Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:57, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Ni allaf ateb rhan olaf y cwestiwn hwnnw. [Chwerthin.] Ond na, nid wyf yn bwriadu cymryd rhan, nid wyf yn credu, ac ni fyddwn yn cael gwneud hynny fel Gweinidog twristiaeth. Ni allwn esgus bod yn rhan o weithgaredd twristiaeth fy hun. Ond rwy'n adnabod castell Gwrych, yn amlwg, oherwydd cefais fy magu yn sir Conwy, ac rwy'n falch iawn o'r gefnogaeth gref iawn i'r prosiect hwn. A chredaf na allwn byth danbrisio pwysigrwydd gweithgaredd sy'n cyfuno gweithgarwch corfforol yng nghefn gwlad a diddordeb treftadaeth, sy'n ddadleuol—a yw castell Gwrych yn safle treftadaeth yng ngwir ystyr y gair, ond fe fydd yn awr yn sicr.