Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 29 Medi 2020.
Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno ag Adam Price bod y rheini yn lluniau a oedd yn peri pryder? Gadewch i mi wneud nifer o bwyntiau mewn ymateb, fodd bynnag. I ddechrau, mae'n bwysig iawn ac rydym ni wedi cael llawer o bryder dros yr haf mewn cyrchfannau gwyliau ynghylch pobl yn teithio o fannau eraill yn y Deyrnas Unedig a'r risg y gallai hynny ei pheri o ran lledaeniad y feirws yn yr ardaloedd hynny. Mewn gwirionedd, mae'r dystiolaeth wedi bod yn llawer mwy cadarnhaol na hynny ac nid oes gennym ni enghreifftiau lle mae'r feirws wedi mynd allan o reolaeth yn yr ardaloedd gwyliau hynny gan ei fod wedi cael ei fewnforio o fannau eraill. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cael ein harwain gan y dystiolaeth a'r dystiolaeth yw nad yw hynny wedi achosi anawsterau, a chredaf fod hynny'n deyrnged i ddau beth: y rheswm yw bod pobl wedi clywed ein neges am ymweld â Chymru yn ddiogel, ac mae'n deyrnged i'r ymdrechion a wnaed yn y cymunedau hynny i groesawu pobl o fannau eraill, sydd mor bwysig i'r economi leol, ond gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n peri risg i iechyd y cyhoedd.
Fodd bynnag, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Yng Nghymru, pan fydd gennym ni ardal â nifer fawr o achosion, rydym ni'n gofyn i bobl beidio â theithio y tu allan i'r ardal honno heblaw at ddibenion penodol cyfyngedig, ac nid yw mynd ar wyliau yn un ohonyn nhw. Ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ddoe yn ei annog i wneud yr un peth yn Lloegr. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n iawn i ni sefydlu cyfres o reolaethau ar y ffin yn ceisio atal pobl o fannau eraill rhag ymweld â Chymru: rwy'n credu y byddai hynny yn ein harwain at bob math o sefyllfaoedd anghyson ac anodd. Ond rwy'n credu, wrth i ni weithredu i atal pobl sy'n byw mewn mannau â nifer fawr o achosion yng Nghymru rhag teithio i Loegr a chymryd y risg o'r feirws gyda nhw, y dylai Prif Weinidog y DU yn rhinwedd ei swydd fel Prif Weinidog Lloegr yn yr achos hwn wneud yr un peth i atal pobl o fannau â nifer fawr o achosion yn Lloegr rhag teithio o fannau eraill yn Lloegr i Gymru neu i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig oherwydd y risg y mae hynny'n sicr yn ei hachosi. Ysgrifennais ato ddoe yn gofyn iddo wneud hynny, gan ei annog i drefnu cyfarfod COBRA ar gyfer yr wythnos hon, fel y gwnaeth Prif Weinidog yr Alban dros y penwythnos, ac edrychaf ymlaen at gael ateb.