1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Medi 2020.
1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu'n ôl yn wyrddach ar ôl pandemig COVID-19? OQ55625
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ar draws Llywodraeth Cymru, rydym ni'n paratoi ar gyfer ailadeiladu gwyrdd ar ôl COVID. Bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd yn creu economi fwy cynaliadwy a chydnerth yn y dyfodol, yn mynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd, ac yn mynd i'r afael â'r dirywiad i fioamrywiaeth.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae eich ffrindiau yng Nghyngres yr Undebau Llafur wedi dweud bod yn rhaid i'r adferiad gwyrdd hwn fod yn dda i'r amgylchedd, ac mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dweud bod gennym ni gyfle unwaith mewn oes—
Michelle, a gaf i eich atal am funud? Rwy'n credu efallai ein bod ni wedi colli dechrau eich cwestiwn atodol. Os gallwch chi ddechrau eto.
Iawn. Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Mae eich ffrindiau yng Nghyngres yr Undebau Llafur wedi dweud bod yn rhaid i unrhyw adferiad fod er lles yr amgylchedd ac mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dweud bod gennym ni gyfle unwaith mewn oes i lunio syniadau gweledigaethol a buddsoddiad trawsnewidiol i fynd i'r afael ag iechyd, yr economi, a'r argyfyngau hinsawdd a natur parhaus, er mwyn dyfodol hirdymor Cymru. Mae hi'n dweud ein bod ni angen diffiniad newydd o ffyniant yn seiliedig ar lesiant a ffordd decach a gwyrddach o fyw. Felly, beth yw un o'ch syniadau llawn dychymyg? Adeiladu ffordd arall eto—y llwybr coch—ffordd na fydd yn diogelu natur a'r amgylchedd, fel y mae'r TUC, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a phobl Cymru ei eisiau, ond a fydd yn eu dinistrio. Diddymwyd ffordd liniaru'r M4 gennych chi gan y byddai'n niweidio'r amgylchedd yn y de. Felly, mae'n drueni i bobl y gogledd nad ydych chi'n poeni cymaint amdanom ni, ond yn hytrach yn poeni mwy am yrwyr lorïau sydd eisiau croesi i mewn ac allan o Iwerddon. Dywedasoch yn wreiddiol iddo gael ei ddewis oherwydd mai dyma'r dewis rhataf, ond mae'r amcangyfrif o'r gost eisoes wedi codi gan £20 miliwn. Rydym ni angen i bob ceiniog sydd gennym ni gael ei gwario ar brosiectau adfer. Pa bryd fydd y Llywodraeth yn rhoi'r gorau i'r rhethreg ac yn neilltuo arian i brosiectau a fydd yn helpu ein hadferiad, ac yn gwneud hynny mewn modd nad yw'n dinistrio coetiroedd a thir fferm hynafol am byth?
Wel, Llywydd, mae gen i gyda mi yma, fel y gall yr Aelodau ei weld, y briff i randdeiliaid a ddosbarthwyd i Aelodau ac eraill am y cynlluniau ar gyfer datblygu cynllun coridor Sir y Fflint. Rhag ofn nad yw'r Aelod wedi cael cyfle i weld y ddogfen honno, gadewch i mi ei sicrhau ei bod yn ei gwneud yn eglur mai proses ddylunio ragarweiniol yw'r cam yr ydym ni arno gyda'r llwybr coch, a fydd yn edrych yn fwy manwl ar yr holl faterion amgylcheddol a pheirianneg a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Bydd y llwybr a ffefrir yn cael ei ddatblygu ymhellach o ganlyniad i'r ystyriaeth honno, gan gynnwys arfarniadau amgylcheddol, traffig ac economaidd, ac, fel y mae'r briff i randdeiliaid yn ei gwneud yn eglur, bydd hynny i gyd yn cael ei ddylunio i sicrhau bod effaith y gwelliannau—y gwelliannau angenrheidiol iawn—cyn lleied â phosibl ar drigolion lleol, y dirwedd, ansawdd aer a bioamrywiaeth. Felly, nid wyf i'n diystyru am eiliad y pryderon y mae'r Aelod wedi eu codi. Maen nhw'n rhai cywir a phriodol, ond mae'r broses yr ydym ni wedi cychwyn arni wedi ei llunio yn union i archwilio gyda phobl leol a chyda rhanddeiliaid lleol y materion y mae'r Aelod yn eu codi a'u datrys nhw mewn modd sy'n cymryd y materion pwysig hynny i ystyriaeth.
Prif Weinidog, yn amlwg os ydym ni'n mynd i adeiladu yn ôl ac adeiladu yn ôl yn wyrddach, mae'n bwysig y gall busnesau oroesi gwahanol gyfnodau cyfyngiadau symud rhanbarthol neu leol, neu gyfyngiadau symud cenedlaethol yn wir. Pa hyder allwch chi ei roi i fusnesau y byddan nhw yno ar ddiwedd yr argyfwng coronafeirws hwn, ac yn arbennig, ar ôl i ni ei drechu nawr—ar yr ail gynnig—na fydd trydydd cyfnod o gyfyngiadau symud yn ddiweddarach yn y gaeaf, pedwerydd cyfnod o gyfyngiadau symud, a fydd yn cael effaith enfawr ar fusnesau a hyder busnesau, yn ogystal ag ar hylifedd y busnesau hynny i fod yno i adeiladu yn ôl yn well, i adeiladu yn ôl yn wyrddach?
Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud dau bwynt yn y fan yna. Gwn y bydd yn croesawu'r cyhoeddiad gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates o £60 miliwn i helpu busnesau y mae'r cyfyngiadau lleol ar ddiogelu iechyd wedi effeithio arnyn nhw yn benodol, a bydd fy nghyd-Weinidog yn gwneud datganiad ar lawr y Senedd yn ddiweddarach y prynhawn yma a bydd yn gallu egluro mwy o'r manylion bryd hynny.
Mae'r ail bwynt y mae Andrew R.T. Davies yn ei wneud yn ymwneud â digwyddiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ac yn hynny o beth, hoffwn ddweud hyn: bydd hynny yn dibynnu, yn hollbwysig, ar y graddau y mae dinasyddion Cymru yn parhau i gyd-fynd â'r holl fesurau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i gynnydd i achosion o'r coronafeirws yn y dyfodol. Felly, bydd y Llywodraeth yn gwneud yr holl bethau y gallwn ni eu gwneud. Bydd y gwasanaeth iechyd, awdurdodau lleol, sefydliadau iechyd cyhoeddus, yr heddlu—yr holl sefydliadau hynny sy'n gweithio mor galed i geisio diogelu pobl a chadw Cymru yn ddiogel—yn chwarae eu rhan. Ond, yn y pen draw, mae coronafeirws yn lledaenu pan fydd pobl yn cyfarfod gyda'i gilydd o dan amgylchiadau na ddylen nhw, pan fyddan nhw'n teithio yn ddiangen, pan fyddan nhw'n dod i gysylltiad ag eraill mewn ffyrdd y gellid eu hosgoi, ac mae'r siawns sydd gennym ni o osgoi rhagor o achosion o gynnydd a chyfyngiadau lleol pellach yn dibynnu yn hollbwysig ar bob un ohonom ni yn chwarae ein rhan.