1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cadw Cymru'n Ddiogel rhag Coronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:18, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, unwaith eto, a gaf fi ddiolch i Darren Millar am y cwestiynau pwysig hynny? Rwy'n cytuno â'i sylwadau agoriadol fod hwn yn gyfnod pryderus, ac mae arnaf ofn ei fod yn iawn y dylem boeni o ystyried y ffigurau rydym yn eu gweld.

Y ffigur a ddyfynnais, Lywydd—y 46.8 y cant—yw'r ffigur diweddaraf sydd gennyf. Cynigir gwybodaeth reoli i mi sydd ar gael cyn y ffigurau a ddefnyddir yn gyhoeddus, ac maent yn cael eu profi ymhellach cyn iddynt gael eu cyhoeddi, a hynny oherwydd fy mod eisiau rhoi'r wybodaeth orau a mwyaf diweddar sydd gennyf i Aelodau'r Senedd. Mewn rhai ffyrdd, fel y gwn y bydd Darren Millar yn cydnabod, y duedd yw'r peth pwysicaf, yn hytrach na'r nifer absoliwt, ac mae'r duedd ar i fyny yma yng Nghymru. Ddeng niwrnod yn ôl, pan wnaethom y penderfyniad i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau a mannau cyhoeddus dan do, roeddem newydd gyrraedd 20 achos ym mhob 100,000 yng Nghymru. Mae arnaf ofn fod y ffigur hwnnw wedi codi ers hynny. Mae cornel de-ddwyrain Cymru wedi effeithio arno. Nid yw'n adlewyrchiad o rai rhannau o Gymru, ond mae'r duedd yn bwysig i'w nodi.

Mae twristiaeth yn fater anodd. Rwyf wedi ei drafod yn uniongyrchol â'r Aelod droeon oherwydd, fel y dywed, mae twristiaeth yn rhan mor bwysig o economi leol yr ardal y mae'n ei chynrychioli yng Nghymru. Y newyddion da yw ein bod wedi cael twristiaid yn dod i Gymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ers rhan gyntaf mis Gorffennaf, ac nid oes tystiolaeth fod hynny wedi arwain at gynnydd sydyn yn nifer yr heintiau yn y rhannau o Gymru y mae pobl yn ymweld â hwy amlaf. Yn wir, mae'r coronafeirws yn parhau i fod ar ei isaf yn y lleoedd y mae twristiaid yn ymweld â hwy amlaf. Serch hynny wrth gwrs, rwy'n deall bod pobl leol yn bryderus pan ddaw ymwelwyr o rannau eraill—boed yng Nghymru neu'r tu hwnt—lle mae cyfraddau coronafeirws yn uwch. Felly, mae ein neges yn parhau i fod yr un peth ar hyn o bryd: dewch i Gymru'n ddiogel. Os ydych yn dod i Gymru, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud yr holl bethau y byddem yn disgwyl i'n cyd-ddinasyddion eu gwneud i gadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel. Drwy wneud hynny, gall pobl fwynhau Cymru a gwneud cyfraniad i economïau lleol ac i swyddi heb greu perygl.

Ddoe, gofynnais i Brif Weinidog y DU adleisio neges yn gofyn i bobl feddwl yn ofalus am deithiau, yn enwedig o'r lleoedd yn Lloegr lle mae coronafeirws hyd yn oed yn fwy cyffredin na'r hyn ydyw yn ne-ddwyrain Cymru. Mae arnaf ofn nad oedd yn fodlon gwneud hynny. Fy neges i bobl yng Nghymru yw nad yw'n ymwneud â rheol; nid yw'n ymwneud â phobl yn ceisio profi ffiniau'r hyn a ganiateir. Nid dyna'r ffordd gywir o feddwl am hyn. Y cyfan rwy'n gofyn i bobl yng Nghymru ei wneud yw meddwl yn ofalus am deithiau y gallant fod yn eu gwneud. Os yw'n bosibl ymweld â bwyty, er enghraifft, neu fynd i dafarn yn agos at adref, mae hynny'n fwy doeth na theithio pellter i wneud yr un peth ymhellach i ffwrdd. Dyna'r cwestiynau rwy'n eu gofyn i bobl mewn ffordd sy'n apelio at eu synnwyr cyffredin, wrth iddynt wneud penderfyniadau y gall pobl eu gwneud yn eu bywydau eu hunain, oherwydd po fwyaf o bobl y down i gysylltiad â hwy a'r pellaf y byddwn yn teithio, y mwyaf yw'r risg. Rwy'n credu bod hwnnw'n argymhelliad syml iawn, ac rwy'n teimlo'n hyderus fod ein cyd-ddinasyddion yng Nghymru yn gallu gwneud penderfyniadau o'r fath yn eu bywydau eu hunain.