Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 29 Medi 2020.
Yn olaf, rwy'n rhoi ystyriaeth i sut y gellid defnyddio Banc Datblygu Cymru i atgyfnerthu a sicrhau cyfalaf tymor hir i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru wrth inni ymlwybro drwy'r misoedd nesaf. Fe fydd y grantiau datblygu busnes yn agored i fusnesau o bob maint. Fe fydd microfusnesau, y rhai sy'n cyflogi rhwng un a naw o bobl, yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000, ar yr amod eu bod nhw'n cyfateb hynny â buddsoddiad ganddyn nhw eu hunain o 10 y cant o leiaf. Fe fydd BBaChau, y busnesau hynny sy'n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl, yn gallu gwneud cais am hyd at £150,000. Nawr, fe fydd yn ofynnol i fusnesau bach gyfateb hynny â 10 y cant o leiaf o'u harian nhw eu hunain, a busnesau canolig eu maint gydag o leiaf 20 y cant o'u harian nhw eu hunain. Fe all busnesau mawr, y rhai sy'n cyflogi dros 250 o bobl, wneud cais am hyd at £250,000, ar yr amod eu bod yn cyfateb hyn â'u buddsoddiad eu hunain o 50 y cant o leiaf. Fe fydd elfen o ddisgresiwn yn y gronfa i alluogi lefelau uwch o gymorth i ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig sydd yn y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch.
Fe fydd y gwirydd cymhwysedd, i gwmnïau gael gwybod a fyddan nhw'n gallu cael cyllid o drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd, ar gael o'r wythnos nesaf ymlaen. Fe allai cwmnïau a gafodd arian grant drwy gam 1 a/neu 2 o'r Gronfa, neu grantiau annomestig sy'n gysylltiedig â chyfraddau, fod yn gymwys i gael cymorth pellach hefyd drwy drydydd cam y Gronfa. Fe fydd £60 miliwn arall, fel y dywedais i, yn cael ei ddarparu i gefnogi cwmnïau sy'n cael eu gorfodi i gau neu sy'n cael eu heffeithio'n sylweddol gan y cyfyngiadau lleol ar hyn o bryd.
Fe all natur cyfyngiadau lleol amrywio yn ôl amgylchiadau amrywiol, ac fe all hyn roi pwysau ariannol ar Lywodraeth Cymru os na chaiff ei liniaru'n llawn gan unrhyw ymateb gan Lywodraeth y DU. Gallaf ddweud, wrth gynllunio'r cam cymorth nesaf hwn, ein bod ni wedi dadansoddi'r data economaidd yn ofalus ac wedi cynnwys yr hyn a ddysgwyd mewn ardaloedd eraill yn y DU sydd wedi gweld cyfyngiadau lleol, gan gynnwys, yn arwyddocaol iawn, Gaerlŷr ac Aberdeen. Rydym yn ymwybodol y bydd cyflwyno cyfyngiadau lleol yn effeithio ar economïau lleol, ar fusnesau a gweithwyr fel ei gilydd, ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid lleol i archwilio ffyrdd o gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod hwn i ddiwallu eu hanghenion nhw ac anghenion y gweithwyr a'r cymunedau.
Dylai busnesau o hyd fynd at Busnes Cymru yn y lle cyntaf i gael cyngor, ac mae ein hamrywiaeth bresennol ni o ddewisiadau ar gyfer cael cymorth ariannol i fusnesau yn parhau. Mae COVID-19 yn fater sy'n effeithio ar y DU gyfan. Mae gan Lywodraeth y DU swyddogaeth barhaol i lunio a darparu cymorth economaidd lleol. Rwyf wrthi'n cynnal trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn.
Ni welwyd cyfnod fel hwn erioed o'r blaen. Mae'r coronfeirws a'r perygl cynyddol y bydd y DU yn cyrraedd diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb wedi gosod her anhygoel ar ein busnesau ni. Eto i gyd, mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar ein busnesau ni ar yr adeg y mae'r angen mwyaf amdano, y bydd yna gymorth pellach ar gael. Mae hyn yn rhoi'r hyblygrwydd inni ymateb i amgylchiadau hefyd, wrth iddynt ddod i'r amlwg, a fydd yn bwysig dros y misoedd cynhyrfus nesaf. Fel Llywodraeth i Gymru, rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein busnesau ni, ein cymunedau ni a'n gweithwyr ni.