Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 23 Medi 2020.
Ddirprwy Weinidog, roeddwn yn falch o gefnogi'r sector twristiaeth yng ngogledd Cymru dros gyfnod y cyfyngiadau symud, a'r bygythiad real iawn i fusnesau, swyddi a bywoliaeth a ragwelwyd pe na bai'r sector yn cael ei agor mewn modd amserol. Nid llety'n unig yw twristiaeth, mae'n golygu amgueddfeydd, llochesau anifeiliaid, plastai a'r holl bethau rydym ni fel trigolion yn gwybod eu bod yno ond yn eu cymryd yn ganiataol neu heb eu gweld ers degawdau. A wnewch chi ymuno â mi, os gwelwch yn dda, i ofyn i Gymru gyfan, yn ogystal â'n hymwelwyr, i syrthio mewn cariad unwaith eto â ble rydym yn byw a mynd i weld y safleoedd hyn a mwynhau'r cyfleusterau hyn lle mae'r rheolau newydd yn caniatáu inni wneud hynny? Diolch.