13. Dadl Plaid Cymru: Ail Gartrefi

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:49 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 6:49, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n bwnc diddorol, sydd wedi cael mwy o sylw dros gyfnod y cyfyngiadau symud, ac rwy'n cymeradwyo'r teimlad o 'gartrefi lleol i bobl leol' sy'n sail iddo. Rhaid i mi ddatgan buddiant yn yr ystyr fy mod wedi etifeddu tŷ fy niweddar dad pan fu farw, ac rwy'n ei osod ar rent i deulu lleol, a sylwaf o'r gofrestr o fuddiannau'r Aelodau fod llawer o'r Aelodau eraill yn y Siambr yn gwneud hynny hefyd. O ganlyniad i ofynion Rhentu Doeth Cymru, bu'n rhaid i mi gofrestru ac rwy'n cyflogi asiant i reoli'r eiddo. Pe bawn am wneud arian gwirioneddol ac yn diflasu ar fiwrocratiaeth bod yn landlord preifat yng Nghymru, efallai y cawn fy nenu at y llwybr Airbnb.

Mae'r cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag ymestyn y cyfnod rhybudd o chwe mis i denantiaid wedi peri cryn ddryswch i landlordiaid preifat, a phrin fod llawer ohonynt yn eistedd gartref yn cyfrif eu harian—maent yn poeni ynglŷn â sut i barhau i dalu'r morgais. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen yn ofalus oherwydd efallai na fydd rhai ohonynt yn awyddus i gynnig eiddo ar rent hirdymor i bobl leol mwyach, ac rwy'n siŵr y byddai hyn yn ganlyniad anfwriadol, ac yn un gwael ar hynny.

O edrych ar y cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, mae'n teimlo fel cerydd yn unig a dim abwyd: cynllunio rheolaeth, biliau cosbol y dreth gyngor, cynyddu'r dreth trafodiadau tir. Ar lefel ymarferol, os gallwch fforddio ail gartref, byddwn yn awgrymu ei bod hi'n debygol eich bod yn gallu fforddio talu mwy o dreth gyngor a thalu mwy o dreth trafodiadau tir—ni fyddai hynny'n broblem i'r rhan fwyaf o'r bobl hyn. Ac er y byddwn o bosibl yn dymuno hyrwyddo cartrefi i bobl leol a chyfyngu ar gartrefi gwyliau, dim ond un rhan o farchnad dai gymhleth iawn yw ail gartrefi. Am y rheswm hwnnw, caf fy nenu at y rhan o gynnig y Blaid Lafur sy'n awgrymu y dylid cynnal archwiliad o nifer yr ail gartrefi a chartrefi gwyliau yng Nghymru, fel y gallwn weld maint y broblem yn llawn. Yn aml, nid yw canfyddiad yn adlewyrchu realiti, a ffeithiau nid teimladau yw'r hyn sy'n bwysig yma.

Rwy'n derbyn ac yn cydnabod bod yna argyfwng tai, ond fel gyda'r argyfwng hinsawdd, nid yw'n ymddangos bod Llywodraethau o unrhyw liw, yn unrhyw le, yn rheoli'r argyfwng mewn ffordd effeithiol o gwbl. Rwy'n cymeradwyo rhagamcan Llywodraeth Lafur Cymru y bydd yn cyrraedd ei tharged ei hun ar dai fforddiadwy, ond y gwir amdani yw nad yw 20,000 o gartrefi dros bum mlynedd yn agos at fod yn ddigon pan fo amcangyfrifon yn awgrymu bod angen llawer mwy, gan fod gennym 65,000 o deuluoedd ar ein rhestrau aros yma. Deallaf fod cynghorau bellach yn rhydd i adeiladu a bod y sector cyhoeddus yng Nghymru'n dal i fod yn berchen ar lawer iawn o dir. Felly, beth yw'r rhwystr i adeiladu neu greu cymaint o gartrefi ag sydd eu hangen ar Gymru? Gwn y bu ymgyrchoedd achlysurol i addasu cartrefi gwag at ddibenion gwahanol, ond fel y dywedodd Mike Hedges, os cerddwch o gwmpas mewn unrhyw ardal fe welwch amryw o adeiladau gwag nad ydynt yn cael eu defnyddio. Felly, gellir gwneud mwy yn sicr.

Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i ymgorffori camau o'r fath mewn polisi tai yn awr. Gwelsom ar ddechrau cyfnod y cyfyngiadau symud y gellir gwneud pethau mawr lle ceir ewyllys wleidyddol i wneud hynny, megis cael yr holl bobl ddigartref i mewn i dai. Felly, lle mae'r ewyllys wleidyddol i greu rhaglen dai i Gymru a fydd yn sicrhau bod gan ddinasyddion Cymru gartrefi y maent eu hangen ac yn eu haeddu?

Rwy'n croesawu'r posibilrwydd o edrych ar y diffiniad o 'fforddiadwy', ond byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn gwybod beth yw'r diffiniad o 'lleol'. Deuthum i Gymru ym 1986 o ganolbarth Lloegr. Rwyf wedi cyfrannu at fy nghymuned, wedi magu fy mhlant yng nghefn gwlad Cymru, ac rwy'n caru Cymru. Ar ôl bod yma am 34 mlynedd a mwy, a fyddwn yn cael fy ystyried yn lleol pe bawn yn gwneud hyn yn awr? Mae llawer o werth mewn edrych o ddifrif ar y maes tai yng Nghymru ac mae llawer o werth yn y cynnig hwn a nifer o'r gwelliannau. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, a phob plaid sy'n meddwl am addewidion maniffesto yn wir, yn rhoi'r ystyriaeth ddifrifol sydd angen ei rhoi i dai, fel y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Diolch.