Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 29 Medi 2020.
Mae'n bwysig bod yn glir ar y pwynt hwn. Nid yw craffu ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn rhoi'r un hawliau na chyfleoedd i Aelodau'r Senedd graffu o'u cymharu â Bil Cymreig a osodwyd gerbron y Senedd hon. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gosod Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach ar brynhawn dydd Gwener a phrynhawn ddoe sy'n berthnasol i'r ddadl heddiw yn enghraifft glir o'r cyfyngiadau a roddir ar graffu yn ystod y broses cydsyniad deddfwriaethol.
Ysgrifennodd y Gweinidog hefyd at ein pwyllgor brynhawn ddoe mewn cysylltiad â'r pedwerydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ac ailadroddodd bwysigrwydd y Bil. Felly, mae'n siomedig bod llythyr y Gweinidog hefyd yn cynghori bod Llywodraeth Cymru yn dal i ddadansoddi gwelliannau pellach a wnaed yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi, hyd yn oed gyda'r cynnig hwn yn cael ei ystyried heddiw.
Prin iawn fu'r amser a gafwyd i adolygu'r pedwerydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ond mae'n ymddangos bod y Bil bellach yn rhoi mwy o bwerau i Weinidogion Cymru; mae'n ymddangos bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cymryd pŵer cydamserol ychwanegol i wneud rheoliadau mewn maes datganoledig. Byddai craffu priodol wedi ein galluogi ni i ymchwilio gyda'r Gweinidog i'r rhesymeg dros y newidiadau munud olaf hyn. O ystyried pwysigrwydd y Bil ar gyfer ffermio yng Nghymru, mae'r sefyllfa hon yn anfoddhaol.
Hoffwn symud ymlaen at fater Bil i Gymru. Rydym wedi bod yn pryderu, fel y mae Mike Hedges a'i bwyllgor yn eu hadroddiad, nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei Bil ei hun i'w graffu arno yn y Senedd. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig droeon nad oedd digon o amser ar gyfer Bil o'r fath. Fodd bynnag, mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno Bil Amaethyddol gwreiddiol y DU i Senedd y DU. Rydym yn cydnabod bod edrych yn ôl yn hawdd iawn ac, efallai, yn anfaddeuol, ond dylem ystyried a fyddem wedi bod mewn gwell sefyllfa pe bai Bil Cymreig wedi'i ddilyn o'r cychwyn cyntaf.
Rydym yn cydnabod, yn dilyn pryderon a fynegwyd gennym am y dull deddfwriaethol a fabwysiadwyd, fod cymal machlud wedi'i gynnwys yn y Bil a bod pwerau i ganiatáu i Weinidogion Cymru weithredu neu drosglwyddo i gynlluniau newydd wedi'u dileu. Amlygodd ein hadroddiad ym mis Ionawr 2019 bryder cyffredinol hefyd ynglŷn â'r pwerau dirprwyedig sydd wedi'u cynnwys yn y Bil gwreiddiol. Mae'n siomedig na chafwyd gwybodaeth y gofynnwyd amdani am bwerau dirprwyedig yn ein hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni yn yr ail Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a osodwyd ym mis Mehefin, a'n bod wedi gorfod aros tan y trydydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, a osodwyd ddydd Gwener diwethaf, am restr o'r darpariaethau yn y Bil sy'n cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, sylwaf na chafodd y cyfiawnhad dros gymryd pob pŵer y gofynnwyd amdano ei gynnwys.
Gan symud ymlaen at fater pwysig arall, mae Aelodau'n ymwybodol o'r anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch darpariaethau'r WTO—Sefydliad Masnach y Byd—yn y Bil, a pha un a ddylid bod wedi gofyn am gydsyniad. Wrth graffu ar fersiwn gwreiddiol y Bil, dywedodd y Gweinidog wrthym fod cymal 26, fel yr oedd bryd hynny, yn fater llinell goch i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog wrthym hefyd y gallai'r mater gael ei ddatrys drwy gytundeb rhynglywodraethol. Nawr, rydym yn cydnabod bod cytundebau o'r fath yn cael eu gwneud rhwng Llywodraethau. Fodd bynnag, mae ymrwymo iddynt fel ffordd o ddatrys materion o fewn Bil y DU sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd, ac yna peidio â sicrhau bod y cytundeb hwnnw ar gael i'r cyhoedd mewn modd amserol, yn lleihau gallu'r Senedd a'i phwyllgorau i graffu'n llawn ar oblygiadau'r Bil Prydeinig hwnnw ar gyfer cymunedau Cymru.
Roedd ein hadroddiadau ar y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil gwreiddiol, a'n hadroddiad cyntaf a gyhoeddwyd ym mis Mai ar y Bil presennol, yn manylu ar ein pryderon ynghylch defnyddio'r cytundeb dwyochrog sy'n ymwneud â'r hyn sydd bellach yn gymalau 40 i 42 yn y Bil presennol. Yn ein hadroddiad ym mis Gorffennaf ar yr ail Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, nodwyd bod Llywodraeth y DU bellach o'r farn bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymalau hyn. Gwnaeth ein hadroddiad ym mis Gorffennaf dri argymhelliad cyfatebol. Gofynnwyd i'r Gweinidog ddarparu gwybodaeth fanwl am sefyllfa ddiwygiedig Llywodraeth y DU; fe wnaethom ni ofyn hefyd i'r Gweinidog roi manylion y cytundeb a wnaed gyda'r Ysgrifennydd Gwladol i arfer y pwerau i wneud rheoliadau yn y cymalau hynny. Ysgrifennodd y Gweinidog atom ar 11 Medi. Fodd bynnag, nid yw'r ymateb yn darparu'r wybodaeth glir a manwl y gofynnwyd amdani.
Wrth ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf ar gyfer fersiwn wreiddiol y Bil, awgrymodd y Gweinidog fod Bil Amaethyddiaeth y DU yn cefnogi datganoli, barn na wnaethom ac nad ydym yn ei rhannu. Heddiw rydym yn trafod a ddylid caniatáu i Senedd y DU ddeddfu ar ran Cymru mewn maes polisi hollbwysig ai peidio. Mae ein pwyllgorau hefyd wedi craffu ar Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Biliau pysgodfeydd, yr amgylchedd a masnach y DU. Ym mhob un o'n hadroddiadau ar y Biliau pwysig hyn, rydym wedi tynnu sylw at yr un pryderon neu bryderon tebyg. Er ein bod yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i fynd i'r afael â rhai o'n pryderon ym Mil Amaethyddiaeth y DU, mae rhoi caniatâd i Senedd arall ddeddfu ar y materion pwysig hyn yn benderfyniad anodd ac yn sicr ni ddylid ei wneud ar chwarae bach. Diolch, Llywydd dros dro.