Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 29 Medi 2020.
Diolch, Llywydd dros dro. Dechreuodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ystyried Bil Amaethyddiaeth y DU yn union ddwy flynedd yn ôl ym mis Medi 2018, a bydd yr Aelodau'n gwybod bod fersiwn gyntaf Bil Llywodraeth y DU wedi cwympo yn 2019, pan ddiddymwyd Senedd y DU cyn etholiad cyffredinol y DU. Roeddem eisoes wedi cynhyrchu dau adroddiad wedi'u geirio'n gryf ar y fersiwn honno o'r Bil hwnnw ym mis Ionawr a mis Mehefin 2019. Ailgyflwynodd Llywodraeth bresennol y DU y Bil Amaethyddiaeth ganol mis Ionawr eleni, ac ers hynny rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pedwar memorandwm cydsyniad deddfwriaethol—gosodwyd Rhif 3 ddydd Gwener diwethaf, a gosodwyd Rhif 4 brynhawn ddoe, sy'n golygu nad yw unrhyw un o bwyllgorau'r Senedd wedi craffu ar y naill na'r llall. Fodd bynnag, unwaith eto, rydym ni wedi cynhyrchu dau adroddiad ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Rhif 1 a Rhif 2 gyda chasgliadau ac argymhellion sylweddol.
Mae Bil Amaethyddiaeth y DU yn ddarn pwysig o gyfraith, ac er ei fod yn codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE, mae'n rhoi pwerau sylweddol i Weinidogion Cymru mewn maes polisi sydd wedi'i ddatganoli i'r Senedd ers dros 20 mlynedd. Yn ein hadroddiad ym mis Ionawr 2019, nodwyd ein siom bod y Gweinidog fel pe bai'n awgrymu bod y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn rhoi cyfleoedd digonol i Aelodau'r Senedd graffu ar faes polisi datganoledig pwysig.