Part of the debate – Senedd Cymru am 6:44 pm ar 23 Medi 2020.
Dwi'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl yma. Dwi'n ffodus i fod wedi cael fy newis ar gyfer dadl fer wythnos nesaf. Roeddwn i wedi meddwl gwneud honno am ail gartrefi, ond dwi'n falch o gael rhannu fy sylwadau i wythnos yn gynharach hyd yn oed.
Mae'r mater yma yn un sydd wedi bod o bwys mawr i nifer ohonom ni yn y Senedd yma ers blynyddoedd lawer. Dwi'n cofio poster Cymdeithas yr Iaith 'Nid yw Cymru ar werth' ar wal fy llofft yn yr 1980au. Ond mae'r cyfnod clo, y ffaith bod pobl wedi dod i adnabod eu cymunedau'n well, yn sylwi ar bobl yn symud yn ôl ac ymlaen i ail gartrefi, ceisio cofrestru efo meddygfeydd ac ati, wedi rhoi impetus o'r newydd i hyn, wedi codi lefel y pryderon ac wedi cynyddu'r awydd ymysg y cyhoedd i'n gweld ni'n gwneud rhywbeth i ddatrys y broblem. Mae rhannau o Gymru—llawer o rannau—yn dal i deimlo eu bod nhw ar werth to the highest bidder. Ac, yn rhy aml, dydy ein pobl ifanc ni, pobl ar gyflogau isel yn ein cymunedau ni, ddim yn gallu cystadlu.
Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau efo'r enghreifftiau dwi'n eu gweld yn Ynys Môn. Mae cymaint â phedwar allan o bob 10 tŷ yn dai gwyliau mewn lle fe Rhosneigr. Rydych chi'n gweld tai cyffredin, tai teulu delfrydol yn mynd am brisiau hurt, ymhell iawn o afael y gymuned. Y canlyniad ydy bod tai yn diflannu oddi ar y farchnad leol am byth: y bwthyn bach yn ein hymyl ni sydd wedi mwy na dyblu yn ei werth mewn ychydig flynyddoedd; y tŷ ar stâd yn Llangaffo ar rent am bron i £1,800 y mis ar wefan o Lundain, yn y dyddiau diwethaf; tai teras a hen dai cyngor yn troi yn dai haf. I rai, maen nhw'n dai i'w defnyddio yn achlysurol. Dwi'n gweld dim bai ar bobl am fod eisiau gwneud hynny; mae Ynys Môn yn lle perffaith i dreulio penwythnos. Ond mae yna oblygiadau i hyn: mae'n gwthio prisiau i fyny, mae'n newid natur cymunedau, ac rydyn ni'n gwybod mor ddifywyd ydy cymunedau llawn tai haf drwy lawer o'r flwyddyn.
Mae eraill yn prynu tai haf i'w defnyddio nhw fel holiday let. Yn aml iawn, pobl leol ydy'r rhain, ond yr un ydy'r goblygiadau. Mae gwefannau fel Airbnb, wedyn, wedi gwneud hyn yn fwy deniadol fyth, yn haws. Ond nid cyd-ddigwyddiad ydy bod cymaint o ardaloedd a dinasoedd ledled y byd wedi gwahardd neu osod cyfyngiadau llym ar osod Airbnb erbyn hyn. Mi wnaeth etholwr, yn ddiweddar, gysylltu i gwyno bod un tŷ ar eu stâd deuluol nhw yn Ynys Môn yn bartis nosweithiol, wrth i bobl aros yno am wyliau byr. Nid dyna sut gymdogaeth mae pobl yn disgwyl byw ynddi hi ar stadau bach yn ein pentrefi ni.
Fel mae eraill wedi egluro, mae yna ffyrdd o gyflwyno rheolau i stopio hyn. Gwnewch hi'n angenrheidiol i gael caniatâd cynllunio i droi tŷ parhaol yn dŷ sy'n cael ei osod am gyfnodau byr. Nid gwrthod pob holiday let ydy hynny. Mae tai gwyliau hunanarlwyo yn gallu bod yn rhan bwysig iawn o'n harlwy twristiaeth ni, ond, ar hyn o bryd, mae allan o reolaeth. Rydyn ni angen gallu penderfynu faint i'w caniatáu o fewn unrhyw gymuned, a faint o dai haf. Ac ydy, mae hynny yn cynnwys rhoi cap a chaniatáu dim mwy mewn rhai cymunedau.
Mi wnaf innau droi at y loophole y clywsom ni Mike Hedges yn sôn amdano fo—y loophole trethiannol rydyn ni wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru ei gau ers blynyddoedd, erbyn hyn, ond heb lwc. Loophole ble mae pobl yn cofrestru tŷ haf fel holiday let, a thrwy hynny yn cael peidio â thalu treth gyngor, sydd â phremiwm arno fo, wrth gwrs, fel ail gartref mewn rhai siroedd, ac wedyn yn cael rhyddhad llawn ar dreth busnes. Mae'r trothwy ar gyfer newid defnydd yn llawer rhy isel, ac mae'n costio'n ddrud, gymaint â £1 miliwn y flwyddyn i gyngor fel Ynys Môn, ac mae'n rhaid iddo fo stopio. Mae mor syml â hynny. Mae'n gywilydd o beth bod y Llywodraeth Lafur wedi gwrthod cydnabod y broblem. Mi ddaeth y broblem yn amlycach fyth ar ddechrau'r pandemig yma pan roedd £10,000 o gefnogaeth ar gael i fusnesau bach. Gwych o beth fod busnesau go iawn yn cael cefnogaeth, ond gwarthus gweld pobl yn trio manteisio arno fo.
Efo'r cloc yn fy erbyn i, gadewch i mi ddweud hyn i gloi: does yna ddim byd yn unigryw i Gymru, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, yn beth rydyn ni yn ei drafod. Mae pryderon am effaith perchnogaeth ail gartrefi a thai gwyliau wedi arwain at ddeddfwriaeth a chamau pendant iawn ar hyd a lled y byd. Gadewch i ni wneud beth mae eraill wedi sylweddoli mae'n rhaid gwneud. Nid ymosodiad ar dwristiaeth ydy hyn, gyda llaw, ond mae twristiaeth heb ei reoli, sydd yn rhywbeth sy'n digwydd i gymuned, yn wahanol iawn i dwristiaeth sy'n cael ei reoli a lle mae yna berchnogaeth go iawn arno fo ac sy'n gynaliadwy o fewn ein cymunedau ni.
Mi adawaf hi yn fanna. Rydyn ni'n gwybod bod Plaid Cymru eisiau gweithredu. Rydyn ni'n gofyn ar y Llywodraeth yma i ddechrau gweithredu rwan, achos rydyn ni mewn argyfwng.