– Senedd Cymru ar 29 Medi 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gyflwyno'r cynnig—Julie James.
Cynnig NDM7392 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a osodwyd ar 21 Medi 2020;
2. Yn cydnabod yr ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth a fu dros y pedair blynedd ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;
3. Yn cytuno bod y fframwaith ar gyfer y pedwar rhanbarth a’r polisïau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio ac eraill wrth lunio a gwneud lleoedd da;
4. Yn cytuno bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;
5. Yn cytuno y bydd cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn helpu i gefnogi adferiad cryf o Covid-19.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cafodd y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft a'r newidiadau yr wyf yn bwriadu eu gwneud iddo eu gosod ger bron y Senedd i ganiatáu i'r Aelodau graffu arnynt am gyfnod o 60 diwrnod. Yn unol â Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, adran 3, byddaf i'n rhoi sylw i unrhyw benderfyniad y mae'r Senedd yn ei basio ac unrhyw argymhelliad a wneir gan bwyllgorau'r Senedd yn ystod cyfnod ystyriaeth y Senedd pan fyddaf i'n cyhoeddi'r fframwaith datblygu cenedlaethol cyntaf fis Chwefror nesaf.
Pan fydd yr amser hwnnw'n cyrraedd, bydd enw newydd yn disodli'r teitl 'fframwaith datblygu cenedlaethol', sef 'Dyfodol Cymru: y cynllun cenedlaethol 2040'. Mae'r enw newydd hwn yn llawer cliriach o ran yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud. Mae'n rhoi gweledigaeth gadarnhaol iawn ar gyfer sut y bydd datblygu yn gwneud Cymru'n lle gwell erbyn 2040. Pobl ifanc o'r sefydliad Plant yng Nghymru awgrymodd yr enw newydd, ac ar gyfer y bobl ifanc hyn, cenedlaethau'r dyfodol, y bydd yn rhaid inni ddarparu gwlad decach, wyrddach, iachach a mwy cynaliadwy.
Rydym wedi trefnu'r ddadl hon yn gynnar yn y cyfnod craffu i gyflwyno'r prif newidiadau i'r Aelodau ac i helpu i adfachu rhywfaint o'r amser a gollwyd oherwydd COVID-19. Mae dau bwyllgor yn y Senedd—y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau—eisoes wedi cynnal ymchwiliadau manwl i'r cynllun drafft. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r ddau bwyllgor am eu hadroddiadau, ac rwyf wedi ysgrifennu fy ymateb at y Cadeiryddion perthnasol, gan nodi sut y mae eu sylwadau wedi llywio'r newidiadau yr ydym yn eu gwneud.
Byddaf yn siarad yn fanylach yn fuan ynghylch y newidiadau yr wyf yn eu cynnig i'r cynllun drafft, ond yn gyntaf hoffwn dynnu sylw at y daith hyd yn hyn. Mae yna broses gwneud cynlluniau cyfranogol wedi bod, a hoffwn i gofnodi fy niolchgarwch i'r miloedd o sefydliadau ac unigolion sydd wedi dod i ddigwyddiadau, wedi ysgrifennu atom ni ac wedi cyfrannu eu barn. Mae'r broses wedi bod yn gynhwysol ar bob cam ac mae wedi golygu llawer mwy na dim ond ymgynghori ar ein syniadau. Dechreuwyd gyda map gwag o Gymru mewn gweithdai i randdeiliaid. Yna symudwyd ymlaen i grwpiau ffocws ar y materion allweddol ac, yn olaf, buom yn trafod y cynllun drafft gyda'r cyhoedd mewn sesiynau galw heibio a gyda rhanddeiliaid mewn mwy na 75 o ddigwyddiadau gwahanol. Nid ydym wedi gallu cytuno â phawb nac ymgorffori'r holl syniadau a awgrymwyd, ond rydym wedi gwrando. Rwy'n falch iawn o ansawdd yr ymgysylltu a chymaint ohono a gyflawnwyd ac, yn bennaf, rwy'n falch o gymaint y mae'r cynllun wedi gwella oherwydd hynny.
Er mwyn dangos sut mae ymgysylltu wedi gwella'r cynllun, byddaf yn tynnu sylw at rai o'r prif newidiadau arfaethedig. Mae'r rheolau'n mynnu mai'r fersiwn sydd wedi'i osod gyda'r Senedd yw'r drafft cyhoeddedig ond, mewn gwirionedd, mae'r newidiadau sy'n cael eu cynnig o ganlyniad i ymatebion i'r ymgynghoriad ac argymhellion y pwyllgor yn bwysicach ar y cam hwn. Er mwyn dangos sut y caiff y newidiadau hyn eu cynnwys, rydym wedi cyhoeddi fersiwn gwaith y cynllun wedi'i ddiweddaru. Nid oes statws ffurfiol i hyn, ond mae'n dangos yn glir sut mae'r cynllun yn datblygu. Mae'n fwy amlwg na'r drafft bod y fersiwn gwaith yn gynllun gofodol. Mae'n cynnwys mwy o fapiau, mwy o ddata a mwy o graffeg. Mae'n ceisio cyfleu pa mor amrywiol ac unigryw yw lleoedd yng Nghymru. Cynllun yw hwn sy'n annog a galluogi cynllunio creadigol, nid cyfres o drefi clôn a maestrefi di-nod.
Mewn byd delfrydol, dylai'r cynllun cenedlaethol fod wedi'i ysgrifennu'n gyntaf. Byddai hyn wedi caniatáu i gynlluniau datblygu lleol ganolbwyntio ar wneud lleoedd creadigol ar raddfa leol. Yn hytrach, mae'r CDLlau wedi gorfod ysgwyddo'r baich ers 10 mlynedd o ddarparu holl bolisïau'r cynllun datblygu. Bydd manteision sylweddol i CDLlau o gael cynllun cenedlaethol ar waith: dim rhagor o bolisïau wedi'u dyblygu ledled pob awdurdod mwyach, a'r amser a'r lle i ganolbwyntio ar nodi safleoedd datblygu a chyfleoedd adfywio yn rhagweithiol.
Haen ganol y cynllun datblygu fydd y cynlluniau datblygu strategol. Mae'r cynllun cenedlaethol hwn yn cynnig arweiniad clir ar y blaenoriaethau gofodol ar gyfer pob rhanbarth. Gyda'i gilydd, ynghyd â'r fframweithiau economaidd rhanbarthol a'r bargeinion dinesig, bydd gan bob rhanbarth gyfres lawn o strategaethau i'w helpu i gynllunio eu rhanbarth yn hyderus.
Un newid arfaethedig mawr yw newid o dri rhanbarth i ôl troed pedwar rhanbarth. Mae hyn yn golygu gwahanu canolbarth Cymru a'r De-orllewin. Yr adborth o'r tu mewn i'r Siambr hon a chan randdeiliaid yn y canolbarth, yn arbennig, oedd eu bod eisiau cael eu cydnabod fel rhanbarth yn ei rinwedd ei hunan. Mae hyn yn golygu y bydd disgwyliadau y bydd y cynllun datblygu strategol nawr yn cael ei baratoi ar y cyd gan gynghorau Ceredigion a Phowys ar y materion cynllunio sy'n mynd y tu hwnt i'r ardal.
Roedd y feirniadaeth o'r ôl troed rhanbarthol yn gysylltiedig â phryder bod y strategaeth gyffredinol yn canolbwyntio'n ormodol ar ardaloedd trefol, ac nid digon ar ardaloedd gwledig. Mae hyn wedi cyflwyno her i ni, oherwydd rhaid i gynllun cenedlaethol fod yn strategol a gadael materion manwl i gynlluniau rhanbarthol a lleol, ond rhaid iddo hefyd siarad â Chymru gyfan. Felly, rydym wedi datblygu polisïau eraill ar gyfer yr economi wledig, yn ogystal â pholisïau gofodol newydd ar gyfer y canolbarth. Rhaid i ni gydnabod, fodd bynnag, y bydd graddau a graddfa'r newid dros 20 mlynedd yn anochel yn wahanol mewn ardaloedd gwledig o'i gymharu â lleoedd trefol. Rydym eisiau cefnogi ac annog economïau gwledig ac rydym eisiau gwasanaethau cyhoeddus da ac amrywiaeth o amwynderau, ond nid ydym eisiau eu datblygu heb ystyried y gost. Gobeithio y bydd pobl yn cydnabod y cydbwysedd y mae'r cynllun hwn yn ceisio'i gyflawni.
Er mwyn sicrhau bod twf yn gynaliadwy, rydym wedi ychwanegu polisïau newydd ar drafnidiaeth. Mae'r cysylltiad rhwng cynllunio defnydd tir a chynllunio trafnidiaeth yn un hollbwysig, ac yn rhy aml yn y gorffennol roedd y meddylfryd yn canolbwyntio ar sut i alluogi ceir i fynd o gwmpas yn hawdd ac yn gyflym. Mae angen i ni hyrwyddo lleoedd y mae modd cerdded iddyn nhw, ac mae angen inni gysylltu lleoedd drwy deithio'n llesol mewn ffordd gyfannol. Mae'r polisïau trafnidiaeth yn bwysig iawn o ran ein helpu ni i sicrhau'r twf trefol y mae'r strategaeth ofodol yn ei hyrwyddo mewn ffordd gynaliadwy.
Y newid olaf yr hoffwn i fynd i'r afael ag ef yn fanwl yw'r polisi ar ynni adnewyddadwy. Mae ynni gwyrdd glân yn hanfodol i'n cynaliadwyedd fel gwlad, fel cymunedau ac fel aelwydydd unigol. Mae gennym ni'r cynhwysion crai yn ein tirwedd a'n hinsawdd i arwain y ffordd, ac mae'r cynllun hwn yn adlewyrchu'r uchelgais hwnnw. Mae'r polisi gofodol ar gyfer ynni adnewyddadwy wedi'i ddiwygio. Mae rhai meysydd wedi'u newid, ac mae dau wedi'u dileu'n gyfan gwbl, ond, yn hollbwysig, rwy'n credu ein bod ni'n cyfleu ein bwriad yn well yn y polisi diwygiedig. Unwaith eto, mae hyn yn deillio o ymgysylltu helaeth, ac rwy'n hyderus y bydd y cynllun diwygiedig yn helpu i ysgogi'r sector adnewyddadwy yma yng Nghymru.
Nid oes dadl na thrafodaeth yn gyflawn eleni heb sôn, yn anffodus, am COVID-19. I raddau helaeth, cyfansoddiad y lle yr ydym ni'n byw ynddo oedd yn pennu sut yr oeddem ni'n teimlo yn ystod y cyfyngiadau symud. Pe bai gennych chi gyfle da i ddefnyddio mannau agored gwyrdd, pe bai siopau gerllaw a phe baech yn byw mewn lle gydag ysbryd cymunedol, roedd y cyfyngiadau symud yn llai o straen nag y gallen nhw fod. Dyma lle y gall y cynllun hwn ein helpu ni—i greu lleoedd sy'n gadarn ac yn fwy parod ar gyfer argyfyngau iechyd sydyn, ac i fod yn lleoedd mwy pleserus i fyw ynddyn nhw yn ystod amseroedd arferol.
Yn fy rhagair i'r cynllun drafft, ysgrifennais:
'Nid rhagweld sut y gallai Cymru newid dros yr 20 mlynedd nesaf yw'r her i gynllun fel yr FfDC o reidrwydd, ond sicrhau y gallwn ni adeiladu cymdeithas ac economi sy'n hyblyg ac yn gadarn, er mwyn galluogi pob un ohonom i elwa ar y newidiadau mewn ffordd gynaliadwy.'
Mae maint y newid sydd wedi digwydd bron dros nos yn rhyfeddol, ond rwyf yn wir yn credu bod gan y cynllun hwn y gallu sylfaenol i helpu'r adferiad o COVID-19. Rwy'n hyderus y gall helpu gyda'r adferiad oherwydd bod galluogi cymdeithas iach a gweithgar yn flaenoriaeth annatod drwyddo draw. Mae'n hyrwyddo'n gryf adeiladu lleoedd newydd o amgylch seilwaith teithio llesol. Mae ganddo'r uchelgais a'r polisïau i ddarparu seilwaith digidol o'r radd flaenaf ym mhob cwr o Gymru. Mae'n cynnwys polisïau a oedd, hyd yn oed cyn i COVID ddod i'r amlwg, yn ceisio arallgyfeirio ac adfywio canol trefi a strydoedd mawr lleol. Mae'n dweud y dylai gwasanaethau cyhoeddus newydd fel ysgolion, colegau ac ysbytai fod ar gael yng nghanol trefi, nid y tu allan i'r dref, lle mae angen car arnoch i'w cyrraedd. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd cynnal a datblygu ecosystemau naturiol.
Prif gryfder y cynllun hwn a'r newidiadau yr ydym ni'n eu cynnig iddo yw blaenoriaethau mawr y Llywodraeth hon, ac mae'r newidiadau allweddol sy'n ein hwynebu ni i gyd wedi'u cynnwys yn y strategaeth a'r polisïau. Mae materion fel iechyd, datgarboneiddio, newid hinsawdd, y Gymraeg, a chymdeithas deg a ffyniannus wedi'u gwau drwy bob rhan o'r ddogfen. Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn gynllun pwysig, ac mae'n uchelgeisiol ynglŷn â'r newid y gallwn ni ei gyflawni yng Nghymru. Bydd y newidiadau a osodwyd drwy'r Senedd yn ei gryfhau. Gobeithio y gall y ddadl hon dynnu sylw at bwysigrwydd y cynllun ac adeiladu cefnogaeth iddo ar draws pob rhan o'r Siambr. Diolch, Llywydd.
Diolch, Gweinidog. Mae'r Llywydd wedi dewis dau welliant i'r cynnig. Os cytunir ar welliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 1 yn ei henw.
Gwelliant 1—Caroline Jones
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu y dylai'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf osod sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn annog datgarboneiddio ac yn hyrwyddo llesiant;
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi dewis rhoi gormod o bwyslais ar wynt ar y tir.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i ganolbwyntio ar gynhyrchu ynni niwtral o ran carbon o gymysgedd o ynni gwynt ar y môr ac ynni'r llanw.
Diolch, Llywydd dros dro. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i.
Dylai'r fframwaith datblygu cenedlaethol fod yn gyfle inni fynd i'r afael ag un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl—newid hinsawdd. Mae effeithiau hinsawdd sy'n newid wedi'u teimlo'n eithaf dramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod coronafeirws, o bosibl, yn dominyddu penawdau 2020, mae effaith newid hinsawdd wedi bod yr un mor ddramatig. Dinistriodd tanau gwyllt rannau helaeth o Awstralia a Gogledd America. Mae'r Caribî a de'r Unol Daleithiau wedi wynebu un o'r tymhorau corwyntoedd gwaethaf erioed; am y tro cyntaf, trawodd dau gorwynt ar yr un pryd. Yn ne-ddwyrain Asia, gwelodd tymor y trowyntoedd uwch-drowyntoedd un ar ôl y llall, gan ddod â dinistr a cholli bywyd. Yn nes at adref, cafodd y DU ei chwipio gan stormydd, gan arwain at lifogydd eang mewn sawl rhan o Gymru.
Nid yw'n bosibl gwadu'r dystiolaeth bod gweithgarwch dynol wedi achosi niwed parhaol i'n hinsawdd. Ni allwn wadu bod ein gweithredoedd wedi arwain at dymheredd cynyddol byd-eang, sydd wedi cael effaith ddramatig ar ein systemau tywydd. Mae blynyddoedd o ddiffyg gweithredu, allyriadau carbon deuocsid parhaus a gwadu'n llwyr wedi golygu ei bod yn rhy hwyr i atal tymheredd cynyddol byd-eang. Ac oni bai ein bod ni'n gweithredu nawr, bydd pethau'n mynd yn llawer, llawer gwaeth. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag allyriadau carbon nawr, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod ein seilwaith cynhyrchu ynni a thrafnidiaeth o leiaf yn niwtral o ran carbon
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn, ac felly cawn ddatganiad o argyfwng hinsawdd. Yn anffodus, nid oes gweithredu brys wedi dilyn. Dylai'r fframwaith datblygu cenedlaethol fod wedi bod yn lasbrint ar gyfer cynyddu datblygiad mewn ffordd gynaliadwy sydd nid yn unig o fudd i bobl Cymru, ond sydd hefyd yn mynd i'r afael â bygythiad newid hinsawdd. Ac unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gormod o ffocws ar wynt ar y tir. Nid ffermydd gwynt mawr ar y tir yw'r ateb; byddai'n rhaid inni lenwi pob bryn sydd ar gael gyda thyrbinau, a hyd yn oed wedyn ni fyddem ni'n mynd i'r afael ag anghenion ynni Cymru—nid y byddai unrhyw un yn derbyn effaith yr holl dyrbinau hyn. Byddwn i wedi meddwl y byddai Llywodraeth Cymru wedi dysgu oddi wrth y gwrthwynebiad i nodyn cyngor technegol 8. Mae'n amlwg nad ydynt yn ymwybodol o effaith ffermydd gwynt ar y tir, gan eu bod wedi'u gwahardd o'n parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Ond nid yw hynny'n fawr o gysur i fy rhanbarth i sydd, unwaith eto, wedi'i nodi ar gyfer fferm wynt. Unwaith eto, mae Gweinidogion Cymru wedi dewis yr opsiwn hawdd, gan ddynodi datblygiadau a ganiateir ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir fel y gallan nhw siarad yn wag ynghylch mynd i'r afael â newid hinsawdd. Ni all gwynt ar y tir ddisodli cynhyrchu tanwydd ffosil yng Nghymru. Os ydyn nhw o ddifrif, datgarboneiddio fyddai prif nod y fframwaith hwn a byddai'n canolbwyntio'n gryf ar gynhyrchu ynni gwynt a llanw ar y môr. Gallai môr-lynnoedd llanw ddiwallu anghenion ynni Cymru yn y dyfodol a gallai morglawdd llanw ddiwallu anghenion ynni'r DU. Dyma'r math o ddatblygiad y dylem ni fod yn ei geisio. A byddai, byddai'n ddrud o ran cost ymlaen llaw ond byddai gymaint yn rhatach yn y tymor hir.
Rydym ni ar bwynt tyngedfennol—oni bai ein bod ni'n gwneud penderfyniadau anodd nawr, rydym yn condemnio cenedlaethau'r dyfodol i fyw gydag ymosodiadau trychinebau naturiol a newyn. Dylai pob penderfyniad datblygu a wneir ganolbwyntio ar sicrhau ein bod yn atal difrod pellach i'n planed. Anogaf Lywodraeth Cymru i ailfeddwl ei fframwaith datblygu i roi ystyriaeth i hyn, ac os cytunwch chi â mi, cefnogwch fy ngwelliant i. Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 2, wedi'i gyflwyno yn enw Darren Millar.
Diolch, Llywydd dros dro. Nawr, rwy'n barod i godi rhai pryderon ynghylch y fframwaith datblygu cenedlaethol. I ddechrau, mae'r dull rhanbarthol ei hun yn ddiffygiol, yn enwedig gan edrych ar y gogledd a'r canolbarth. Er mai £15,000 yw'r gwerth y pen ychwanegol gros yn Ynys Môn a £21,308 yng Ngwynedd, y prif ffocws i'r rhanbarth yw Sir y Fflint a Wrecsam, gyda gwerth ychwanegol gros uwch i'r ddau. Onid yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y dylai polisi 17 neu bolisi 20 yn yr amserlen newidiadau gael ei ddiwygio fel y byddai modd rhannu holl fanteision y gogledd, ac, fel y cyfryw, y byddai modd rhannu'r prif ffocws rhwng Wrecsam, Glannau Dyfrdwy ac ardal Caernarfon, Bangor ac afon Menai?
Er ei fod yn nodi nod polisi 25 yn yr amserlen newidiadau, sef cefnogi twf a datblygiad cynaliadwy mewn cyfres o drefi rhyng-gysylltiedig ledled y canolbarth, beth am gyflwyno polisi sy'n rhoi Aberystwyth ar yr un lefel â Wrecsam ac Abertawe fel prif ffocws ar gyfer buddsoddiad? Gallai hyn helpu i gynyddu buddsoddiad ar hyd arfordir y gorllewin a thrwy'r canolbarth, a rhoi cyfle cyfartal i bob dinesydd.
Nawr, mae'n rhaid clywed llais ein trigolion yn y cynllun hwn. Mae Polisi 21 yn nodi y bydd cymunedau fel Llandudno, Bae Colwyn a Phrestatyn yn ffocws ar gyfer tai a thwf a reolir. Felly, pa sicrwydd, Gweinidog, y gallwch chi ei roi i breswylwyr sy'n poeni na fydd polisïau fel 21 a 29 yn tanseilio eu hymdrechion i achub ein meysydd gwyrdd? Yn wir, rwy'n credu mai dim ond dau gyfeiriad sydd at safleoedd tir llwyd a datblygiadau yn yr FfDC cyfan. Siawns na fyddai'n gam cadarnhaol i lunio polisi sy'n rhoi blaenoriaeth i ddatblygiadau mewn meysydd o'r fath.
Mae'r FfDC hefyd yn methu ein cymunedau gwledig. Mae'r llinell hon ym mholisi 4 yn dweud y cyfan:
'Y ffordd orau o gynllunio dyfodol ardaloedd gwledig yw ar lefel ranbarthol a lleol.'
Gallech wneud yn well na hyn. Beth am gyflwyno polisïau sy'n hyrwyddo diogelu ysgolion a chyfleusterau gwledig, gwella mynediad a ffyrdd B, a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr cyfathrebu digidol i sicrhau bod modd mynd i'r afael ag anghenion ardaloedd gwledig, a defnyddio'r 600 o afonydd a mwy sy'n llifo ledled Cymru drwy annog buddsoddi mewn cynlluniau dŵr micro a chynlluniau dŵr ar raddfa fach? Rydych chi'n honni bod yr FfDC yn darparu sylfaen gadarn i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Byddai unrhyw ymgyrch ynni gwyrdd yn cael ei llesteirio gan y grid. Mae RenewableUK wedi dweud nad yw rhwydweithiau yng Nghymru yn gadarn. Mae Ynni Môr Cymru wedi galw am fynd i'r afael â materion gallu'r grid, gydag uwchraddio seilwaith hanfodol i ddarparu ar gyfer potensial 50GW. Ac mae hyd yn oed Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi nodi'r angen o ran seilwaith newydd i gyflawni targedau datgarboneiddio.
Yn ôl polisi 17, byddwch chi'n gweithio gyda rhanddeiliaid i drosglwyddo i rwydwaith grid aml-fector a lleihau'r rhwystrau i weithredu seilwaith grid newydd. Felly, hoffwn i gael rhagor o fanylion ynghylch hyn, targed ar gyfer pryd y dylid gwella'r seilwaith, a sicrwydd, pe bai seilwaith grid newydd yn cael ei adeiladu ledled y canolbarth, y bydd cyllid ar gael i roi hyn o dan y ddaear. Er enghraifft, rhaid diogelu harddwch Cymru wledig ac, os oes angen, drwy ehangu neu greu parciau cenedlaethol neu AHNE. Os na chaiff camau eu cymryd ar gapasiti'r grid, sut y gallwch chi fod yn siŵr y bydd modd cysylltu ffermydd gwynt newydd yn ardaloedd y canolbarth sydd wedi eu cyn-asesu ar gyfer ynni gwynt? Honnir bod polisi 17 yn cydnabod cyfoeth technolegau ynni adnewyddadwy presennol a'r rhai sy'n datblygu, felly pam mae rhagdybiaeth o blaid datblygu ynni gwynt ar raddfa fawr? Pam ddim pob ffynhonnell ynni adnewyddadwy? A wnewch chi newid y FfDC er mwyn iddo ymwneud â Chymru gyfan, gan roi sylw i'r môr ac ynni morol hefyd?
Yn olaf, mae angen ymrwymiad cryfach ar Gymru hefyd o ran trafnidiaeth. Mae Polisi 36 yn nodi bod Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn cynghori ar ymdrin â thagfeydd ar yr M4. Dylech chi fynd ati i ddarparu ffordd liniaru. Nid oes gan yr FfDC hwn uchelgais ar gyfer Cymru gyfan, ac, oherwydd hynny, rwy'n eich annog chi i gyd i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch.
Dwi'n anghytuno gyda'r hyn ddywedodd y Gweinidog yn gynharach, oherwydd y prif neges gen i i'r Llywodraeth ar y fframwaith datblygu cenedlaethol yw bod amgylchiadau nawr yn mynnu, yn fy marn i, fod y Llywodraeth yn cymryd cam yn ôl ac yn ailedrych ar y fframwaith yng ngoleuni, wrth gwrs, y pandemig. Oherwydd rŷm ni wedi cyrraedd y pwynt yma, ac mae wedi cymryd amser maith i gyrraedd y pwynt yma—dwi'n gwerthfawrogi hynny—ond mae hynny wedi digwydd heb fawr ddim ystyriaeth o effaith hirdymor y pandemig ar ein bywydau ni. Ac, yn wir, rydym ni'n dal i ddysgu ac yn dal i sylweddoli rhai o'r impacts yna, ac, yn wir, mi fydd yna eraill dros y misoedd nesaf, mae'n debyg, nad ydym ni wedi eu rhagweld ac, felly, mae angen i hynny gael ei bwyso yn llawn.
Rydym ni'n gwybod bydd mwy o bobl yn gweithio o adref a bydd hynny'n golygu y bydd yna lai o bobl yn teithio i'r gwaith, ac mi fydd yna oblygiadau mwy pellgyrhaeddol i rai sectorau na'i gilydd yn hynny o beth. Mae isadeiledd digidol a band eang yn mynd i fod yn llawer mwy allweddol yn y dyfodol. Mae datblygiadau dwysedd uchel—high-density developments—wrth gwrs, yn mynd i gael eu gweld nawr fel rhywbeth sy'n cyflymu pandemics ac, felly, yn llai atyniadol ac, yn sicr, yn llai dymunol o fewn polisi cynllunio. Mae ansawdd tai yn fwy allweddol nag erioed, wrth gwrs, o safbwynt iechyd. Mae pwysigrwydd mynediad i lecynnau gwyrdd, parciau cyhoeddus a gerddi preifat hefyd yn fwyfwy pwysig. A gyda llai o draffig, wrth gwrs, mi fydd yna fwy o bwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ond mae yna heriau newydd yn hynny o beth hefyd i geisio adennill hyder y cyhoedd pan mae'n dod i reoli heintiau. Mae gan hyn i gyd oblygiadau o ran y fframwaith datblygu cenedlaethol.
Ac mae yna oblygiadau hefyd o ran cyfiawnder cymdeithasol, wrth gwrs, oherwydd petai'r Llywodraeth yn mabwysiadu agwedd laissez-faire mi fyddai fe, dwi'n meddwl yn dwysáu problemau o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol. Oherwydd pobl â'r modd, pobl â'r cyfoeth, sy'n gallu, efallai, dewis gweithio gartref fel opsiwn haws, fydd yn gweld, wedyn, ardaloedd gwledig yn fwy atyniadol na bywyd trefol. Mi fydd hynny'n cael effaith ar y boblogaeth yn symud yng Nghymru a thu hwnt, ac felly mae yna oblygiadau, fel rydym ni wedi trafod yn ddiweddar yn y Senedd, ynglŷn â phobl yn cael eu prisio allan o'u cymunedau. Ac mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn sôn am bwysigrwydd cymunedau oed cymysg mewn ardaloedd gwledig. Wel, mae hynny yn ei hunan, felly, yn golygu bydd yn rhaid inni ailedrych ar rai agweddau.
Dwi wedi clywed y Gweinidog yn dweud ein bod ni wedi symud o dri rhanbarth i bedwar, ac mae hynny yn well, ond, wrth gwrs, dyw'r ddogfen ddim yn cydnabod rhanbarth Arfon, y mae Plaid Cymru yn ei arddel, wrth gwrs, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd, gyda llaw, wedi ei gefnogi gyda chyllideb i gychwyn y gwaith o ddatblygu'r cysyniad a'r endid yna. Dwi'n meddwl ei fod e'n gamgymeriad i hepgor hwnnw yn y cynllun fel ardal, wrth gwrs, sydd â'i heriau a'i chyfleoedd unigryw, penodol ei hun ar hyd y cyrion gorllewinol, a byddwn i'n dymuno gweld hynny yn cael ei gywiro yn y fframwaith terfynol.
O ran rhanbarth y gogledd—ac mi wnaf i fod ychydig yn blwyfol fan hyn—dwi'n teimlo fod yna anghydbwysedd ar draws y gogledd. Mae'n berffaith iawn, wrth gwrs, fod yna ffocws ardal twf yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Does gyda fi ddim problem gyda hynny. Ond mae gweddill y gogledd, draw i Fangor, Caernarfon a Chaergybi, yn cael ei ddynodi â rhyw rôl is-ranbarthol i ategu'r ardal twf yn y gogledd-ddwyrain. Dwi ddim yn siwr pa mor ymarferol yw hynny. Oni ddylem ni fod yn rhoi ffocws ar dwf y gogledd-orllewin ei hun, yn hytrach na'i fod yn is-ranbarth i'r dwyrain? Ac, wrth gwrs, mae cyfeiriad at Wylfa yn y ddogfen. Wel, mae'r elfen yna wedi newid yn sylweddol nawr, wrth gwrs, gyda'r ansicrwydd ynglŷn â'r datblygiad yn fanna, ac felly, yn amlwg, mae hwnnw'n rhywbeth y byddai'n rhaid i'r Llywodraeth ymateb iddo fe. Dwi'n gwybod bydd rhai pobl yn awyddus i sicrhau bod Wylfa yn dal i ddigwydd, ond mae'n rhaid, dwi'n meddwl, i'r cynllun yma nawr adlewyrchu'r posibilrwydd bod yn rhaid edrych ar ddatblygiadau amgen hefyd, er mwyn sicrhau nad ydym ni jest yn aros ac yn aros am rywbeth, efallai, na fydd byth yn digwydd.
Ar ynni yn ehangach, wrth gwrs, dwi yn falch bod technoleg ynni gwynt a solar yn cael eu gwahanu, ond dwi'n dal yn poeni ynglŷn â'r approach gofodol yma sydd wedi cael ei bennu, a hynny, fel dwi wedi ei godi o'r blaen, ar sail amheus, dwi'n meddwl, sy'n golygu bydd llai na 5 y cant o'r ardaloedd sydd wedi cael eu hasesu rhagblaen—y pre-assessed areas yma—dim ond tua 5 y cant ohonyn nhw y bydd modd datblygu arnyn nhw mewn gwirionedd.
Mae'n dal gen i gwestiynau, ond dim amser, wrth gwrs, i fynd ar ôl pethau megis y weledigaeth ehangach i ardaloedd gwledig, a'r iaith Gymraeg yn y cynllun tai fforddiadwy. Fyddwn i ddim yn meindio sôn mwy am hynny. Dwi'n croesawu ac yn diolch i'r Llywodraeth am y cyfle i gael y ddadl yma. Dwi'n siomi braidd bod e'n digwydd mor fuan ar ôl gosod y fframwaith datblygu ar ei newydd wedd, oherwydd mae'n ddogfen sylweddol ac mae gorfod ei drafod e mewn dadl ddyddiau ar ôl iddo fe gael ei osod, efallai, dwi'n meddwl, braidd yn annheg. Ond dwi yn falch bod y pwyllgor newid hinsawdd yn mynd i fod yn craffu yn fanylach ac y bydd modd, gobeithio, ar gefn adroddiad y pwyllgor hwnnw, i ni gael dadl bellach fan hyn yn y Senedd er mwyn gwyntyllu rhai o'r materion mwy manwl dwi am weld y Llywodraeth yn eu cywiro ac yn eu newid cyn y medraf i gefnogi'r fframwaith datblygu cenedlaethol yma.
Yn gyffredinol, rwy'n croesawu cynigion y fframwaith datblygu cenedlaethol. Mae'r newidiadau arfaethedig yn gwella'r drafft yn fawr. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 47 o 50 o gasgliadau'r pwyllgor, er ei bod unwaith eto'n siomedig mai dim ond mewn egwyddor yr oedd 22 ohonyn nhw wedi'u derbyn. Ac fel y dywedodd Llyr Gruffydd, byddwn i'n dod yn ôl gydag awgrymiadau eraill, byddwn i'n tybio, yn nes ymlaen ar ôl i ni gael cyfle arall i edrych arno.
Mae newidiadau sylweddol sy'n gyson â chasgliad y pwyllgor yn cynnwys: cysylltiadau cliriach â dogfennau eraill Llywodraeth Cymru, megis 'Cymru Carbon Isel', y strategaeth drafnidiaeth, a'r 'Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru'; rhoi mwy o fanylion o ran sut y caiff yr FfDC ei fonitro a'i adolygu; cryfhau'r FfDC o ran ymateb i newid hinsawdd, er enghraifft, drwy gynnwys polisi newydd ar reoli perygl llifogydd; a mwy o bwyslais ar y dull o ymdrin â datblygiadau ynni adnewyddadwy sy'n seiliedig ar feini prawf.
Mae'r model pedwar rhanbarth yn welliant enfawr ar y tri rhanbarth, a oedd yn cynnwys canolbarth a gorllewin enfawr, a oedd yn cynnwys lleoedd nad oes ganddyn nhw ddim yn gyffredin o gwbl. Mae rhanbarth bae Abertawe erbyn hyn yn rhanbarth fframwaith datblygu cenedlaethol ac mae hynny o fudd mawr i'r ardal ac i'w datblygiad economaidd yn y dyfodol. Ac rwy'n siŵr hefyd fod y rhai ym Mhowys a Cheredigion, lle mae ganddyn nhw fargen twf canolbarth Cymru, hefyd yn falch o'r newid i greu rhanbarth canolbarth Cymru yn hytrach na chael eu hychwanegu at Abertawe allanol.
Mae polisi rhanbarthol yn bwysig yng Nghymru ac mae angen i ni ddatblygu Cymru gyfan, nid dim ond un rhan fach ohoni. fy marn i yw ei bod yn bwysig i ni ddatblygu polisi rhanbarthol cydlynol. Mae angen i ni sicrhau bod gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn aros o fewn y fframwaith rhanbarthol. Rwy'n tybio, nawr bod gennym ni'r pedwar rhanbarth hyn, a allwn ni ddechrau meddwl o ran y rhanbarthau hyn yn hytrach na bod gan bob Gweinidog eu strwythur bach eu hunain?
Mae gan y cynllun dri maes twf cenedlaethol, tair ardal twf ranbarthol, a phedwar rhanbarth gyda'u cynlluniau datblygu strategol eu hunain. Rwy'n credu y gall hynny weithio. Bydd datblygu bae Abertawe yn cael ei ysgogi, yn rhannol o leiaf, gan y prifysgolion, ac rwy'n gofyn unwaith eto am y strategaeth economaidd, gwn i nad yw'n rhan o hyn, i hyrwyddo cyflogaeth sgiliau uchel a gwerth uchel yn seiliedig ar yr ymchwil sy'n digwydd yn y prifysgolion a'r graddedigion sy'n dod allan ohoni.
Yn hanesyddol, mae dinasoedd wedi ysgogi twf o fewn rhanbarthau, ond a fydd hynny'n wir am yr economi ôl-COVID, lle bydd mwy o bobl yn gweithio gartref? Rydym ni'n gwybod bod gennym ni ddau fath o bentrefi: y pentrefi cymudo a phentrefi'r economi wledig. Saith mlynedd yn ôl, cafodd astudiaeth ei chynnal ar Rosili, pentref gwledig ar benrhyn Gŵyr, ac yr wyf i'n sicr bod y Gweinidog yn gwybod hynny'n dda. Er bod modd credu mai twristiaeth ac amaethyddiaeth fyddai'r prif gyflogwyr yn y maes hwn, y canfyddiad oedd bod dros draean o'r boblogaeth sy'n gweithio yn y pentref hwnnw yn gweithio ym maes addysg, yn bennaf yn y prifysgolion.
O ran tai o fewn y cynllun, mae gan bob rhanbarth ei ddyraniad ei hun ar gyfer tai newydd erbyn 2039. Mae angen adolygu'r rhifau hyn yn gyson. Hefyd, mae angen adolygu'r dosbarthiad ym mhob rhanbarth, yn ogystal â rhwng rhanbarthau, hefyd, oherwydd os yw pobl yn mynd i weithio mwy o'u cartrefi, bydd yr angen i bobl deithio i ddinasoedd a byw ar gyrion dinasoedd yn lleihau. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd 48 y cant o gartrefi newydd ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd cyntaf, yn dai fforddiadwy. Fodd bynnag, byddai'n well gennyf i pe byddai'r term 'fforddiadwy' yn cael ei ddisodli gan dai 'cyngor' neu 'dai landlord cymdeithasol cofrestredig'.
Rwy'n croesawu'r polisi adnoddau naturiol sy'n nodi'r blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd allweddol i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan gynnwys ymdrin â'r argyfwng newid hinsawdd a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth. Os oes modd gwneud y ddau beth hynny, byddai hyn yn llwyddiant, oherwydd mae gennyf i bryderon difrifol o ran dirywiad bioamrywiaeth ac mae gennyf i bryderon difrifol iawn ynghylch effaith newid hinsawdd a'r effaith ar y tywydd. Bydd unrhyw un sydd dros 50 oed wedi sylwi sut mae'r glaw yn dod yn llawer llai aml ond yn llawer cryfach nag y bu erioed o'r blaen. Mae'n nodi polisïau penodol sy'n: diogelu meysydd at ddibenion gwella cadernid rhwydweithiau ecolegol ac ecosystemau, nodi meysydd ar gyfer darparu seilwaith gwyrdd a sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth; sicrhau dewisiadau lleoliad a dylunio cadarn drwy hyrwyddo strategaeth twf cynaliadwy yn ogystal â sicrhau bod ystyried adnoddau naturiol ac iechyd a lles yn rhan o ddewis safleoedd a dylunio; ac yn ystyried datgarboneiddio'r economi.
Yn olaf, rwy'n edrych ymlaen at weld y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ystyried hyn yn fanylach. Rwy'n credu bod hon yn ddogfen dda iawn. Ein her ni yw ei gwneud hi'n ddogfen well a gwneud iddi weithio dros bobl Cymru.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad hwn heddiw. Mae'r gwaith sy'n gysylltiedig â datblygu'r fframwaith hwn yn amlwg—[Anghlywadwy.] Mae'n ddrwg gen i, mae rhywbeth yn y cefndir.
Mae'r gwaith sy'n gysylltiedig â datblygu'r fframwaith hwn yn amlwg, ac rwy'n llongyfarch eich staff am gyflwyno hyn mewn cyfnod mor heriol. Mae'r fframwaith yn ddogfen eang a chynhwysfawr ac mae'n gwneud synnwyr bod datblygu a chynllunio yn rhaeadru o'r Llywodraeth i ranbarthau ac yn olaf i ganolbwyntio'n fwy lleol ar lefel awdurdod. Er hynny, rwyf i yn cael ymdeimlad rhyfedd o déjà vu yma: ymgynghoriad hir arall, cyfrol faith arall o eiriau cynnes am genedlaethau'r dyfodol, y cartrefi sydd eu hangen ar Gymru, ecosystemau a'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Wedi'i gynnwys hefyd, fel arfer, mae cynaliadwyedd, teithio llesol, canol trefi yn gyntaf, ac yn y blaen. Mae'r holl ymadroddion hyn wedi'u gorddefnyddio yn fawr iawn ac yn ymddangos ar ryw ffurf neu'i gilydd mewn llawer o ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru. Er hynny, mae yn gwneud synnwyr perffaith i rannu'r wlad yn rhanbarthau ac i gynllunio ddigwydd ar y sail hon.
Ni welais erioed bwynt—ac mae hyn yn wir o hyd—mewn adeiladu canolfan gynadledda ryngwladol yng Nghasnewydd ac erbyn hyn rwy'n credu bod un arall wedi'i chynllunio ar gyfer canol Caerdydd, gyda'r holl broblemau teithio y gallai hynny ei olygu, pan fyddai'r gogledd ac o bosibl Wrecsam yn elwa'n fawr ar leoliad o'r fath. Ac er fy mod i'n cymeradwyo llawer o'r teimladau sy'n sail i'r dull hwn, pam bydd y dull hwn yn gweithio pan na wnaeth pob awdurdod lleol ddefnyddio'r broses cynllunio datblygu lleol mewn modd amserol neu ystyrlon? A gadewch i ni edrych ar y lefel leol: er gwaethaf addewid maniffesto Llafur yn 2016, i—ac rwy'n dyfynnu—
'ceisio creu awdurdodau lleol cryfach, mwy', nid ydych wedi gwneud dim o'r fath er gwaethaf ymgynghoriadau a chomisiynau ac mae brwydr rhwng y 22 o hyd i gael yr elw, sy'n mynd yn groes i ranbartholi braidd. Felly, sut bydd hynny'n gweithio?
Mae'r ddogfen yn trafod sawl maes, ac oherwydd cyfyngiadau amser byddaf yn cyfyngu fy sylwadau i rai meysydd yn unig. Tai: mae'n ymddangos i mi fod gan y sector cyhoeddus lawer o fuddion yn y maes hwn. Mae ganddo dir, safleoedd tir llwyd, adeiladau segur—hyd yn oed yn fwy felly erbyn hyn pan fo gweithwyr y sector cyhoeddus yn aros gartref—ac mae eich staff eich hun yn gweinyddu'r grant tai cymdeithasol a gall y sector cyhoeddus yng Nghymru alw ar gynlluniau ariannol arloesol. Felly, heb eisiau ailadrodd fy sylwadau gair am air o'r ddadl yr wythnos diwethaf ynghylch ail gartrefi, pam mae angen fframwaith datblygu arnoch chi i roi caniatâd i bawb wneud yr hyn y gallan nhw ei wneud eisoes?
Mae Cymru yn wlad fach a hardd iawn, ac er fy mod i'n gweld gwerth mewn ystyried cynlluniau ynni a gwresogi cynaliadwy ledled y wlad, rwy'n siomedig unwaith eto o weld bod ffermydd gwynt yn parhau i gael eu cynnwys. Mae'r rhain, yn syml iawn, yn bla ar y dirwedd a'r morwedd ac nid oes neb byth i'w gweld yn ystyried y costau datgomisiynu enfawr o ran arian a charbon. Yn ogystal â'r ffaith na fyddwch chi'n cael fferm wynt yn fy nghwm i, gan ein bod ni eisoes wedi'u hel i ffwrdd. Mae gennym ni safle yn y gogledd sy'n iawn ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd, lân ac mae llawer o'r gwaith trefnu eisoes wedi'i wneud ar gyfer cynlluniau ynni'r llanw, felly pa fathau eraill o gynhyrchu ynni wnaethoch chi eu hystyried ac yna eu diystyru, a beth oedd ymateb y rhai hynny sy'n byw yn lleol i'r meysydd blaenoriaeth hyn?
Rwy'n gweld unwaith eto yn nogfen Llywodraeth Cymru, nodweddion 'canol y dref yn gyntaf'. A wnewch chi ymrwymo yn y fan a'r lle i sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru yn dechrau gweithredu hyn mewn gwirionedd? Mae adeiladau blaenllaw Llywodraeth Cymru ei hun yn y gogledd, Merthyr ac Aberystwyth ymhell o fod wedi'u lleoli'n ddigon agos i ganol trefi i wneud unrhyw fath o wahaniaeth gwirioneddol i ganol trefi, yn enwedig yn awr. Ac nid yw ysbyty mwyaf newydd Cymru ger Cwmbrân, er ei fod yn edrych yn hollol wych, yn arbennig o hygyrch, yn enwedig i ymwelwyr, ac nid yw unman ger canol tref na dosbarth a fydd yn elwa ar ei agor. Felly, fy nghwestiwn olaf i chi, Gweinidog, yw: a fydd y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn arwain drwy esiampl yma, neu a fydd hyn yn fater arall o ofyn i bobl wneud yr hyn y mae hi'n gofyn nid yr hyn y mae hi'n ei wneud? Diolch.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwyf wedi mwynhau darllen y fersiwn ddiweddaraf hon, a fydd yn arwain, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, at 'Dyfodol Cymru: cynllun cenedlaethol 2040'. Fel y dywedodd Mike Hedges, y mae ei bwyllgor ef a phwyllgor arall wedi bod yn dilyn hyn yn fanwl—fel yr wyf i o'r meinciau cefn—mae'n gam gwirioneddol ymlaen. Mae wedi datblygu llawer o'r themâu a nodwyd yn gynharach ac mae wedi eu hymgorffori yn yr hyn sydd, yn fy marn i, yn gynllun llawer mwy darllenadwy. Ond fy nheimlad pennaf yw, yn y pen draw, nad dim ond yn y manylion y mae'r ergyd, ond mewn gweithredu hyn hefyd, oherwydd fy mod i'n credu bod gennych chi'r holl bethau iawn yma a'i fod yn dwyn ynghyd wahanol bolisïau Cymru.
Felly, gadewch i mi sôn yn gyntaf am yr hyn yr wyf i'n sicr yn ei groesawu. Rwy'n sicr yn croesawu'r ffaith bod hyn yn cyd-fynd—i godi pwynt Llyr yn gynharach—bod hyn yn cyd-fynd â'r darn o waith y mae Jeremy Miles yn ei wneud ac yn cael ei lywio gan y gwaith hwnnw, sy'n ail-adeiladu yr adferiad economaidd gwyrdd hwnnw ar ôl COVID. Rwy'n credu, Llyr, bod angen pendant i hyn lywio'r darn hwn o waith, i'w wneud yn ddarn byw, yn ddogfen fyw wrth symud ymlaen, ac rwyf i'n credu mai dyna bwrpas yr adolygiad pum mlynedd hefyd. Ni ddylai hyn fod yn fater o'i gyflwyno a'i adael i fod tan 2040. Mae angen hysbysu ac adolygu hyn yn rheolaidd.
Rwy'n croesawu—er gwaethaf amheuaeth pobl eraill—y ffaith bod hyn wedi ei ddylanwadu drwyddi draw ac wedi ei ategu gan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae hynny'n wahaniaeth hollbwysig rhwng yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru a lleoedd eraill, ond unwaith eto, yn y manylion a'r gweithredu y mae'r ergyd. Mae'r ffaith bod hyn yn cael ei gyd-gynhyrchu, mae'r ffaith bod hyn wedi ei seilio ar bileri gofalu am y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol, ill dau yn bwyslais o fewn cenedlaethau ac ar draws cenedlaethau, i'w groesawu'n fawr iawn. Mae'n ffordd wahanol o feddwl, ac ni fyddaf yn osgoi ailadrodd hynny, ond yr hyn y mae angen i ni ei weld yn awr yw bod hynny yn gwneud yn dda trwy'r gwahanol bolisïau sy'n deillio o hyn. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith bod yr arfarniadau cynaliadwyedd integredig yn rhan annatod o'r dull gweithredu drwy gydol y ddogfen hon, ac rwyf i'n croesawu'n fawr iawn ac yn nodi yr hyn y dywedodd y Gweinidog yma: mae'n gweiddi oherwydd y ffordd y mae'r newidiadau wedi eu gwneud yn hyn ers y fersiwn ddiwethaf, y cyd-gynhyrchu, yr ymgysylltu â phobl—nid pwyllgorau yn y fan yma yn unig, ond y cyhoedd ehangach yng Nghymru—lle mae'n sgrechian yn fersiwn ddiweddaraf mis Medi 2020 sydd gennym o'n blaenau erbyn hyn.
Rwyf i yn sicr, sicr yn cymeradwyo'r pwyslais ar greu lleoedd strategol, gan fod hyn yn hollbwysig: y syniad o gael lleoedd lle gellir cerdded a byw gyda defnyddiau cymysg, gyda seilwaith gwyrdd yn rhan annatod o'r ffordd yr ydych yn datblygu'r gwaith o greu lleoedd, yn lleol ac o fewn tref ac o fewn stryd, hyd yn oed, a'r syniad bod gennych chi hefyd ddatblygiadau lleiniau wedi eu neilltuo ar gyfer pobl o fewn y gwaith creu lleoedd hwnnw; nad yw ar gyfer y gwneuthurwyr lleoedd mawr, y cwmnïau a'r datblygwyr mawr yn unig, gall eraill ddod i mewn a hunan-ddatblygu eu lleiniau eu hunain o fewn ardaloedd ar gyfer adeiladu tai ac yn y blaen.
Rwyf i, er gwaethaf naws amheus pobl eraill, yn croesawu'r pwyslais sydd ar bolisi 'canol y dref yn gyntaf'. Ers gormod o amser, a dweud y gwir, rydym ni wedi byw yn y cyd-destun rhyfedd hwn lle rydym ni'n hyrwyddo datblygiadau y tu allan i'r dref doed a ddêl, ac rydym ni wedi gweld ein trefi yn crebachu. Nawr, roeddem ni eisoes yn wynebu'r frwydr cyn i COVID gyrraedd, felly rwy'n ei groesawu'n fawr, ond, unwaith eto, mae'n fater o sicrhau ei bod yn parhau. Bydd yr ergyd yn y manylion a'r ymdrech i wneud y polisi 'canol tref yn gyntaf' hwn barhau yn wirioneddol. Ac yn yr holl ganol trefi—felly trefi marchnad yn y canolbarth, yn ogystal â threfi'r Cymoedd hefyd, trefi stribed yn y Cymoedd sy'n rhedeg ar hyd un stryd, gan eu gwneud yn rhannau bywiog o'r gymuned unwaith eto, yn hytrach na'i dynnu allan.
Rwyf i'n croesawu'n fawr, mae'n rhaid i mi ddweud, y pwyslais ar atebion sy'n seiliedig ar natur i reoli llifogydd ac erydu arfordirol. Rydym ni wedi bod yn dweud hyn ers degawdau, roeddwn i'n ei ddweud pan oeddwn i mewn Llywodraeth yn Llywodraeth y DU, o ran y newid y bu'n rhaid i ni ei wneud, y newid seismig yn y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â'r materion hyn oddi wrth orddibyniaeth ar atebion adeiledig, sy'n angenrheidiol weithiau, i ddibyniaeth llawer mwy ar atebion naturiol. Nid wyf i'n siŵr, David, faint o amser sydd gen i ar ôl, ond rwy'n mynd i ddal ati—
Ugain eiliad.
O, un peth felly: a gaf i ofyn yn fawr iawn i chi, os gwelwch yn dda, ganolbwyntio ar fater capasiti'r grid? Mae'n rhy ddrud i ddatblygu capasiti presennol y grid. Nid oes gen i ffydd yn Ofgem y gallan nhw, mewn gwirionedd, ddefnyddio eu dull prisio o dan Lywodraeth y DU i greu mwy o gysylltedd grid mewn gwirionedd. Felly, a dweud y gwir, boed hynny yn wynt, PV, alltraeth, ar y tir neu unrhyw fath arall, oni bai fod y gridiau hynny wedi eu cysylltu, nid ydym yn mynd i'w wneud. Felly, dyna fy apêl i chi, Gweinidog.
Diolch. A'r siaradwr olaf cyn i'r Gweinidog ymateb, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Eisiau gwneud ambell sylw am ynni ydw i, yn benodol y rhyngweithio neu'r diffyg rhyngweithio rhwng uchelgais cynhyrchu ynni adnewyddol ar y tir ac ar y môr. Gaf i ddweud, yn gyntaf, fy mod i'n falch o weld y ddogfen ddiwygiedig yma'n troi cefn ar y syniad o ganiatáu tyrbinau gwynt enfawr ar draws Ynys Môn? Mewn gwirionedd, mi fyddai tirwedd Môn wedi'i gwneud hi'n amhosibl bron i gael caniatâd cynllunio ar gyfer y math yna o dyrbinau a oedd yn cael eu hargymell yn y drafft cyntaf. Mae Ynys Môn yn wastad ac mae yna bobl yn byw ar ei hyd o i gyd, ac nid ar dirwedd wastad yng nghanol pobl a phentrefi mae adeiladu tyrbinau 250m o uchder, sy'n uwch na Mynydd Twr yng Nghaergybi, y pwynt uchaf ar yr ynys. Felly, synnwyr cyffredin wedi'i weld yn y fan yna.
Ond fel cynrychiolydd ynys, dwi'n treulio llawer o amser yn edrych allan i'r môr ac yn ystyried potensial hwnnw, a dwi'n methu cweit deall sut y gall dogfen sydd mor bwysig â hon, y fframwaith datblygu cenedlaethol, beidio â chynnwys ynddi hi potensial ynni oddi ar y môr. Mae yna esgusodion yn cael eu gosod o ran pam bod yna ddim cyfeiriad at ynni môr, ac mai mewn difrif y cynllun morol cenedlaethol sydd yn gwneud hynny, ac mai'r tir ydy ffocws y cynllun datblygu cenedlaethol. Ond y gwir amdani yw bod y cynllun morol yn amwys iawn ynglŷn â'i uchelgais ar gyfer ynni môr. Rydyn ni'n gweld potensial enfawr oddi ar Ynys Môn yng nghynllun Morlais, Minesto a hefyd datblygiadau ynni gwynt pellach, mawr i'r gorllewin o'r datblygiadau presennol oddi ar arfordir y gogledd.
Mae'r fframwaith cenedlaethol yn benodol yn sôn, er enghraifft, am allu creu 70 y cant o'n trydan ni o ddulliau adnewyddol. Iawn, ond os mai dim ond edrych ar y tir mae'r fframwaith datblygu, beth am yr ynni ar y môr? Petasai'r ddwy ochr, eich timau tir chi a'ch timau môr chi, yn siarad efo'i gilydd, siawns y gallwn ni ddweud y byddwn ni'n gallu creu 100 y cant o'n trydan ni o ffynonellau adnewyddol, a'r môr fyddai'n cynhyrchu y rhan fwyaf o hwnnw.
Mae yna resymau penodol iawn pam fod hyn yn bwysig yn fy etholaeth i. Rydyn ni wedi clywed cyfeiriad at Wylfa a'r stop ar y cynllun hwnnw. Dwi eisiau gweld—ac mae hi'n gwneud synnwyr llwyr—datblygiadau ynni gwynt y môr newydd oddi ar arfordir gogledd Cymru, i'r gorllewin o'r rhai presennol, yn cael eu gwasanaethu o borthladd Caergybi, yn hytrach na phorthladd Mostyn, sydd wedi gwneud yn dda iawn yn gwasanaethu'r ffermydd gwynt eraill. Mae angen i'r fframwaith datblygu yma fod yn benodol iawn ynglŷn â dweud, 'Reit, mae yna ddatblygiadau gwynt y môr yn fan hyn allai wirioneddol ddod â budd i ni ar y tir mewn lle fel Ynys Môn'. Felly, siaradwch efo'ch gilydd, y ddau dîm sydd yn edrych ar y môr a'r tir. Mi allwn ni gael gwell fframwaith ar gyfer y dyfodol o wneud hynny.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Gallwch chi fy nghlywed i nawr, gobeithio. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau at y ddadl y prynhawn yma. Mae'r amrywiaeth o safbwyntiau a fynegwyd heddiw yn adlewyrchiad o ba mor eang yw'r cynllun hwn a helaethder yr heriau y bydd yn ein helpu i ymateb iddyn nhw dros yr 20 mlynedd nesaf.
Yn gyffredinol, i fynd i'r afael â'r cyfraniadau, bydd 'Dyfodol Cymru' yn ein helpu i ddatgarboneiddio a mynd i'r afael â'r argyfyngau'r newid yn ein hinsawdd a bioamrywiaeth ar y cyd. Bydd 'Dyfodol Cymru' hefyd yn codi safonau datblygu ac yn helpu i greu lleoedd. Yn ei sgil, mae hyn yn creu cymunedau iach a gweithgar a'r amodau ar gyfer economi fywiog amrywiol o fusnesau lleol. Ac yn wir, mae 'Dyfodol Cymru' yn mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol fel tai fforddiadwy ac ynni adnewyddadwy, ac yn grymuso rhanbarthau ac awdurdodau lleol i benderfynu faint o ddatblygiad sy'n briodol i'w hardal a'r lleoliadau manwl i'w datblygu.
Gan ddychwelyd at rai o'r sylwadau penodol iawn y mae Aelodau wedi eu gwneud heno, bydd datgarboneiddio ynni yn rhan allweddol o gyflawni ein nodau hinsawdd. Mae'n rhaid i ni ddatgarboneiddio mewn ffordd sy'n gwella lles yng Nghymru trwy broses drosglwyddo wedi ei rheoli ac wedi ei gefnogi gan fuddsoddiad ac arloesedd.
Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn ymwneud â datblygiadau ar y tir yn unig. Mae'r argyfwng newid yn yr hinsawdd yn galw am weithredu ar y tir ac ar y môr, ac mae 'Dyfodol Cymru' a'r cynllun morol gyda'i gilydd yn mynd i'r afael ag ynni ac yn adlewyrchu'r hierarchaeth ynni fel y'i nodir yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Mae'r ddau gynllun yn cydnabod bod nifer o gyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar draws amrywiaeth o dechnolegau, ar y tir ac ar y môr, a bydd manteisio arnyn nhw i'r eithaf i helpu'r targedau.
Mae gwerth dweud ar y pwynt hwn, rwy'n credu, Dirprwy Lywydd, fod hyn, wrth gwrs, yn rhan o gyfres o ddogfennau. Fel y gwnaeth llawer o'r Aelodau ei ddweud yn eu sylwadau, mae'n hanfodol iawn darllen hyn ar y cyd ag amrywiaeth o gynlluniau eraill. Nid cynllun sy'n addas i bawb yw hwn. Mae nifer o'r Aelodau wedi gwneud cyfraniadau am yr hyn y dylai ei gynnwys, ac nid oes gen i amser i drafod pob un ohonyn nhw, ond mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi eu cynnwys mewn chwaer ddogfennau eraill i'r ddogfen benodol hon.
Hoffwn i bwysleisio hefyd fod y fframwaith datblygu cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd trefi llai, yn enwedig yn y gogledd, gan ganiatáu i gynlluniau lleol a rhanbarthol ychwanegu'r manylion hynny. Nid wyf i'n credu bod cymunedau lleol yn dymuno i Lywodraeth ganolog gynllunio eu dyfodol. Mae'n iawn ac yn briodol mai'r ffordd orau o ymdrin â materion gwledig lleol ac unigryw yw ar lefel leol i adlewyrchu gwahanol nodweddion lleoedd ledled Cymru. Nid ydym ni'n dymuno cael trefi ac ardaloedd wedi eu clonio; rydym ni'n awyddus i'n cymunedau lleol gael dweud eu dweud ynghylch sut olwg sydd ar eu cymunedau lleol. Nid yw hyn yn ymwneud â llywodraeth ganolog yn dweud sut y dylai hynny weithio.
O ran y grid, a godwyd gan nifer o bobl, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, Ofgem, gweithredwyr rhwydwaith dosbarthu a'r Grid Cenedlaethol, sy'n gyfrifol am y grid ledled y DU, i sicrhau eu bod yn darparu system ynni sy'n galluogi'r trosglwyddo carbon isel yng Nghymru. Rwy'n cydnabod y sylwadau y mae llawer o'r Aelodau wedi eu gwneud, a dyna pam yr ydym yn gweithio gyda nhw.
O ran gohirio'r cynllun yn fwy, roedd y pethau pwysig fel newid yn yr hinsawdd yn bwysig cyn y pandemig ac, os rhywbeth, maen nhw'n bwysicach nawr. Felly, nid ydym ni'n dymuno gweld unrhyw oedi pellach yn hyn. Rydym ni yn cael y ddadl hon ar ddechrau'r cyfnod o 60 diwrnod. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i'w drafod trwy'r cyfnod hwnnw.
Soniodd llawer o'r Aelodau hefyd am gyfathrebu digidol. Felly, dim ond i dynnu sylw, mae polisi newydd sy'n cefnogi cyfathrebu digidol yn y cynllun. Mae gennym ni hefyd bolisi 'canol y dref yn gyntaf' ar gyfer y sector cyhoeddus, mewn ymateb i bwyntiau y gwnaeth nifer o gydweithwyr eraill, ac rydym yn gweithio'n benodol gyda chydweithwyr yn y cynllun morol, yn enwedig ar y rhyngwyneb ar y môr/ar y tir. Ond, nid yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn ymdrin â'r môr; mae hynny yn y cynllun morol. Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, bolisïau penodol iawn ar ardaloedd fel Caergybi a phorthladdoedd pwysig eraill.
Dirprwy Lywydd Dros Dro, nid oes gen i amser i drafod yr holl gyfraniadau unigol a wnaeth yr Aelodau, ond mae cam nesaf y cynllun hwn yn nwylo'r Senedd hon bellach. Mae ganddi 60 diwrnod, hyd at 26 Tachwedd, i nodi ei barn ar y newidiadau yr wyf i wedi eu cynnig ac ar y cynllun terfynol datblygol. Rwy'n deall bod y pwyllgor newid yn yr hinsawdd yn sicr yn bwriadu neilltuo amser i gasglu tystiolaeth a byddwn i'n hapus iawn i roi mwy o fanylion iddyn nhw am y newidiadau arfaethedig yn ystod y misoedd nesaf.
Pan fyddaf i wedi cael barn y Senedd, rwy'n bwriadu gwneud cynnydd cyflym tuag at gwblhau'r cynllun. Rwy'n synhwyro bod disgwyliad ac aros gwirioneddol ymhlith datblygwyr, awdurdodau lleol a chymunedau i'r haen uchaf hollbwysig hon o system y cynllun datblygu gael ei chwblhau a'i rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Felly, fy mwriad yw cyhoeddi 'Dyfodol Cymru: y cynllun cenedlaethol' ym mis Chwefror. Bryd hynny, byddaf i hefyd yn nodi sut yr wyf i wedi gweithredu ar farn y Senedd. Rwy'n gobeithio yn fawr y bydd y ddadl gynnar hon yn helpu'r Aelodau i fanteisio ar y cyfle i ddarllen y cynllun datblygol a'r newidiadau yr ydym wedi eu gwneud i'w gryfhau ers yr haf diwethaf. Mae cynllun 20 mlynedd yn gyfle mawr i lunio ein gwlad ac i gyflawni ein haddewidion o wlad decach, wyrddach, iachach a mwy ffyniannus. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Byddaf yn gohirio yr holl bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Bydd egwyl am bum munud yn awr cyn y cyfnod pleidleisio. Mae'r adran TG wrth law i gefnogi unrhyw Aelod y mae angen cymorth arno yn ystod y cyfnod hwnnw.