Busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 29 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:20, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Bydd busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru, Prif Weinidog, yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad yr wythnos hon, gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, o £60 miliwn ychwanegol o gyllid i fusnesau ledled Cymru wrth iddyn nhw barhau i wynebu heriau coronafeirws. O ran busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru, sut y gallen nhw fynd ati i gael gafael ar y cyllid hwnnw a chael gafael ar gymorth, a pha fath o symiau y gellid disgwyl yn rhesymol iddyn nhw eu cael o ganlyniad i'r ceisiadau hynny?