Clybiau Chwaraeon Ar Lawr Gwlad

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:23, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â'ch etholwr. Efallai y gallai fy annog i ymgymryd â'r gamp. Mewn gwirionedd, rwyf wedi ymweld â nifer o’r clybiau bowls i'r anabl a chlybiau bowls gweithredol eraill. Rwy’n cofio, yn benodol, fy ymweliad â Sir Benfro i ymweld â’r clwb yno, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn annog cymaint o amrywiaeth â phosibl, yn ogystal ag amrywiaeth o weithgarwch corfforol fel y gall pobl gymryd rhan, felly rwy'n edrych ymlaen at drefnu cyfarfod cyn gynted ag y gallwn.