Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 29 Medi 2020.
Mi wnawn ni gefnogi'r rheoliadau a chefnogi'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi efelychu'r newidiadau i'r dreth stamp a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys ar gyfer Lloegr. Rydyn ni'n nodi bod y trothwy ar gyfer talu treth trafodion tir yn codi dim ond ar gyfer eiddo sydd yn brif gartref. Rydyn ni'n gweld y gwerth o wneud hyn o dan yr amgylchiadau presennol fel stimwlws economaidd. Ac, wrth gwrs, rydyn ni yn gweld mai un o oblygiadau cyfyngu'r cynnydd yn y trothwy i brif gartref yn unig ydy peidio â rhoi cymhorthdal i bobl fyddai am ddefnyddio hyn fel cyfle i brynu ail gartref. Rydan ni'n gwybod bod yna gryfhad wedi bod yn y cyfnod diweddar yn y teimlad o fewn cymunedau yng Nghymru, yn cynnwys ardaloedd fel fy etholaeth i, lle mae yna gyfran uchel o ail gartrefi a thai haf, fod rhaid cymryd camau i atal colli rhagor o'r stoc dai i brynwyr ail gartrefi.
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi yn y dyddiau diwethaf cyfres o gamau i fynd i'r afael â hyn, yn cynnwys newid rheolau cynllunio, rhoi cap ar niferoedd ail gartrefi mewn unrhyw gymuned, ei gwneud hi'n angenrheidiol i gael caniatâd cynllunio i droi prif gartref yn ail gartref, ac yn y blaen. Ond mae angen defnyddio cymhellion trethiannol hefyd. Rydyn ni'n awgrymu codi lefel treth cyngor i ail gartrefi, ac yn sicr cau'r loopholes sydd wedi caniatáu rhai i optio allan o dalu treth cyngor yn llwyr. Dwi'n apelio ar y Llywodraeth unwaith eto yn y fan hyn i fynd i'r afael â hynny. Ond dŷn ni hefyd yn galw am ddefnyddio treth trafodion tir mewn ffordd mwy pellgyrhaeddol—treblu y dreth fel cam y gallai'r Llywodraeth ei gymryd yn syth. Dydy'r rheoliadau yma mewn difrif, felly, ddim yn mynd yn ddigon pell, yn fy ngolwg i, yng ngolwg Plaid Cymru. Dwi dal ddim yn gweld yr urgency y buaswn i'n dymuno ei weld gan Lywodraeth Cymru ar fater ail gartrefi a gwarchod y stoc dai yn ein cymunedau ni. Ond o leiaf mae'r hyn dŷn ni yn pleidleisio arno fo heddiw yn rhywbeth sy'n cydnabod y broblem, ond gadewch i ni wneud llawer mwy, gadewch i ni weithredu go iawn, achos mae'n cymunedau ni'n disgwyl i ni gymryd camau i warchod eu buddiannau nhw.