– Senedd Cymru am 5:55 pm ar 29 Medi 2020.
Yr eitem nesaf, 13, yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gyflwyno'r rheoliadau. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020. Dyma'r tro cyntaf i ni bleidleisio ar newidiadau i gyfraddau treth trafodiadau tir ers iddynt gael eu cyflwyno gyntaf a'u gosod gyntaf gan y Senedd ym mis Ionawr 2018. Rwyf yn ddiolchgar am adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac i'r Pwyllgor Cyllid am roi cyfle i mi roi tystiolaeth iddynt.
Diben y rheoliadau hyn yw gwneud amrywiad dros dro i gyfraddau a throthwyon treth trafodiadau tir sy'n gymwys i drafodiadau eiddo preswyl penodol gyda dyddiad dod i rym ar neu ar ôl 27 Gorffennaf 2020 a chyn 1 Ebrill 2021. Ar 1 Ebrill, bydd y cyfraddau treth yn dychwelyd i'r rhai a oedd yn weithredol cyn 27 Gorffennaf eleni. Wrth gwrs, rwyf yn parhau i adolygu'r cyfraddau er mwyn sicrhau bod y trethi sydd wedi'u datganoli i Gymru yn cyflawni'r drefn dreth yr ydym ni ei heisiau er mwyn bod â Chymru deg a ffyniannus.
Mae'r rheoliadau'n gwneud un newid i'r prif gyfraddau preswyl. Maen nhw'n dileu'r band cyntaf, fel bod treth yn dechrau cael ei dalu ar yr ystyriaeth a roddir am eiddo o fwy na £250,000, i fyny o £180,000. Yn bwysig, mae'r newidiadau hyn, yn wahanol i wledydd eraill y DU, wedi'u cyfyngu i'r rhai sy'n talu'r prif gyfraddau preswyl yn unig. Ni fydd unrhyw ostyngiadau treth i fuddsoddwyr mewn eiddo prynu i osod, gosodiad gwyliau wedi'u dodrefnu nac ail gartrefi. Felly, rydym yn sicrhau bod manteision yr amrywiad dros dro hwn yn cael eu darparu'n fras i'r rhai sy'n prynu cartrefi i fyw ynddynt. Mae'r newidiadau hyn yn golygu, o 27 Gorffennaf tan 31 Mawrth y flwyddyn nesaf, na fydd tua 80 y cant o'r rhai sy'n prynu cartref yng Nghymru yn talu unrhyw dreth, i fyny o 60 y cant. Ac, i'r 20 y cant o brynwyr tai sydd bellach yn talu treth, bydd y swm sy'n daladwy £2,450 yn llai.
Rwyf hefyd wedi gallu darparu £30 miliwn i ariannu cynnydd sylweddol yn y buddsoddiad cyfalaf ar gyfer cam nesaf yr ymateb i ddigartrefedd, yn rhan o Gam 2 o'r cynllun digartrefedd, gyda'r bwriad o gyflawni ein nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Dylai'r newidiadau hyn ein helpu i wella drwy roi ysgogiad economaidd i gefnogi'r farchnad dai a'r economi ehangach yng Nghymru gan brynwyr tai sy'n gwario arian yn yr economi, awdurdodau lleol yn buddsoddi i fynd i'r afael â digartrefedd, a chefnogi swyddi a busnesau, gan, drwy hynny, fagu hyder.
Mae'r cyfraddau dros dro yn ymateb cytbwys gan y Llywodraeth hon. Maen nhw'n darparu gostyngiadau treth i helpu i ysgogi'r economi, cadw ein hegwyddorion treth blaengar a darparu cyllid i helpu rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Gofynnaf felly am gefnogaeth y Senedd i gadarnhau'r newidiadau dros dro hyn. Diolch.
Galw yn gyntaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn gennym yn ein cyfarfod ar 3 Awst, ac fe wnaethom ni osod ein hadroddiad ar yr un diwrnod. Nododd ein hadroddiad un pwynt rhinwedd, o dan Reol Sefydlog 21.3, ynglŷn â'r rheoliadau hyn. Nodwyd paragraff 3.2 o'r memorandwm esboniadol, sy'n tynnu sylw at y defnydd o'r weithdrefn gadarnhaol dros dro ar gyfer y rheoliadau hyn ac yn egluro beth fyddai'n digwydd pe byddai'r Senedd yn pleidleisio yn erbyn cadw'r rheoliadau mewn grym. Mae'r memorandwm esboniadol yn awgrymu, pe byddai pleidlais o'r fath, y byddai person a oedd wedi talu llai o dreth yn ystod yr amser yr oedd y rheoliadau mewn grym yn cael ei ystyried yn rhywun nad oedd wedi talu digon o dreth. Fodd bynnag, deallwn y byddai'r rheoliadau'n peidio â bod yn weithredol ar ddiwedd y dydd y byddai pleidlais o'r fath yn digwydd ac na fyddai unrhyw beth a wneir o dan y rheoliadau cyn hynny yn cael ei effeithio. Felly, pe byddai person wedi talu llai o dreth yn ystod yr amser yr oedd y rheoliadau mewn grym, yna byddai'r person hwnnw wedi talu'r dreth gywir a oedd yn gymwys bryd hynny. Er na ofynnodd ein hadroddiad am ymateb gan Lywodraeth Cymru ar y pwynt hwn, efallai yr hoffai'r Gweinidog wneud sylwadau ar hynny. Diolch, Llywydd.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid nesaf. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gan mai dyma’r tro cyntaf i gyfraddau’r dreth trafodiadau tir gael eu newid yng nghanol y flwyddyn, ac o gofio’r goblygiadau i gyllideb a chynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru, mi roedd y pwyllgor yn awyddus i glywed tystiolaeth yn uniongyrchol gan y Gweinidog, ac mi wnaethom ni hynny ar 14 Medi. Ac roeddem ni'n ddiolchgar i’r Gweinidog am fod yn bresennol bryd hynny ac fe glywsom ni, o ystyried natur y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ei bod hi'n anochel y byddai’r newidiadau dros dro i dreth dir y dreth stamp yn Lloegr yn golygu y byddai camau gweithredu’n cael eu cymryd yng Nghymru. Mae’r pwyllgor yn nodi y bydd y newid hwn yn cefnogi’r bobl hynny sydd am brynu eu cartref cyntaf neu sydd am ddringo’r ysgol eiddo.
Ond, yn wahanol i dreth dir y dreth stamp yn Lloegr, ni fydd y newid i drothwy esemptio’r dreth trafodiadau tir yn berthnasol wrth brynu eiddo ychwanegol fel eiddo prynu-i-osod neu ail gartrefi. Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor Cyllid am ymchwilio i hyn ymhellach yn ystod cylch nesaf y gyllideb, neu fel rhan o’n hymchwiliad efallai i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r fframwaith cyllidol sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Mae’r rhagolygon tymor canolig ar gyfer y farchnad dai yn ansicr o ran prisiau tai a hefyd o ran nifer y gwerthiannau. Bydd llawer yn dibynnu ar berfformiad yr economi ehangach, a fydd, yn ei dro, yn cael ei benderfynu gan y ffordd mae'r pandemig a'r cyfyngiadau ar weithgareddau yn datblygu. Er hynny, mi roedd y pwyllgor ar y cyfan yn fodlon â’r dystiolaeth a roddodd y Gweinidog, felly does gennym ni ddim unrhyw faterion i’w hadrodd. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r rheoliadau hyn heddiw. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau hyn gan ein bod wedi bod yn galw ers peth amser am seibiant o ran talu'r dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru i adlewyrchu'r seibiant o ran talu'r dreth stamp a gyflwynwyd yn wreiddiol, yn Lloegr yn bennaf, fel dull o ysgogi'r farchnad dai yn ystod y cyfnod hwn o'r pandemig a'r cyfyngiadau symud.
Gwyr y Gweinidog o'm cwestiynau blaenorol iddi am fy mhryderon ynglŷn â'r trothwyon y penderfynwyd arnyn nhw yng Nghymru—hyd at £250,000 yw'r lefel y mae'r gyfradd ddi-dreth yn berthnasol iddi. Mae hyn gryn dipyn yn llai na'r lefel o £500,000 dros y ffin yn Lloegr. I lawer o rannau o Gymru nid yw efallai mor berthnasol, ond yn sicr ar hyd yr ardaloedd ar y ffin, ac yn enwedig yn y de-ddwyrain, rwyf yn pryderu y gallai hyn achosi gwyrdroadau yn y farchnad. Felly, ynghyd â'm cwestiynau blaenorol i'r Gweinidog cyllid ac i gyd-fynd â'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn gynharach, a wnewch chi roi'r ymrwymiad hwnnw y byddwch yn parhau i adolygu'r broses hon?
Rwy'n falch o glywed bod y Pwyllgor Cyllid hefyd yn dal i fod yn agored i ystyried mater yr ail gartrefi, a materion eiddo eraill hefyd. Yr hyn sy'n allweddol i'r newid hwn yn y dreth trafodiadau tir yw ysgogi'r farchnad eiddo, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod hynny'n parhau i fod yn gystadleuol yng Nghymru fel dros y ffin yn Lloegr.
Mi wnawn ni gefnogi'r rheoliadau a chefnogi'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi efelychu'r newidiadau i'r dreth stamp a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys ar gyfer Lloegr. Rydyn ni'n nodi bod y trothwy ar gyfer talu treth trafodion tir yn codi dim ond ar gyfer eiddo sydd yn brif gartref. Rydyn ni'n gweld y gwerth o wneud hyn o dan yr amgylchiadau presennol fel stimwlws economaidd. Ac, wrth gwrs, rydyn ni yn gweld mai un o oblygiadau cyfyngu'r cynnydd yn y trothwy i brif gartref yn unig ydy peidio â rhoi cymhorthdal i bobl fyddai am ddefnyddio hyn fel cyfle i brynu ail gartref. Rydan ni'n gwybod bod yna gryfhad wedi bod yn y cyfnod diweddar yn y teimlad o fewn cymunedau yng Nghymru, yn cynnwys ardaloedd fel fy etholaeth i, lle mae yna gyfran uchel o ail gartrefi a thai haf, fod rhaid cymryd camau i atal colli rhagor o'r stoc dai i brynwyr ail gartrefi.
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi yn y dyddiau diwethaf cyfres o gamau i fynd i'r afael â hyn, yn cynnwys newid rheolau cynllunio, rhoi cap ar niferoedd ail gartrefi mewn unrhyw gymuned, ei gwneud hi'n angenrheidiol i gael caniatâd cynllunio i droi prif gartref yn ail gartref, ac yn y blaen. Ond mae angen defnyddio cymhellion trethiannol hefyd. Rydyn ni'n awgrymu codi lefel treth cyngor i ail gartrefi, ac yn sicr cau'r loopholes sydd wedi caniatáu rhai i optio allan o dalu treth cyngor yn llwyr. Dwi'n apelio ar y Llywodraeth unwaith eto yn y fan hyn i fynd i'r afael â hynny. Ond dŷn ni hefyd yn galw am ddefnyddio treth trafodion tir mewn ffordd mwy pellgyrhaeddol—treblu y dreth fel cam y gallai'r Llywodraeth ei gymryd yn syth. Dydy'r rheoliadau yma mewn difrif, felly, ddim yn mynd yn ddigon pell, yn fy ngolwg i, yng ngolwg Plaid Cymru. Dwi dal ddim yn gweld yr urgency y buaswn i'n dymuno ei weld gan Lywodraeth Cymru ar fater ail gartrefi a gwarchod y stoc dai yn ein cymunedau ni. Ond o leiaf mae'r hyn dŷn ni yn pleidleisio arno fo heddiw yn rhywbeth sy'n cydnabod y broblem, ond gadewch i ni wneud llawer mwy, gadewch i ni weithredu go iawn, achos mae'n cymunedau ni'n disgwyl i ni gymryd camau i warchod eu buddiannau nhw.
Y Gweinidog cyllid i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch, a diolch i'r cyd-Aelodau hynny sydd wedi dangos eu cefnogaeth i'r rheoliadau heddiw. Fe wnaf gyfyngu fy sylwadau i'r rheoliadau penodol yr ydym ni'n eu trafod heddiw. Mewn ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaeth y pwyllgor. Ac rwy'n sicr yn derbyn y pwynt rhinwedd a godwyd, ac yn y dyfodol byddaf yn sicrhau bod y memoranda esboniadol ar gyfer rheoliadau yn y dyfodol yn cynnwys y pwynt hwnnw a wnaed hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar am eich gwaith ar hynny.
O ran y trothwy lle'r ydym yn gosod y cyfraddau, wrth gwrs, gwnaethom hynny i gydnabod y farchnad dai wahanol sydd gennym ni yng Nghymru, lle mae pris cyfartalog tai yn £168,000, o'i gymharu â £254,000 dros y ffin yn Lloegr, ac mae ein prynwr tro cyntaf cyfartalog yma yng Nghymru yn talu £145,000, o'i gymharu â £213,000—er bod Nick Ramsay a minnau, ar sawl achlysur, wedi pwysleisio y gwahaniaethau sydd ledled Cymru, a'r ffaith bod y sefyllfa yn Sir Fynwy yn wahanol oherwydd dyma'r unig le yng Nghymru sydd â phrisiau tai sydd yn gyson ar ochr uchaf y sbectrwm. Felly, fe fyddaf, yn amlwg, yn parhau i adolygu'r mater, er fy mod yn tynnu sylw fy nghyd-Aelodau at y ffaith mai mesur cyfyngedig yw'r hyn yr ydym yn pleidleisio arno heddiw, dim ond am saith mis, tan y dyddiad y daw i ben y flwyddyn nesaf.
Ac yna i'r Pwyllgor Cyllid, fel y dywedodd y Cadeirydd, dyma'r tro cyntaf i ni fel Aelodau'r Senedd ddefnyddio'r pwerau hyn i bennu newidiadau newydd, er eu bod dros dro, i gyfraddau a throthwyon treth trafodiadau tir. Rydym wedi'u defnyddio er lles gorau pobl Cymru, ac rwy'n hapus iawn i barhau â'r trafodaethau gyda'r Pwyllgor Cyllid, ac i barhau i rannu yr hyn yr ydym yn ei ddysgu gyda'r Pwyllgor Cyllid, ac i ddysgu o waith y Pwyllgor Cyllid ar y maes hwn hefyd. Felly, diolch i'r holl gyd-Aelodau.
Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei—[Gwrthwynebiad.]
Iawn. Diolch am y gwrthwynebiad, ac felly byddwn yn gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.