– Senedd Cymru am 2:32 pm ar 29 Medi 2020.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad busnes. Rwy'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad busnes. A byddaf i hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod hyn wedi'i amserlennu gan y Llywodraeth am 15 munud, ond mae gennyf i lawer iawn o siaradwyr, o bob plaid, sy'n dymuno cyfrannu at y prynhawn, felly rwy'n eich rhybuddio efallai na fydd modd ichi gael eich galw, oherwydd y dyraniad amser o 15 munud ar gyfer yr eitem hon.
Y Trefnydd i wneud y datganiad. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae sawl newid i'r agenda heddiw. Bydd y ddadl ar bedwar Rheoliad Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei chynnal yn syth ar ôl y datganiad a chyhoeddiad busnes hwn. Mae'r ddadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil Pysgodfeydd wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Ac yn olaf, mae'r datganiad ar wasanaethau mamolaeth a gwelliannau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi'i ohirio tan 13 Hydref er mwyn darparu ar gyfer datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gyfyngiadau'r coronafeirws leol. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Efallai y caf i ofyn am ddatganiad byr, Trefnydd, gan Weinidog yr Economi efallai, ynglŷn â chau Ford, a ddigwyddodd, gwaetha'r modd—ac roeddem ni i gyd yn aros amdano—yr wythnos diwethaf, dim ond i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ganlyniadau terfynol y tasglu yno a sefydlwyd er mwyn cynorthwyo'r bobl sy'n gweithio yno i ddod o hyd i swyddi. Pan fyddwn ni'n sôn am roi £100,000 o'r neilltu ar gyfer hyn, mae'n ymddangos fel swm eithaf bach o'i gymharu â'r hyn y clywsom heddiw. Felly, byddai hynny i'w groesawu'n fawr.
Rwy'n credu y byddwn i hefyd yn gofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, yr wybodaeth ddiweddaraf am ei barn hi ynghylch cefnogaeth ar wahân i sŵau. Rwy'n sylweddoli y byddwn ni'n clywed mwy am y gronfa cadernid economaidd yn nes ymlaen, ond mae angen rhoi sylw penodol a manwl i ofynion penodol atyniadau ymwelwyr sy'n gyfrifol am les anifeiliaid, oherwydd, yn amlwg, nid oes unrhyw wahaniaeth a yw atyniad ar agor neu ar gau, mae angen yr un staff a'r un nifer o bobl—yr un arian arnyn nhw, mae'n ddrwg gennyf i—i gefnogi lefelau lles anifeiliaid yno.
Ac yna, yn olaf, a fyddai modd inni gael llythyr neu ddatganiad, gan Weinidog yr Amgylchedd eto, ynghylch rheoli gwarchodfa natur Cynffig yn fy rhanbarth i? Mae'n safle sy'n bwysig yn fyd-eang. Nid oes unrhyw un wedi bod yn gyfrifol amdano mewn gwirionedd ers i'r awdurdod lleol ddewis peidio ag adnewyddu ei brydles fis Rhagfyr diwethaf ac, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael rhywfaint o weithgarwch yno, mae'r trafodaethau rhyngddynt hwy a pherchnogion y safleoedd wedi chwalu. O ystyried bod hwn yn faes o bwysigrwydd—wel, byd-eang—mewn gwirionedd, nid pwysigrwydd cenedlaethol yn unig, byddwn i'n gobeithio y byddai gan y Gweinidog, gyda'i chyfrifoldebau cyffredinol dros yr amgylchedd, rywbeth pwysig i'w ddweud am hyn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Suzy Davies am godi'r tri mater pwysig hynny, a gofynnaf i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ysgrifennu at gyd-Aelodau gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y sefyllfa ar ôl tristwch cau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n gwybod bod y tasglu wedi gweithio'n ddiflino i ddod â'r holl bartneriaid at ei gilydd i ddwysáu'r ymdrechion i gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnyn nhw ac i ddenu buddsoddiad newydd ac i greu cyfleoedd cyflogaeth lleol. Ac, wrth gwrs, nawr mae'r gronfa etifeddiaeth yn bodoli, sydd ar gael i'r gymuned ei defnyddio hefyd, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i'r Gweinidog ddwyn ynghyd yr holl agweddau hynny ar y gwaith er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr â diddordeb ynghylch hynny, felly byddaf i'n sicrhau bod hynny'n digwydd.
O ran y gefnogaeth i sŵau, fel y dywed Suzy, mae cyfle, yn ddiweddarach heddiw, i geisio codi hynny gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth o bosibl. Ond, unwaith eto, efallai y byddwn i'n gwahodd Suzy i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i fynegi ei phryder penodol o ran lles anifeiliaid o ganlyniad i'r coronafeirws.
Ac, unwaith eto, ar fater gwarchodfa natur Cynffig, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf i ymateb i'r pryderon yr ydych newydd eu codi.
Mae llawer o bobl wedi cael eu gadael yn ddiymgeledd gan eu cwmnïau yswiriant ar ôl i gyfyngiadau symud gael eu gosod ar lawer o leoedd yn y De ac nad oedd pobl yn gallu mynd ar wyliau. Nawr, mae'n bosibl bod rhai polisïau wedi cynnwys print mân yn atal taliadau oherwydd COVID-19, ond rwy'n gwybod nad yw hyn yn wir ym mhob achos o wrthod. Mewn un achos, dywedodd un cwmni wrth gwsmer fod cyngor gan Lywodraeth Cymru yn amherthnasol ac mai dim ond cyngor i beidio â theithio gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad y maen nhw'n ei dderbyn. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd eich Llywodraeth yn cytuno â mi na ddylai cyfyngiadau wedi'u gorfodi gan Gymru gael eu hystyried yn llai na rhai sy'n cael eu gorfodi gan San Steffan. A wnaiff y Llywodraeth, felly, ddatganiad clir ynghylch statws cyfreithiol y cyfyngiadau hyn yng Nghymru a sut y dylen nhw effeithio ar bolisïau yswiriant? Gwn fod sylwadau wedi'u cyflwyno i Gymdeithas Yswirwyr Prydain, ond nid oedd yn glir o ateb y Prif Weinidog a oes datganiad cyfreithiol, yr wyf i wedi gofyn amdano, wedi'i wneud, ac nid yw'n ymddangos eu bod wedi gwneud unrhyw sicrwydd o ran ad-daliadau i bawb, ac yn ddiamau, y dylen nhw wneud hynny. Byddai'n ddefnyddiol inni gael datganiad i glywed beth arall y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod y bobl hynny yn cael yr ad-daliadau gwyliau sydd wedi'u gwrthod iddynt.
Mae Leanne Wood yn gywir: mae mor siomedig i bobl bod eu gwyliau wedi'u canslo o ganlyniad i goronafeirws a'r rheoliadau a'r cyfyngiadau y bu'n rhaid eu rhoi ar waith. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, rydym wedi bod yn codi hyn yn uniongyrchol gyda'r diwydiant yswiriant a chawsom ymateb cymharol gadarnhaol yn ôl, rwy'n credu, gan gorff y diwydiant. Ond, fel y dywedodd y Prif Weinidog ac rwy'n credu bod Leanne Wood wedi'i ddweud hefyd, mae angen troi'r geiriau teg hynny nawr yn weithredu ac yn daliadau i'r deiliaid polisïau yr effeithiwyd arnynt. Ond os oes diweddariad pellach ar hynny, byddaf i'n siŵr o rannu hynny gyda Leanne.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad llafar gan y Llywodraeth—yr un cyntaf o ran darparu prydau ysgol am ddim? Rydym wedi cael nifer o ddatganiadau ysgrifenedig ar y ddarpariaeth, o ran ei hehangu, ac rwy'n falch iawn o'r rheini, ond a allwn ni gael datganiad llawn ar beth yn union yw'r sefyllfa o ran hynny nawr ? Mae fy marn i yn hysbys, y dylai prydau ysgol am ddim barhau trwy bob gwyliau a, phan nad yw plant yn yr ysgol, dylen nhw barhau i gael prydau ysgol am ddim, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw fwyta pan nad ydyn nhw yn yr ysgol. Felly, a allwn ni gael datganiad am hynny, ac, yn ail, ac mae hyn yn weddol addas yr adeg hon o'r flwyddyn, ddatganiad am ddefnyddio tân gwyllt drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, a'r hyn y gall Llywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol ei wneud i gyfyngu ar ddefnyddio tân gwyllt? Oherwydd gallaf i ddweud wrthych chi, yn Nwyrain Abertawe, nad oes mis yn mynd heibio heb i arddangosfa tân gwyllt ddigwydd yn rhywle.
Mae Mike Hedges yn llygad ei le ar yr ail bwynt hwnnw. Rwy'n credu fy mod yn gweld yr arddangosfeydd tân gwyllt hynny ledled Abertawe yn rheolaidd hefyd. Rydym yn cydnabod bod canslo cynifer o ddigwyddiadau a drefnwyd eleni yn peri'r risg bod pobl yn defnyddio tân gwyllt yn eu gerddi fwyfwy. Gwyddom fod y pwerau i wneud y rheoliadau hynny yn dod o dan Ddeddf Tân Gwyllt 2003, a Gweinidogion Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny, a dyna pam yr ydym ni’n ceisio gweithio'n agos iawn gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn San Steffan, sy'n gyfrifol am reoliadau tân gwyllt. Rydym yn annog ymateb cryf iawn gan Lywodraeth y DU i'r argymhellion a wnaed yn adroddiad diweddar Pwyllgor Deisebau Tŷ'r Cyffredin ar dân gwyllt. Ac mae swyddogion yn Llywodraeth Cymru hefyd wrthi'n gweithio gyda BEIS ar negeseuon cyhoeddus ar gyfer tymor y coelcerthi sydd ar ddod, a hefyd gyda'r Cynllun Gweithredu Byd-eang i godi ymwybyddiaeth ynghylch effeithiau ansawdd aer coelcerthi a thân gwyllt ar Ddiwrnod Aer Glân hefyd.
O ran y mater cyntaf, rwy'n gwybod bod Mike Hedges yn cydnabod yn llwyr y rhan hanfodol y mae prydau ysgol am ddim yn ei chwarae o ran sicrhau bod plant yn cael y pryd iach hwnnw ac nad ydyn nhw'n llwglyd yn ystod adegau digynsail, ac yn enwedig felly yn ystod gwyliau'r haf. Ers hynny, rydym wedi darparu £1.28 miliwn arall i helpu awdurdodau lleol i dalu costau ychwanegol prydau ysgol am ddim yn ystod pythefnos cyntaf tymor yr hydref, pan fydd rhai o'r ysgolion yn addasu a bod ganddyn nhw'r dull mwy hyblyg hwnnw o ddysgu. Unwaith eto, ers hynny rydym wedi cytuno ar gyllid o £420,000 o leiaf fel y bydd y rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim hefyd yn parhau i gael y ddarpariaeth honno os na allan nhw fynychu'r ysgol am unrhyw reswm, fel gorfod hunanynysu ac yn y blaen. Felly, rydym yn ceisio sicrhau ein bod ni'n ystyried yr holl wahanol senarios a allai effeithio ar blant.
A gaf i gytuno'n gyntaf â sylwadau Mike Hedges ynglŷn â'r angen am fwy o reoleiddio ar dân gwyllt? Dau fater os caf i, Llywydd: yn gyntaf, Trefnydd, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi sy'n pryderu'n fawr o ran y nifer cyfyngedig o gerbydau trên sy'n cael eu defnyddio i fynd â phobl ifanc i Goleg Chweched Dosbarth Henffordd ac oddi yno, o orsaf y Fenni. Er bod pob plentyn wedi talu am ei docyn tymor ymlaen llaw, rwyf wedi cael gwybod bod Trafnidiaeth Cymru wedi darparu bysiau sy'n gwbl annigonol, heb gadw pellter cymdeithasol o gwbl. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth yn amlinellu unrhyw drafodaethau y gallai fod wedi'u cael â Thrafnidiaeth i Gymru ac esboniad ynghylch pam yr ymddengys bod pobl ifanc yn cael eu trin yn wahanol i oedolion yn hyn o beth.
Yn ail ac yn olaf, Llywydd, mae Undeb y Cerddorion wedi bod yn weithgar iawn ar Twitter yn ddiweddar, ac maen nhw wedi bod yn codi'r mater o ystadegau pryderus iawn am sefyllfa cerddorion drwy'r pandemig. Nid oes gan 36 y cant o gerddorion unrhyw waith o gwbl; bydd 87 y cant yn ennill llai nag £20,000 y flwyddyn. Rwy'n gwybod bod Stephen Crabb wedi codi'r mater hwn yn y Senedd. O gofio bod y celfyddydau wedi'u datganoli i Gymru, i raddau helaeth, tybed a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gymorth sy'n cael ei roi i'r celfyddydau yn ystod y cyfnod anodd hwn, yn enwedig cerddoriaeth. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd cerddoriaeth nid yn unig i gerddorion, ond i bob un ohonom ni o ran ein hiechyd meddwl. Rwy'n siŵr ein bod eisiau gwrando ar gerddoriaeth, yn enwedig ar hyn o bryd, yn ystod y pandemig, ac rwy'n credu y byddech yn cytuno â mi bod cerddoriaeth yn haeddu gwell.
Diolch i Nick Ramsay am godi'r materion hynny. Os nad oes ots ganddo ef, byddaf yn ei wahodd i ysgrifennu at Weinidog yr economi a thrafnidiaeth ar y mater cyntaf hwnnw, sy'n ymwneud â nifer y cerbydau trên i gludo pobl ifanc o orsaf y Fenni. Rwy'n credu mai dyna fyddai'r ffordd gyflymaf o fynd ar ôl yr ymholiad penodol hwnnw.
Ac yna rwy'n cydnabod yn llwyr yr effaith y mae'r coronafeirws wedi'i chael ar y bobl hynny sy'n gweithio o fewn y diwydiant cerddoriaeth, o ran sefydliadau a chorau ac ati, ond hefyd o ran y gweithwyr llawrydd sy'n ennill eu bywoliaeth drwy'r diwydiant cerddoriaeth. Dyna pam rydym ni'n parhau i weithio ochr yn ochr â'n grŵp rhanddeiliaid cerddoriaeth i ddeall pryderon ac effaith y coronafeirws, ac rydym hefyd wedi cyhoeddi cyllid drwy'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £53 miliwn. Felly, byddwn i'n cynghori sefydliadau ac unigolion i wneud ymholiadau i weld a allai rhywfaint o gymorth ariannol fod ar gael iddyn nhw drwy'r gronfa benodol honno.
Heddiw, fe yrrais i e-sgwter, sydd â chaniatâd i fynd ar y ffyrdd dan reoliadau newydd. Tybed a gawn ni ddatganiad ynghylch sut y gallwn ni ymestyn hynny fel dull arall o deithio i ategu'r gostyngiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac, yn amlwg, y gostyngiad angenrheidiol yn nefnydd cerbydau preifat.
Hoffwn i hefyd gael ail ddatganiad gan Lesley Griffiths, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am fwyd, ynghylch pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith 'dim cytundeb' posibl ar y bygythiad i gyflenwadau bwyd yr ydym yn eu mewnforio o Ewrop ar hyn o bryd. A tybed a fyddai'n bosibl gwneud hynny i'r Senedd.
Diolch i Jenny Rathbone am godi'r ddau fater hynny. Rwyf i hefyd wedi cael y pleser o geisio reidio e-sgwter ac roedd yn ffordd wych o fynd o gwmpas. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei archwilio mewn gwahanol rannau o Lywodraeth Cymru. Rwy'n deall bod rhai o'r problemau sy'n peri anhawster yn ymwneud â thrwyddedu a rheoleiddio mewn cysylltiad ag e-sgwteri, oherwydd mae'r eitemau hynny'n dod o dan Lywodraeth y DU. Ond rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi bod yn ymddiddori ynddo, a gofynnaf i iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ei syniadau yn hynny o beth.
Ac yna, unwaith eto, byddaf i'n sicrhau bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn ymwybodol o'ch cais ynghylch y datganiad hwnnw ar fater penodol effaith Brexit 'dim cytundeb' posibl ar gyflenwadau bwyd i ni yma yng Nghymru.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Prif Chwip yn ei swydd fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch sefyllfa'r ceiswyr lloches sy'n cyrraedd Penalun. Rwy'n deall bod rhagor o aflonyddwch wedi bod ddoe, er ei fod, diolch byth, o natur ansylweddol. Bydd y Llywodraeth yn ymwybodol o lythyr wedi'i eirio'n gryf iawn gan y bwrdd iechyd lleol, y cyngor sir, gyda chefnogaeth cynrychiolwyr lleol ac arweinwyr ffydd a chymdeithas ddinesig yn y cymunedau hynny. Mae copi ohono wedi dod i law. Mae'n codi pryderon difrifol ynghylch penderfyniad y Swyddfa Gartref o ran, yn benodol, y gallu i ddarparu'r cymorth priodol, y gefnogaeth grefyddol briodol, er enghraifft, a chefnogaeth drwy gyfrwng yr ieithoedd priodol, a hefyd mae'n codi rhai pryderon penodol am amodau'r adeiladau lle caiff y dynion hyn eu cartrefu. Yn amlwg, rydym ym gwybod nad yw'r Swyddfa Gartref wedi bod o gymorth hyd yma yn hyn o beth, ond byddwn i'n awgrymu, Trefnydd, pe bai'r Swyddfa Gartref yn parhau i fod yn bengaled, mai ein cyfrifoldeb ni fel dinasyddion Cymru yw sicrhau bod y dynion hynny sy'n cael eu rhoi i setlo ym Mhenalun yn cael eu cefnogi a'u diogelu. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad gan y Prif Chwip ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda'r bwrdd iechyd, yr awdurdod lleol ac asiantaethau lleol eraill i geisio sicrhau, os nad oes modd adsefydlu'r dynion ifanc hynny mewn canolfannau mwy priodol, eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Rwy'n hapus iawn i siarad â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb ar y pwynt hwn. Rwy'n credu, os cofiaf yn iawn, fod yna gwestiwn ar y mater hwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yfory, felly gallai hynny fod yn gyfle cynnar i archwilio rhai o'r materion hynny ymhellach. Ond, fel y dywedais, byddaf i'n sicrhau fy mod yn cael y sgwrs honno gyda'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb.
Rwy'n gofyn am ddatganiad ar ddiogelwch adeiladu, Gweinidog. Mae EWS1 yn dystysgrif sy'n gwirio diogelwch waliau allanol adeilad—y cladin, er enghraifft. Nawr, mae un o drigolion Marseille House yn Century Wharf, Caerdydd, wedi rhoi tystiolaeth i mi fod tystysgrif EWS1 ar gyfer yr adeilad wedi'i llofnodi gan un o gyflogeion y Mansion Group, gyda'u pencadlys yng Nghainle, Swydd Gaer, ac mae'r sawl a lofnododd y dystysgrif ddiogelwch hon wedi datgan yn ysgrifenedig na wnaethon nhw gynnal yr arolygiad, na wnaethon nhw lofnodi'r ffurflen, nad oedd ganddyn nhw unrhyw gysylltiad â Specialist Facade Inspections Ltd, sydd wedi'i leoli yn Nhrecelyn, ac nad llofnod yr uwch syrfëwr caffael yw'r llofnod ar y llythyr. Nawr, mae Specialist Facade Inspections Ltd yn dweud eu bod nhw yn ddioddefwr hefyd, ond y gwir amdani yw bod gennym ni dystysgrif ddiogelwch ac nid wyf yn gwybod pwy sydd wedi'i llofnodi. Ac mae hwn yn fater pwysig iawn nawr. Felly, hoffwn i gael datganiad ynghylch pryd y bydd y Gweinidog Tai yn mynd i'r afael â'r materion, yn sefydlu tasglu ac yn datrys hyn. Diolch.
Wel, mae'r sefyllfa y mae Neil McEvoy yn ei disgrifio yn amlwg yn un ddifrifol, felly byddwn i'n ei wahodd i anfon y manylion at y Gweinidog Tai ynglŷn â'r pryderon o ran y dogfennau, sut y cawsant eu prosesu a'r profion a gafodd eu cynnal i lywio'r gwaith o lofnodi'r dogfennau hynny. Yn amlwg, nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn i ymdrin ag ef yn y datganiad busnes y prynhawn yma. Rhoddodd y Gweinidog ymateb i ddadl ar ddiogelwch adeiladu ychydig wythnosau yn ôl, ond gwn ei bod yn awyddus i ddatblygu'r mater hwn. Felly, os byddwch chi'n anfon yr wybodaeth fanwl honno, rwy'n siŵr y gall gynghori ar y camau gweithredu gorau ar gyfer y preswylwyr dan sylw.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe hoffwn i gael datganiad ynglŷn â charchardai yng Nghymru, i amlinellu bod gan garcharorion yr hawl i siarad a defnyddio'r Gymraeg heb wynebu gwahaniaethu na chamdriniaeth o fewn ystad y carchardai. Mae hwnnw'n fater sydd wedi'i godi'n ddiweddar. Ond hefyd, o ran carcharorion sy'n gadael sefydliadau diogel, mae bob amser yn broblem pan fo digartrefedd yn fater sylweddol sy'n wynebu pobl, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, ond yng nghanol pandemig mae'r holl faterion hynny'n llawer, llawer gwaeth. Rydym ni wedi gweld adroddiad yn ddiweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a amlinellodd faint o argyfwng sy'n wynebu pobl sy'n gadael sefydliadau diogel yng Nghymru, a byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, pe bai pob un ohonom ni wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatganoli'r gwasanaeth carchardai i sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaethau cydgysylltiedig mewn ffordd a argymhellodd comisiwn Thomas.
Hoffwn hefyd gael cyfle i drafod yr adroddiad a gafodd sylw ar y BBC y bore yma am yr etholiadau nesaf ar gyfer y Senedd ym mis Mai. Mater i ni fel Aelodau benderfynu arno yw hwn. Ni chredaf y dylai ein hetholiad gael ei benderfynu drwy gytundebau yn y dirgel neu gan grwpiau bach o bobl. Mae'n fater y dylem ni i gyd allu pleidleisio arno, ei wyntyllu a'i drafod yn agored. Credaf—a chytunaf â'r Prif Weinidog—fod yn rhaid cael etholiad ym mis Mai a bod yn rhaid i'r awdurdodau perthnasol, pa un ai'r Llywodraeth neu Gomisiwn y Senedd, ddarparu'r adnoddau a'r sail gyfreithiol ar gyfer cynnal yr etholiad hwnnw os bydd amgylchiadau'n parhau'n anodd iawn, boed hynny'n rhoi pleidlais drwy'r post i bawb neu'n ffordd arall o sicrhau bod y bleidlais yn ddiogel. Ond rhaid cynnal y bleidlais, rhaid cael etholiad ym mis Mai, a rhaid inni gael y cyfle i bleidleisio ar hynny a sicrhau nad yw pobl Cymru'n cael eu hamddifadu o'u democratiaeth.
Diolch i Alun Davies am godi'r ddau fater yna. Byddaf yn sicrhau bod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ymwybodol o'r pryder hwnnw ynghylch dadl ynglŷn â charchardai yng Nghymru, ond gwn y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol hefyd yn awyddus i ysgrifennu atoch chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd wedi bod yn digwydd yn ystod epidemig y coronafeirws i sicrhau nad oes neb yn gadael y carchar ac yn cysgu ar y stryd, a pha gymorth y gallwn ni ei gynnig i bobl ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi mewn tai addas yn ystod yr argyfwng hwn, ond sicrhau wedyn eu bod yn cadw to dros eu pennau wrth inni ddechrau symud i'r cyfnod ailadeiladu.
Cytunaf yn llwyr hefyd fod yn rhaid cael etholiad ym mis Mai, ac rydym yn cynllunio ac yn gweithio'n llwyr ar y sail honno. Nid wyf eto wedi gweld copi o'r adroddiad y cyfeiriwyd ato yn y wasg, ond fel y nododd y Prif Weinidog yn gynharach, dyna yn bendant y sail yr ydym yn cynllunio arno—y bydd etholiad ym mis Mai, a bod hynny'n angenrheidiol.
Diolch i'r Trefnydd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y pedwar cynnig o dan eitemau 3, 4, 5 a 6 ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael eu grwpio ar gyfer dadl ond gyda pleidleisiau ar wahân. Oes yna unrhyw wrthwynebiad i'r grwpio ar gyfer dadl? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny.