– Senedd Cymru ar 23 Medi 2020.
Symudwn yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma ar addysg uwch, a galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig—Suzy.
Cynnig NDM7387 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd addysg uwch ac addysg bellach i Gymru a'i heconomi.
2. Yn credu bod myfyrwyr yn haeddu gwerth am arian yn gyfnewid am y buddsoddiad a wnânt yn eu haddysg uwch ac addysg bellach.
3. Yn gresynu at effaith pandemig y coronafeirws ar fyfyrwyr yng Nghymru a sut y tarfwyd ar gyrsiau.
4. Yn croesawu'r adnoddau ariannol ychwanegol a ddarparwyd i golegau a phrifysgolion Cymru i'w cefnogi drwy'r pandemig.
5. Yn nodi na fu gostyngiad yn y ffioedd a delir gan fyfyrwyr i adlewyrchu effaith andwyol y pandemig ar eu hastudiaethau.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i sicrhau bod ffioedd yn adlewyrchu effaith pandemig y coronafeirws ar eu cyrsiau;
b) sicrhau bod myfyrwyr yn manteisio ar y cyfle i gael mynediad at ddysgu naill drwy fod yn bresennol neu, os bydd cyfyngiadau COVID-19 na ellir eu hosgoi, drwy fwy o ffrydio byw; ac
c) mynd i'r afael â phryderon myfyrwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch mewn perthynas â lleihau maes llafur rhai cyrsiau sy'n cyfrannu at ofynion mynediad ar gyfer colegau a phrifysgolion.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croeso i bawb sy'n mynd i gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwy'n gwneud y cynnig, sy'n ymwneud â mwy nag addysg uwch mewn gwirionedd, ond mae'n sicr yn rhan o'r hyn y byddwn yn sôn amdano heddiw.
Rwy'n edrych ymlaen at ddadl ddefnyddiol a llawn gwybodaeth am rywbeth y credaf y gallwn gytuno yn ei gylch yn ei hanfod. Yn sicr, ni fu unrhyw ymgais i ddiwygio'r ddwy ran gyntaf o'r cynnig, felly rwy'n cael y teimlad fod y pleidiau eraill a'r Llywodraeth wedi gorfod meddwl yn eithaf caled ynglŷn â sut roeddent am ddiwygio'r cynnig hwn, am y rheswm syml ein bod i gyd yn hwylio i'r un cyfeiriad pan fyddwn yn sôn am ddyfodol da i'n sector addysg bellach a'n sector addysg uwch.
Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae'r gwelliannau i gyd yn ei ddangos yw eu bod yn edrych ar bwysigrwydd sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach o safbwynt y sefydliadau hynny. A'r tro hwn, rydym yn gwahodd Senedd Cymru i edrych ar yr heriau o safbwynt y myfyriwr. Ac mae arnaf ofn mai dyna pam na allwn gefnogi'r rhan fwyaf o'r gwelliannau—dim byd i anghytuno ag ef yn benodol, ond maent yn dileu ac yn tynnu oddi wrth yr argymhelliad fod arnom angen o leiaf un ddadl lle mae llais y myfyriwr yn flaenaf. Ac yn achos myfyrwyr prifysgol, wrth gwrs, mae'r lleisiau hynny'n nerfus yn wyneb y posibilrwydd o ddyled bersonol drom.
Plaid Cymru, rydych yn cael eich ffordd gyda gwelliant 4 am eich bod yn ei ddisgrifio fel is-bwynt newydd. I fod yn glir, nid yw'r ffaith ein bod yn croesawu adnoddau Llywodraeth Cymru yn golygu ein bod yn credu eu bod yn ddigon. Nid wyf hyd yn oed yn argyhoeddedig eu bod yn ychwanegol, ond fe ddof at hynny maes o law. Ond gadewch inni ddechrau gyda phwynt 2 ein cynnig, fod:
'myfyrwyr yn haeddu gwerth am arian yn gyfnewid am y buddsoddiad a wnânt yn eu haddysg uwch ac addysg bellach.'
Sut mae COVID wedi effeithio ar fyfyriwr coleg? Wel, efallai y byddwn yn dal i weld niferoedd uwch o newydd-ddyfodiaid yn dewis aros gartref ar adeg o ansicrwydd mawr ynghylch teithio, cyfyngiadau symud, a chyflogaeth wrth gwrs. Efallai nad yw rhai am wynebu'r risg o ysgwyddo'r dyledion cynyddol sy'n gysylltiedig â mynd i'r brifysgol ar adeg pan fo'r farchnad swyddi, yn enwedig i bobl ifanc, yn edrych yn fwy bregus. A beth fyddant yn ei gael? Yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, dywedodd ColegauCymru fod heriau drud o'n blaenau, yn enwedig pe bai nifer y newydd-ddyfodiaid yn codi. Bydd y £23 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ddiwallu angen COVID yn sicr wedi helpu gyda heriau fel mesurau cadw pellter cymdeithasol neu ddiwallu anghenion cyfarpar TG, ond ni allwch greu tiwtoriaid mwy profiadol dros nos i ddiwallu'r angen a grëir gan yr angen i gadw pellter cymdeithasol. Mae defnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw i drosglwyddo addysgu ar-lein yn well na pheidio â'i gael o gwbl, ond nid yw hynny yr un peth â phrofiad wyneb yn wyneb. Ac er y gall dysgu ar-lein fod yn addas i rai myfyrwyr—nid wyf yn credu y dylem anwybyddu'r ffaith honno—sut y bydd yn effeithio ar gyrsiau sydd â lefel uchel o addysgu ymarferol neu brofiad yn y gweithle?
Gadewch inni beidio ag anghofio ychwaith fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu torri'r arian a oedd yn mynd i bartneriaid contract addysg bellach ar gyfer dysgu seiliedig ar waith—rhywbeth a gafodd sylw gan y Ceidwadwyr Cymreig—gan leihau hyd yn oed ymhellach y cyfle i fyfyrwyr elwa'n wirioneddol o feithrin cysylltiadau a sgiliau gyda chyflogwyr mewn amrywiaeth eang o fusnesau a chyrff arloesi. Os na all Llywodraeth Cymru warantu digon o gyllid ar gyfer offer, meddalwedd, trwyddedau, cysylltedd priodol i fyfyrwyr weithio ar gampws neu gartref, yn sicr nid oes ganddi hawl i danseilio gweithgareddau masnachol y colegau eu hunain, a allai fod yn eu hariannu yn eu lle.
Efallai fod y cwestiwn gwerth am arian wedi'i ddiffinio hyd yn oed yn fwy penodol i fyfyrwyr prifysgol. Os ydych yn mynd i gronni gwerth o leiaf £27,000 o ddyled am addysg ar gwrs israddedig, fe fyddwch yn awyddus i gael gwerth £27,000 o addysg o safon. Ac unwaith eto, gall dysgu cyfunol fod yn rhan o'r cynnig safonol hwnnw, ond fel y dywedais, os ydych yn talu'r math hwnnw o arian, rwy'n credu eich bod yn awyddus iawn i allu gweld wyneb eich tiwtor a'u cael yno i drafod gyda chi. A dyna pam ein bod yn rhoi'r pwyslais, ym mhwynt 6(b) ein cynnig, ar ffrydio byw, sydd ar gyfer colegau hefyd, gyda llaw. Ar bob cyfrif, sicrhewch fod darlithoedd a seminarau ar gael ar ffurf darpariaeth ddal i fyny, ond ar gyfer dysgu dan oruchwyliaeth, mae angen rhyngweithio wyneb yn wyneb yn y fan a'r lle er mwyn iddo fod yn deilwng o'r disgrifiad 'dan oruchwyliaeth'. A'r hyn na allwn ei gael yw 10 awr o hyfforddiant byw yn cael ei ddisodli gan dair awr o ddarlithoedd ar-lein wedi'u recordio, fel y dywedwyd wrthyf yn ddiweddar sy'n digwydd yn un o'n prifysgolion. Rwy'n siŵr mai eithriad oedd hynny, ond mae wedi digwydd. Ac er y gallem i gyd ddod o hyd i'r ffaith bod fframweithiau'r asiantaeth sicrhau ansawdd ar gyfer addysg uwch yn cynnig sicrwydd ansawdd ar gyfer cyrsiau prifysgol, ni chafwyd cyfle eto mewn gwirionedd i werthuso'n ffurfiol effaith y gwahanol ffyrdd o ddarparu'r cyrsiau hynny ar ansawdd.
Yn y cyfamser, dywedodd arolwg Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wrthym na allai 27 y cant o fyfyrwyr prifysgol gael mynediad at ddysgu ar-lein hyd yn oed os yw'r offer ganddynt; dywedodd 15 y cant nad oedd y cyfarpar ganddynt hyd yn oed; dywedodd 38 y cant nad oedd ansawdd y ddarpariaeth ar-lein o safon uchel; ac nid yw'n syndod fod dwy ran o dair o fyfyrwyr wedi dweud bod COVID yn effeithio'n negyddol ar elfennau galwedigaethol eu cyrsiau. Bydd rhai o'r myfyrwyr prifysgol hyn hefyd wedi teimlo effaith streiciau darlithwyr wrth gwrs, gan eu hamddifadu o oriau o ddysgu dan oruchwyliaeth y maent wedi talu amdanynt. Felly, nid yw'n syndod bod rhai'n mynnu ad-daliadau.
Nid sôn am werth am arian yn unig y mae'r rhan hon o'r cynnig, mae'n sôn am fuddsoddi, a gobeithio y clywn ymateb y Gweinidog i'r cwestiwn ynglŷn â buddsoddiad dynol, os hoffwch. Unwaith eto, nododd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr nad oedd dim o'r arian a oedd yn dod gan Lywodraeth Cymru wedi'i glustnodi ar gyfer caledi myfyrwyr. Ac er fy mod yn wirioneddol falch na chafodd cyllid cynnal a chadw ei adfachu, mae anallu myfyrwyr i weithio yn ystod y cyfnod hwn i ychwanegu at eu hincwm wedi arwain at galedi gwirioneddol, yn enwedig i rai o gefndiroedd tlotach, rhai sydd â pherthynas wael â'u teuluoedd neu rai sy'n byw'n rhy bell i ffwrdd o gartref y teulu i adael eu tref brifysgol yn ystod y cyfyngiadau symud.
Aelodau, bydd yn rhaid i mi adael pwynt 6(c) o'r cynnig i eraill, mae arnaf ofn. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn dweud ychydig eiriau amdano yn ei hymateb, ond os wyf am fwrw ymlaen ar fy mhwynt olaf, a rhoi amser i eraill ddweud rhywbeth, bydd yn rhaid i mi ddod yn ôl ato ar adeg wahanol.
Fy mhwynt olaf yw hwn: mae angen arian ar golegau a phrifysgolion i ddarparu addysg o'r ansawdd gorau. Maent wedi cael ergyd ariannol yn sgil COVID, er bod £50 miliwn yn cael ei adennill i bob pwrpas o'r pot COVID gan y Gweinidog addysg, a'i ddosbarthu'n unol â hynny i'r prifysgolion a'n sefydliadau addysg bellach. Yn sicr, roedd hynny'n helpu i leddfu problemau llif arian. Mae'r cyllid myfyrwyr a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU hefyd wedi helpu gyda phroblemau llif arian, felly mae wedi bod yn ymyrraeth i'w chroesawu. Ond y rhagamcan diweddaraf ar gyfer prifysgolion Cymru, ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, yw colled o £400 miliwn i £500 miliwn, sy'n swm eithriadol yn ôl mesur unrhyw un.
Mae'r £23 miliwn ar gyfer addysg bellach a £27 miliwn ar gyfer addysg uwch yn cuddio'r ffaith bod toriad o £47 miliwn wedi'i wneud yn y gyllideb addysg ei hun i fynd i mewn i bot COVID Llywodraeth Cymru—yn gwbl ddealladwy—ynghyd â symiau canlyniadol amrywiol o'r arian ychwanegol o'r DU y daethpwyd o hyd iddo ar gyfer addysg. A gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu cadarnhau, gyda rhywfaint o dystiolaeth, gobeithio, faint o'r swm canlyniadol ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch a drosglwyddwyd i'r sectorau hynny.
Mae gwelliant Plaid Cymru yn awgrymu bod rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gan y sectorau ddigon o arian i wneud yr hyn y mae angen iddynt ei wneud a darparu'r addysg safonol honno, ac yn wir, rydym yn cytuno. Nid yw hynny yr un fath, fodd bynnag, â dweud y dylai Llywodraeth Cymru, a hyd yn oed Llywodraeth y DU, fod yn gyfrifol am ddod o hyd i'r holl arian hwnnw. Gall y ddau sector wneud arian drostynt eu hunain, ac maent yn gwneud hynny, a dylai penderfyniadau Llywodraeth Cymru ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny, nid yn galetach. Rwyf eisoes wedi sôn am y bygythiad i un ffrwd incwm ar gyfer addysg bellach, ond mae prifysgolion Cymru'n dal i aros, ar ôl argymhellion yr Athro Reid yr holl flynyddoedd yn ôl, am help i hwyluso'r math o geisiadau partneriaeth strategol a fyddai'n rhoi mynediad llawer gwell iddynt at lefel uchel o arloesedd neu gyllid ymchwil o ansawdd da gan Lywodraeth y DU, ac o fannau eraill.
Byddai'n dal i fod yn deg dweud bod y ddau sector wedi cael eu tangyllido gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd, ac mae addysg bellach wedi bod yn fwy agored i hynny, rwy'n meddwl, yn enwedig ar ddiwedd tymor diwethaf y Cynulliad a dechrau'r un cyfredol, oherwydd mae'n fwy uniongyrchol ddibynnol ar bwrs y wlad. Mae prifysgolion yn cael mwy o gyfle i weithio'n fasnachol, ond maent hefyd wedi gorfenthyg, ac mae hynny'n eu gadael yn agored i fath gwahanol o niwed. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai prifysgolion am egluro pam eu bod yn dal eu gafael ar gronfeydd wrth gefn mor fawr, rai ohonynt yn fwy na 100 y cant o'u hincwm.
Y ddadl rwy'n disgwyl ei chlywed yn ystod y drafodaeth hon yw y bydd rhoi ad-daliad i fyfyrwyr yn ychwanegu at bryderon ariannol y sefydliadau. Rwyf am wybod hyn: pam mai myfyrwyr ddylai dalu cost COVID pan fo myfyrwyr eu hunain, er gwaethaf ymdrechion diamheuol gan arweinwyr yn y ddau sector, yn ofni nad ydynt yn cael yr addysg lawn a addawyd iddynt a chynifer ohonynt yn mynd i ddyled i wneud hynny? Diolch.
Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Felly, galwaf ar Helen Mary Jones i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 4—Siân Gwenllian
Cynnwys is-bwynt 6(b) newydd ac ailrifo'n unol â hynny:
gweithio gyda'r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith i sicrhau bod ganddynt adnoddau digonol a chynaliadwy i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau posibl, yn enwedig i ddysgwyr difreintiedig, ar yr adeg heriol hon;
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Mae llawer yn y cynnig y gallwn ei gefnogi, ond fel y mae Suzy Davies wedi tynnu sylw ato'n briodol, rydym yn edrych ar y materion sy'n codi o safbwynt ychydig yn wahanol. Felly, o ystyried cyfyngiadau amser, Ddirprwy Lywydd, fe gadwaf fy sylwadau i ddadlau dros ein gwelliannau.
Mae ein gwelliant cyntaf yn galw am ddileu cymal 4. Er bod unrhyw adnoddau ychwanegol ar gyfer y sector pwysig hwn i'w croesawu bob amser, mae sefyllfa ariannol enbyd llawer o'n prifysgolion yn ei gwneud yn amhosibl inni roi croeso diamod i'r adnoddau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u darparu hyd yma. Roedd Canolfan Llywodraethiant Cymru, yn ôl ym mis Mai eleni, yn rhybuddio ynglŷn â cholli rhwng £100 miliwn a £140 miliwn o incwm ffioedd i brifysgolion Cymru yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Rhagamcan oedd hynny wrth gwrs. Fel y mae Suzy Davies newydd ei ddweud, yn ddiweddar roedd CCAUC yn rhagweld colled o dros £400 miliwn—diffyg—yn incwm prifysgolion eleni, a pherygl o golli hyd at 5,000 o swyddi.
Daw hyn ar ben sefyllfa sydd eisoes yn fregus i rai o'n sefydliadau. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud eu bod yn sefydliadau annibynnol, ac mae'n rhaid i rai ohonynt ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny. Ond p'un a ydynt yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw ai peidio, byddai'r effaith ar ein cymunedau o golli rhai o'r sefydliadau hyn, neu golli llawer o swyddi yn y sefydliadau hyn, yn eithafol. Efallai y dywed y Gweinidog nad yw'n cydnabod y darlun hwn. Os nad yw'n ei gydnabod, mae hynny'n anffodus, oherwydd dyna'r realiti. Mae'r £27 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi hyd yma yn teimlo fel diferyn bach mewn cefnfor mawr iawn, ac mae'n ddrwg gennyf os yw'r Llywodraeth yn teimlo ein bod yn angharedig, ond nid ydym yn teimlo y dylid croesawu hynny ynddo'i hun.
Mae ein gwelliant 3 yn galw am ddileu pwynt 6(a). Rydym yn deall, wrth gwrs, fod rhai myfyrwyr yn anhapus ynglŷn â thalu'r un lefel o ffioedd ag y byddent mewn blwyddyn arferol pan fo'u profiad dysgu yn wahanol iawn, ac rydym yn cydymdeimlo. Ond pan fo'r sector dan gymaint o bwysau ariannol, ni chredwn mai dyma'r adeg iawn i leihau ymhellach yr incwm sydd ar gael i sefydliadau. Rwy'n cymryd yr hyn y mae Suzy Davies yn ei ddweud am y ffordd na ddylai myfyrwyr unigol ysgwyddo'r baich, ac rwy'n cydymdeimlo â'r safbwynt hwnnw, ond mae'r sefydliadau hyn mor bwysig yn ein cymunedau ac i'n heconomi fel nad ydym yn cefnogi unrhyw ostyngiad pellach yn yr incwm drwy leihau ffioedd.
Credwn y dylai'r Llywodraeth weithio'n agos gyda'r sector i sicrhau, a 'sicrhau' yw'r gair allweddol—efallai y gallem fod wedi dweud 'galluogi'. Nid ydym yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ariannu'r sefydliadau hyn yn llwyr, sefydliadau addysg uwch na sefydliadau addysg bellach, ond mae'n rhaid iddynt greu'r hinsawdd iawn lle gellir dod o hyd i incwm arall, ac mae hyn, unwaith eto, yn rhywbeth nad ydym yn gweld bod digon o weithgarwch a digon o gyfathrebu ynghlwm wrtho. Rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod digon o adnoddau yn y ddau sector i gynnal safonau, gan gynnwys safonau addysgu, ac i barhau i ehangu mynediad, a dyna'r rheswm dros ein gwelliant.
Mae gwelliant 4 yn ceisio cryfhau'r cynnig drwy gyfeiriad penodol pellach at addysg bellach ac yn enwedig at ddysgu seiliedig ar waith. Mae'r cynnig gwreiddiol yn sôn am golegau yn ogystal â phrifysgolion drwyddo draw, ond roeddem am dynnu rhagor o sylw at yr elfen addysg bellach honno. Mae addysg bellach yn wynebu heriau penodol a gwahanol, fel y mae Suzy Davies wedi nodi'n briodol, a rhaid mynd i'r afael â'r rhain; mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn wynebu heriau gwahanol unwaith eto.
Rwy'n ymwybodol eu bod mewn portffolio gwahanol, ond credaf fod gan bob darparwr addysg, pob darparwr dysgu, hawl i ddisgwyl dull gweithredu cyson gan y Llywodraeth yn gyffredinol. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith y bydd pob hyfforddai'n dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb o 1 Hydref ymlaen, yn wrthgyferbyniol i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddysgu hyblyg a dysgu cyfunol mewn sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach. Nid yw hyn yn gwneud synnwyr. Wrth gwrs, y ffaith amdani yw na fyddant yn cael eu talu os na fydd eu hyfforddeion yn bresennol.
Clywn lawer am barch cydradd rhwng dysgu galwedigaethol a dysgu academaidd. Awgrymwn fod hwn yn gyfle i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â'r sector ar draws portffolios a sicrhau bod y parch cydradd tybiedig y clywsom gymaint amdano yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd y caiff cyfleoedd dysgu galwedigaethol eu cefnogi a'u hariannu gan y Llywodraeth, ac mae hyn ymhell o fod yn wir, a dyna'r rheswm dros ein gwelliant 4.
Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed gweddill y ddadl, edrychaf ymlaen at ymateb y Llywodraeth, ac rwy'n cymeradwyo gwelliannau 1, 3 a 4 i'r Senedd hon.
Diolch. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog Addysg gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu ymdrechion myfyrwyr, colegau a phrifysgolion i barhau i weithredu’n ddiogel ac yn effeithiol mewn amgylchiadau heriol dros y tymor nesaf, ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion.
Yn nodi gwaith helaeth colegau a phrifysgolion i gynnal cyfleoedd dysgu, naill ai wyneb yn wyneb neu, lle nad oedd modd osgoi cyfyngiadau COVID-19, drwy wersi, asesu a chymorth ar-lein.
Yn nodi’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr addysg uwch a phellach i baratoi ar gyfer y tymor newydd ac agor campysau yn ddiogel.
Yn ffurfiol.
Mae'n ddrwg gennyf, cefais drafferth i agor y meic. Bydd llawer o'r hyn a ddywedaf yn awr yn adleisio'r hyn y mae Gweinidog yr wrthblaid Geidwadol dros addysg eisoes wedi'i ddweud, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaeth.
Mae'r pandemig coronafeirws wedi arwain at darfu'n eang ar gynifer o sectorau o'n heconomi yng Nghymru. Bydd rhywfaint o'r niwed economaidd sy'n cael ei achosi yn anadferadwy, ac i bawb mewn addysg lawnamser, bydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma nawr yn bwrw cysgod hir. Un cyfle ar eu haddysg a gaiff y bobl ifanc sy'n ceisio am gymwysterau ar hyn o bryd, ac mae'r effaith ar eu hastudiaethau eisoes wedi achosi cryn ofid.
Roedd myfyrwyr a oedd yn mynd i brifysgolion a cholegau y mis hwn yn wynebu'r gofid o weld ysgolion yn cau ychydig wythnosau'n unig cyn iddynt sefyll eu harholiadau Safon Uwch, pan fydd llawer ohonynt bron â bod wedi cwblhau pum tymor o astudio. Ar ôl dioddef cythrwfl emosiynol y ffiasgo canlyniadau yn gynharach y mis hwn, mae pobl ifanc yn wynebu rhwystrau newydd wrth i lawer ohonynt ddechrau ar eu haddysg bellach neu addysg uwch. Mae pobl ifanc wedi colli cyfle i ymgymryd â chynifer o ddefodau newid byd, ac mae angen i bob un ohonom wneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn colli cyn lleied ag sy'n bosibl o gyfleoedd o'r fath. Un o'r profiadau gorau o fynd i'r brifysgol yw dysgu byw'n annibynnol a gwneud ffrindiau newydd, ac eto bydd y cyfyngiadau ar ryngweithio cymdeithasol yn cyfyngu ar y cyfleoedd hyn.
Fel y mae pwynt 5 ein cynnig yn dweud yn glir, ni argymhellwyd gostyngiad yn y ffioedd dysgu eleni, er na fydd llawer o fyfyrwyr yn gosod troed mewn ystafell ddosbarth neu ddarlithfa hyd yn oed. Wrth gwrs, ceir ffyrdd o fanteisio ar dechnoleg newydd a defnyddio cyfarfodydd rhithwir fel ffordd o ategu dysgu, ond ni ddylai gymryd lle dysgu wyneb yn wyneb yn llwyr. Dylai myfyrwyr ddisgwyl rhywfaint o gyswllt wyneb yn wyneb, ond mae'n amlwg mai mater i brifysgolion a cholegau, gyda chanllawiau cadarn gan Lywodraeth Cymru, yw pennu'r ffyrdd mwyaf diogel o weithredu. Y brif flaenoriaeth yw sicrhau bod dysgu'n barhaus a bod cynlluniau trwyadl ar waith i sicrhau parhad cyrsiau, hyd yn oed os bydd rheoliadau COVID yn mynd yn llymach, ac yn y senario waethaf, ein bod yn wynebu cyfnod arall o gyfyngiadau symud.
Rydym i gyd yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae colegau a phrifysgolion addysg bellach yn ei chwarae yn uwchsgilio ein gweithlu i ateb yr her anferthol o ailadeiladu economi Cymru mewn byd ôl-COVID, ac mae angen i bob un ohonom gydnabod y bydd Cymru ôl-COVID yn edrych ac yn teimlo'n wahanol iawn i'r hyn ydoedd o'r blaen. Mae'r cynnydd mewn rhyngweithio cymdeithasol ar-lein bron yn sicr yma i aros, ac mae hynny ynddo'i hun yn creu heriau o ran sicrhau bod gennym weithlu sydd â'r sgiliau i ateb y galw. Cydnabu bron i hanner y cyflogwyr a arolygwyd gan y Brifysgol Agored y byddai mentrau prentisiaeth a dysgu seiliedig ar waith yn hanfodol i adferiad eu sefydliad ar ôl y coronafeirws dros y flwyddyn nesaf. Mae'n hanfodol, felly, fod cyn lleied â phosibl o darfu ar addysg ein myfyrwyr.
Bydd pwynt 6 ein cynnig yn galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru. Mae angen i fyfyrwyr fod yn hyderus fod yr hyn y maent yn talu amdano mewn ffioedd yn deg am yr hyn y maent yn ei gael mewn gwirionedd. Yn hollbwysig, mae angen mesurau cyflym arnom i fynd i'r afael ag allgáu digidol a sicrhau bod gan bob dysgwr ffordd o gael mynediad at bob agwedd ar eu cwrs. Mae ColegauCymru wedi nodi bod diffygion sylweddol o hyd yn y ddarpariaeth o offer, meddalwedd a chysylltedd TGCh, ac o ran y risg o gynyddu'r gagendor digidol, mae hynny'n rhywbeth y gwn ei fod yn amlwg iawn ac yn bryder i fy etholwyr yn Nwyrain De Cymru. Maent yn mynd rhagddynt i ddweud, er gwaethaf yr ymdrechion gorau i gynnal dysgu, ei bod yn anochel y bydd tarfu ar rai o ganlyniadau hyfforddeiaethau, prentisiaethau a rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru. Dangosodd arolwg diweddar gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr fod mwy na chwarter y myfyrwyr prifysgol yn methu manteisio ar ddysgu ar-lein, ac roedd mwy na thraean o'r farn nad oedd y ddarpariaeth ar-lein yn safonol nac o ansawdd da. Mae'n rhywbeth y mae angen inni fod yn bryderus yn ei gylch.
Hoffwn glywed hefyd gan y Gweinidog am oblygiadau unrhyw newidiadau i'r maes llafur ar gyfer cyfnod allweddol 5, yn benodol mewn perthynas â gofynion mynediad ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch, gan mai dyma'r adeg y bydd disgyblion blwyddyn 13 presennol yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'u camau nesaf. Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn boen erchyll i gynifer o'n pobl ifanc, ac fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn gynharach heddiw, mae'n rhaid ei fod wedi cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl llawer ohonynt. Felly, rwy'n gobeithio mai canlyniad y ddadl heddiw yw y gallwn i gyd gytuno a chynnig ffyrdd o'i gwneud yn decach iddynt. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig.
Diolch yn fawr am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i'n myfyrwyr, a hefyd i'n heconomi yn gyffredinol. Yn gyntaf, hoffwn longyfarch Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd wedi'i dynodi'n brifysgol Gymreig y flwyddyn gan The Times a The Sunday Times, sy'n rhoi ffocws ar ei chyrsiau a gynlluniwyd ar gyfer dysgu ymarferol, gan gynnwys yr adran technoleg bwyd bwysig iawn y cofiaf fod is-bennaeth Llywodraeth Tsieina wedi ymweld â hi. Ar ei ymweliad byr iawn, penderfynodd fynd yno. Mae hynny'n nodweddiadol o'r math o waith y mae Met Caerdydd yn ei wneud. Mae'n addysg broffesiynol gyda ffocws ar ymarfer, sy'n hanfodol ar gyfer datblygu'r math o raddedigion sydd eu hangen arnom i adfywio ein heconomi.
Rwy'n falch iawn fod un o'r 37 gradd newydd y mae'n eu cynnig yn mynd i fod mewn addysg blynyddoedd cynnar, sef yr agwedd ar addysgeg sy'n cael ei hesgeuluso fwyaf, a'r bwysicaf mae'n debyg, ac eto mae prifysgolion mwy traddodiadol yn ystyried nad yw'n bwysig iawn. Y cyrsiau mewn entrepreneuriaeth gymhwysol a rheoli arloesedd a fydd yn dechrau yn y flwyddyn academaidd nesaf wrth gwrs yw'r union fath o gyrsiau sydd eu hangen arnom i'n helpu i fynd i'r afael â'n cynhyrchiant isel hanesyddol, rhywbeth sydd bob amser wedi bod yn destun gofid i ni. Felly, rhaid i mi gydnabod bod pob prifysgol wedi dioddef ergyd yn sgil COVID, ond credaf ei bod yn afrealistig inni feddwl bod Llywodraeth Cymru yn mynd i allu cau'r bwlch o £500 miliwn a amcangyfrifwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid.
Mae Prifysgol Caerdydd yn arbennig o agored i'r gostyngiad enfawr yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n cofrestru. Yn flaenorol, byddent yn elwa o dros ddwy ran o bump o gyfanswm yr incwm a ddeuai i Gymru gan fyfyrwyr rhyngwladol. Ac mae'n gwbl amlwg yn anecdotaidd nad yw'r myfyrwyr hyn wedi cyrraedd yn y math o niferoedd y byddech fel arfer yn ei ddisgwyl ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gan eu bod fel arfer yn cyrraedd yn gynharach na myfyrwyr y DU er mwyn ymgyfarwyddo â'r ardal. Mae Caerdydd yn rhagweld mai dim ond 60 y cant o'i tharged gwreiddiol ar gyfer israddedigion rhyngwladol a 40 y cant o'i hôl-raddedigion y bydd yn eu derbyn.
Mae'r rhain yn ffigurau sy'n peri pryder am lawer o resymau. Yn gyntaf oll, bydd yn amlwg yn cynyddu'r pwysau ar y diffyg yn y cronfeydd pensiwn, a hefyd mae'n golygu llai o arian ar gyfer ymchwil. Ac o gronfa arloesi ac adfer Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ni ddyrannwyd dim i Gaerdydd, yn ôl pob tebyg am ei bod, ar y cyfan, yn gryfach na llawer o brifysgolion eraill. Ar hyn o bryd, mae Caerdydd yn rhagweld diffyg o £67 miliwn—daw hynny gan ei phrif swyddog ariannol—a bydd yn rhaid iddi wneud iawn am y diffyg drwy bwyso ar ei chronfeydd wrth gefn. Yn ffodus, mae ganddi gronfeydd wrth gefn o'r fath i'w galluogi i wneud hynny, ond mae'n ei gwneud yn agored iawn yn y blynyddoedd i ddod, wrth symud ymlaen.
Caerdydd yw ein prifysgol fwyaf a'n hunig brifysgol Grŵp Russell. Yn gyffredinol, mae cyfraniad Caerdydd i economi Cymru yn sylweddol iawn. O'r blaen, cyfrannai bron i hanner y £5 biliwn y credir bod prifysgolion yn ei gyfrannu i economi Cymru. Ac nid canlyniadau'r pandemig COVID yn unig yw hynny; mae'n deillio o ergyd ddwbl COVID a gadael yr UE, sy'n peri pryder mawr o ran y cyllid ymchwil ac arloesi a gollir, cyllid a arferai ddod yn arbennig gan fyfyrwyr tramor, ond hefyd o arian cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, a fydd yn dod i ben wrth gwrs o ganlyniad i'r ffaith ein bod yn gadael yr undeb Ewropeaidd. A'r rheswm pam fod arian cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop mor bwysig—cyfrannodd £334 miliwn i Gymru yn ôl yr Athro Kevin Morgan—yw bod arian y gronfa'n cael ei ddyrannu ar sail angen, gyda nod clir i gynyddu ffyniant Cymru i lefel gyfartalog gweddill Ewrop. Yn y dyfodol, mae'n bosibl y gallai arian ymchwil ac arloesi'r DU y bydd yn rhaid i Gaerdydd a'r holl brifysgolion eraill wneud cais amdano gael ei ddyrannu ar sail cystadleuaeth agored yn unig, sy'n golygu bod y rhai sydd ag arian yn cael mwy ohono. A gwyddom fod Rhydychen a Chaergrawnt yn cael cyfran lawer mwy o'r pot cyffredinol ac yn derbyn llawer llai o fyfyrwyr a addysgir yn ysgolion y wladwriaeth.
Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y rôl hollbwysig y mae prifysgolion yn ei chwarae yn ein datblygiad economaidd rhanbarthol. Mae hwnnw'n bwynt a bwysleisiwyd gan yr Athro Morgan mewn gweminar yn ddiweddar. Os nad oes gennym dystiolaeth yn seiliedig ar ymchwil o'r hyn sy'n gweithio ac nad yw'n gweithio, byddwn mewn lle llawer anos i allu sicrhau bod gennym y polisïau economaidd rhanbarthol mwyaf effeithiol yn strategol y mae angen inni eu cael. Felly mae angen i bob un ohonom boeni am iechyd ariannol ein prifysgolion, ond yn anffodus, nid wyf yn credu ei bod hi'n realistig inni feddwl y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cau'r bwlch. Rydym yn wynebu cyfnod anodd iawn o'n blaenau.
Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf ddilyn yr araith honno gan Jenny Rathbone, oherwydd rwy'n falch o ddweud fy mod yn un o raddedigion Prifysgol Caerdydd. Cefais bleser mawr a dysgu llawer yn ystod fy amser yno, rhwng 1981 a 1984, ac rwy'n falch o ddweud bod y brifysgol, ers i mi adael, wedi ffynnu—wedi parhau i ffynnu yw'r hyn y bwriadwn ei ddweud. Fel yr amlinellodd Jenny, mae bellach yn brifysgol Grŵp Russell ac mewn perthynas ag ymchwil, hi yw ein prifysgol gryfaf o gryn dipyn, gyda rhan enfawr i'w chwarae mewn sawl maes.
Rwy'n falch fod Jenny wedi sôn am economeg a gwyddorau cymdeithasol a'r ymchwil y bydd Caerdydd yn ei wneud wrth inni adeiladu'r adferiad ar ôl COVID, a bydd yn eithriadol o bwysig. Ond roeddwn am edrych ar yr ymchwil i faterion meddygol, a COVID yn arbennig. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n caniatáu i mi ddefnyddio'r holl enghreifftiau o Brifysgol Caerdydd, oherwydd rwy'n credu eu bod mor arloesol.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd brosiect ledled y DU a edrychai ar COVID a'r effaith ar ddiagnosis o ganser, a pha mor aml y clywsom yn ein dadleuon am oblygiadau methu cael diagnosis cynnar o ganser, oherwydd mae pobl yn rhy ofnus i wneud defnydd o ddiagnosteg ar hyn o bryd oherwydd COVID? Mae'r astudiaeth hon yn un a wnaed ar y cyd â Cancer Research UK ac un neu ddwy o brifysgolion eraill yn Lloegr, a bydd yn archwilio ymddygiad ac agweddau'r cyhoedd. Credaf fod hynny'n wirioneddol arwyddocaol, ond hefyd ei nod, mewn gwirionedd, yw hwyluso gwell negeseuon iechyd y cyhoedd, oherwydd yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yma yw bod pobl yn sylweddoli'r risgiau y maent yn eu hwynebu os nad ydynt yn sicrhau bod symptomau o bwys yn cael eu harchwilio. Felly, rwy'n credu bod hynny'n un dangosydd o werth Prifysgol Caerdydd yn yr argyfwng penodol hwn.
Mae prosiect arall yn ystyried a yw ein system imiwnedd yn pennu a ydym yn dioddef o COVID difrifol, fel sy'n ymddangos yn debygol. Ac unwaith eto, rydym angen rhyfeddodau gwyddoniaeth ac ymchwil wirioneddol eithriadol i roi'r arfau inni allu ymladd y clefyd. Weithiau, nid yw'r hyn a gredwn yn reddfol bob amser yn iawn, a dyna pam rydym angen gwyddoniaeth fanwl a thrylwyr o'r fath.
Rwy'n credu bod prosiect yn gynharach yn y flwyddyn, ym mis Ebrill rwy'n credu, yn edrych ar lefelau pryderon iechyd meddwl ymhlith nyrsys a bydwragedd yn y DU. Roedd y canfyddiadau'n eithaf difrifol: teimlai 74 y cant fod eu cyfrifoldebau clinigol yn peryglu eu hiechyd yn ystod COVID ac roedd 92 y cant yn ofni y byddai'r risgiau'n cael eu trosglwyddo i aelodau o'u teuluoedd. Onid yw hwnnw'n ganfyddiad anhygoel o ddynol, hefyd, fod eu hiechyd a'u risg eu hunain—74 y cant, yn naturiol—? Ond roedd hyd yn oed mwy ohonynt—92 y cant—yn ofni'r hyn a allai ddigwydd, yr hyn yr ofnent fwyaf, oedd y byddent yn ei drosglwyddo i'w hanwyliaid. Ac yna roedd 33 y cant wedi profi iselder neu bryder difrifol.
Drwy reoli anghenion emosiynol a lles ein gweithwyr iechyd y down drwy'r argyfwng hwn. Ond rwy'n credu, am yr ychydig fisoedd cyntaf, fod llawer o bobl yn ein gwasanaethau iechyd wedi cael eu llethu gan faint yr hyn roeddent yn ei wynebu, ac mae'n bwysig iawn cofio sut y mae angen eu helpu i fod mor wydn â phosibl—y gweithlu—a gwybod ble i droi pan gânt brofiadau anodd iawn, ac angen cyfle i siarad amdanynt a gwybod pa dechnegau i'w defnyddio i liniaru rhywfaint arnynt o leiaf. Felly, astudiaeth wirioneddol ymarferol unwaith eto.
Credaf y bydd llawer ohonom yn cofio'r astudiaeth a lansiwyd yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar effaith rhoi plasma gwaed i gleifion COVID, unwaith eto mewn cydweithrediad â phrifysgol flaenllaw yn Lloegr, ac mae cydweithio mor bwysig. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r astudiaeth honno'n mynd rhagddi, a chafodd sylw yn y newyddion yn fyd-eang—rhywbeth sy'n digwydd yma ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Dyna sy'n bwysig iawn yn ein prifysgol. Rwy'n cofio fy mhrofiadau fel myfyriwr israddedig gyda diolch mawr. Yn amlwg, rwyf wedi bod yn amlinellu gwaith ôl-raddedig a gwaith y cyfadrannau—sydd â rhai o feddyliau gwychaf eu cenhedlaeth. Hir y parhaed, a bydd angen inni edrych ar ffyrdd dychmygus o gynnal y rhagoriaeth fyd-eang ym Mhrifysgol Caerdydd.
A gaf fi ddiolch i'r Blaid Geidwadol am gyflwyno'r ddadl bwysig hon i'r Siambr heddiw? Nodaf ar y dechrau y byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i gydnabod bod problem coronafeirws yn debygol o effeithio'n fwyaf difrifol ar fyfyrwyr galwedigaethol, oherwydd natur eu harferion dysgu wrth gwrs. Felly, Weinidog, a gawn ni ofyn i chi amlinellu pa fesurau arbennig sy'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar elfennau o'u cyrsiau a fyddai'n gwneud cadw pellter cymdeithasol ac yn y blaen yn anodd iawn neu hyd yn oed yn amhosibl? Byddai hyn, wrth gwrs, yn berthnasol i gyrsiau prentisiaeth yn arbennig, cyrsiau y caiff nifer ohonynt eu hariannu'n rhannol neu'n gyfan gwbl gan fusnesau yn aml. Felly, a gaf fi ofyn hefyd pa gymorth penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnig i'r busnesau a allai fod eisoes yn wynebu problemau ariannol sylweddol oherwydd cyfyngiadau COVID?
Rhaid inni gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau breision dros y blynyddoedd diwethaf i adfywio'r sector galwedigaethol. Yn wir, clywsom yr wythnos hon fod y gwasanaeth cyfeirio cyflogwyr a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru newydd gofrestru eu pum canfed prentis. Gobeithio fy mod yn iawn i dybio bod yr embargo ar y wybodaeth hon wedi'i godi, Weinidog, am 12 o'r gloch heddiw. Weinidog, byddai'n drueni mawr—byddai'n drueni mawr mewn gwirionedd—pe baem yn colli'r pethau sylweddol a enillwyd yn y sector oherwydd y pandemig hwn.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch yn fawr i'r holl staff addysg uwch ac addysg bellach ac wrth gwrs, i'r disgyblion am eu hymdrechion yn ystod y pandemig trychinebus hwn, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Er gwaethaf yr holl anawsterau hyn, roedd yn ddiddorol gweld gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda Dŵr Cymru ac United Utilities i fonitro lefelau cefndirol o'r coronafeirws mewn dŵr gwastraff; mae myfyrwyr fel Caitlin Garrett o Goleg Llandrillo yn parhau i edrych tua'r dyfodol ac i ymarfer a datblygu ei sgiliau gartref; mae Busnes@LlandrilloMenai yn cyhoeddi y byddai ei 50 a mwy o raglenni hyfforddi proffesiynol bellach yn gymorthdaledig, hyd at 100 y cant o'r gost hyfforddi tan 31 Awst 2021.
Drwy'r amgylchiadau mwyaf heriol, mae myfyrwyr wedi parhau i astudio ac mae colegau wedi parhau i fod yn greadigol. Rhaid bod hynny'n rhoi rhywfaint o obaith i ni ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, mae'n wir fod COVID-19 wedi taro'r sector hwn yn galed. Dangosodd arolwg diweddar gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr fod dros chwarter y myfyrwyr prifysgol yn methu manteisio ar ddysgu ar-lein, fod dros draean o'r farn nad oedd y ddarpariaeth ar-lein yn dda, a bod 15 y cant o fyfyrwyr heb yr offer angenrheidiol i allu manteisio ar ddysgu ar-lein. Credaf fod hyn yn ddifrifol dros ben a hoffwn gael sicrwydd gan y Gweinidog heddiw ei bod yn cydweithio, ei bod yn rhyngweithio â'r prifysgolion i sicrhau bod camau ar waith i alluogi pob myfyriwr i ddysgu ar-lein os oes angen. Cefnogir yr angen am weithredu o'r fath gan ColegauCymru, a ddywedodd fod diffygion sylweddol o hyd yn y ddarpariaeth o offer TGCh, meddalwedd a chysylltedd, a chyda hynny, daw'r risg o gynyddu'r gagendor digidol. Felly, Weinidog, a wnewch chi egluro pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod y £3.2 miliwn a ddarperir ar gyfer offer digidol megis gliniaduron i fyfyrwyr addysg bellach wedi cael ei ddefnyddio'n effeithiol?
Nawr, yn ddi-os, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu adnoddau ariannol ychwanegol. Fodd bynnag, mae ColegauCymru yn parhau i fynegi pryderon nad yw'r arian ychwanegol y cytunwyd arno hyd yma yn ddigon i sicrhau bod y sector addysg bellach yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol yn ogystal â sicrhau ei fod yn gallu cynllunio ar gyfer ail gyfnod posibl o gyfyngiadau symud. Maent yn nodi pwynt dilys iawn: pa wersi a ddysgwyd o'r don gyntaf a fydd o fantais i'n myfyrwyr a'n haddysgwyr proffesiynol pe baem yn wynebu'r cyfyngiadau symud pellach a allai ddigwydd?
O gofio fy mod yn credu y dylai addysg gael ei hariannu'n deg, rhaid i fyfyrwyr gael gwerth am arian yn gyfnewid am y buddsoddiad y maent yn ei wneud. Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at anghydraddoldeb mewn perthynas â ffioedd, felly mae angen tegwch ar draws y sector. Ceir cwrs gradd er anrhydedd ar-lein yn y Brifysgol Agored am oddeutu £2,000 y flwyddyn, felly sut y gall fod yn iawn fod rhai myfyrwyr yn talu £9,000 am ddysgu ar-lein yn bennaf? Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phrifysgolion, efallai, i roi ad-daliad rhannol o rai o'u ffioedd i fyfyrwyr. Nawr, byddai hyn yn hwb cadarnhaol i'r 78 y cant o fyfyrwyr yng Nghymru sy'n poeni am eu harian oherwydd coronafeirws. Fodd bynnag, rwyf fi hyd yn oed yn sylweddoli nad yw hyn yn syml. Byddai gostwng y ffioedd yn arwain at lai o incwm. Yn wir, mae ffioedd dysgu'n creu cyfanswm o £892 miliwn. Dyna 54.7 y cant o incwm prifysgolion yng Nghymru. Yn yr un modd, mae prifysgolion Cymru eisoes wedi dioddef colledion incwm sylweddol iawn mewn perthynas â gweithgarwch llety, cynadleddau a digwyddiadau. Serch hynny, rhaid cael tegwch, a dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid lleihau ffioedd yn gynaliadwy, a dylai colegau a phrifysgolion adolygu cyflogau cangellorion a'r defnydd o gronfeydd wrth gefn. Mae gan Brifysgol Bangor gronfeydd wrth gefn anghyfyngedig sy'n gyfanswm o 144 y cant o'u hincwm. Felly, rhaid cael peth arloesedd a meddwl radicalaidd yma.
Rhaid cyflwyno unrhyw newid yn ofalus, oherwydd mae'n ffaith bod prifysgolion Cymru'n cael effaith ganlyniadol gwerth dros £5 biliwn ar economi Cymru ac maent yn cynnal bron i 50,000 o swyddi yng Nghymru. Ni ellir bygwth hyn, sy'n dod â mi at fy mhwynt olaf: ni ellir bygwth dyfodol y celfyddydau ychwaith. Nawr, mae'r Gweinidog wedi cyfaddef pryder am rai gweithgareddau cerddoriaeth mewn ysgolion. Gallai hyn effeithio ar fyfyrwyr sy'n astudio'r cyrsiau creadigol hyn. Fel y cyfryw, rwy'n cefnogi galwadau i fynd i'r afael â phryderon ynglŷn â lleihau maes llafur rhai cyrsiau, a fydd wedyn yn cyfrannu at ganiatáu gwell gofynion mynediad i golegau a phrifysgolion. Diolch.
Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon ar effaith COVID ar addysg bellach ac addysg uwch a byddaf yn eu cefnogi heddiw. Mae'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar fywydau pawb, ond neb yn fwy na'n pobl ifanc—pobl ifanc sydd wedi gweld oedi yn eu haddysg, eu datblygiad cymdeithasol yn cael ei lesteirio, ac sy'n wynebu un o'r marchnadoedd swyddi anoddaf ers cenedlaethau.
Er gwaethaf y trafferthion a wynebir gan lawer iawn o bobl ifanc yn sgil y ffiasgo TGAU a Safon Uwch dros yr haf, yr wythnos hon byddant yn dechrau yn y coleg neu'r brifysgol. Bydd ffeiriau'r glas ledled y wlad yn wahanol iawn i ddigwyddiadau'r gorffennol. Nid ymwneud â chyflawniad academaidd yn unig y mae prifysgolion, mae hefyd yn dysgu pobl ifanc, gan roi sgiliau bywyd gwerthfawr iddynt a helpu gyda'u datblygiad cymdeithasol. Bydd cyfyngiadau a gynlluniwyd i atal COVID-19 rhag lledaenu yn golygu y bydd myfyrwyr yn cael semester gwahanol iawn. Dim digwyddiadau cymdeithasol, dim digwyddiadau diwylliannol a dim digwyddiadau chwaraeon. Nid yw'r dosbarthiadau'n ddiogel hyd yn oed, gyda llawer yn mynd ar-lein. Mae'r holl newidiadau hyn, er bod eu hangen, wedi golygu bod myfyrwyr heddiw ar eu colled.
Rhaid i fyfyrwyr dalu'r un ffioedd dysgu am brofiad llai, a dyna pam na fyddaf yn cefnogi unrhyw un o'r gwelliannau. Er fy mod yn cydymdeimlo â'r prifysgolion, y myfyrwyr sy'n dioddef fwyaf. Fy mhryder mwyaf yw'r effaith ar iechyd meddwl myfyrwyr. Mae rheolau'n golygu y bydd yn rhaid i fyfyrwyr aros o fewn eu grwpiau llety, aros gyda phobl nad ydynt yn rhannu eu diddordebau o bosibl—diddordebau academaidd neu fel arall. Gallai hyn arwain at nifer fawr o fyfyrwyr yn teimlo'n ynysig ac yn unig ac yn enwedig myfyrwyr tramor. Mae angen i Lywodraeth Cymru a'r sefydliadau addysg uwch roi mwy o bwyslais ar ofal bugeiliol i bob myfyriwr, nid yn unig y rhai yr ystyrir eu bod yn agored i niwed. Bydd myfyrwyr yn gweld y flwyddyn academaidd hon yn un o'r rhai anoddaf erioed. Mae popeth yn cael ei wneud i sicrhau nad yw myfyrwyr yn dioddef yn academaidd, ond nid oes digon yn cael ei wneud i sicrhau a diogelu eu lles meddyliol.
Creodd y cyfyngiadau symud argyfwng iechyd meddwl yn y gymuned ehangach, a bellach mae mesurau i atal lledaeniad COVID ar draws campysau prifysgolion yn bygwth argyfwng iechyd meddwl ymhlith myfyrwyr. Rhaid i awdurdodau prifysgolion sicrhau archwiliadau meddyliol a chorfforol wythnosol ar gyfer pob myfyriwr. Rhaid iddynt wneud popeth yn eu gallu hefyd i hwyluso ac annog amrywiaeth ehangach o ddigwyddiadau cymdeithasol rhithwir. Bydd y flwyddyn academaidd hon yn anodd iawn i bob myfyriwr, a mater i'r Llywodraeth a'r awdurdodau prifysgol yw sicrhau bod pob myfyriwr wedi'u paratoi i ymateb i'r heriau hynny. Ein dyletswydd i'n pobl ifanc yw rhoi pob cam posibl ar waith i wneud y flwyddyn academaidd hon mor ddi-boen â phosibl, ac rwy'n dymuno lwc dda iawn a fy nymuniadau gorau i bob un ohonynt. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch i gydweithwyr am y cyfle i drafod ein sector addysg uwch a'n sector addysg bellach, ac rwy'n hynod falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â'r ddau sector yn ystod y cyfnod anodd hwn. A dyna pam, Ddirprwy Lywydd, rwy'n cyflwyno gwelliant y Llywodraeth, sy'n diolch, fel Senedd, i fyfyrwyr, colegau a phrifysgolion yng Nghymru am eu hymdrechion, eu gwydnwch, eu hyblygrwydd a'u dyfalbarhad wrth ymateb i'r heriau a grëir gan y pandemig hwn.
Fel ein hysgolion, ni chaeodd y colegau a'r prifysgolion yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud. Ers mis Mawrth, maent wedi parhau i ddarparu addysg, asesu ac ymchwilio o bell. Ond maent hefyd wedi mynd y tu hwnt i'r galw i gefnogi ein hymateb cenedlaethol i COVID-19, drwy raglenni hyfforddi newydd gyda byrddau iechyd lleol, darparu llety i weithwyr allweddol a darparu offer a chyfarpar diogelu personol hanfodol i'n hysbytai. A hoffwn ddiolch i David Melding am ei gyfraniad, a oedd yn tynnu sylw at yr ymchwil a fu'n digwydd drwy gydol y cyfnod hwn i'n helpu ni fel cenedl ac yn wir, y Deyrnas Unedig i ddeall yn well beth yw effeithiau COVID-19 a'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud i gefnogi ein gwlad wrth inni barhau i wynebu'r heriau hyn.
Rydym yn llwyr gydnabod yr aflonyddwch a achoswyd i ddysgu, yn enwedig mewn colegau addysg bellach, a dyna pam ein bod wedi darparu £11 miliwn ychwanegol i golegau i dalu costau ychwanegol cymorth addysgu i ddysgwyr a allai fod wedi colli dysgu yn gynharach yn y flwyddyn. Ac mae hynny wedi'i gyplysu â £4 miliwn arall i ddosbarthiadau chwech mewn ysgolion hefyd. A rhaid i mi ddweud wrth fy nghyd-Aelodau Ceidwadol fod arian dal i fyny yn Lloegr wedi hepgor y sector addysg bellach yn fwriadol, ac nid ydym wedi gwneud hynny yma yng Nghymru.
Rydym hefyd wedi dyrannu £5 miliwn arall i gynorthwyo dysgwyr galwedigaethol i ddychwelyd i'r coleg i'w helpu i ennill eu trwydded i ymarfer cymwysterau, a £3.2 miliwn arall ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn colegau ac addysg i oedolion i ddarparu offer digidol i hwyluso dysgu ar-lein. Ac mae'n rhaid i mi ddweud eu bod, yn ystod y pandemig, yn fy nghyfarfodydd niferus gydag is-gangellorion, yn siarad yn ganmoliaethus iawn am eu gallu i ymgysylltu â dysgwyr ar-lein, ac roeddent yn dweud wrthyf ad nauseam eu bod yn falch iawn o'r ffaith eu bod yn gallu cyflwyno gweithgareddau ar-lein i gynifer o'u dysgwyr, ac ymgysylltu â hwy drwy'r gweithgareddau hynny. A dyna oedd penaethiaid colegau yn ei ddweud pan oedd y pandemig ar ei anterth.
Ac mewn addysg uwch, bydd rhan o'n cyllid ychwanegol yn mynd tuag at fuddsoddi mewn technolegau dysgu a chyfleusterau dysgu cyfunol i helpu prifysgolion i gynnal profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr. Nawr, rwy'n deall y bydd gan rai myfyrwyr bryderon am allu eu prifysgol a'u coleg i sicrhau parhad addysg deg a chyfoethog o ansawdd uchel o ganlyniad i'r aflonyddwch a ddaeth i'w rhan, ac sy'n debygol o ddod i'w rhan, o ganlyniad i'r pandemig hwn. Yn y colegau roeddem eisoes ar y ffordd tuag at weledigaeth ar gyfer dysgu ôl-16 a oedd yn cyfuno gweithgareddau wyneb yn wyneb a gweithgareddau digidol ymhell cyn COVID-19. Rwyf am i hyn gyflymu yn ystod y flwyddyn academaidd hon, gan adeiladu ar yr enghreifftiau niferus o addysgu cyffrous ac arloesol a welsom yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.
Mae ein prifysgolion wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu arloesol a chefnogol y tymor hwn, drwy gymysgedd o ddarpariaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb. Ac rwy'n hyderus iawn, hyd yn oed os nad yw rhai pobl yn y Siambr hon, y gallant gyflawni'r ymrwymiad hwn. O ystyried bod arolygon cenedlaethol o fyfyrwyr wedi dangos yn ystod y blynyddoedd diwethaf fod prifysgolion Cymru yn arwain y ffordd o ran boddhad myfyrwyr, dangosodd arolygon yn ystod y pandemig yn wir fod myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru yn teimlo bod eu prifysgol wedi'u cefnogi'n well yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud na myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ac a gaf fi ddweud yn glir wrth Laura Anne y bydd pob prifysgol yng Nghymru, pob un ohonynt, yn darparu dysgu cyfunol yn ystod y cyfnod hwn?
Nawr, yn unol â Llywodraethau eraill, byddem yn cynghori myfyrwyr addysg uwch, a allai deimlo nad yw eu darpariaeth wedi bod o ansawdd digon da yn ystod y cyfnod hwn, i ystyried prosesau unioni eu sefydliadau eu hunain, a phrosesau Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch. Ac mae gennyf i a fy swyddogion berthynas waith agos â Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol i fonitro nifer a natur y cwynion a ddaw gan fyfyrwyr yng Nghymru.
Hoffwn atgoffa'r Aelodau Ceidwadol hefyd fod eu cymheiriaid yn Llywodraeth y DU a Phwyllgor Deisebau San Steffan wedi gwrthod galwadau am ostyngiad cyffredinol yn y ffioedd dysgu o ganlyniad i'r pandemig. Y gwir amdani yw na fyddai gostyngiad cyffredinol yn y ffioedd neu ganslo dyledion ond yn gwneud niwed—yn niweidio—ansawdd addysg a'r gwasanaethau y gall ein prifysgolion eu darparu i fyfyrwyr, oni bai, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU yn fodlon darparu'r cyllid angenrheidiol i wrthbwyso unrhyw ostyngiad yn y ffioedd, ac ni welaf hynny'n digwydd yn fuan.
At hynny, gwyddom fod toriadau i ffioedd neu ddileu dyledion ohonynt eu hunain o fudd yn bennaf i'r myfyrwyr cyfoethocaf a'r graddedigion sy'n ennill y cyflogau mwyaf. Nid yw'n gwneud dim i roi arian ym mhocedi myfyrwyr yn awr, yn wahanol i'n pecynnau newydd diwygiedig i fyfyrwyr, sy'n darparu cyllid grant yn syth i bocedi myfyrwyr i'w cynorthwyo gyda chostau byw.
Rhaid i mi ddweud, er gwaethaf yr holl ansicrwydd, rydym yn gweld y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn elwa o'r cymorth hwn, gyda'r myfyriwr cyffredin o Gymru'n cael £7,000 y flwyddyn fel grant nad yw'n ad-daladwy. Ni fyddai'r un myfyrwyr yn cael ceiniog pe baent yn byw dros y ffin. Ar ben hynny, y bore yma clywais gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd wedi dyrannu'r nifer uchaf erioed o ysgoloriaethau i fyfyrwyr Cymraeg i ganiatáu iddynt astudio eu haddysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg—talwyd dros 300 o ysgoloriaethau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.
Helpu myfyrwyr i ymdopi â chaledi yn awr yw blaenoriaeth cynrychiolwyr myfyrwyr yng Nghymru yn ôl yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf. Gwyddom yn bendant fod rhai myfyrwyr wedi dioddef yn ariannol yn ystod y pandemig. Dyna pam ein bod wedi gofyn i CCAUC sicrhau bod rhywfaint o'r arian ychwanegol sydd ar gael i'r sector yn cynorthwyo sefydliadau i ddarparu cyllid caledi i fyfyrwyr, yn seiliedig ar ble y gwelwn angen clir am gyllid o'r fath.
Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru ein bod yn ddiweddar, mewn cyfnod o anhawster ariannol mawr i lawer, wedi gweithredu'r pecyn cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr mwyaf hael yn Ewrop, pecyn a fydd yn cynorthwyo oedolion, myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedigion yn arbennig i gamu ymlaen i addysg uwch i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn amgylchedd sy'n heriol o ran y farchnad lafur. A hynny cyn inni sôn am ymestyn y cyfrifon dysgu unigol y byddwn yn awr yn eu cyflwyno ledled Cymru gyfan, gan ganiatáu i bobl yr effeithiwyd ar eu rhagolygon swyddi—neu eu hincwm yn wir—gan COVID-19 ymgymryd â dysgu ychwanegol.
Er mor wahanol ac anarferol y gallai profiad myfyrwyr fod eleni, caf fy nghalonogi gan y ffaith bod cyfraddau mynediad at addysg uwch yn 18 oed yn uwch na 30 y cant am y tro cyntaf erioed ymhlith ymgeiswyr o Gymru. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd o 2 y cant yn nifer y myfyrwyr a welwyd yn cael eu lleoli drwy UCAS mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Mae honno'n bleidlais o hyder go iawn yn ansawdd addysg uwch yng Nghymru. A ninnau'n gweld gostyngiad o hyd yn nemograffeg pobl ifanc 18 oed, rydym yn dal i fod wedi gallu cynyddu nifer y bobl sydd wedi dewis dod i astudio yma yng Nghymru.
Bydd y niferoedd calonogol hyn yn helpu ein sector i wella ei sefyllfa ariannol, a gaiff ei gryfhau ymhellach gan y gronfa buddsoddi ac adfer addysg uwch gwerth £27 miliwn a dalwyd gennym yn ddiweddar i CCAUC. Efallai nad yw Plaid Cymru yn ei chroesawu, ond gallaf eich sicrhau bod CCAUC, y sefydliadau a'r is-gangellorion yn bendant yn ei chroesawu. Rwy'n disgwyl i'r cyllid hwn gynnal capasiti addysgu ac ymchwil hanfodol lle gwelwn ddirywiad dros dro yn y refeniw, ac i gefnogi gweithgareddau ymchwil ac addysg a fydd yn cyfrannu at ein hadferiad economaidd ehangach.
Mae'r arian ychwanegol hwn yn golygu bod cyfanswm cyllid CCAUC eleni yn £203 miliwn. Mae hwnnw'n gynnydd o'r £117.5 miliwn a gâi pan ddeuthum yn Weinidog addysg am y tro cyntaf. Soniodd Suzy Davies am symiau canlyniadol gan Lywodraeth San Steffan mewn perthynas ag addysg uwch. Gadewch i mi ddweud wrth Suzy: mae'r arian a ryddhawyd i sefydliadau yn Lloegr wedi bod ar sail benthyciadau. Rydym yn rhoi arian sychion i'n prifysgolion, ac nid ydym yn disgwyl iddynt ei ad-dalu, sydd unwaith eto'n wahanol iawn i'r ymagwedd a welir dros y ffin.
Wrth edrych i'r dyfodol, gwyddom y bydd y tymor nesaf yn her i brifysgolion a cholegau. Rydym wedi cydgynhyrchu canllawiau gyda'r sector fel y gallant weithredu'n ddiogel. Mae colegau wedi rhoi gwybod inni am nifer fach o achosion o'r clefyd ymhlith staff a myfyrwyr sydd wedi digwydd y tymor hwn eisoes, ond rwyf wedi bod yn gwbl hyderus eu bod wedi dilyn y protocolau ar gyfer profi, olrhain a diogelu er mwyn cadw'r achosion hyn dan reolaeth. Yr adborth a gefais gan golegau yw bod myfyrwyr yn gyffredinol yn cydymffurfio'n dda iawn â rheolau sy'n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol, hylendid a gorchuddion wyneb. Mae llawer, os nad pob un, o'n sefydliadau wedi rhoi contractau cymdeithasol ar waith bellach neu wedi ychwanegu mesurau diogelwch COVID at gontractau cymdeithasol ac ymddygiadol sy'n bodoli'n barod i'w gwneud yn glir fod gan ein myfyrwyr rôl bersonol i'w chwarae yn helpu i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Ond yn amlwg, byddwn yn monitro'r sefyllfa mewn prifysgolion yn ofalus wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i gampysau yr wythnos hon. Mae'n bleser gennyf ddweud bod canolfan brofi yn cael ei hadeiladu ar dir Prifysgol De Cymru ym Mhontypridd wrth i ni siarad, Ddirprwy Lywydd, i ddarparu cyfleusterau profi ychwanegol yn y sefydliad hwnnw a'r ardal honno.
Rwy'n cloi drwy annog pawb sy'n ymwneud ag addysg uwch ac addysg bellach i aros yn ddiogel, i gadw pellter cymdeithasol, i olchi eich dwylo'n amlach, i wisgo gorchudd wyneb, i osgoi cymdeithasu dan do gyda phobl o'r tu allan i'ch aelwyd, ac i aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un arall ar yr un aelwyd â chi symptomau, ac os bydd gennych symptomau, gofynnwch am brawf. Ond fel y dywedodd rhywun, rwy'n dymuno pob lwc i bob un o'n myfyrwyr, boed mewn ysgolion, colegau addysg bellach, neu'n dod i'n prifysgolion, ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Diolch yn fawr.
Diolch. Fel y dywedwyd wrth yr Aelodau, byddaf yn awr yn galw ar yr Aelodau sydd wedi gofyn am gael gwneud ymyriad o hyd at funud. Suzy Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn fyr iawn, Weinidog, rwy'n dal yn chwilfrydig iawn i wybod pam eich bod wedi penderfynu eich bod am ddileu rhan o'n cynnig pan oedd y pwyntiau a godwyd gennych yn bethau y gallem fod wedi'u cefnogi pe na baech wedi'u dileu. Serch hynny, efallai y caf ofyn i chi a wnewch chi ymrwymo i ysgrifennu at yr Aelodau gyda'r dystiolaeth i gefnogi'r honiad ein bod yn gwybod y byddai ad-daliad ffioedd o fudd i fyfyrwyr o gefndiroedd cyfoethocach yn hytrach nag unrhyw fyfyrwyr eraill. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech wneud yr ymrwymiad hwnnw.
Rwy'n hapus iawn i wneud yr ymrwymiad hwnnw. Yr hyn a wyddom mewn gwirionedd yw mai cyfran fach iawn o fyfyrwyr fydd yn ad-dalu'r benthyciadau y maent wedi'u cael i dalu am eu haddysg uwch—sef y graddedigion sy'n ennill y cyflogau mwyaf, ac mewn gwirionedd bydd toriad yn y ffioedd ar y cam hwn o fudd i'r myfyrwyr unigol hynny—[Torri ar draws.] Wel, na, mae'n ffaith.
A wnewch chi ymatal rhag cael sgwrs ar draws y Siambr, oherwydd nid yw'n deg i'r rheini nad ydynt yn y Siambr? Felly, mae hynny'n iawn. A gaf fi alw yn awr ar Angela Burns i ymateb i'r ddadl? Angela.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, roedd hynny'n ddiddorol. Weinidog, cawsoch eich sarhau i'r fath raddau nes i mi orfod troi'n ôl i ailddarllen ein cynnig gan fy mod yn meddwl efallai ein bod wedi rhoi pethau ynddo roeddwn wedi'u methu. Ond na, nid wyf yn gweld dim yno sy'n dweud nad ydym yn credu nad yw sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach wedi ysgwyddo eu cyfrifoldebau. Hynny yw, rydym yn credu hynny—maent wedi bod yn rhagorol, maent wedi darparu llawer iawn i'n myfyrwyr dros y misoedd diwethaf. Ymddengys eich bod yn meddwl ein bod yn cyflwyno'r holl ddadl hon yn y bôn er mwyn eu beirniadu ac i ddweud bod popeth yn wael iawn. Ydw, rwy'n credu bod ein cynnig yn dweud, 'Da iawn chi, Lywodraeth Cymru, am roi arian.' Rydym yn croesawu hynny'n llwyr, yn falch iawn o'i weld, ac yn meddwl ei fod yn mynd i wneud gwahaniaeth. Ond rwy'n credu mai'r gwir bwynt yw bod Suzy Davies wedi'ch dal chi am eich bod yn meddwl y byddai'n ymwneud â hynny, ac mewn gwirionedd mae'n ymwneud â'n myfyrwyr—mae'n ymwneud â'r dynion a'r menywod ifanc, merched a bechgyn ledled Cymru sydd wedi cael eu dal gan y pandemig hwn ac wedi ei chael hi'n anodd ac wedi dioddef cymaint.
Hoffwn roi teyrnged i Caroline Jones. Roeddwn yn meddwl bod ei chyfraniad yn rhagorol oherwydd, Caroline, roeddech yn iawn ynglŷn â'i hanfod, hanfod yr hyn y mae'r bobl ifanc hyn yn mynd drwyddo. Maent yn byw drwy gyfnod nad oeddent erioed wedi'i ddisgwyl. Tarfwyd ar eu haddysg, ac fel y dywedoch chi'n gywir, mae addysg yn ymwneud â mwy na'r llyfrau neu'r niferoedd yn unig; mae'n ymwneud â'r profiad dysgu cyfan, y profiad cymdeithasol cyfan, cael eich ymylon garwaf wedi'u llyfnhau, dysgu sut i ryngweithio â phobl eraill, sut i fyw gyda phobl.
A gwyddom fod iechyd meddwl wedi bod yn fater pwysig iawn i lawer o'n myfyrwyr. Mae rhai o'r bobl sydd efallai'n llai gwydn wedi ei chael hi'n anodd iawn, ac mae hyd yn oed y rhai sy'n ymfalchïo mewn bod yn eithaf gwydn wedi profi gofid mawr. Mae'r rhai sydd wedi symud o Safon Uwch i fynd i brifysgol neu addysg bellach ar ryw ffurf neu'i gilydd, yn arbennig, wedi cael ergyd ddwbl, os mynnwch. A chredaf na ddylem danbrisio'r effaith honno ar iechyd meddwl, a dyna pam y cyflwynodd Suzy y ddadl hon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig gan ganolbwyntio'n fawr ar safbwynt y myfyrwyr.
Nawr, Weinidog, nid wyf yn anghytuno â llawer o'r hyn a ddywedoch chi am y sector addysg bellach a'r sector addysg uwch—eu huchelgais, eich uchelgais chi, o ran ble rydych yn ceisio mynd. Ac rwyf am fynd ar ôl un o'r pwyntiau a wnaeth David Melding: mae Prifysgol Caerdydd yn fy syfrdanu'n gyson gyda'u gwaith ymchwil a datblygu; maent yn hollol wych. Ac yn y sector meddygol, maent wedi cyflawni datblygiadau eithriadol—eithriadol—y mae angen inni eu dathlu. Ac er mwyn gwneud hynny, maent angen yr arian—wrth gwrs eu bod—maent angen sefydlogrwydd ac maent angen gwybod eu bod yn gynaliadwy wrth wynebu'r dyfodol.
Ond nid wyf yn meddwl bod unrhyw beth o'i le ar y Ceidwadwyr Cymreig yn eich atgoffa chi a rhai o'r sefydliadau yng Nghymru yn garedig fod ganddynt lawer iawn o arian, rai ohonynt, wedi'i gadw yn eu pocedi, ac rydym mewn argyfwng. Wyddoch chi, nid oes gennych boced ddiwaelod o arian, nid oes gan Lywodraeth y DU boced ddiwaelod o arian ac yn sicr nid oes gan ein myfyrwyr tlawd bocedi o'r fath, felly i'r sefydliadau sydd ag arian, dyma'r amser i ddechrau ei ddefnyddio, dyma'r amser i ddechrau atgyfnerthu rhai o'r cyrsiau, cynnal rhai o'r staff addysgu a sicrhau ein bod yn gallu troi cefn ar y pandemig coronafeirws gyda sector cryf a chyda gweithlu myfyrwyr cryf.
David Rowlands, fe wnaethoch chithau hefyd bwynt eithriadol o dda a gollwyd yn y gymysgedd yn fy marn i, ynglŷn â'r ffaith y bydd cyrsiau galwedigaethol yn un o'r meysydd mawr sy'n cael eu taro. Rwyf wedi siarad â nifer o fyfyrwyr yn fy etholaeth sydd ar gyrsiau galwedigaethol o'r fath, ac mae'n anodd iawn iddynt; ni allant fynd allan a gwneud y gwaith maes, ni allant fynd allan a gweithio mewn rhai mathau o fusnesau. Mae'n anodd iawn iddynt gael y pethau sydd eu hangen arnynt er mwyn gallu symud ymlaen a chredaf na ddylem anghofio hynny o gwbl, a sylweddoli, i'r unigolion hynny, ei fod yn mynd i ymestyn hyd eu holl broses addysgol heb roi'r cyfoeth a'r dyfnder roedd llawer ohonom yn ddigon ffodus i'w gael.
Y cyfan rydym wedi gofyn amdano yw y dylid siarad â'n myfyrwyr a siarad â hwy am yr elfennau ariannol a chostau cysylltiedig eraill sydd ynghlwm wrth allu dilyn eu cyrsiau. Rydym ni'n sicr wedi siarad â hwy, Weinidog, ac maent yn pryderu'n fawr. Mae gennym lawer iawn o fyfyrwyr nad ydynt yn gallu dysgu ar-lein am nad oes ganddynt y seilwaith digidol gartref, neu am nad ydynt yn byw mewn rhan gyfleus o Gymru sydd â seilwaith digidol gwych. Roedd dros 15 y cant o'r myfyrwyr yn yr arolwg yn dweud yn glir iawn nad oes ganddynt ddarpariaeth TG yn y cartref, ac mae hynny'n llawer o fyfyrwyr nad ydynt yn gallu dysgu ar-lein. Ni all rhai myfyrwyr ymdopi â phroses o'r fath. A dyna oedd holl bwynt y ddadl hon—dyna'r hyn y ceisiem eich annog i edrych arno a'ch annog i'w roi yn y gymysgedd pan fyddwch yn meddwl am y ffordd ymlaen ac i ble rydych chi'n mynd.
Felly, gofynnwn yn gyflym am dri pheth: rydym am i chi sicrhau bod y ffioedd yn adlewyrchu'r effaith y mae'r coronafeirws yn ei chael arnynt hwy a'u cyrsiau; rydym am i chi sicrhau bod myfyrwyr yn cael pob cymorth, y cyllid sydd ar gael ac anogaeth i gael mynediad at ddysgu, boed hynny drwy ffrydio byw, dulliau eraill o addysgu ar-lein, neu wyneb yn wyneb lle bynnag y bo modd. Hynny yw, ysgrifennodd un myfyriwr yn fy ardal sy'n gwneud archaeoleg ataf ac mae'n mynd i gael anhawster gwirioneddol i fynychu cloddiad archeolegol dros y rhyngrwyd—pob lwc iddo, druan. Ac yn olaf, rydym am i chi fynd i'r afael â phryderon myfyrwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch mewn perthynas â lleihau maes llafur rhai cyrsiau sy'n cyfrannu at y gofynion mynediad ar gyfer colegau a phrifysgolion fel y soniasom. Ymwneud â hynny y mae hyn. Yn y pen draw, ni ddylai ein blaenoriaeth gyntaf ymwneud â chadw'r sefydliadau mawr yn ddiddiwedd; mae'n ymwneud â thyfu ein pobl ifanc, mae'n ymwneud â diogelu pobl ifanc Cymru, mae'n ymwneud â rhoi'r addysg honno iddynt, eu helpu i ddatblygu'n ddinasyddion gwydn sy'n gallu gwneud swyddi eu breuddwydion, dod yn oedolion gwydn a chynnal swyddi a chael bywyd da yn y dyfodol. Mae arnom hynny iddynt, oherwydd eu dyfodol hwy ydyw—rhaid inni ei gefnogi.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Fe wnawn atal y trafodion am seibiant byr yn awr er mwyn newid drosodd yn y Siambr a rhywfaint o lanhau os oes angen.