Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch yn fawr, Mike, a diolch am ofyn y cwestiwn yn Gymraeg hefyd. Drwy Cymraeg i Blant, y siarter iaith, Mudiad Meithrin, yr Urdd, mentrau iaith a thrwy lawer o ffyrdd eraill, mae llawer o gyfleoedd i blant ddefnyddio'r Gymraeg. Hefyd, byddaf yn cyhoeddi polisi ar drosglwyddo'r Gymraeg rhwng rhieni a'u plant cyn diwedd y flwyddyn, a fydd eto yn sail i raglen newydd o waith.