Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 29 Medi 2020.
Diolch, Llywydd. Bydd llawer ohonom ni wedi cael ein synnu a'n dychryn braidd gan y golygfeydd o ben yr Wyddfa dros y penwythnos, gyda chiwiau hir o bobl yn ceisio cyrraedd y copa gan ddiystyru yn llwyr, mae'n ymddangos, canllawiau cadw pellter cymdeithasol, ond mae'n codi mater ehangach wrth gwrs. Bydd llawer o'r rhain wedi bod yn ymwelwyr ac nid oes dim wedi'i nodi yn y canllawiau ar hyn o bryd sy'n atal rhywun sy'n dod o fan lle ceir nifer fawr o achosion o COVID mewn rhannau eraill yn y DU rhag teithio i ardaloedd o Gymru sydd â throsglwyddiad cymunedol isel ar hyn o bryd. Pam, Prif Weinidog, na chewch chi deithio o Aberafan i'r Fenni, ond y cewch chi deithio o Fanceinion i Fynytho?