Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 23 Medi 2020.
Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi, os oes gan Lywodraeth y DU arian ar gael ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru, mai Llywodraeth Cymru a ddylai benderfynu sut y dylid ei wario? Ac yn unol â chomisiwn yr M4, dylid ei wario ar seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft, gorsaf rodfa newydd ym Magwyr, sy’n syniad y mae’r gymuned leol yn ei gefnogi’n fawr.