Part of the debate – Senedd Cymru am 7:46 pm ar 29 Medi 2020.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Eisiau gwneud ambell sylw am ynni ydw i, yn benodol y rhyngweithio neu'r diffyg rhyngweithio rhwng uchelgais cynhyrchu ynni adnewyddol ar y tir ac ar y môr. Gaf i ddweud, yn gyntaf, fy mod i'n falch o weld y ddogfen ddiwygiedig yma'n troi cefn ar y syniad o ganiatáu tyrbinau gwynt enfawr ar draws Ynys Môn? Mewn gwirionedd, mi fyddai tirwedd Môn wedi'i gwneud hi'n amhosibl bron i gael caniatâd cynllunio ar gyfer y math yna o dyrbinau a oedd yn cael eu hargymell yn y drafft cyntaf. Mae Ynys Môn yn wastad ac mae yna bobl yn byw ar ei hyd o i gyd, ac nid ar dirwedd wastad yng nghanol pobl a phentrefi mae adeiladu tyrbinau 250m o uchder, sy'n uwch na Mynydd Twr yng Nghaergybi, y pwynt uchaf ar yr ynys. Felly, synnwyr cyffredin wedi'i weld yn y fan yna.
Ond fel cynrychiolydd ynys, dwi'n treulio llawer o amser yn edrych allan i'r môr ac yn ystyried potensial hwnnw, a dwi'n methu cweit deall sut y gall dogfen sydd mor bwysig â hon, y fframwaith datblygu cenedlaethol, beidio â chynnwys ynddi hi potensial ynni oddi ar y môr. Mae yna esgusodion yn cael eu gosod o ran pam bod yna ddim cyfeiriad at ynni môr, ac mai mewn difrif y cynllun morol cenedlaethol sydd yn gwneud hynny, ac mai'r tir ydy ffocws y cynllun datblygu cenedlaethol. Ond y gwir amdani yw bod y cynllun morol yn amwys iawn ynglŷn â'i uchelgais ar gyfer ynni môr. Rydyn ni'n gweld potensial enfawr oddi ar Ynys Môn yng nghynllun Morlais, Minesto a hefyd datblygiadau ynni gwynt pellach, mawr i'r gorllewin o'r datblygiadau presennol oddi ar arfordir y gogledd.
Mae'r fframwaith cenedlaethol yn benodol yn sôn, er enghraifft, am allu creu 70 y cant o'n trydan ni o ddulliau adnewyddol. Iawn, ond os mai dim ond edrych ar y tir mae'r fframwaith datblygu, beth am yr ynni ar y môr? Petasai'r ddwy ochr, eich timau tir chi a'ch timau môr chi, yn siarad efo'i gilydd, siawns y gallwn ni ddweud y byddwn ni'n gallu creu 100 y cant o'n trydan ni o ffynonellau adnewyddol, a'r môr fyddai'n cynhyrchu y rhan fwyaf o hwnnw.
Mae yna resymau penodol iawn pam fod hyn yn bwysig yn fy etholaeth i. Rydyn ni wedi clywed cyfeiriad at Wylfa a'r stop ar y cynllun hwnnw. Dwi eisiau gweld—ac mae hi'n gwneud synnwyr llwyr—datblygiadau ynni gwynt y môr newydd oddi ar arfordir gogledd Cymru, i'r gorllewin o'r rhai presennol, yn cael eu gwasanaethu o borthladd Caergybi, yn hytrach na phorthladd Mostyn, sydd wedi gwneud yn dda iawn yn gwasanaethu'r ffermydd gwynt eraill. Mae angen i'r fframwaith datblygu yma fod yn benodol iawn ynglŷn â dweud, 'Reit, mae yna ddatblygiadau gwynt y môr yn fan hyn allai wirioneddol ddod â budd i ni ar y tir mewn lle fel Ynys Môn'. Felly, siaradwch efo'ch gilydd, y ddau dîm sydd yn edrych ar y môr a'r tir. Mi allwn ni gael gwell fframwaith ar gyfer y dyfodol o wneud hynny.