Busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 29 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:19, 29 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Carwyn Jones, Llywydd? Dyfarnwyd cyllid i 474 o ficrofusnesau a mentrau bach a chanolig eu maint ym Mhen-y-bont ar Ogwr drwy'r gronfa cadernid economaidd Cymru yn unig, yn dod i gyfanswm o £88.1 miliwn, gydag o leiaf 2,500 o swyddi yn cael eu diogelu hyd heddiw. Byddwn yn parhau i gynorthwyo busnesau ledled Cymru i aros yn hyfyw drwy'r pandemig ac i ymateb i heriau anochel Brexit.