Llywodraethiant Prosiectau Cyhoeddus

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:43, 23 Medi 2020

Wel, diolch i chi am yr ateb, ond mi fyddwch chi, wrth gwrs, yn ymwybodol o adroddiad Archwilio Cymru i waith adnewyddu yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddar. Roedd e'n waith a aeth £60 miliwn dros gyllideb. Nawr, mae yna gerydd amlwg i'r bwrdd iechyd yn yr adroddiad hwnnw, ond dyw Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ddim yn dod allan ohoni'n dda chwaith. Mae'r adroddiad yn feirniadol iawn o'r trefniadau llywodraethiant, ac er gwaethaf bod pryderon clir wedi'u mynegi am y cynllun busnes, ac nad oedd yr achos busnes yn ddigon cryf—er gwaethaf hynny, fe gafodd y cynllun ei gymeradwyo beth bynnag. 

Nawr, pe byddai'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd, wrth gwrs, wedi dilyn y rheolau o gael cynllun busnes clir cyn cymeradwyo'r project, yna mae yna le i gredu y byddai'r cynllun efallai ddim wedi gorwario i'r graddau y gwnaeth e. Felly, fy nghwestiwn i, Weinidog, yw: pwy sy'n cymryd y cyfrifoldeb am y methiant yna?