Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Lywydd, tybed a gaf fi ofyn i chi p'un a gafwyd unrhyw drafodaethau yn y Comisiwn, yn eich gwaith yn hysbysu'r etholwyr am etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf, ynglŷn â chymhwysedd pleidleisio drwy'r post, yn enwedig wrth inni weld y cyfyngiadau coronafeirws ar waith mewn mwy a mwy o rannau o Gymru. Rwy’n sylweddoli mai mater i'r Comisiwn Etholiadol yw hwn yn bennaf, a’r swyddogion etholiadol sy'n rhan o’r drafodaeth hefyd, ond ymddengys yn gynyddol i mi ac i Aelodau eraill o’r Senedd y gallem wynebu cyfyngiadau symud, ac o'r herwydd, y gallai pleidleisio drwy’r post fod yn rhan fwy na'r arfer o'r broses etholiadol ar gyfer etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.