– Senedd Cymru am 1:32 pm ar 23 Medi 2020.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y coronafeirws. Diolch i'r Prif Weinidog am gytuno i gyflwyno'r datganiad, ond gaf i atgoffa pawb taw disgwyliad Aelodau'r Senedd a fi fel Llywydd yw bod datganiadau o'r arwyddocâd yma i'w gwneud ar y cyfle cyntaf posibl i'r Senedd, ar bob achlysur? Y Prif Weinidog i gyflwyno ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Llywydd, diolch yn fawr. Heddiw, byddaf yn adrodd i’r Senedd ar y datblygiadau diweddaraf wrth i ni weithredu i reoli’r coronafeirws yng Nghymru. Gwaetha’r modd, wedi cyfnod hir pan oedd nifer yr achosion yn cwympo’n raddol, rydym unwaith eto yn gweld cynnydd sylweddol. Mae’n rhaid i ni ymateb yn gadarn. Mae nifer o fesurau pwysig mewn lle ledled Cymru yn barod. Yn ogystal, yn yr wythnosau diweddar rydym wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol mewn ardaloedd lle mae’r cynnydd ar ei waethaf. Ddoe, cyhoeddais fesurau ychwanegol ar lefel genedlaethol, yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig.
Lywydd, rwyf am ddechrau drwy nodi'r dystiolaeth ddiweddaraf am ledaeniad y coronafeirws yng Nghymru. Yn ffodus, nid ydym yn wynebu'r un pwysau helaeth â rhai rhannau eraill o'r DU eto. Mae hyn, yn rhannol, o ganlyniad i’n dull mwy gofalus a’r mesurau rydym wedi’u rhoi ar waith ers dechrau'r pandemig, megis ein cyngor i bobl weithio gartref lle bo modd. Mae hefyd o ganlyniad i waith caled ac ymdrechion pawb yng Nghymru sydd wedi dilyn y rheolau ac wedi helpu i reoli lledaeniad y feirws.
Serch hynny, rydym wedi gweld cynnydd amlwg mewn achosion o’r coronafeirws ers wythnosau olaf mis Awst. Y gyfradd gyffredinol yng Nghymru bellach yw 46.8 achos ym mhob 100,000 o bobl. Serch hynny, mae'r darlun ledled Cymru'n gymysg. Mewn rhannau o dde Cymru, rydym wedi gweld clystyrau mawr ac achosion o'r feirws sydd wedi arwain at drosglwyddiad cymunedol. Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi ymateb i'r cynnydd sydyn hwn ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, bwrdeistref Caerffili, Merthyr Tudful, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf drwy gyflwyno cyfyngiadau lleol dros y pythefnos diwethaf. Daeth y diweddaraf o’r rhain i rym neithiwr, fel y nododd y Gweinidog iechyd yn ei ddatganiad i’r Aelodau ddoe. Ond mewn rhannau eraill o Gymru, yn y gorllewin ac mewn rhannau o ogledd Cymru er enghraifft, mae'r cyfraddau'n parhau i fod yn is o lawer.
Mae'n drist nodi, Lywydd, ein bod unwaith eto, fodd bynnag, yn gweld pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty ac arnynt angen triniaeth ar gyfer effeithiau difrifol y coronafeirws, ac yn arbennig o drist, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld pobl yn marw o'r afiechyd hwn unwaith eto. Nawr yw'r amser i gymryd camau pellach ar y cyd i geisio atal y coronafeirws rhag ailgydio yn ein cymunedau lleol, ein trefi a'n dinasoedd.
Ddoe, trafodais gyfres o argymhellion ar gyfer camau cydlynol ledled y DU gyda Phrif Weinidogion yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DU. Mae llawer o'r argymhellion a drafodwyd yno eisoes ar waith yng Nghymru. Rydym wedi dilyn trywydd gwahanol sy'n addas i'n hanghenion a'n hamgylchiadau ni. Rydym wedi bod yn fwy gofalus wrth lacio cyfyngiadau, rydym wedi llacio’r cyfyngiadau gam wrth gam ac rydym wedi parhau i ddarparu cyngor drwy gydol y pandemig—camau a chyngor y mae rhannau eraill o'r DU bellach yn eu mabwysiadu.
Mae pob un ohonom wedi gwneud cymaint yn barod, ond os ydym am barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r feirws hwn, mae angen i holl ddinasyddion Cymru barhau i ddilyn y trywydd hwnnw. Mae'n golygu gweithio gartref lle bo modd—neges sydd yr un mor berthnasol i gyflogwyr ag ydyw i weithwyr. Mae’n rhaid i bob un ohonom gadw at y rheolau ynglŷn â chyfarfod dan do. Os ydych yn byw mewn ardal sydd eisoes dan gyfyngiadau lleol, dim ond yn yr awyr agored y gallwch gyfarfod â phobl nad ydych yn byw gyda hwy am y tro. Mewn rhannau eraill o Gymru, gall hyd at chwech o bobl gyfarfod dan do, ar yr amod fod pob un ohonynt yn dod o un aelwyd estynedig, ac nid yw plant dan 11 oed yn cyfrif tuag at y chwech hwnnw yng Nghymru.
Mae bellach yn ofynnol inni wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau, ac mewn mannau cyhoeddus eraill dan do. Ac rwy’n gofyn i bobl yng Nghymru feddwl yn ofalus ynglŷn â ble rydym yn mynd a chyda phwy rydym yn cyfarfod, oherwydd po fwyaf o lefydd yr awn iddynt, a pho fwyaf o bobl y down i gysylltiad â hwy, y mwyaf yw'r perygl o ddal y coronafeirws a'i ledaenu i eraill.
Lywydd, er mwyn helpu i gryfhau ein hymateb i’r coronafeirws ac i atal argyfwng newydd yng Nghymru, rydym yn cyflwyno mesurau newydd i fod ar waith yn genedlaethol, gan gynnwys yn yr ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol. Er mwyn cynorthwyo pobl y gofynnir iddynt hunanynysu, byddwn yn darparu taliad o £500 i gefnogi pobl ar incwm isel, a byddwn yn newid y gyfraith yng Nghymru i atal cyflogwyr rhag ei gwneud yn anodd i weithwyr hunanynysu pan fydd angen iddynt wneud hynny.
Ac ochr yn ochr â gwledydd eraill y DU, byddwn yn cyflwyno camau wedi'u targedu yn y sector lletygarwch. Mae’r rhan fwyaf o fusnesau lletygarwch wedi gwneud newidiadau i'w hadeiladau ac wedi cyflwyno protocolau newydd i ddiogelu cwsmeriaid a staff. Ac rwy’n hynod ddiolchgar am yr holl ymdrechion y maent wedi’u gwneud i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol sydd gennym yma yng Nghymru. Yn anffodus, rydym wedi gweld rhai enghreifftiau prin o arferion gwael, ac rwy’n falch iawn o weld awdurdodau lleol yn rhoi camau gorfodi ar waith pan fo’r rheoliadau’n cael eu torri. Rydym yn gofyn i'r sector lletygarwch fynd ymhellach yn awr. O 6 p.m. yfory, bydd yn rhaid i fusnesau lletygarwch yng Nghymru, gan gynnwys tafarndai, caffis, bwytai a chasinos, roi'r gorau i werthu alcohol am 10 p.m. Bydd yn rhaid iddynt hefyd ddarparu gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig. Bydd yn rhaid i siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd, roi'r gorau i werthu alcohol am 10 o'r gloch yr hwyr.
Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am gyfarfod a gynhaliais ddoe gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol ledled de Cymru, ynghyd â'r GIG, yr heddlu, a’r comisiynwyr heddlu a throseddu. Buom yn trafod y cyfyngiadau lleol sydd eisoes ar waith, eu heffaith ar awdurdodau cyfagos ac a ddylid ymestyn y cyfyngiadau lleol hynny i ardaloedd cynghorau lleol eraill. Cytunwyd fod angen inni allu gweithredu'n gyflym a rhoi camau ataliol ar waith lle bo modd, ond hefyd, fod yn rhaid i hyn fod yn gymesur â'r risg. Dim ond lle mae'n gymesur inni wneud hynny y dylem roi cyfyngiadau newydd ar fywydau a bywoliaeth pobl. Lywydd, cytunodd yr holl bartneriaid fod ein dull partneriaeth yng Nghymru yn hollbwysig wrth ymateb i'r feirws—addysgu, hysbysu ac yna gorfodaeth gadarn lle mae hynny'n angenrheidiol.
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anhygoel o anodd i gynifer o bobl yng Nghymru, ond rydym wedi llwyddo orau pan fyddwn wedi gweithredu gyda'n gilydd i ddiogelu ein teuluoedd ac i edrych ar ôl ar ein cymdogion. Nawr, mae angen i bob un ohonom wneud hynny gyda'n gilydd unwaith eto. Mae angen i bawb yng Nghymru gadw at y rheolau, gweithredu yn unol â'r canllawiau a chymryd y camau hynny i ddiogelu ein hunain a'n hanwyliaid. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i gadw Cymru’n ddiogel. Lywydd. diolch yn fawr.
Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn gresynu'n fawr nad oeddech mewn sefyllfa i wneud y datganiad hwn ddoe cyn eich darllediad ar y teledu, fel y Prif Weinidogion eraill ledled y DU a siaradodd â'u Seneddau. Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn ymddiheuro am yr anghwrteisi hwnnw, gan i’r BBC gynnwys stori am 6 o’r gloch, er mai am 5.30 p.m. y cafodd yr Aelodau wybod, nad oedd y Llywodraeth wedi gwneud unrhyw benderfyniad, a dywedwyd wrthym ychydig cyn 8 o’r gloch. Mae angen inni fynd yn ôl at weld democratiaeth seneddol yn gweithio yma, lle mae'r Senedd yn dadlau ac yn trafod y rheoliadau hyn ac yna'n pleidleisio arnynt, a chredaf fod angen i chi ymddiheuro heddiw, gan fod ddoe yn weithred warthus ar eich rhan, yn peidio â dod gerbron y Cynulliad a thrafod y peth mewn modd a fyddai’n addas i Senedd genedlaethol.
A gaf fi ofyn i chi hefyd am y llinell amser chwe mis y mae Prif Weinidog y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi sôn amdani? A yw'n llinell amser ar gyfer y cyfyngiadau hyn ac yn ffordd rydych chi ac arweinwyr eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn cytuno â hi o edrych ymlaen at yr adeg pan allem weld rhywfaint o seibiant rhag y feirws, neu a oes gennych farn wahanol?
A gaf fi ofyn hefyd pam nad ydych wedi ailddechrau'r trefniadau gwarchod, o ystyried y cynnydd yn nifer yr achosion o'r feirws mewn rhai rhannau o Gymru, a pha fesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu cartrefi gofal, o ystyried y cynnydd yn nifer yr achosion o'r feirws?
Hoffwn hefyd geisio deall y wyddoniaeth y tu ôl i'r terfyn amser o 10 o'r gloch ar gyfer gweini alcohol mewn adeilad trwyddedig yn hytrach na chau adeilad trwyddedig am 10 o'r gloch. Mae hyn, yn amlwg, yn wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac nid oes unrhyw beth i atal rhywun rhag archebu rownd fawr o ddiodydd am ddwy funud i 10 ac aros mewn adeilad trwyddedig i yfed y diodydd hynny. Felly, hoffwn ddeall y wyddoniaeth a'r cyngor rydych wedi'i gael am y gwahaniaeth hwnnw yn y dehongliad o'r terfyn amser o 10 p.m. yma yng Nghymru.
Hefyd, a allech gadarnhau p'un a ofynnwyd am unrhyw bwerau neu reoliadau ychwanegol yn y cyfarfod amlasiantaethol a gadeiriwyd gennych ddoe ar gyfer y sefydliadau partner rydych yn gweithio gyda hwy o bob rhan o Gymru? Ac yn bwysig, a allech ailddatgan fod y GIG yn weithredol yma yng Nghymru, a’i bod yn hanfodol fod pobl, pan fydd angen iddynt geisio cymorth a chefnogaeth ychwanegol gan y GIG, yn rhyngweithio â'r gwasanaeth, ac yn y pen draw, y dylem fod yn newid i ysbytai nad ydynt yn canolbwyntio cymaint ar COVID fel y gall llawdriniaethau ddechrau ar raddfa fawr ac fel y gallwn ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r amseroedd aros erchyll sydd wedi cronni dros fisoedd yr haf? Yn gynharach yn yr wythnos, soniais fod dirywiad o 60 y cant wedi bod yn nifer y llawdriniaethau dros y chwe mis ers y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud cenedlaethol, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn dechrau mynd i'r afael â phryderon pobl ynglŷn â mynediad a gwasanaethau o fewn y GIG yng Nghymru.
A fy mhwynt olaf i chi, Brif Weinidog, wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i brifysgolion, colegau addysg bellach a chyfleusterau eraill ledled Cymru, mae'n hanfodol fod prifysgolion yn gwarchod ac yn diogelu iechyd meddwl myfyrwyr, gan y bydd llawer o bobl ifanc yn gadael cartref am y tro cyntaf yn yr hyn a fyddai fel arfer yn achos dathlu ac yn dipyn o antur, ond gyda llawer o'r rheoliadau, mae risg wirioneddol o unigedd ar y campws os na roddir cymorth ar waith. A byddwn yn falch o ddeall pa ymgysylltiad y mae'r sector yn ei gael â Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw myfyrwyr yn torri rhai o'r rheoliadau a roddir ar waith i'w diogelu hwy yn ogystal â’r cymunedau y mae prifysgolion wedi’u lleoli ynddynt. Diolch, Brif Weinidog.
Lywydd, cododd Andrew R.T. Davies bwynt teg gyda mi ddoe ynglŷn â gwneud datganiad i’r Senedd cyn gynted ag y bo modd i mi wneud hynny. Dywedais yn fy ateb iddo bryd hynny na allwn warantu y byddai’r holl benderfyniadau angenrheidiol wedi’u gwneud mewn pryd i wneud datganiad o’r fath tra bo’r Senedd yn dal i eistedd ddoe.
Mae'r penderfyniadau a wnawn drwy'r amser yn Llywodraeth Cymru yn benderfyniadau hollbwysig sy'n cael effaith ar fywydau cymaint o'n cyd-ddinasyddion. Roedd y penderfyniadau hynny’n dal i gael eu gwneud yn hwyr neithiwr. Nid wyf yn ymddiheuro am ddod gerbron y Senedd am 1.30 p.m. heddiw, gan mai dyma’r cyfle cyntaf y gallaf adrodd i chi am benderfyniadau a gafodd eu gwneud ddoe, ac a gafodd eu gwneud mewn ymgynghoriad â'n partneriaid a chyda'r difrifoldeb y byddai Aelodau o'r Senedd yn disgwyl inni ei arfer mewn cyfnod anodd a heriol dros ben.
Wedi dweud hynny, rwy'n fwy na pharod i ymateb i'r pwyntiau eraill y mae Andrew R.T. Davies wedi’u gwneud y prynhawn yma. Rydym yn adolygu ein rheoliadau bob tair wythnos. Nid yw hynny'n wir ym mhob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Golyga hynny ein bod yn gallu gweithredu'n gyflym ac yn hyblyg wrth i amgylchiadau newid. Er fy mod yn ofni y bydd nifer o'r mesurau cenedlaethol y bu'n rhaid inni eu rhoi ar waith yn para am rai wythnosau neu fisoedd hyd yn oed o bosibl, nid wyf am roi terfyn amser artiffisial ar ba mor hir y byddant yn para, gan y byddwn yn eu hadolygu bob tair wythnos a byddwn yn rhoi gwybod bob tair wythnos i'r cyhoedd yng Nghymru ac i'r Senedd i ba raddau y maent yn dal i fod yn angenrheidiol. A phe baem yn y sefyllfa ffodus o allu llacio’r cyfyngiadau hynny ymhen llai na chwe mis, dyna fyddwn i'n hoffi ei weld, a dyna'r ffordd rydym wedi mynd i'r afael â'r mater hwn drwy gydol yr argyfwng a dyna sut rwy’n bwriadu parhau i lywio drwy'r cyfnod anodd hwn.
O ran y boblogaeth sy'n gwarchod, ni chafwyd trafodaeth yng nghyfarfod COBRA ddoe—dim cyngor newydd i unrhyw un o Lywodraethau'r DU ynglŷn ag ailddechrau gwarchod. Mae gwarchod yn gam sy'n gallu achosi niwed yn ogystal â chynnig diogelwch. Gwyddom fod llawer o'r bobl y gwnaethom ofyn iddynt hunanynysu yn y ffordd honno wedi dioddef unigedd ac effaith ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Gwn fod Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ystyried ysgrifennu eto at yr holl bobl sy'n parhau i fod ar ein rhestr warchod yng Nghymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ynglŷn â'r sefyllfa bresennol a rhoi cyngor pellach iddynt. Ond nid yw dychwelyd yn gyfan gwbl i'r sefyllfa a oedd gennym yn gynharach yn y flwyddyn o dan ystyriaeth ar hyn o bryd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig hyd y gwn i. Byddwn yn parhau i adolygu hynny’n ofalus iawn hefyd.
O ran y terfyn amser o 10 o’r gloch, cefais fy nylanwadu yn y trafodaethau, a aeth rhagddynt tan yn hwyr y nos, fel y dywedais, gan wybodaeth roeddwn yn ei chael o'r sector lletygarwch, yn enwedig y bwytai sydd wedi gweithio’n galed i roi model busnes ar waith yng Nghymru lle gallant gael dau grŵp o bobl mewn bwyty gyda'r nos: y grŵp cyntaf am 7 o'r gloch yr hwyr, seibiant ar gyfer y gwaith glanhau a’r mesurau diogelwch coronafeirws angenrheidiol, ac yna set arall o bobl sy'n dod i'r bwyty rhwng 8.30 a 9 o'r gloch yr hwyr. Gallem fod wedi cael sefyllfa yng Nghymru lle byddai gofyn i holl bobl adael am 10 o'r gloch a sefyll ar y palmant. Credaf y byddai hynny wedi achosi niwed gwirioneddol i'r model busnes y mae pobl wedi gweithio mor galed i'w roi ar waith.
A phob tro y gwnawn y penderfyniadau hyn, rydym yn cydbwyso anghenion pobl yn y byd busnes ac mewn gwaith â'r angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Credaf fod y sector wedi hen arfer â pheidio â chaniatáu i bobl ymddwyn yn anghyfrifol yn yr ychydig funudau cyn iddynt gau am 10 o'r gloch. Bydd ein system yn caniatáu i bobl orffen eu diodydd, gorffen eu bwyd, dod â'u noson i ben a gwneud eu ffordd adref. Dyna'r ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl sy'n mynd allan am noson yma yng Nghymru yn ymddwyn yn barod. Nid oeddwn yn dymuno gwneud eu bywydau’n anoddach wrth inni barhau i fynd i’r afael â’r lleiafrif o bobl yng Nghymru sydd, wrth i'r noson fynd yn ei blaen, wedi bod yn yfed alcohol i'r fath raddau fel na allant gofio ble maent wedi bod, a phwy y maent wedi'u cyfarfod, ac sydd, drwy hynny, yn achosi effaith gwbl anghymesur ar eraill.
Yn ein cyfarfod neithiwr, buom yn trafod, wrth gwrs, a oedd angen dull rhanbarthol yng Nghymru bellach. Roedd yn gyfarfod defnyddiol iawn; roeddwn yn ddiolchgar iawn i'r holl asiantaethau a roddodd amser i'w fynychu. Fel y dywedais yn fy natganiad, Lywydd, y farn gyffredinol oedd nad ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto, fod gan yr awdurdodau lleol fesurau lleol y gallant eu rhoi ar waith ochr yn ochr â'r mesurau cenedlaethol newydd a amlinellais yn fy natganiad i'r Aelodau. Ond roedd y pwyslais hefyd ar yr angen inni gadw llygad ar y ffigurau, gan roi camau ar waith ar unwaith os oes angen, ac os bydd angen camau pellach i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ni fyddwn yn oedi rhag eu cymryd.
Gadewch i mi gadarnhau'r pwyntiau pwysig a wnaeth Andrew R.T. Davies ynglŷn â’r GIG yn parhau ar agor. Mae cymaint o waith caled wedi’i wneud yn y GIG i greu mannau diogel rhag COVID-19, i roi mesurau diogelwch newydd ar waith fel y gall pobl sydd angen triniaethau ar gyfer cyflyrau eraill deimlo’n hyderus wrth ddod i’w cael, a dyna’n sicr yw’r neges gan y GIG yng Nghymru. Os oes angen triniaeth arnoch, cofiwch fod y GIG yn dal yno i chi yng Nghymru.
Yn olaf, ar bwynt Andrew R.T. Davies ynglŷn â myfyrwyr, mae'n llygad ei le; pan fo pobl 18 oed yn mynd i'r brifysgol, mae'n antur wych yn eu bywydau. Yn anffodus, bydd yr antur honno'n wahanol iawn eleni. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl sefydliadau addysg uwch yma yng Nghymru i sicrhau y bydd y myfyrwyr sy'n dod o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac o dramor yn dal i gael profiad cystal ag y gallwn ei roi iddynt, er bod angen iddynt hwythau chwarae eu rhan yn cadw eu hunain yn ddiogel a pheidio â chreu risgiau diangen i bobl eraill yn yr ardaloedd y byddant yn byw ynddynt, ac yn anochel, bydd ganddynt eu pryderon eu hunain ynghylch yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol.
Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod y mesurau ar gyfer Cymru gyfan a gyhoeddwyd ddoe gan y Prif Weinidog. Fodd bynnag, hoffwn innau gofnodi pa mor annerbyniol yw’r ffaith na chawsom gyfle i wneud hyn ddoe. Mae'r Senedd wedi cael ei gwthio i'r cyrion dro ar ôl tro o blaid llywodraethu drwy friffiau i'r wasg. Nid oedd yn wir, fel y dywedwyd wrthych, Lywydd, na allem drafod hyn neithiwr gan nad oedd y Prif Weinidog wedi penderfynu bryd hynny, oherwydd o fewn munudau yn llythrennol i adael y Siambr ar ôl i'r trafodion ddod i ben, dywedwyd wrthyf mewn cryn fanylder gan y BBC beth oedd y Llywodraeth wedi'i benderfynu. Yn ogystal â dangos diffyg parch tuag atoch chi, Lywydd, mae hyn yn tanseilio'r sefydliad hwn a'n rolau fel Aelodau etholedig, mae'n atal craffu democrataidd priodol ac mae'n erydu hyder. Ac os yw'r Prif Weinidog am ddadlau’n groes, efallai y gall ddweud wrthym pa bryd y recordiodd y neges a recordiwyd ymlaen llaw a ddarlledwyd wedyn i'r genedl.
Gan droi at gynnwys y cyhoeddiad, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Prif Weinidog pan ddywed fod posibilrwydd gwirioneddol fod yn rhaid i bob un ohonom fod o ddifrif ynglŷn â'r ffaith y gallai’r feirws ailgydio unwaith eto yn ein cymunedau yng Nghymru. Ymddengys i ni, fodd bynnag, yn y cyhoeddiad neithiwr o leiaf, fod y Llywodraeth yn anghytuno â'r cyngor a roddwyd i Weinidogion gan y gell cyngor technegol, sy'n nodi yn eu hadroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd ddoe y gall ymateb cynharach a mwy cynhwysfawr atal cyfnodau hir o gyfyngiadau symud. Ac mae'r dystiolaeth sydd ger ein bron, y rheswm pam ein bod yn cael y datganiad hwn, yn awgrymu nad yw'r ymateb hyd yma wedi bod yn gynnar nac yn gynhwysfawr. Fel y dywed cyn brif swyddog meddygol Cymru heddiw, mae’r don gynyddol o achosion yng Nghymru yn awgrymu efallai nad yw’r ymateb yng Nghymru wedi bod yn ddigon gofalus. Roedd gennych system goleuadau traffig, Brif Weinidog, ond mae'n edrych fel pe bai'r goleuadau wedi diffodd. Nid oedd unrhyw sôn am y system goleuadau traffig honno na'r map ffordd yn y datganiad ddoe. Ac os ydym am gymryd beirniadaeth y Fonesig Deirdre Hine o ddifrif, fel y dylem yn sicr, ni allwn fod yn llugoer wrth ymateb i ail don lawn o COVID mewn llawer o’n cymunedau, ac ni allwn ychwaith gael dull un maint addas i bawb o weithredu, gan nad yw hynny’n ystyried y map COVID dargyfeiriol o Gymru, fel y dywedasoch.
Lle mae angen mesurau arbennig, mae angen iddynt greu gwahaniaeth, nid pennawd. Arweiniodd yr amser cau o 10 p.m. ar gyfer tafarndai a bwytai a gyflwynwyd yn Antwerp i fynd i'r afael â chynnydd graddol mewn achosion o’r coronafeirws at ostyngiad parhaus ym mis Awst, ond fe’i cyflwynwyd ochr yn ochr â chyrffyw cyflawn, cyfyngiadau symud dros nos i bob pwrpas, o 11 p.m. ymlaen. Beth yw'r dystiolaeth y bydd y mesur a gyhoeddwyd neithiwr ar gyfer Cymru gyfan yn cael yr effaith rydych yn dymuno’i gweld? Lle mae gennym gyfyngiadau lleol ar waith yng Nghymru, dylem yn sicr fynd ymhellach—ymhellach o lawer—drwy gau tafarndai a chlybiau dros dro, neu'n gynharach o leiaf, gyda chymorth cysylltiedig sector benodol. Ac yn yr ardaloedd hyn, dylid cyfyngu ar werthiant alcohol mewn siopau diodydd trwyddedig yn gynharach o lawer, i 6 p.m. neu 7 p.m., sef yr hwyraf y gellir prynu alcohol mewn siopau diodydd trwyddedig yn Sweden.
Nid yw'r canllawiau ar deithio yn glir nac yn gyson ar hyn o bryd. Ar raglen Today y bore yma, dywedasoch nad oeddech yn atal pobl rhag mynd ar wyliau, ond mai'r apêl gyffredinol yw i bobl beidio â gwneud siwrneiau nad ydynt yn hanfodol. Sut y mae eu diffinio? A all pobl ymweld â'u teulu, gyrru i fannau prydferth, i'r dafarn, neu deithio yn y car i chwarae rownd o golff? Mae'n ben-blwydd arnaf heddiw, Brif Weinidog, ac roeddwn yn bwriadu mynd gyda fy mhartner i fwyty lleol—a ddylwn i ganslo nawr? Dyma'r cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn i’w hunain ledled Cymru. Yn amlwg, mae'n gwneud synnwyr i roi'r gorau i deithio o ardaloedd risg uchel, ond mae'n rhaid i hynny gynnwys ardaloedd nad ydynt yng Nghymru. Ni allwch fynd i Ddinbych-y-pysgod o Flaenau Gwent, ond gallwch fynd yno o Bolton.
Nawr, mae cyfyngiadau symud cenedlaethol yn rhywbeth y dylai pob un ohonom fod yn awyddus i’w hosgoi. Os oes ffenestr, mae'n rhaid i ni fanteisio arni nawr, yn ddi-oed a chyda chamau llym wedi’u targedu, wedi’u hategu gan strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr, a ddylai gynnwys adfer cynadleddau newyddion dyddiol. Dylai Gweinidogion fabwysiadu'r dull Gwyddelig clir ond addasadwy, sy'n cynnwys cymhwyso pum lefel ar sail leol. Mae'n bryd troi'r system goleuadau traffig honno yn ôl ymlaen, Brif Weinidog, cyn y bydd Cymru gyfan yn fflachio'n goch unwaith eto.
Wel, Lywydd, fe welaf a oes unrhyw beth yn yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud y gallaf ymateb yn gadarnhaol iddo. Rwy’n gwadu unrhyw ddiffyg parch yn llwyr. Mae'r Llywodraeth hon wedi ateb cwestiynau ar lawr y Senedd drwy gydol argyfwng y coronafeirws, gan gynnwys drwy gydol y toriad. Rydym wedi bod ar gael i'r Senedd hon i raddau mwy nag unrhyw Senedd arall yn y Deyrnas Unedig o ran eu gallu i holi’r Gweinidogion sy'n gyfrifol yn y gwahanol fforymau democrataidd hynny. Buom yn gwneud penderfyniadau yma, fel y dywedais, hyd nes yn hwyr neithiwr. Nid wyf yn gyfrifol am yr amser y mae'r BBC yn mynnu bod deunydd yn cael ei ddarparu iddynt; nid yw hwnnw'n benderfyniad rwy'n ei wneud, mae'n benderfyniad y mae darlledwyr yn ei wneud oherwydd eu rhwymedigaethau amserlennu, a gwnaethom wthio hynny i'r eithaf er mwyn ceisio gwneud penderfyniadau yn y ffordd y credaf fod angen eu gwneud yng Nghymru. Ac rwy’n falch iawn o fod yma y prynhawn yma, ar y cyfle cyntaf, yn ateb cwestiynau’r Aelodau.
O ran gweddill cyfraniad Adam Price, nid wyf yn hollol siŵr beth i'w wneud ohono, Lywydd. Gofynnodd imi ddilyn cyngor prif swyddog meddygol a oedd yn brif swyddog meddygol 20 mlynedd yn ôl pan fo gennyf brif swyddog meddygol yma heddiw y gallaf gael ei gyngor a gwneud fy ngorau i'w ddilyn.
Mae'n cwyno am bobl yn clywed pethau mewn cynadleddau newyddion yn hytrach nag yn y Senedd, ac yna'n fy annog i ailgyflwyno cynadleddau newyddion bob diwrnod o'r wythnos. Dywed nad yw un maint yn addas i bawb, ac yna mae’n fy annog i fynd ymhellach o lawer wrth gyfyngu ar y rhyddid sydd ar gael i bobl yn eu bywydau bob dydd yng Nghymru. Wel, nid wyf yn cytuno ag ef. Ni chredaf ei fod yn cydymffurfio â'r rhwymedigaeth sydd gennym o dan y rheoliadau yng Nghymru i fod yn gymesur ym mhob cam a gymerwn, i bwyso a mesur y risg i iechyd y cyhoedd, ac yna i weithredu mesurau y credwn eu bod yn gymesur â'r risg honno. Dyma pam y bydd gennym ddull gweithredu yng Nghymru sy'n parhau i fod yn ofalus. Sawl gwaith ar lawr y Senedd y mae'r Aelodau wedi fy annog i beidio â bod mor ofalus, i beidio â llusgo ar ôl—fel y mae pobl wedi’i ddweud wrthyf—pan fo rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi mynd ymhellach, gan gynnwys gan arweinydd Plaid Cymru ei hun, pan oedd yn nodi’r Alban fel enghraifft? Mae ein dull gofalus, pwyllog wedi ein rhoi mewn sefyllfa dda. Byddwn yn parhau i fod yn gymesur i’r graddau mwyaf posibl yn y penderfyniadau a wnawn.
Mae'r model Gwyddelig y cyfeiriodd yr Aelod ato, ymhlith ei lu o gyfeiriadau eraill at leoedd nad oes gennyf gyfrifoldeb o gwbl amdanynt, yn Antwerp a Sweden a rhannau eraill o'i brosbectws teithio rhyngwladol—. Yn Iwerddon, maent wedi gorfod adolygu eu model mor aml fel ei bod yn anodd iawn, rwy'n credu, i bobl ddal i fyny â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud. Er symlrwydd ac er mwyn galluogi pobl yng Nghymru i gael unrhyw obaith o ddeall y rheolau rydym yn gofyn iddynt gadw atynt, rydym yn ceisio gwneud y newidiadau hynny mor anaml â phosibl. Dyna'r trywydd rydym yn parhau i'w ddilyn yma yng Nghymru, ac mae'r cyhoeddiadau a wnaed ac yr adroddwyd amdanynt i'r Senedd heddiw yn gyson â'r dull hwnnw o weithredu.
Brif Weinidog, fe ddywedodd Andrew R.T. Davies, yn hael iawn yn fy marn i, ei fod yn gresynu'n arw nad oeddech mewn sefyllfa i wneud y cyhoeddiad i'r Senedd ddoe. Onid y realiti, fel y'i disgrifiwyd gan Adam Price, oedd ei bod yn well gennych beidio â gwneud hynny? Yn hytrach, roedd yn well gennych roi'r cyfweliad a recordiwyd ymlaen llaw, gan ddweud yr hyn rydych newydd ei ddweud yn awr, sef, fwy neu lai yr hyn y gallech fod wedi'i ddweud wrth y Senedd ddoe. Roedd yn well gennych roi'r cyfweliad hwnnw i'r BBC oherwydd eich bod eisiau gwneud eich cyhoeddiad i'r genedl drwy'r BBC yn hytrach na'r Senedd. Ac os nad yw hynny'n wir, a allwch chi ateb ei gwestiwn ynglŷn â pha bryd yr anfonoch chi'r fideo o'ch araith a recordiwyd ymlaen llaw at y BBC?
Nawr, nid ydych eisiau crybwyll yr amcanestyniad o chwe mis a roddwyd, rwy'n credu, gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, ac onid y rheswm am hynny yw oherwydd bod y cyfyngiadau hyn yn amhenodol i raddau helaeth? Onid yw eich strategaeth i beidio â pharhau i gadw'r economi—a chymdeithas i raddau mwy neu lai—dan gyfyngiadau symud am gyfnod amhenodol, gan atal y feirws i bob golwg, yn gwbl wahanol i'r hyn a ddywedwyd wrthym pan osodwyd y cyfyngiadau symud am y tro cyntaf, sef mai diogelu capasiti yn y GIG oedd y bwriad? A ydych yn bwriadu parhau i wneud hynny hyd nes y ceir brechlyn—os yw'n gweithio, os yw'n ddibynadwy—neu hyd nes y ceir y profion dyddiol ar gost ragamcanol o £100 biliwn? Onid y realiti yw bod costau'r hyn rydych wedi'i wneud yn uwch na'r hyn rydych wedi bod yn ceisio'i gyflawni drwyddynt? Clywsom Andrew R.T. Davies yn dweud bod gostyngiad o 62 y cant wedi bod yn nifer y llawdriniaethau yng Nghymru. Rydym wedi gweld 16,000 yn llai o atgyfeiriadau canser. Yn ôl data Cymru a Lloegr ar gyfer yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld llawer mwy o bobl yn cyflawni hunanladdiad na'r nifer sy'n marw o COVID. Am ba hyd y mae hyn yn mynd i barhau? Ni allwch roi ateb i ni ar hynny. Ac rydych yn dweud eich bod eisiau dibynnu ar grebwyll pobl, rydych eisiau i bobl fod yn gyfrifol, ond mewn gwirionedd rydych yn dweud pethau wrthynt wedyn—. Rydych yn beirniadu Iwerddon am amrywio pethau fel na all pobl ddal i fyny, ond beth ar y ddaear y credwch sydd wedi bod yn digwydd yma gyda'r niferoedd enfawr o reoliadau a chanllawiau amrywiol, sy'n aml yn anghyson â'i gilydd, yn ogystal â'r gwahaniaethau ymylol iawn yn aml rhyngom a Lloegr, pan fyddai wedi bod yn llawer haws cyfathrebu pe bai dull cyson wedi'i fabwysiadu? Felly, mae gwrthdaro rhwng hynny a dweud, mewn gwirionedd, eich bod eisiau i bobl fod yn gyfrifol. Sut y gall pobl fod yn gyfrifol pan fo'n rhaid iddynt gydymffurfio ag ystod eang o bethau sy'n anodd iawn dal i fyny â hwy, hyd yn oed i'r rhai sy'n canolbwyntio'n galed ar hynny?
Ac yn olaf gennyf fi ar bobl a warchodir, fe ddywedwch y gallai'r prif swyddog meddygol fod yn ysgrifennu at bobl eto. Nid yw'n glir beth y bydd yn ei ddweud wrthynt, ond y realiti yw iddo ddweud wrthynt am barhau i warchod tan 16 Awst ac mae nifer yr achosion o'r feirws bellach yn sylweddol uwch na'r hyn ydoedd bryd hynny. Rwy'n credu eich bod wedi dweud bod y llythyr hwnnw'n rhoi ychydig wythnosau o rybudd i bobl a oedd wedi parhau i warchod tan 16 Awst, a'r rheswm pam y mae'n anodd iawn i bobl warchod eto yn awr yw oherwydd eu bod wedi gorfod parhau i wneud hynny am sawl wythnos pan oedd nifer yr achosion o'r feirws yn isel, ac yn llawer is na'r hyn ydyw ar hyn o bryd. Felly, oni fyddai'n fwy synhwyrol i'r bobl dan sylw farnu drostynt eu hunain ynglŷn â risgiau ac ystyried drostynt eu hunain a ddylent fod yn gwarchod?
Lywydd, gofynnodd y Prif Weinidog i'r BBC ddoe am amser i annerch y wlad o ystyried y sefyllfa roeddem yn ei hwynebu. Awgrymodd y BBC y dylai arweinydd y Llywodraeth yma yng Nghymru wneud anerchiad tebyg i bobl yng Nghymru. Credaf fod hynny'n deyrnged i'r Senedd ac i ddatganoli: y ffaith bod y BBC yn credu y byddai pobl yng Nghymru, gyda Llywodraeth ein hunain, eisiau clywed gan arweinydd y Llywodraeth. Ac yn bell o fod yn gystadleuaeth rhwng y Senedd a ffyrdd eraill o roi gwybod i'n cyd-ddinasyddion ynglŷn â newidiadau, rwy'n credu o ddifrif y dylai'r Aelodau ei ystyried yn arwydd o'r ffordd y mae datganoli, gwaith y Senedd, y ffaith bod gennym ein democratiaeth ein hunain yma yng Nghymru, wedi bwrw gwraidd yma yng Nghymru, fod y BBC o'r farn mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rwyf wedi dod yma i ateb eich cwestiynau cyn gynted ag y gallwn wneud hynny ac ni welaf fod yn rhaid i mi ymddiheuro am ddim o gwbl yn hynny o beth.
Nid yw'r Aelod wedi deall y sefyllfa mewn perthynas â'r mater o chwe mis. Y rheswm nad wyf yn dweud chwe mis yw oherwydd fy mod eisiau adolygu'r mesurau hyn bob tair wythnos, ac os yw'n bosibl eu codi'n gynt, dyna rwyf eisiau ei wneud. Mae'r gwirionedd fwy neu lai'n gwbl groes i'r hyn y mae'n ei awgrymu: rwyf eisiau codi'r cyfyngiadau ar fywydau pobl cyn gynted ag y gallwn ei wneud yn ddiogel, ac nid wyf eisiau dweud wrth bobl y gallai hynny fod chwe mis i ffwrdd os gellid gwneud hynny'n gynt rhwng yr ymdrechion y gallwn ni i gyd eu gwneud gyda'n gilydd. Dyna fy uchelgais ac mae hynny wedi bod yn wir ers y cychwyn. Rwy'n bryderus iawn bob tro y byddwn yn gwneud penderfyniad i gyfyngu ar ryddid pobl, ac nid ydym ond yn gwneud hynny oherwydd yr amseroedd eithriadol rydym yn byw ynddynt a'r risgiau i eraill. :Po gynharaf y gallwn adfer y rhyddid hwnnw i bobl, gorau oll fydd y sefyllfa yn fy marn i. Dyna'r strategaeth rwy'n ei dilyn ac nid dyna oedd yr Aelod yn ei awgrymu o gwbl.
Mewn ffordd nad wyf yn credu y gall ef ei chydnabod, pwyntiai ei ddau gwestiwn olaf i mi i gyfeiriadau hollol wahanol i'w gilydd. Dechreuodd ar sail y byddwn yn cytuno â hi: mae coronafeirws yn achosi mwy nag un math o niwed ac mae peidio â mynd i gael archwiliad neu driniaeth yn y GIG at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â COVID wedi bod yn un o'r mathau o niwed a achoswyd gan y coronafeirws. Fel y dywedais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, mae'r GIG yng Nghymru ar agor i bobl ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn ei ddefnyddio. Ar ôl cydnabod bod mwy nag un math o niwed, roedd eisiau i mi ailosod set gyffredinol o gyfyngiadau y gwyddom eu bod wedi achosi niwed i bobl yn ogystal â'r amddiffyniadau roedd y cyfyngiadau hynny'n eu cynnig, ar unigolion a warchodir. Felly, rydym wedi rhoi cyngor i unigolion a warchodir yn unol â'r cyngor a gawsom gan ein prif swyddog meddygol a'r holl brif swyddogion meddygol eraill ledled y Deyrnas Unedig.
Ein cyngor ni o hyd i unigolion a warchodir yw y dylent gymryd gofal arbennig, y dylent ofyn cwestiynau hyd yn oed yn fwy treiddgar i'w hunain ynglŷn â phwy y maent yn eu cyfarfod a lle maent yn mynd, ond ni chredwn ei bod yn gymesur yn awr inni ddweud wrthynt na ddylent adael eu cartrefi i wneud unrhyw ymarfer corff, ac os ydynt yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud hynny, gallent fynd, er enghraifft, i gasglu eu presgripsiynau eu hunain, a hynny oherwydd ein bod yn ceisio cydbwyso'r mathau gwahanol o niwed. Mae'r niwed a ddaw o ganlyniad i bobl â chyflyrau iechyd bregus yn cael eu hamlygu i'r coronafeirws yn real iawn. Mae'r niwed a ddaw o ddweud wrth bobl na ddylent byth adael eu cartrefi'n real hefyd, o ran yr effaith ar ymdeimlad y bobl hynny o lesiant ac unigedd. Mae'r cyngor rydym yn ei roi i unigolion a warchodir, ac y gallai'r prif swyddog meddygol fod eisiau ei ailadrodd a'i ddiweddaru mewn unrhyw lythyr newydd y gallai ei anfon, wedi'i gynllunio i gadw cydbwysedd rhwng y pethau hynny, yn yr un modd ag y mae angen cadw cydbwysedd—ac rwy'n cytuno â'r Aelod yn hyn o beth—yn ein cyngor ni i bobl ynglŷn â defnyddio'r GIG hefyd.
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi dod yma y prynhawn yma i wneud y datganiad hwn. Brif Weinidog, ym Mlaenau Gwent, mae pobl yn deall ac yn cefnogi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hargymell, ond mae'n amlwg fod ganddynt rai cwestiynau. Efallai mai'r cyntaf o'r cwestiynau hynny yw un am y cyfyngiadau teithio, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro pam eich bod yn cyfyngu ar deithio o'r fwrdeistref i rannau eraill o Gymru, ac i ardaloedd eraill. Byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.
Rydym hefyd wedi trafod profion droeon yn y Senedd hon yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ac roedd y Gweinidog iechyd yn glir iawn ddoe y bydd adnoddau pellach yn cael eu rhoi tuag at brofi ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut y gwelwch unedau symudol neu gyfleusterau profi galw i mewn yn cael eu datblygu mewn ardaloedd lle ceir y cyfyngiadau ychwanegol hyn.
Ac roeddech yn cyfeirio at orfodaeth yn eich datganiad: mae'n hanfodol bwysig fod y cyfyngiadau hyn yn cael eu gorfodi'n briodol. A yw'n bosibl cael mwy o adnoddau gan Lywodraeth Cymru i alluogi a helpu llywodraeth leol gyda gorfodaeth, fel y gallwn sicrhau bod pawb yn chwarae'n deg a bod pawb yn gyfartal yma? Oherwydd credaf fod pobl wedi cael chwe mis o gyfyngiadau ar eu bywydau bellach, ac maent eisiau teimlo bod pawb yn gwneud eu rhan.
Ac yn olaf, Brif Weinidog, hoffai pobl wybod pa bryd y bwriadwch adolygu'r cyfyngiadau a'r rheoliadau hyn, fel y gall pobl edrych ymlaen at ddeall y strwythur y mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu ynddo. Diolch.
Lywydd, a gaf fi ddiolch i Alun Davies am yr holl gwestiynau perthnasol iawn hynny, a diolch i'r boblogaeth y mae'n ei chynrychioli yma yn y Senedd am eu hymrwymiad i chwarae eu rhan yn yr ymdrechion sydd eu hangen i atal y feirws hwn ac adfer rheolaeth arno yn ne-ddwyrain Cymru unwaith eto? Lywydd, mae Blaenau Gwent—fel y gŵyr Aelodau—yn un o'r ardaloedd sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau mwy helaeth ar fywydau pobl na gweddill Cymru, ac mae hynny'n gofyn llawer gan bobl, ac nid wyf yn bychanu hynny o gwbl. Mae'r rheolau'n ei gwneud yn ofynnol i bobl beidio â mynd i un o'r ardaloedd bwrdeistref sirol hynny na'i gadael, a hynny er mwyn ceisio atal lledaeniad y feirws hwn. Mae'r feirws yn lledaenu pan fydd pobl yn cyfarfod a phan fydd pobl yn teithio, ac mae ein hymdrechion wedi'u hanelu at gyfyngu'r coronafeirws i ardal ddaearyddol mor fach ag y gallwn ei rheoli, ac mae'r gofyniad mawr i bobl yn yr ardaloedd hynny gyfyngu ar eu teithio ac eithrio at ddibenion a nodwyd yn benodol yn rhan o'r cyfraniad rydym yn gofyn iddynt ei wneud.
Gwelais ffigurau ddoe, Lywydd, sy'n dangos y bu gostyngiad o 8 y cant yn nifer y teithiau a wnaed i Gaerffili ac oddi yno yn ystod yr wythnos gyntaf o gyfyngiadau yn y fwrdeistref sirol honno, ac mae hynny'n dangos y ffordd y mae pobl yn barod i wneud eu rhan, ac rwy'n siŵr y bydd pobl ym Mlaenau Gwent yn barod i wneud hynny ac eisiau gwneud hynny hefyd.
Ar brofi, bydd yr Aelodau wedi clywed gan y Gweinidog iechyd ddoe am y camau rydym yn eu cymryd i gynyddu capasiti yn system Cymru i symud profion i mewn i system Cymru, i ddefnyddio unedau symudol yn y mannau lle mae eu hangen fwyaf, i weld a allwn ddod â mwy o gapasiti symudol i Gymru er mwyn gallu cynnal profion lle mae eu hangen fwyaf.
Lywydd, a gaf fi gytuno'n llwyr ag Alun Davies ynglŷn â mater gorfodi? Mae'n fater o chwarae teg, fel y dywedodd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru eisoes yn cydymffurfio â'r rheolau a'r canllawiau, ac yn gwneud hynny'n gydwybodol. Lle ceir pobl nad ydynt yn deall y rheolau neu sy'n ei chael hi'n anodd eu dilyn, rwy'n llwyr gefnogi'r dull a fabwysiadwyd gan ein heddluoedd a'n hawdurdodau lleol sef addysgu, darparu gwybodaeth a pherswadio yn gyntaf. Ond i'r bobl sy'n torri'r rheolau y mae pawb arall yn eu dilyn, yn gyson yn ymwybodol ac yn fwriadol, mae arnaf ofn ei bod hi'n iawn, ar ran pawb arall sy'n dilyn y rheolau, fod camau gorfodi priodol yn cael eu cymryd. Ddoe, gyda'n cymheiriaid yn yr awdurdod lleol, trafodasom ffyrdd y gallwn eu helpu gydag adnoddau i wella'r broses orfodi. Fe'i gwneuthum yn glir unwaith eto i'n cydweithwyr yn yr heddlu, os oes unrhyw beth pellach y gallem ei wneud i'w cynorthwyo yn y gwaith anodd hwnnw, y byddem yn gwneud hynny. Dewis olaf yw cymryd y camau hynny i ni yng Nghymru, ond lle mae angen y camau hynny, dyna'r camau y byddwn yn eu cymryd.
Ac yn olaf, i ateb y cwestiwn am yr amserlen, bydd y cyfyngiadau symud lleol yn cael eu hadolygu bob pythefnos yn yr ardaloedd hynny; bydd y cyfyngiadau ledled Cymru—y darlun cenedlaethol—yn parhau i gael ei adolygu bob tair wythnos yma yng Nghymru.
A gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog? Mae'n dod ar adeg bryderus iawn i lawer o bobl gyda'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion positif. Rwyf braidd yn bryderus, serch hynny, ynglŷn â rhai o'r manylion yn eich datganiad. Rydych yn cyfeirio at gyfradd bresennol o 46.8 o achosion o heintiau positif ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yn eich datganiad, ac eto mae'r data a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eu tudalen Tableau sydd ar gael i'r cyhoedd, yn dweud mai 32.1 achos yn unig ym mhob 100,000 yw'r gyfradd heintio. A gaf fi ofyn pam fod anghysondeb yn y data, ac os yw'n uwch, pam nad yw'r wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd? Rwy'n siŵr y cytunwch â mi fod angen inni gael hyder yn y ffigurau hyn os ydym am annog y cyhoedd i weithio gyda'r awdurdodau cyhoeddus er mwyn cael y canlyniad rydym ei eisiau sef gostyngiad yn y cyfraddau heintio hyn.
A gaf fi ofyn hefyd, ar ran busnesau a thrigolion yn fy etholaeth sy'n dibynnu'n drwm ar dwristiaeth fel rhan o'r economi, pa neges yr hoffech ei hanfon at ymwelwyr posibl â'n cymunedau? Oherwydd fe ddywedoch chi'n glir iawn yn y Senedd ddoe, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, eich bod eisiau i bobl wneud yn siŵr fod eu teithiau'n hanfodol mewn gwirionedd. Nawr, rwyf wedi clywed ac wedi derbyn yr hyn rydych wedi'i ddweud wrth Aelodau eraill yn y Siambr hon, ond rwy'n credu ei bod yn ddryslyd iawn i bobl eich bod yn dweud mai dim ond teithiau hanfodol y dylai pobl eu gwneud, ac eto rydym yn caniatáu i bobl a allai fod yn dod o ardaloedd sydd â niferoedd uchel o achosion o'r haint y tu allan i Gymru fynd i rai o'r cymunedau hyn sydd â llawer o bobl hŷn yn byw ynddynt. Felly, pa neges yr hoffech i ni ei chyfleu i fusnesau ac i ymwelwyr?
Lywydd, unwaith eto, a gaf fi ddiolch i Darren Millar am y cwestiynau pwysig hynny? Rwy'n cytuno â'i sylwadau agoriadol fod hwn yn gyfnod pryderus, ac mae arnaf ofn ei fod yn iawn y dylem boeni o ystyried y ffigurau rydym yn eu gweld.
Y ffigur a ddyfynnais, Lywydd—y 46.8 y cant—yw'r ffigur diweddaraf sydd gennyf. Cynigir gwybodaeth reoli i mi sydd ar gael cyn y ffigurau a ddefnyddir yn gyhoeddus, ac maent yn cael eu profi ymhellach cyn iddynt gael eu cyhoeddi, a hynny oherwydd fy mod eisiau rhoi'r wybodaeth orau a mwyaf diweddar sydd gennyf i Aelodau'r Senedd. Mewn rhai ffyrdd, fel y gwn y bydd Darren Millar yn cydnabod, y duedd yw'r peth pwysicaf, yn hytrach na'r nifer absoliwt, ac mae'r duedd ar i fyny yma yng Nghymru. Ddeng niwrnod yn ôl, pan wnaethom y penderfyniad i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau a mannau cyhoeddus dan do, roeddem newydd gyrraedd 20 achos ym mhob 100,000 yng Nghymru. Mae arnaf ofn fod y ffigur hwnnw wedi codi ers hynny. Mae cornel de-ddwyrain Cymru wedi effeithio arno. Nid yw'n adlewyrchiad o rai rhannau o Gymru, ond mae'r duedd yn bwysig i'w nodi.
Mae twristiaeth yn fater anodd. Rwyf wedi ei drafod yn uniongyrchol â'r Aelod droeon oherwydd, fel y dywed, mae twristiaeth yn rhan mor bwysig o economi leol yr ardal y mae'n ei chynrychioli yng Nghymru. Y newyddion da yw ein bod wedi cael twristiaid yn dod i Gymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ers rhan gyntaf mis Gorffennaf, ac nid oes tystiolaeth fod hynny wedi arwain at gynnydd sydyn yn nifer yr heintiau yn y rhannau o Gymru y mae pobl yn ymweld â hwy amlaf. Yn wir, mae'r coronafeirws yn parhau i fod ar ei isaf yn y lleoedd y mae twristiaid yn ymweld â hwy amlaf. Serch hynny wrth gwrs, rwy'n deall bod pobl leol yn bryderus pan ddaw ymwelwyr o rannau eraill—boed yng Nghymru neu'r tu hwnt—lle mae cyfraddau coronafeirws yn uwch. Felly, mae ein neges yn parhau i fod yr un peth ar hyn o bryd: dewch i Gymru'n ddiogel. Os ydych yn dod i Gymru, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud yr holl bethau y byddem yn disgwyl i'n cyd-ddinasyddion eu gwneud i gadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel. Drwy wneud hynny, gall pobl fwynhau Cymru a gwneud cyfraniad i economïau lleol ac i swyddi heb greu perygl.
Ddoe, gofynnais i Brif Weinidog y DU adleisio neges yn gofyn i bobl feddwl yn ofalus am deithiau, yn enwedig o'r lleoedd yn Lloegr lle mae coronafeirws hyd yn oed yn fwy cyffredin na'r hyn ydyw yn ne-ddwyrain Cymru. Mae arnaf ofn nad oedd yn fodlon gwneud hynny. Fy neges i bobl yng Nghymru yw nad yw'n ymwneud â rheol; nid yw'n ymwneud â phobl yn ceisio profi ffiniau'r hyn a ganiateir. Nid dyna'r ffordd gywir o feddwl am hyn. Y cyfan rwy'n gofyn i bobl yng Nghymru ei wneud yw meddwl yn ofalus am deithiau y gallant fod yn eu gwneud. Os yw'n bosibl ymweld â bwyty, er enghraifft, neu fynd i dafarn yn agos at adref, mae hynny'n fwy doeth na theithio pellter i wneud yr un peth ymhellach i ffwrdd. Dyna'r cwestiynau rwy'n eu gofyn i bobl mewn ffordd sy'n apelio at eu synnwyr cyffredin, wrth iddynt wneud penderfyniadau y gall pobl eu gwneud yn eu bywydau eu hunain, oherwydd po fwyaf o bobl y down i gysylltiad â hwy a'r pellaf y byddwn yn teithio, y mwyaf yw'r risg. Rwy'n credu bod hwnnw'n argymhelliad syml iawn, ac rwy'n teimlo'n hyderus fod ein cyd-ddinasyddion yng Nghymru yn gallu gwneud penderfyniadau o'r fath yn eu bywydau eu hunain.
Brif Weinidog, mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar iechyd meddwl pawb, ac mae llawer ohonom wedi goroesi oherwydd bod nifer yr achosion yn gostwng, ac roeddem yn gallu gweld golau ym mhen draw'r twnnel. Rwy'n poeni'n fawr am effaith gaeaf hir ac anodd ar iechyd meddwl pawb, yn enwedig y rhai sy'n cael eu gwahanu oddi wrth gymorth teulu a ffrindiau, a'n GIG a'n staff gofal cymdeithasol.
Fe ddywedoch chi eto heddiw fod coronafeirws yn achosi mwy nag un math o niwed. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i liniaru'r niwed i iechyd meddwl pawb y gaeaf hwn, a pha sicrwydd y gallwch ei roi y bydd pawb sydd angen cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl, boed yn bobl ifanc neu'n oedolion, yn cael y cymorth hwnnw? Gwyddom na ddigwyddodd hyn yn y cyfnod cyntaf o'r pandemig hwn.
A gaf fi hefyd ofyn am bobl sy'n byw gyda dementia? Mae ffigurau ofnadwy marwolaethau gormodol ymhlith pobl sy'n byw gyda dementia wedi dangos effaith unigrwydd ac ynysu yn rhan gyntaf y pandemig hwn. Credaf fod angen cynllun clir i liniaru effaith cyfnod nesaf y pandemig ar bobl sy'n byw gyda dementia. Pa gamau a gymerwch i gyflwyno un? Diolch.
Lywydd, diolch i Lynne Neagle am y pwyntiau pwysig hynny, pwyntiau y mae'n eu codi'n rheolaidd iawn ar lawr y Senedd i sicrhau nad oes yr un ohonom yn anghofio am y dimensiwn pwysig hwnnw. Fe fydd yn gwybod ein bod eisoes yn cymryd camau. Mae ein penderfyniad i beidio â chyfyngu ar allu pobl i gyfarfod yn yr awyr agored yn rhan o'n penderfyniad i barhau i ddefnyddio'r wythnosau sydd ar ôl gennym, pan fo'n bosibl gwneud hynny yn ein hinsawdd ni, er mwyn i bobl allu elwa ar y manteision iechyd meddwl a ddaw o wneud hynny. Roeddwn yn falch tu hwnt yr wythnos diwethaf, o ystyried y tywydd gwych a gawsom, nad oedd pobl Cymru yn yr un sefyllfa â phobl dros y ffin, lle ceir cyfyngiadau sylweddol ar allu pobl i fanteisio ar yr awyr agored. Fe fydd yn gwybod hefyd fod ein rheol chwech yn parhau, y tu allan i'r ardaloedd lle ceir cyfyngiadau symud lleol, i ganiatáu i chwech o bobl o'n haelwyd estynedig gyfarfod â'i gilydd. Unwaith eto, mae anghenion iechyd meddwl a lles yr aelwyd estynedig yn gymhelliant pwerus wrth ddod i'r penderfyniad i beidio â chyfyngu'r aelwydydd hynny ymhellach. Er gwaethaf y pryderon gwirioneddol sydd gennym, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cynnal y sefyllfa honno'n hirach yma yng Nghymru.
Mae effaith coronafeirws ar iechyd meddwl pobl ifanc wedi bod yn arbennig o bwysig wrth i'r prifysgolion ailddechrau yma yng Nghymru, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn ei gwestiwn agoriadol. Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r sector addysg uwch yma yng Nghymru a chydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, sydd, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi cyfrannu'n adeiladol tu hwnt i'r gwaith o sicrhau bod lles a llesiant myfyrwyr sy'n dod yn ôl i Gymru neu sy'n dod i Gymru i astudio yn cael eu diogelu'n briodol, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar waith i'r graddau mwyaf sy'n bosibl. Pan ymwelais ag ysgol yma yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf roedd yn galonogol clywed gan staff a myfyrwyr am y ffordd y mae'r buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cwnsela yn ein hysgolion yn sicrhau bod mwy o hynny ar gael i fyfyrwyr yn ein hysgolion y tymor hwn nag ar unrhyw adeg arall yn hanes ein gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion.
Yn olaf, i droi at gwestiwn Lynne Neagle ynglŷn â dementia—mater heriol dros ben—mae arnaf ofn nad oes atebion syml ar gael i ni. Rydym yn ei chael hi'n anodd drwy'r amser gyda mater ymweliadau â chartrefi gofal, gan wybod pa mor bwysig ydynt i bobl â dementia yn enwedig, ond gan wybod pa mor agored i niwed yw'r bobl hynny i feirws yn cael ei gludo i amgylchedd sydd wedi'i warchod mor ofalus mewn ffyrdd eraill i ddiogelu iechyd corfforol pobl. Felly, yr hyn rydym yn ei wneud yw gweithio'n agos gyda'r trydydd sector, gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, a'r rheini sy'n cynrychioli barn teuluoedd a phobl sydd â dementia, i sicrhau'r cydbwysedd gorau posibl rhwng diogelu iechyd corfforol y bobl hynny a gwanhau effaith y cyfyngiadau angenrheidiol ar iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth honno. Byddai'n dda gennyf pe bai ateb syml i'r broblem, ond gwn nad oes. Mae'n fater o ddeialog gyson a cheisio dod i'r cyfaddawd gorau sy'n bosibl rhwng ein rhwymedigaethau i'r boblogaeth honno, rhwymedigaethau sy'n gwrthdaro'n enbyd.
Yn olaf, Mick Antoniw.
Brif Weinidog, mae gennyf ychydig o bwyntiau. Yn gyntaf, roeddwn yn gwerthfawrogi'r anerchiad i'r genedl yn fawr. Credaf ei fod yn garreg filltir bwysig iawn yn ystod y pandemig hwn.
Tybed a allem gael canllawiau cliriach i'r tafarndai a'r clybiau yn ein hetholaethau. Mae llawer ohonynt yn gofyn cwestiynau. Maent yn awyddus iawn i weithredu o fewn y canllawiau ac i weithredu'n ddiogel ar ran eu cymuned. Mae pethau fel gwasanaeth wrth y bwrdd, dartiau, bingo, lleoliad cadeiriau ac yn y blaen yn faterion pwysig iddynt hwy, a chredaf y byddai unrhyw beth sy'n rhoi mwy o eglurder iddynt yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
A gaf fi ofyn am y £500? Pan roesom y swm o £500 i weithwyr gofal, fe fyddwch yn gwybod na allem berswadio Llywodraeth y DU i beidio â didynnu treth arno a'i eithrio rhag effeithio ar fudd-daliadau. A fydd wedi'i eithrio'n llwyr o unrhyw un o'r rheini? Os felly, byddai hynny o leiaf yn gam i'w groesawu y tro hwn.
Ac yn olaf, mewn perthynas â'r rhai sy'n gweithio gartref a gweithwyr sy'n gorfod—pa drafodaethau a gafwyd gyda'r undebau llafur ar hyn? Ac a allwch chi roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am y gyfraith Gymreig a fyddai'n cael ei chyflwyno i ddiogelu'r gweithwyr sy'n dewis hunanynysu? Gwyddom o brofiad yn y gorffennol fod rhai wedi bod dan bwysau yn yr amgylchiadau hynny i fynd i'r gwaith. Mae hyn nid yn unig yn tanseilio ymdrechion i fynd i'r afael â'r pandemig, ond mae hefyd yn achosi straen a phryder difrifol iawn ymhlith llawer o'n gweithwyr sydd eisiau gwneud y peth iawn. Ac efallai y gallech egluro'r rhan y gallai undebau llafur ei chwarae yn hyn hefyd. Diolch, Brif Weinidog.
Lywydd, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am yr hyn a ddywedodd am y wybodaeth y gallasom ei darlledu neithiwr, a'i phwysigrwydd i ddinasyddion Cymru, ond fel y dywedais, rwy'n credu ei bod yn nodi arwyddocâd datganoli ym mywydau pobl yma yng Nghymru? Mae ei gwestiwn am fanylion ar gyfer tafarndai a chlybiau yn dynodi peth o'r cyfyng-gyngor yr atebais rai cwestiynau yn ei gylch y prynhawn yma, ynglŷn â disgwyl y gallwn fod wedi darparu'r holl fanylion hynny, a llawer mwy, tra bod y Senedd yn dal i eistedd ddoe. Rydym wedi treulio'r bore cyfan, a byddwn yn parhau i dreulio mwy o amser eto, yn gweithio gyda'r sectorau hynny er mwyn sicrhau bod gennym yr atebion sydd eu hangen ar y bobl mewn tafarndai a chlybiau a bwytai, ac mewn rhannau eraill o'n heconomi, sydd am wneud y peth iawn. A rhan o'r ffordd rydym wedi gwneud hynny yng Nghymru yw drwy'r dull partneriaeth gymdeithasol, lle rydym yn gweithio gyda phobl i ddod i gasgliadau ac yna'n cyhoeddi'r canlyniadau. A hyd yn oed nawr, nid oes gennyf rai o'r atebion i'r pwyntiau y mae Mick Antoniw wedi'u codi. Ond rwy'n rhoi sicrwydd iddo ein bod yn parhau i weithio gyda'r sector i roi'r holl gymorth y gallwn ei ddarparu i'r bobl sydd am ddilyn y rheolau, sydd am wneud y peth iawn.
Ar y £500, y wybodaeth ddiweddaraf a welais oedd nad oedd Llywodraeth y DU yn bwriadu ei eithrio rhag treth incwm. Rwy'n gresynu at hynny. Credaf fod hwnnw'n benderfyniad arall sy'n gwrth-ddweud, os yw'n wir—ceisio rhoi incwm i bobl fel nad ydynt yn teimlo o dan bwysau i fynd i'r gwaith a mynd ag arian oddi arnynt gyda'r llaw arall. Gadewch inni obeithio nad dyna fydd y canlyniad terfynol. Byddwn yn siarad â Llywodraeth y DU am y mecanweithiau gorau. Bydd Mick Antoniw yn gwybod bod gennym rai manteision yng Nghymru, ac ni wnaethom erioed roi'r gorau i'r gronfa gymdeithasol yma yn y ffordd y gwnaethant droi cefn arni dros y ffin. Defnyddiwyd ein cronfa cymorth dewisol gennym, yn ei etholaeth ei hun i raddau helaeth iawn, yn ôl ym mis Chwefror, i roi'r cymorth gwerth £501,000 y gallasom ei ddarparu i bobl a oedd wedi dioddef llifogydd. A byddwn yn edrych i weld ai'r gronfa cymorth dewisol, sydd wedi gwneud dros 73,600 o daliadau coronafeirws brys i bobl yng Nghymru, gan ddarparu mwy na £4.6 miliwn o gymorth i bobl yn ystod y pandemig hwn, yw'r cyfrwng gorau ar gyfer cael y £500 i bobl cyn gynted â phosibl a chyda chyn lleied o fiwrocratiaeth â phosibl.
Ar weithio gartref, trafodasom hyn y bore yma yn y cyngor partneriaeth gymdeithasol, gyda TUC Cymru a chydweithwyr o'r undebau llafur unigol yn bresennol, ac mae eu cefnogaeth i hynny'n parhau'n bwysig iawn, a byddwn yn gweithio ymhellach gyda hwy i sicrhau bod yr aelodau a chyflogwyr yn deall y rheolau hynny'n iawn. Lywydd, gadewch i mi orffen drwy ddweud fy mod yn credu bod y mwyafrif helaeth o gyflogwyr yng Nghymru wedi gweithio'n galed iawn i ddiogelu eu gweithwyr, ac nid ydynt wedi dymuno eu rhoi o dan bwysau i ddychwelyd i'r gwaith lle gallent weithio'n llwyddiannus o'u cartrefi. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, cafwyd enghreifftiau, er enghraifft, lle mae pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu wedi cael eu diswyddo gan eu cyflogwyr. Bydd y rheoliadau y byddwn yn eu rhoi ar waith yng Nghymru yn atal hynny rhag digwydd yma, oherwydd rydym am ei gwneud yn glir ei bod yn ddyletswydd ar gyflogwyr a gweithwyr i hunanynysu pan roddir y cyngor hwnnw iddynt. Rydym am gefnogi'r holl gyflogwyr da yng Nghymru sydd eisoes yn helpu eu gweithwyr i wneud yn union hynny, a lluniwyd ein rheoliadau, fel bob amser, i gefnogi undebau llafur da a chyflogwyr da sydd am wneud y peth iawn.
Diolch i'r Prif Weinidog.