1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cadw Cymru'n Ddiogel rhag Coronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:24, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, diolch i Lynne Neagle am y pwyntiau pwysig hynny, pwyntiau y mae'n eu codi'n rheolaidd iawn ar lawr y Senedd i sicrhau nad oes yr un ohonom yn anghofio am y dimensiwn pwysig hwnnw. Fe fydd yn gwybod ein bod eisoes yn cymryd camau. Mae ein penderfyniad i beidio â chyfyngu ar allu pobl i gyfarfod yn yr awyr agored yn rhan o'n penderfyniad i barhau i ddefnyddio'r wythnosau sydd ar ôl gennym, pan fo'n bosibl gwneud hynny yn ein hinsawdd ni, er mwyn i bobl allu elwa ar y manteision iechyd meddwl a ddaw o wneud hynny. Roeddwn yn falch tu hwnt yr wythnos diwethaf, o ystyried y tywydd gwych a gawsom, nad oedd pobl Cymru yn yr un sefyllfa â phobl dros y ffin, lle ceir cyfyngiadau sylweddol ar allu pobl i fanteisio ar yr awyr agored. Fe fydd yn gwybod hefyd fod ein rheol chwech yn parhau, y tu allan i'r ardaloedd lle ceir cyfyngiadau symud lleol, i ganiatáu i chwech o bobl o'n haelwyd estynedig gyfarfod â'i gilydd. Unwaith eto, mae anghenion iechyd meddwl a lles yr aelwyd estynedig yn gymhelliant pwerus wrth ddod i'r penderfyniad i beidio â chyfyngu'r aelwydydd hynny ymhellach. Er gwaethaf y pryderon gwirioneddol sydd gennym, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cynnal y sefyllfa honno'n hirach yma yng Nghymru.

Mae effaith coronafeirws ar iechyd meddwl pobl ifanc wedi bod yn arbennig o bwysig wrth i'r prifysgolion ailddechrau yma yng Nghymru, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn ei gwestiwn agoriadol. Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r sector addysg uwch yma yng Nghymru a chydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, sydd, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi cyfrannu'n adeiladol tu hwnt i'r gwaith o sicrhau bod lles a llesiant myfyrwyr sy'n dod yn ôl i Gymru neu sy'n dod i Gymru i astudio yn cael eu diogelu'n briodol, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar waith i'r graddau mwyaf sy'n bosibl. Pan ymwelais ag ysgol yma yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf roedd yn galonogol clywed gan staff a myfyrwyr am y ffordd y mae'r buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cwnsela yn ein hysgolion yn sicrhau bod mwy o hynny ar gael i fyfyrwyr yn ein hysgolion y tymor hwn nag ar unrhyw adeg arall yn hanes ein gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion.

Yn olaf, i droi at gwestiwn Lynne Neagle ynglŷn â dementia—mater heriol dros ben—mae arnaf ofn nad oes atebion syml ar gael i ni. Rydym yn ei chael hi'n anodd drwy'r amser gyda mater ymweliadau â chartrefi gofal, gan wybod pa mor bwysig ydynt i bobl â dementia yn enwedig, ond gan wybod pa mor agored i niwed yw'r bobl hynny i feirws yn cael ei gludo i amgylchedd sydd wedi'i warchod mor ofalus mewn ffyrdd eraill i ddiogelu iechyd corfforol pobl. Felly, yr hyn rydym yn ei wneud yw gweithio'n agos gyda'r trydydd sector, gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, a'r rheini sy'n cynrychioli barn teuluoedd a phobl sydd â dementia, i sicrhau'r cydbwysedd gorau posibl rhwng diogelu iechyd corfforol y bobl hynny a gwanhau effaith y cyfyngiadau angenrheidiol ar iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth honno. Byddai'n dda gennyf pe bai ateb syml i'r broblem, ond gwn nad oes. Mae'n fater o ddeialog gyson a cheisio dod i'r cyfaddawd gorau sy'n bosibl rhwng ein rhwymedigaethau i'r boblogaeth honno, rhwymedigaethau sy'n gwrthdaro'n enbyd.