2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 23 Medi 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lywodraethiant prosiectau cyhoeddus a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru? OQ55573
Arfarnu, rheolaeth a sicrwydd cadarn yw egwyddorion llywodraethu craidd y prosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys asesu a rheoli'r risgiau a achosir i'r prosiect, sy'n seiliedig ar fecanwaith adolygu annibynnol o berfformiad y prosiectau ar gyfnodau allweddol yn eu cylch bywyd.
Wel, diolch i chi am yr ateb, ond mi fyddwch chi, wrth gwrs, yn ymwybodol o adroddiad Archwilio Cymru i waith adnewyddu yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddar. Roedd e'n waith a aeth £60 miliwn dros gyllideb. Nawr, mae yna gerydd amlwg i'r bwrdd iechyd yn yr adroddiad hwnnw, ond dyw Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ddim yn dod allan ohoni'n dda chwaith. Mae'r adroddiad yn feirniadol iawn o'r trefniadau llywodraethiant, ac er gwaethaf bod pryderon clir wedi'u mynegi am y cynllun busnes, ac nad oedd yr achos busnes yn ddigon cryf—er gwaethaf hynny, fe gafodd y cynllun ei gymeradwyo beth bynnag.
Nawr, pe byddai'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd, wrth gwrs, wedi dilyn y rheolau o gael cynllun busnes clir cyn cymeradwyo'r project, yna mae yna le i gredu y byddai'r cynllun efallai ddim wedi gorwario i'r graddau y gwnaeth e. Felly, fy nghwestiwn i, Weinidog, yw: pwy sy'n cymryd y cyfrifoldeb am y methiant yna?
Mae Llyr Gruffydd yn iawn i dynnu sylw at adroddiad beirniadol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Ond mae'n bwysig cydnabod ar yr un pryd fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau i wella ei threfniadau ar gyfer cymeradwyo achosion busnes cyn i'r problemau ariannu yn Ysbyty Glan Clwyd ddod i'r amlwg. Ac mae gwelliannau pellach ym mhrosesau Llywodraeth Cymru wedi'u hymgorffori, gan adlewyrchu canlyniadau'r adolygiad o'r prosiect.
Felly, nododd gwaith archwilio mewnol pellach a wnaeth Llywodraeth Cymru yn 2014 nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu nad oedd yr ystadau a chyfleusterau cyfalaf yn cyflawni eu swyddogaeth o ran monitro'r prosiect, ac mae'n bwysig iawn cydnabod hefyd fod Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn 2017, wedi cyhoeddi adroddiad o'r enw 'Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014' , ac yn yr adroddiad hwnnw, cydnabuwyd y camau a roddwyd ar waith yn Llywodraeth Cymru, a'r camau a gymerwyd gan dîm ystadau a chyfleusterau cyfalaf y GIG i gryfhau ei adolygiad o brosiectau cyfalaf yn sylweddol. A dywedodd yr adroddiad fod cryn dipyn o wersi ac arferion da y gellir eu dysgu o'r dull o weithredu a fabwysiadwyd yn rhaglen gyfalaf y GIG Llywodraeth Cymru. Felly, er y byddwn yn llwyr gydnabod y materion y tynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad, credaf ei bod hefyd yn bwysig cydnabod y cynnydd a'r gwelliant sydd wedi digwydd ers hynny.
Yn anffodus, Weinidog, nid un waith y digwyddodd hyn oherwydd mae swyddfa archwilio Cymru wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at feysydd gwariant cyhoeddus lle roedd yr arian naill ai'n cael ei wastraffu neu ei fod wedi methu sicrhau canlyniad a nodwyd? Felly, gallwn gyfeirio, er enghraifft, at y grant datblygu gwledig neu Cymunedau yn Gyntaf—mae'r rheini'n ddau sy'n dod i'r meddwl ar unwaith. Nawr, rwy'n deall ac yn derbyn mai mater i Weinidogion unigol yw penderfynu ar eu portffolios gwario, ond o'ch rhan chi, fel Gweinidog cyllid, onid eich rôl chi yw sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei gyflawni ac nad yw arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu? Felly, os gwelwch yn dda, a allech amlinellu'r rôl rydych chi'n ei chwarae yn sicrhau bod deiliaid portffolios yn gwario eu cyllidebau'n briodol ac yn gyfrifol, a sut rydych chi a'ch adran yn helpu i lywio'r llong honno'n ôl i'r cyfeiriad cywir os gwelwch nad ydynt yn gwneud hynny?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith y buom yn ei wneud yng nghyd-destun COVID i sicrhau gwerth am arian a fforddiadwyedd ym mhob cynnig a gyflwynwyd drwy gronfa wrth gefn COVID-19, sef wrth gwrs, y cyllid sy'n sail i bopeth y buom yn ei wneud i ymateb i'r argyfwng. Felly, bob dydd ar ddechrau'r argyfwng, deuthum â thîm at ei gilydd i edrych ar bob cais unigol a gâi ei gyflwyno gan gyd-Aelodau ar draws Llywodraeth Cymru—felly, cyllid ychwanegol i'r GIG, cyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, cyllid i gefnogi awdurdodau lleol a oedd yn colli incwm. Daeth pob cais unigol a oedd yn gysylltiedig â'n hymateb i COVID drwy'r grŵp penodol hwnnw, lle rydym yn darparu'r haen ychwanegol honno o sicrwydd a'r haen ychwanegol honno o graffu cadarn i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau sydd â gwerth am arian, a fforddiadwyedd hefyd wrth gwrs, yn ganolog iddynt.
Felly, mae'n debyg fod y grŵp hwnnw wedi cyfarfod yn agos at 100 gwaith bellach ers dechrau'r argyfwng, ac mae hynny i gyd wedi ymwneud ag archwilio pob cais unigol a gyflwynir o unrhyw ran o'r Llywodraeth am gyllid ychwanegol i ymateb i'r argyfwng ac i ddarparu'r haen ychwanegol honno. Felly, credaf fod honno'n broses a fydd yn rhoi hyder i bobl, pan fydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud, ac yn cael eu gwneud yn gyflym iawn, fod haen ychwanegol o uniondeb ynghlwm wrth y penderfyniadau hynny.
Weinidog, fel rydym eisoes wedi clywed o'r cwestiynau hyn, un o fanteision llywodraethu prosiectau cyhoeddus yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yw bod atebolrwydd uniongyrchol yma ar lawr y Senedd ac yn agos at bobl Cymru, a dyna'r ffordd y dylai fod. Mae hefyd yn golygu bod prosiectau'n cael eu gweld drwy baradeim polisi Cymreig, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly a oes ganddi unrhyw bryderon ynglŷn â'r syniad o Weinidogion eithaf pell i ffwrdd yn Whitehall a mandariniaid Whitehall yn sathru ar draws Cymru yn eu hesgidiau maint 10 ac yn gwasgaru eu haelioni yn y dyfodol, heb atebolrwydd agos at y bobl a heb ystyried y fframwaith polisi yng Nghymru?
Rwy'n rhannu'r pryderon hynny'n llwyr ac mae'n anodd iawn dychmygu sut y gallai dim ond dau gymal mewn Bil fod yn fwy niweidiol i Gymru o safbwynt gwariant cyhoeddus datganoledig. Mae'n rhoi pwerau enfawr yn nwylo Gweinidogion Llywodraeth y DU i wario yng Nghymru mewn meysydd sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd ac sydd wedi'u datganoli ers 20 mlynedd. Mae gennym y rhwydweithiau yma yng Nghymru; rydym yn deall ble bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth. Mae gennym gysylltiadau lleol a fydd yn gwneud defnydd da o'r arian.
Mae cwestiynau mawr yn codi yma. Hynny yw, yr hyn sy'n digwydd yw y bydd Llywodraeth y DU, mae'n debyg, yn tynnu arian oddi ar gyllideb Llywodraeth Cymru; nid gwariant ychwanegol yw hwn. Os yw Llywodraeth y DU yn chwilio am feysydd i wario arnynt o fewn ei chyfrifoldebau ei hun, rwy'n siŵr y bydd gan lawer ohonom restr cyn hired â'n breichiau o syniadau y gallent wario arnynt, gan ddechrau gyda phethau fel trydaneiddio'r brif reilffordd i Abertawe, buddsoddi yn y morlyn llanw yn Abertawe a buddsoddi mewn band eang fel nad oes raid i Lywodraeth Cymru dalu'r bil am bethau sy'n rhan o gyfrifoldebau'r DU, gan gynnwys y rheilffyrdd yn ehangach, a dyna faes arall lle bu'n rhaid inni weithredu oherwydd nad yw Llywodraeth y DU am wneud hynny. Felly, dylent ddechrau drwy ganolbwyntio eu gwariant yn y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt a gadael i Lywodraeth Cymru ymgymryd â'i chyfrifoldebau ei hun.