2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 23 Medi 2020.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw gyllid canlyniadol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael o ganlyniad i gronfa Llywodraeth y DU ar gyfer adfer adeiladau sydd â deunydd cladin nad yw'n alwminiwm? OQ55537
Fel y nodwyd yn fy llythyr at y Pwyllgor Cyllid ar 24 Ebrill, derbyniodd Llywodraeth Cymru gyllid canlyniadol o £58 miliwn o gyfalaf a £1.2 miliwn o refeniw o ganlyniad i gronfa diogelwch adeiladu Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Mawrth.
Diolch. Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn byw mewn fflatiau sydd mewn perygl o fynd ar dân. Mae'r eiddo'n ddiwerth. Mae Grenfell Cymreig yn anochel. Bûm yn ymweld â Victoria Wharf a gwneuthum fideo i ddangos yr effaith aruthrol y mae hyn yn ei chael ar breswylwyr, ac mae 750,000 o bobl wedi gwylio’r fideo, ac wedi gweld a chlywed preswylwyr yn dweud eu bod wedi ysgrifennu atoch chi a’r Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu, nid ydynt wedi clywed gair yn ôl. Cawsant ymateb gan Lynda Thorne, yr aelod cabinet dros dai yng Nghaerdydd, a ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu unwaith eto:
Y broblem yw y bydd Aelodau Llywodraeth Cymru yn sefyll etholiad ym mis Mai y flwyddyn nesaf, ac felly er bod y Gweinidog tai yn ymroddedig, mae popeth yn dibynnu ar ganlyniadau'r etholiadau hynny.
Mae'n warthus eich bod yn ôl pob golwg yn ceisio blacmelio pobl i bleidleisio dros Lafur yn lle mynd i'r afael â'r problemau difrifol hyn. Mae'r Ceidwadwyr yn Llundain wedi cyflwyno cronfa gwerth £1 biliwn i ddechrau unioni’r problemau yn Lloegr, ond mae gwas sifil yng Nghymru wedi nodi:
Er y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn rhywfaint o gyllid canlyniadol, mater i Weinidogion Cymru yw penderfynu sut y bydd yr arian hwn yn cael ei wario yng Nghymru.
Felly, a ydych wedi penderfynu bellach, ac a all y miloedd o bobl—miloedd—sy'n byw mewn fflatiau anniogel nad ydynt yn werth unrhyw beth ddisgwyl rhyw fath o gymorth gan y Llywodraeth a chamau gweithredu gan y Llywodraeth, ac ymateb, ni waeth a oes etholiad ai peidio?
Wel, yr hyn sy'n warthus, Lywydd, yw’r perfformiad hwnnw, mae'n rhaid i mi ddweud. Fe fyddwch wedi clywed gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ddydd Mercher diwethaf fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd o symud ymlaen. Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi ein datganiad sefyllfa, ac mae hwnnw’n cynnig cyfundrefn diogelwch adeiladu newydd sy'n rhoi lle canolog i ddiogelwch a lles preswylwyr er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ni waeth beth fo'u deiliadaeth, a bod yr ethos yn berthnasol drwy gydol y broses o gynllunio, adeiladu a meddiannu'r adeiladau yr effeithir arnynt. Bydd y diwygiadau hynny'n mynd ymhellach o lawer na gwneud gwelliannau i adeiladau uchel yn unig; mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod holl drigolion Cymru yn ddiogel.
O ran yr ohebiaeth honno, yn amlwg, byddai wedi cael ymateb gan adran y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—os nad yw wedi cyrraedd eto, rwy'n siŵr y bydd ar y ffordd cyn bo hir—oherwydd yn amlwg, y Gweinidog tai yw'r unigolyn priodol i fynd i'r afael â'r mater hwnnw. Yn achos Victoria Wharf ym Mae Caerdydd, gwn fod swyddogion i fod i gyfarfod â chadeirydd cymdeithas y preswylwyr cyn bo hir i drafod y mater ymhellach.
Weinidog, dyma un o'r symiau mwyaf sylweddol o gyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru eu cael yn y bumed Senedd, ac er y gallaf dderbyn efallai nad oedd angen y £58 miliwn i gyd arnoch, gan fod gennym batrwm gwahanol i Loegr, mae angen cyfran sylweddol ohono. Wrth i chi betruso, ac a dweud y gwir, wrth i chi ddargyfeirio pryderon lesddeiliaid tuag at ryw fath o gynllun hirdymor i wella'r system—cynllun rwy'n cytuno ag ef, gyda llaw—mae problem yn ein hwynebu yn awr. Mae yswiriant tân bellach yn costio ddengwaith cymaint yn rhai o'r lleoedd hyn, felly mae'r tenantiaid yn wynebu bil o £1,000 am eu cyfraniad at yr elfen honno o’r tâl gwasanaeth. Mae'n rhyfeddol. Ac yna, gall y costau cyfalaf y maent yn eu hwynebu amrywio o £10,000 hyd at £40,000, ac mae gorchymyn gorfodi ar gyfer tân ar y ffordd. Mae angen help arnynt yn awr, rydych wedi cael yr arian, dylech ei drosglwyddo drwy gynllun priodol ar unwaith.
Iawn. Felly, mae'r rhain yn faterion difrifol, a byddaf yn eu trin â'r difrifoldeb y maent yn ei haeddu. Ac fel y dywedais, bydd swyddogion y Gweinidog yn cyfarfod â chadeirydd cymdeithas y preswylwyr yn fuan i drafod y materion hyn mewn mwy o fanylder, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am bolisi yn y maes hwn.
O ran cyllid Llywodraeth Cymru, er inni dderbyn cyfalaf ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, fe fydd yr Aelod yn gwybod nad oedd hynny’n cynnwys y cyfalaf o £100 miliwn a dynnodd Llywodraeth y DU o'n cyllideb, a’r £100 miliwn o gyfalaf trafodiadau ariannol a dynnodd Llywodraeth y DU o'n cyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly, ni chredaf y gallwn drafod cyllid canlyniadol mewn termau mor syml â hynny.