Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 29 Medi 2020.
Diolch yn fawr iawn. Fel y dywedwyd o'r blaen, mae'r darlun economaidd yn llwm ac yn ansefydlog, a'i lwybr i'r dyfodol yn gwbl gysylltiedig â chwrs y pandemig ac, yn wir, â diwedd cyfnod pontio'r UE. Wrth i'r darlun o'r sefyllfa economaidd ddod yn fwy amlwg, rydym wedi gorfod canolbwyntio'n llymach dros y dyddiau diwethaf ar y cydbwyso cymhleth hwn a geir rhwng iechyd y cyhoedd ar y naill law a'r economi ar y llaw arall, a chyhoeddwyd cyfyngiadau pellach yn genedlaethol ac yn lleol i reoli cylchrediad y feirws wrth inni fynd i mewn i gyfnod yr hydref a'r gaeaf. O ystyried y cyd-destun ansefydlog hwn sy'n datblygu'n gyflym, ac wrth inni geisio dod o hyd i'r cydbwysedd rhwng amddiffyn ac adferiad, mae'n amlwg fod yna sail resymegol gref dros barhau i gefnogi busnesau, pobl a chymunedau Cymru er mwyn helpu i wella eu rhagolygon yn y tymor byr a chanolig.
Mae'r cynllun i amddiffyn swyddi gan Lywodraeth y DU yn sgil coronafeirws, a fydd yn dod i ben y mis nesaf, wedi bod yn hanfodol i ddiogelu swyddi yng Nghymru, ac mae hwn wedi darparu cymorth ar raddfa ddigynsail y gellir ond ddod gan Lywodraeth y DU. Rydym wedi annog Llywodraeth y DU yn gyson i roi trefniadau newydd ar waith wrth i'r cynllun i amddiffyn swyddi yn sgil coronafeirws ddod i ben. Yn arbennig, rydym wedi pwyso am fwy o gefnogaeth i'r sectorau hynny sy'n cael eu taro galetaf, am fwy o ymdrechion i greu swyddi yn ogystal â diogelu swyddi a mwy o fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau, ac fe fyddai pob un ohonyn nhw'n cynorthwyo gydag adferiad cyflymach i'r economi.
Fe ddylid cynnig cymorth i helpu gweithwyr sy'n cael eu diswyddo ar hyn o bryd, a'r rheini fydd yn colli eu swyddi yn yr wythnosau i ddod, wrth i'r cynlluniau cymhorthdal cyflogaeth presennol ddiflannu. Mae angen gwneud mwy i helpu pobl i ddod o hyd i swyddi newydd a chymell cyflogwyr i gyflogi gweithwyr. Felly rydym yn croesawu penderfyniad y Canghellor i ymestyn y gostyngiad mewn treth ar werth ar gyfer y sector lletygarwch a thwristiaeth tan fis Mawrth 2021, i ymestyn terfynau amser i ad-dalu ar gyfer busnesau sydd wedi gohirio TAW a rhoi telerau sy'n fwy hyblyg i fusnesau sydd wedi cael benthyciadau a gefnogir gan y Llywodraeth. Serch hynny, yn gyffredinol, mae'r mesurau a gyhoeddwyd, yn anffodus, yn annhebygol o fod yn ddigonol i atal cynnydd mawr mewn diweithdra yn y misoedd i ddod. Mae angen gwneud mwy, ac fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau sy'n fwy eofn i sicrhau ein hadferiad economaidd ni a chefnogi ffyniant busnesau a phobl ledled y DU i'r dyfodol.
Hyd yma, mae ein cronfa cadernid economaidd eisoes wedi cefnogi 13,000 o fusnesau, gan helpu i sicrhau mwy na 100,000 o swyddi i'n dinasyddion. Nod ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn, sy'n cyfateb i 2.6 y cant o'n gwerth ychwanegol crynswth, yw atgyfnerthu ac ategu cynlluniau eraill gan Lywodraeth y DU, ac mae hyn yn golygu mai cwmnïau yng Nghymru sy'n cael y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unman yn y Deyrnas Unedig.
Nawr, yn dilyn yr egwyddorion i ddarparu cymorth gwell, fe gyhoeddais i ddoe fod Llywodraeth Cymru yn darparu £140 miliwn ychwanegol i fusnesau i'w helpu nhw i ymdrin â heriau economaidd COVID-19 ac ymadawiad arfaethedig y DU â'r UE. Fe fydd y cyllid o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd yn gweld cymorth ehangach yn cael ei roi i ddiogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu, yn ogystal â chymorth ychwanegol i gwmnïau y mae cyfyngiadau lleol yn effeithio arnyn nhw. Fe fydd y cyfnod newydd hwn o'r Gronfa Cadernid Economaidd yn golygu y bydd £80 miliwn ar gael i helpu busnesau i ddatblygu a diogelu cyflogaeth eu gweithluoedd, drwy grantiau datblygu busnes, ond yn gyfnewid am hynny bydd gofyn i gwmnïau ymrwymo rhai o'u hadnoddau nhw eu hunain. Fe fydd tua £20 miliwn o'r gyllideb hon yn cael ei ddyrannu i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch y gwn eu bod yn wynebu cyfyngiadau a heriau penodol wrth inni wynebu misoedd y gaeaf. Yn ogystal â hynny, fe fydd y cynllun yn gwobrwyo'r busnesau sy'n creu cyfleoedd gwaith newydd i'r rheini dan 25 oed. Yn y cyfamser, fe fydd £60 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i gynorthwyo ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol yn weithredol.