1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cadw Cymru'n Ddiogel rhag Coronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:30, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am yr hyn a ddywedodd am y wybodaeth y gallasom ei darlledu neithiwr, a'i phwysigrwydd i ddinasyddion Cymru, ond fel y dywedais, rwy'n credu ei bod yn nodi arwyddocâd datganoli ym mywydau pobl yma yng Nghymru? Mae ei gwestiwn am fanylion ar gyfer tafarndai a chlybiau yn dynodi peth o'r cyfyng-gyngor yr atebais rai cwestiynau yn ei gylch y prynhawn yma, ynglŷn â disgwyl y gallwn fod wedi darparu'r holl fanylion hynny, a llawer mwy, tra bod y Senedd yn dal i eistedd ddoe. Rydym wedi treulio'r bore cyfan, a byddwn yn parhau i dreulio mwy o amser eto, yn gweithio gyda'r sectorau hynny er mwyn sicrhau bod gennym yr atebion sydd eu hangen ar y bobl mewn tafarndai a chlybiau a bwytai, ac mewn rhannau eraill o'n heconomi, sydd am wneud y peth iawn. A rhan o'r ffordd rydym wedi gwneud hynny yng Nghymru yw drwy'r dull partneriaeth gymdeithasol, lle rydym yn gweithio gyda phobl i ddod i gasgliadau ac yna'n cyhoeddi'r canlyniadau. A hyd yn oed nawr, nid oes gennyf rai o'r atebion i'r pwyntiau y mae Mick Antoniw wedi'u codi. Ond rwy'n rhoi sicrwydd iddo ein bod yn parhau i weithio gyda'r sector i roi'r holl gymorth y gallwn ei ddarparu i'r bobl sydd am ddilyn y rheolau, sydd am wneud y peth iawn.

Ar y £500, y wybodaeth ddiweddaraf a welais oedd nad oedd Llywodraeth y DU yn bwriadu ei eithrio rhag treth incwm. Rwy'n gresynu at hynny. Credaf fod hwnnw'n benderfyniad arall sy'n gwrth-ddweud, os yw'n wir—ceisio rhoi incwm i bobl fel nad ydynt yn teimlo o dan bwysau i fynd i'r gwaith a mynd ag arian oddi arnynt gyda'r llaw arall. Gadewch inni obeithio nad dyna fydd y canlyniad terfynol. Byddwn yn siarad â Llywodraeth y DU am y mecanweithiau gorau. Bydd Mick Antoniw yn gwybod bod gennym rai manteision yng Nghymru, ac ni wnaethom erioed roi'r gorau i'r gronfa gymdeithasol yma yn y ffordd y gwnaethant droi cefn arni dros y ffin. Defnyddiwyd ein cronfa cymorth dewisol gennym, yn ei etholaeth ei hun i raddau helaeth iawn, yn ôl ym mis Chwefror, i roi'r cymorth gwerth £501,000 y gallasom ei ddarparu i bobl a oedd wedi dioddef llifogydd. A byddwn yn edrych i weld ai'r gronfa cymorth dewisol, sydd wedi gwneud dros 73,600 o daliadau coronafeirws brys i bobl yng Nghymru, gan ddarparu mwy na £4.6 miliwn o gymorth i bobl yn ystod y pandemig hwn, yw'r cyfrwng gorau ar gyfer cael y £500 i bobl cyn gynted â phosibl a chyda chyn lleied o fiwrocratiaeth â phosibl.

Ar weithio gartref, trafodasom hyn y bore yma yn y cyngor partneriaeth gymdeithasol, gyda TUC Cymru a chydweithwyr o'r undebau llafur unigol yn bresennol, ac mae eu cefnogaeth i hynny'n parhau'n bwysig iawn, a byddwn yn gweithio ymhellach gyda hwy i sicrhau bod yr aelodau a chyflogwyr yn deall y rheolau hynny'n iawn. Lywydd, gadewch i mi orffen drwy ddweud fy mod yn credu bod y mwyafrif helaeth o gyflogwyr yng Nghymru wedi gweithio'n galed iawn i ddiogelu eu gweithwyr, ac nid ydynt wedi dymuno eu rhoi o dan bwysau i ddychwelyd i'r gwaith lle gallent weithio'n llwyddiannus o'u cartrefi. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, cafwyd enghreifftiau, er enghraifft, lle mae pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu wedi cael eu diswyddo gan eu cyflogwyr. Bydd y rheoliadau y byddwn yn eu rhoi ar waith yng Nghymru yn atal hynny rhag digwydd yma, oherwydd rydym am ei gwneud yn glir ei bod yn ddyletswydd ar gyflogwyr a gweithwyr i hunanynysu pan roddir y cyngor hwnnw iddynt. Rydym am gefnogi'r holl gyflogwyr da yng Nghymru sydd eisoes yn helpu eu gweithwyr i wneud yn union hynny, a lluniwyd ein rheoliadau, fel bob amser, i gefnogi undebau llafur da a chyflogwyr da sydd am wneud y peth iawn.