Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 23 Medi 2020.
Ie, rwy'n cytuno'n llwyr â John Griffiths ar hyn. Mae ef a minnau'n croesawu’r adroddiad diweddaraf gan yr Arglwydd Burns a’i dîm a’r sylfaen dystiolaeth sylweddol sy’n sail iddo, ac wrth gwrs, mae’n argymell gwaith uwchraddio sylweddol ar reilffyrdd lliniaru de Cymru fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus aml-ddull integredig. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae John Griffiths wedi bod yn ei hyrwyddo ar gyfer ei ardal ers peth amser, ac mae'n gam tuag at ddewis amgen mwy cynaliadwy a hirdymor na cheir yn y rhan honno o'r byd. Credaf mai dyma'r ffordd iawn ymlaen, ac rydym yn fwy na pharod i weithio gyda John Griffiths ac eraill i sicrhau y gallwn chwarae ein rhan i wireddu hynny.