliwn wedi'i wneud yn y gyllideb addysg ei hun i fynd i mewn i bot COVID Llywodraeth Cymru—yn gwbl ddealladwy—ynghyd â symiau canlyniadol amrywiol o'r arian ychwanegol o'r DU y daethpwyd o hyd iddo ar gyfer addysg. A gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu cadarnhau, gyda rhywfaint o dystiolaeth, gobeithio, faint o'r swm canlyniadol ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch a drosglwyddwyd i'r sectorau hynny.

Mae gwelliant Plaid Cymru yn awgrymu bod rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gan y sectorau ddigon o arian i wneud yr hyn y mae angen iddynt ei wneud a darparu'r addysg safonol honno, ac yn wir, rydym yn cytuno. Nid yw hynny yr un fath, fodd bynnag, â dweud y dylai Llywodraeth Cymru, a hyd yn oed Llywodraeth y DU, fod yn gyfrifol am ddod o hyd i'r holl arian hwnnw. Gall y ddau sector wneud arian drostynt eu hunain, ac maent yn gwneud hynny, a dylai penderfyniadau Llywodraeth Cymru ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny, nid yn galetach. Rwyf eisoes wedi sôn am y bygythiad i un ffrwd incwm ar gyfer addysg bellach, ond mae prifysgolion Cymru'n dal i aros, ar ôl argymhellion yr Athro Reid yr holl flynyddoedd yn ôl, am help i hwyluso'r math o geisiadau partneriaeth strategol a fyddai'n rhoi mynediad llawer gwell iddynt at lefel uchel o arloesedd neu gyllid ymchwil o ansawdd da gan Lywodraeth y DU, ac o fannau eraill.

Byddai'n dal i fod yn deg dweud bod y ddau sector wedi cael eu tangyllido gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd, ac mae addysg bellach wedi bod yn fwy agored i hynny, rwy'n meddwl, yn enwedig ar ddiwedd tymor diwethaf y Cynulliad a dechrau'r un cyfredol, oherwydd mae'n fwy uniongyrchol ddibynnol ar bwrs y wlad. Mae prifysgolion yn cael mwy o gyfle i weithio'n fasnachol, ond maent hefyd wedi gorfenthyg, ac mae hynny'n eu gadael yn agored i fath gwahanol o niwed. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai prifysgolion am egluro pam eu bod yn dal eu gafael ar gronfeydd wrth gefn mor fawr, rai ohonynt yn fwy na 100 y cant o'u hincwm.

Y ddadl rwy'n disgwyl ei chlywed yn ystod y drafodaeth hon yw y bydd rhoi ad-daliad i fyfyrwyr yn ychwanegu at bryderon ariannol y sefydliadau. Rwyf am wybod hyn: pam mai myfyrwyr ddylai dalu cost COVID pan fo myfyrwyr eu hunain, er gwaethaf ymdrechion diamheuol gan arweinwyr yn y ddau sector, yn ofni nad ydynt yn cael yr addysg lawn a addawyd iddynt a chynifer ohonynt yn mynd i ddyled i wneud hynny? Diolch.