Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, roedd hynny'n ddiddorol. Weinidog, cawsoch eich sarhau i'r fath raddau nes i mi orfod troi'n ôl i ailddarllen ein cynnig gan fy mod yn meddwl efallai ein bod wedi rhoi pethau ynddo roeddwn wedi'u methu. Ond na, nid wyf yn gweld dim yno sy'n dweud nad ydym yn credu nad yw sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach wedi ysgwyddo eu cyfrifoldebau. Hynny yw, rydym yn credu hynny—maent wedi bod yn rhagorol, maent wedi darparu llawer iawn i'n myfyrwyr dros y misoedd diwethaf. Ymddengys eich bod yn meddwl ein bod yn cyflwyno'r holl ddadl hon yn y bôn er mwyn eu beirniadu ac i ddweud bod popeth yn wael iawn. Ydw, rwy'n credu bod ein cynnig yn dweud, 'Da iawn chi, Lywodraeth Cymru, am roi arian.' Rydym yn croesawu hynny'n llwyr, yn falch iawn o'i weld, ac yn meddwl ei fod yn mynd i wneud gwahaniaeth. Ond rwy'n credu mai'r gwir bwynt yw bod Suzy Davies wedi'ch dal chi am eich bod yn meddwl y byddai'n ymwneud â hynny, ac mewn gwirionedd mae'n ymwneud â'n myfyrwyr—mae'n ymwneud â'r dynion a'r menywod ifanc, merched a bechgyn ledled Cymru sydd wedi cael eu dal gan y pandemig hwn ac wedi ei chael hi'n anodd ac wedi dioddef cymaint.
Hoffwn roi teyrnged i Caroline Jones. Roeddwn yn meddwl bod ei chyfraniad yn rhagorol oherwydd, Caroline, roeddech yn iawn ynglŷn â'i hanfod, hanfod yr hyn y mae'r bobl ifanc hyn yn mynd drwyddo. Maent yn byw drwy gyfnod nad oeddent erioed wedi'i ddisgwyl. Tarfwyd ar eu haddysg, ac fel y dywedoch chi'n gywir, mae addysg yn ymwneud â mwy na'r llyfrau neu'r niferoedd yn unig; mae'n ymwneud â'r profiad dysgu cyfan, y profiad cymdeithasol cyfan, cael eich ymylon garwaf wedi'u llyfnhau, dysgu sut i ryngweithio â phobl eraill, sut i fyw gyda phobl.
A gwyddom fod iechyd meddwl wedi bod yn fater pwysig iawn i lawer o'n myfyrwyr. Mae rhai o'r bobl sydd efallai'n llai gwydn wedi ei chael hi'n anodd iawn, ac mae hyd yn oed y rhai sy'n ymfalchïo mewn bod yn eithaf gwydn wedi profi gofid mawr. Mae'r rhai sydd wedi symud o Safon Uwch i fynd i brifysgol neu addysg bellach ar ryw ffurf neu'i gilydd, yn arbennig, wedi cael ergyd ddwbl, os mynnwch. A chredaf na ddylem danbrisio'r effaith honno ar iechyd meddwl, a dyna pam y cyflwynodd Suzy y ddadl hon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig gan ganolbwyntio'n fawr ar safbwynt y myfyrwyr.
Nawr, Weinidog, nid wyf yn anghytuno â llawer o'r hyn a ddywedoch chi am y sector addysg bellach a'r sector addysg uwch—eu huchelgais, eich uchelgais chi, o ran ble rydych yn ceisio mynd. Ac rwyf am fynd ar ôl un o'r pwyntiau a wnaeth David Melding: mae Prifysgol Caerdydd yn fy syfrdanu'n gyson gyda'u gwaith ymchwil a datblygu; maent yn hollol wych. Ac yn y sector meddygol, maent wedi cyflawni datblygiadau eithriadol—eithriadol—y mae angen inni eu dathlu. Ac er mwyn gwneud hynny, maent angen yr arian—wrth gwrs eu bod—maent angen sefydlogrwydd ac maent angen gwybod eu bod yn gynaliadwy wrth wynebu'r dyfodol.
Ond nid wyf yn meddwl bod unrhyw beth o'i le ar y Ceidwadwyr Cymreig yn eich atgoffa chi a rhai o'r sefydliadau yng Nghymru yn garedig fod ganddynt lawer iawn o arian, rai ohonynt, wedi'i gadw yn eu pocedi, ac rydym mewn argyfwng. Wyddoch chi, nid oes gennych boced ddiwaelod o arian, nid oes gan Lywodraeth y DU boced ddiwaelod o arian ac yn sicr nid oes gan ein myfyrwyr tlawd bocedi o'r fath, felly i'r sefydliadau sydd ag arian, dyma'r amser i ddechrau ei ddefnyddio, dyma'r amser i ddechrau atgyfnerthu rhai o'r cyrsiau, cynnal rhai o'r staff addysgu a sicrhau ein bod yn gallu troi cefn ar y pandemig coronafeirws gyda sector cryf a chyda gweithlu myfyrwyr cryf.
David Rowlands, fe wnaethoch chithau hefyd bwynt eithriadol o dda a gollwyd yn y gymysgedd yn fy marn i, ynglŷn â'r ffaith y bydd cyrsiau galwedigaethol yn un o'r meysydd mawr sy'n cael eu taro. Rwyf wedi siarad â nifer o fyfyrwyr yn fy etholaeth sydd ar gyrsiau galwedigaethol o'r fath, ac mae'n anodd iawn iddynt; ni allant fynd allan a gwneud y gwaith maes, ni allant fynd allan a gweithio mewn rhai mathau o fusnesau. Mae'n anodd iawn iddynt gael y pethau sydd eu hangen arnynt er mwyn gallu symud ymlaen a chredaf na ddylem anghofio hynny o gwbl, a sylweddoli, i'r unigolion hynny, ei fod yn mynd i ymestyn hyd eu holl broses addysgol heb roi'r cyfoeth a'r dyfnder roedd llawer ohonom yn ddigon ffodus i'w gael.
Y cyfan rydym wedi gofyn amdano yw y dylid siarad â'n myfyrwyr a siarad â hwy am yr elfennau ariannol a chostau cysylltiedig eraill sydd ynghlwm wrth allu dilyn eu cyrsiau. Rydym ni'n sicr wedi siarad â hwy, Weinidog, ac maent yn pryderu'n fawr. Mae gennym lawer iawn o fyfyrwyr nad ydynt yn gallu dysgu ar-lein am nad oes ganddynt y seilwaith digidol gartref, neu am nad ydynt yn byw mewn rhan gyfleus o Gymru sydd â seilwaith digidol gwych. Roedd dros 15 y cant o'r myfyrwyr yn yr arolwg yn dweud yn glir iawn nad oes ganddynt ddarpariaeth TG yn y cartref, ac mae hynny'n llawer o fyfyrwyr nad ydynt yn gallu dysgu ar-lein. Ni all rhai myfyrwyr ymdopi â phroses o'r fath. A dyna oedd holl bwynt y ddadl hon—dyna'r hyn y ceisiem eich annog i edrych arno a'ch annog i'w roi yn y gymysgedd pan fyddwch yn meddwl am y ffordd ymlaen ac i ble rydych chi'n mynd.
Felly, gofynnwn yn gyflym am dri pheth: rydym am i chi sicrhau bod y ffioedd yn adlewyrchu'r effaith y mae'r coronafeirws yn ei chael arnynt hwy a'u cyrsiau; rydym am i chi sicrhau bod myfyrwyr yn cael pob cymorth, y cyllid sydd ar gael ac anogaeth i gael mynediad at ddysgu, boed hynny drwy ffrydio byw, dulliau eraill o addysgu ar-lein, neu wyneb yn wyneb lle bynnag y bo modd. Hynny yw, ysgrifennodd un myfyriwr yn fy ardal sy'n gwneud archaeoleg ataf ac mae'n mynd i gael anhawster gwirioneddol i fynychu cloddiad archeolegol dros y rhyngrwyd—pob lwc iddo, druan. Ac yn olaf, rydym am i chi fynd i'r afael â phryderon myfyrwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch mewn perthynas â lleihau maes llafur rhai cyrsiau sy'n cyfrannu at y gofynion mynediad ar gyfer colegau a phrifysgolion fel y soniasom. Ymwneud â hynny y mae hyn. Yn y pen draw, ni ddylai ein blaenoriaeth gyntaf ymwneud â chadw'r sefydliadau mawr yn ddiddiwedd; mae'n ymwneud â thyfu ein pobl ifanc, mae'n ymwneud â diogelu pobl ifanc Cymru, mae'n ymwneud â rhoi'r addysg honno iddynt, eu helpu i ddatblygu'n ddinasyddion gwydn sy'n gallu gwneud swyddi eu breuddwydion, dod yn oedolion gwydn a chynnal swyddi a chael bywyd da yn y dyfodol. Mae arnom hynny iddynt, oherwydd eu dyfodol hwy ydyw—rhaid inni ei gefnogi.