Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 23 Medi 2020.
Mae cam cyntaf yr ymgyrch wedi canolbwyntio'n bennaf ar roi'r bleidlais i bobl 16 oed. Rydym wedi datblygu set o ddeunyddiau ar gyfer yr ystafell ddosbarth a grwpiau ieuenctid. Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, mae'r rhain hefyd wedi cael eu haddasu ar gyfer eu defnyddio gartref. Ar gyfer yr ymgyrch etholiadol, mae staff yn datblygu deunyddiau a chynlluniau i sicrhau bod ein prif neges am yr etholiad, sef mai pleidleisio yn Senedd 2021 yw'r ffordd i chi ddweud eich dweud a chael eich clywed yn eich Senedd, yn cyrraedd pob rhan o Gymru. Canolbwyntir ar y rhai sydd newydd gael yr etholfraint o dan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, ond byddwn hefyd yn mynd i'r afael â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol.