Hyrwyddo Canolbarth Cymru Fel Cyrchfan i Dwristiaid

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:45, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n amlwg yn falch o glywed hynny. Credaf fod gan y gwaith o adfer camlas Trefaldwyn, sy'n safle pwysig o ddiddordeb, botensial i hyrwyddo canolbarth Cymru fel cyrchfan i dwristiaid a gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi ymwelwyr. Rwy'n siŵr y bydd gennych atgofion melys o'ch ymweliad chi a minnau â'r gamlas ychydig flynyddoedd yn ôl.