16. Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:10 pm ar 29 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 7:10, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Er mwyn dangos sut mae ymgysylltu wedi gwella'r cynllun, byddaf yn tynnu sylw at rai o'r prif newidiadau arfaethedig. Mae'r rheolau'n mynnu mai'r fersiwn sydd wedi'i osod gyda'r Senedd yw'r drafft cyhoeddedig ond, mewn gwirionedd, mae'r newidiadau sy'n cael eu cynnig o ganlyniad i ymatebion i'r ymgynghoriad ac argymhellion y pwyllgor yn bwysicach ar y cam hwn. Er mwyn dangos sut y caiff y newidiadau hyn eu cynnwys, rydym wedi cyhoeddi fersiwn gwaith y cynllun wedi'i  ddiweddaru. Nid oes statws ffurfiol i hyn, ond mae'n dangos yn glir sut mae'r cynllun yn datblygu. Mae'n fwy amlwg na'r drafft bod y fersiwn gwaith yn gynllun gofodol. Mae'n cynnwys mwy o fapiau, mwy o ddata a mwy o graffeg. Mae'n ceisio cyfleu pa mor amrywiol ac unigryw yw lleoedd yng Nghymru. Cynllun yw hwn sy'n annog a galluogi cynllunio creadigol, nid cyfres o drefi clôn a maestrefi di-nod.

Mewn byd delfrydol, dylai'r cynllun cenedlaethol fod wedi'i ysgrifennu'n gyntaf. Byddai hyn wedi caniatáu i gynlluniau datblygu lleol ganolbwyntio ar wneud lleoedd creadigol ar raddfa leol. Yn hytrach, mae'r CDLlau wedi gorfod ysgwyddo'r baich ers 10 mlynedd o ddarparu holl bolisïau'r cynllun datblygu. Bydd manteision sylweddol i CDLlau o gael cynllun cenedlaethol ar waith: dim rhagor o bolisïau wedi'u dyblygu ledled pob awdurdod mwyach, a'r amser a'r lle i ganolbwyntio ar nodi safleoedd datblygu a chyfleoedd adfywio yn rhagweithiol. 

Haen ganol y cynllun datblygu fydd y cynlluniau datblygu strategol. Mae'r cynllun cenedlaethol hwn yn cynnig arweiniad clir ar y blaenoriaethau gofodol ar gyfer pob rhanbarth. Gyda'i gilydd, ynghyd â'r fframweithiau economaidd rhanbarthol a'r bargeinion dinesig, bydd gan bob rhanbarth gyfres lawn o strategaethau i'w helpu i gynllunio eu rhanbarth yn hyderus. 

Un newid arfaethedig mawr yw newid o dri rhanbarth i ôl troed pedwar rhanbarth. Mae hyn yn golygu gwahanu canolbarth Cymru a'r De-orllewin. Yr adborth o'r tu mewn i'r Siambr hon a chan randdeiliaid yn y canolbarth, yn arbennig, oedd eu bod eisiau cael eu cydnabod fel rhanbarth yn ei rinwedd ei hunan. Mae hyn yn golygu y bydd disgwyliadau y bydd y cynllun datblygu strategol nawr yn cael ei baratoi ar y cyd gan gynghorau Ceredigion a Phowys ar y materion cynllunio sy'n mynd y tu hwnt i'r ardal.

Roedd y feirniadaeth o'r ôl troed rhanbarthol yn gysylltiedig â phryder bod y strategaeth gyffredinol yn canolbwyntio'n ormodol ar ardaloedd trefol, ac nid digon ar ardaloedd gwledig. Mae hyn wedi cyflwyno her i ni, oherwydd rhaid i gynllun cenedlaethol fod yn strategol a gadael materion manwl i gynlluniau rhanbarthol a lleol, ond rhaid iddo hefyd siarad â Chymru gyfan. Felly, rydym wedi datblygu polisïau eraill ar gyfer yr economi wledig, yn ogystal â pholisïau gofodol newydd ar gyfer y canolbarth. Rhaid i ni gydnabod, fodd bynnag, y bydd graddau a graddfa'r newid dros 20 mlynedd yn anochel yn wahanol mewn ardaloedd gwledig o'i gymharu â lleoedd trefol. Rydym eisiau cefnogi ac annog economïau gwledig ac rydym eisiau gwasanaethau cyhoeddus da ac amrywiaeth o amwynderau, ond nid ydym eisiau eu datblygu heb ystyried y gost. Gobeithio y bydd pobl yn cydnabod y cydbwysedd y mae'r cynllun hwn yn ceisio'i gyflawni.

Er mwyn sicrhau bod twf yn gynaliadwy, rydym wedi ychwanegu polisïau newydd ar drafnidiaeth. Mae'r cysylltiad rhwng cynllunio defnydd tir a chynllunio trafnidiaeth yn un hollbwysig, ac yn rhy aml yn y gorffennol roedd y meddylfryd yn canolbwyntio ar sut i alluogi ceir i fynd o gwmpas yn hawdd ac yn gyflym. Mae angen i ni hyrwyddo lleoedd y mae modd cerdded iddyn nhw, ac mae angen inni gysylltu lleoedd drwy deithio'n llesol mewn ffordd gyfannol. Mae'r polisïau trafnidiaeth yn bwysig iawn o ran ein helpu ni i sicrhau'r twf trefol y mae'r strategaeth ofodol yn ei hyrwyddo mewn ffordd gynaliadwy.

Y newid olaf yr hoffwn i fynd i'r afael ag ef yn fanwl yw'r polisi ar ynni adnewyddadwy. Mae ynni gwyrdd glân yn hanfodol i'n cynaliadwyedd fel gwlad, fel cymunedau ac fel aelwydydd unigol. Mae gennym ni'r cynhwysion crai yn ein tirwedd a'n hinsawdd i arwain y ffordd, ac mae'r cynllun hwn yn adlewyrchu'r uchelgais hwnnw. Mae'r polisi gofodol ar gyfer ynni adnewyddadwy wedi'i ddiwygio. Mae rhai meysydd wedi'u newid, ac mae dau wedi'u dileu'n gyfan gwbl, ond, yn hollbwysig, rwy'n credu ein bod ni'n cyfleu ein bwriad yn well yn y polisi diwygiedig. Unwaith eto, mae hyn yn deillio o ymgysylltu helaeth, ac rwy'n hyderus y bydd y cynllun diwygiedig yn helpu i ysgogi'r sector adnewyddadwy yma yng Nghymru.

Nid oes dadl na thrafodaeth yn gyflawn eleni heb sôn, yn anffodus, am COVID-19. I raddau helaeth, cyfansoddiad y lle yr ydym ni'n byw ynddo oedd yn pennu sut yr oeddem ni'n teimlo yn ystod y cyfyngiadau symud. Pe bai gennych chi gyfle da i ddefnyddio mannau agored gwyrdd, pe bai siopau gerllaw a phe baech yn byw mewn lle gydag ysbryd cymunedol, roedd y cyfyngiadau symud yn llai o straen nag y gallen nhw fod. Dyma lle y gall y cynllun hwn ein helpu ni—i greu lleoedd sy'n gadarn ac yn fwy parod ar gyfer argyfyngau iechyd sydyn, ac i fod yn lleoedd mwy pleserus i fyw ynddyn nhw yn ystod amseroedd arferol.

Yn fy rhagair i'r cynllun drafft, ysgrifennais:

'Nid rhagweld sut y gallai Cymru newid dros yr 20 mlynedd nesaf yw'r her i gynllun fel yr FfDC o reidrwydd, ond sicrhau y gallwn ni adeiladu cymdeithas ac economi sy'n hyblyg ac yn gadarn, er mwyn galluogi pob un ohonom i elwa ar y newidiadau mewn ffordd gynaliadwy.'

Mae maint y newid sydd wedi digwydd bron dros nos yn rhyfeddol, ond rwyf yn wir yn credu bod gan y cynllun hwn y gallu sylfaenol i helpu'r adferiad o COVID-19. Rwy'n hyderus y gall helpu gyda'r adferiad oherwydd bod galluogi cymdeithas iach a gweithgar yn flaenoriaeth annatod drwyddo draw. Mae'n hyrwyddo'n gryf adeiladu lleoedd newydd o amgylch seilwaith teithio llesol. Mae ganddo'r uchelgais a'r polisïau i ddarparu seilwaith digidol o'r radd flaenaf ym mhob cwr o Gymru. Mae'n cynnwys polisïau a oedd, hyd yn oed cyn i COVID ddod i'r amlwg, yn ceisio arallgyfeirio ac adfywio canol trefi a strydoedd mawr lleol. Mae'n dweud y dylai gwasanaethau cyhoeddus newydd fel ysgolion, colegau ac ysbytai fod ar gael yng nghanol trefi, nid y tu allan i'r dref, lle mae angen car arnoch i'w cyrraedd. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd cynnal a datblygu ecosystemau naturiol.

Prif gryfder y cynllun hwn a'r newidiadau yr ydym ni'n eu cynnig iddo yw blaenoriaethau mawr y Llywodraeth hon, ac mae'r newidiadau allweddol sy'n ein hwynebu ni i gyd wedi'u cynnwys yn y strategaeth a'r polisïau. Mae materion fel iechyd, datgarboneiddio, newid hinsawdd, y Gymraeg, a chymdeithas deg a ffyniannus wedi'u gwau drwy bob rhan o'r ddogfen. Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn gynllun pwysig, ac mae'n uchelgeisiol ynglŷn â'r newid y gallwn ni ei gyflawni yng Nghymru. Bydd y newidiadau a osodwyd drwy'r Senedd yn ei gryfhau. Gobeithio y gall y ddadl hon dynnu sylw at bwysigrwydd y cynllun ac adeiladu cefnogaeth iddo ar draws pob rhan o'r Siambr. Diolch, Llywydd.