Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 29 Medi 2020.
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ar draws Llywodraeth Cymru, rydym ni'n paratoi ar gyfer ailadeiladu gwyrdd ar ôl COVID. Bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd yn creu economi fwy cynaliadwy a chydnerth yn y dyfodol, yn mynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd, ac yn mynd i'r afael â'r dirywiad i fioamrywiaeth.