Part of the debate – Senedd Cymru am 7:08 pm ar 29 Medi 2020.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cafodd y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft a'r newidiadau yr wyf yn bwriadu eu gwneud iddo eu gosod ger bron y Senedd i ganiatáu i'r Aelodau graffu arnynt am gyfnod o 60 diwrnod. Yn unol â Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, adran 3, byddaf i'n rhoi sylw i unrhyw benderfyniad y mae'r Senedd yn ei basio ac unrhyw argymhelliad a wneir gan bwyllgorau'r Senedd yn ystod cyfnod ystyriaeth y Senedd pan fyddaf i'n cyhoeddi'r fframwaith datblygu cenedlaethol cyntaf fis Chwefror nesaf.
Pan fydd yr amser hwnnw'n cyrraedd, bydd enw newydd yn disodli'r teitl 'fframwaith datblygu cenedlaethol', sef 'Dyfodol Cymru: y cynllun cenedlaethol 2040'. Mae'r enw newydd hwn yn llawer cliriach o ran yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud. Mae'n rhoi gweledigaeth gadarnhaol iawn ar gyfer sut y bydd datblygu yn gwneud Cymru'n lle gwell erbyn 2040. Pobl ifanc o'r sefydliad Plant yng Nghymru awgrymodd yr enw newydd, ac ar gyfer y bobl ifanc hyn, cenedlaethau'r dyfodol, y bydd yn rhaid inni ddarparu gwlad decach, wyrddach, iachach a mwy cynaliadwy.
Rydym wedi trefnu'r ddadl hon yn gynnar yn y cyfnod craffu i gyflwyno'r prif newidiadau i'r Aelodau ac i helpu i adfachu rhywfaint o'r amser a gollwyd oherwydd COVID-19. Mae dau bwyllgor yn y Senedd—y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau—eisoes wedi cynnal ymchwiliadau manwl i'r cynllun drafft. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r ddau bwyllgor am eu hadroddiadau, ac rwyf wedi ysgrifennu fy ymateb at y Cadeiryddion perthnasol, gan nodi sut y mae eu sylwadau wedi llywio'r newidiadau yr ydym yn eu gwneud.
Byddaf yn siarad yn fanylach yn fuan ynghylch y newidiadau yr wyf yn eu cynnig i'r cynllun drafft, ond yn gyntaf hoffwn dynnu sylw at y daith hyd yn hyn. Mae yna broses gwneud cynlluniau cyfranogol wedi bod, a hoffwn i gofnodi fy niolchgarwch i'r miloedd o sefydliadau ac unigolion sydd wedi dod i ddigwyddiadau, wedi ysgrifennu atom ni ac wedi cyfrannu eu barn. Mae'r broses wedi bod yn gynhwysol ar bob cam ac mae wedi golygu llawer mwy na dim ond ymgynghori ar ein syniadau. Dechreuwyd gyda map gwag o Gymru mewn gweithdai i randdeiliaid. Yna symudwyd ymlaen i grwpiau ffocws ar y materion allweddol ac, yn olaf, buom yn trafod y cynllun drafft gyda'r cyhoedd mewn sesiynau galw heibio a gyda rhanddeiliaid mewn mwy na 75 o ddigwyddiadau gwahanol. Nid ydym wedi gallu cytuno â phawb nac ymgorffori'r holl syniadau a awgrymwyd, ond rydym wedi gwrando. Rwy'n falch iawn o ansawdd yr ymgysylltu a chymaint ohono a gyflawnwyd ac, yn bennaf, rwy'n falch o gymaint y mae'r cynllun wedi gwella oherwydd hynny.