Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae un o fy etholwyr, Simon Walker o Glwb Bowlio Cei Connah, newydd gael ei ethol yn gadeirydd pwyllgor datblygu BowlsCymru. Fel y bydd llawer o bobl yn gwybod, mae bowls ar lawr gwlad yn darparu manteision enfawr i iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl. Dywed Simon wrthyf mai dyma'r unig gamp y gallwch ei chwarae drwy gydol eich oes—gall plentyn naw oed gystadlu yn erbyn rhywun 90 oed. Ddirprwy Weinidog, a fyddech yn barod i gyfarfod â Simon ar ran y pwyllgor datblygu i glywed drosoch eich hun am y manteision y gall bowls eu cynnig i gymunedau a throsglwyddo'r wybodaeth honno i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru?