Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 29 Medi 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y pecyn trawsnewid trefi gwerth £90 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr a'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ychydig cyn toriad yr haf ar gymorth i ganol ein trefi ymdopi â phandemig y coronafeirws.
Mae ymdeimlad o falchder wrth wraidd cymunedau ledled y wlad. Lleoedd hamdden, byw, gweithio a dysgu. Trefi sy'n cyfateb i anghenion heddiw wrth barhau i fod wedi'u gwreiddio i'w treftadaeth falch. Nid yw'r pandemig wedi newid ein hymrwymiad na'n huchelgais. Os rhywbeth, mae wedi'i atgyfnerthu a'i ail-danio. Ond mae wedi newid yr amgylchiadau ac wedi cyflymu tueddiadau sefydledig fel twf gwerthiannau ar-lein a phwysau ar y sector manwerthu.
Rydym ni hefyd wedi gweld newidiadau mwy cadarnhaol, a gwerthfawrogiad newydd o'r mannau gwyrdd a natur ar garreg y drws a llai o draffig, tagfeydd ac, o ganlyniad, allyriadau, ochr yn ochr â newid tuag at siopa'n lleol a'r cynnydd ym mhoblogrwydd marchnadoedd awyr agored. Mae'n rhaid i ni gadw'r newidiadau cadarnhaol hyn. Mae creu cymunedau gwyrdd a glân, gyda gwelliannau fel gwyrddio mannau cyhoeddus, mynd i'r afael â draenio a gwella ansawdd aer, yn ganolog i lunio canol trefi y dyfodol.
Mae cymorth seilwaith gwyrdd trawsnewid trefi yn ein galluogi i roi'r dyhead hwn ar waith heddiw, gydag 20 o brosiectau gwerth cyfanswm o £9 miliwn, fel y cynllun yn y Drenewydd a fydd yn ailgyfeirio glaw o adeiladau'r stryd fawr a meysydd parcio drwy systemau draenio cynaliadwy ac yn creu gerddi glaw ac ardaloedd wedi'u tirlunio.
Mae'r pandemig COVID-19 yn ei gwneud yn bwysicach fyth i ni roi ein hagenda trawsnewid trefi ar waith yn awr, ac rydym yn ei rhoi ar waith, yn galluogi addasiadau canol trefi i gefnogi'r amgylchiadau presennol ond a allai, ar yr un pryd, gynnig cipolwg ar wahanol ffyrdd o annog ymwelwyr yn y dyfodol—o seddau awyr agored, lloches a gwres ar gyfer caffis a thafarndai, ac ardaloedd aros awyr agored ar gyfer salonau yn Sir Fynwy, i arwyddion ac addasiadau ymbellhau cymdeithasol mewn 10 tref ar Ynys Môn, i ddarparu goleuadau a phŵer ar gyfer marchnadoedd awyr agored yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae awdurdod lleol Abertawe yn unig wedi derbyn dros 200 o ddatganiadau o ddiddordeb ac, yn eu geiriau nhw, maen nhw wedi'u syfrdanu gan y rhyddhad a'r adborth cadarnhaol gan fusnesau annibynnol lleol.
Mae Bro Morgannwg yn targedu hygyrchedd, teithio llesol a seilwaith gwyrdd gyda rheseli newydd i feiciau, mannau storio, planhigion, seddi, lledu'r droetffordd i greu lle i fusnesau, gwella goleuadau a stondinau symudol. Mae'r pwyslais ar y Barri, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth, sy'n cysylltu ag ymgyrch farchnata, a ariennir gan ein cyllid refeniw trawsnewid trefi i helpu i adfer canol y trefi hynny.
Caiff y cyllid refeniw hwn ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol i farchnata canol trefi, dod o hyd i atebion digidol, gwella ymddangosiadau a mynd i'r afael ag eiddo gwag.
Gwyddom fod eiddo gwag hirsefydlog yn falltod ar ein cymunedau. Dyna pam yr wyf wedi cyflwyno cronfa ychwanegol o £15.2 miliwn i gynyddu'r broses orfodi ac wedi darparu £10 miliwn arall o gyllid benthyciadau i gefnogi busnesau i adfywio eiddo gwag. Mae ceisiadau bellach ar gyfer y cyllid benthyciad gan awdurdodau lleol a bydd yr arian yn cael ei ddyrannu'n fuan.
Mae cynorthwyo a sicrhau dyfodol ein trefi mewn ffordd sy'n dod â manteision i'n pobl, ein lleoedd a'n planed yn flaenoriaeth draws-Lywodraethol. Boed yn gronfa trafnidiaeth gynaliadwy leol sy'n hyrwyddo atebion teithio llesol, cymorth ar gyfer mentrau twristiaeth mawr, buddsoddi mewn prosiectau treftadaeth nodedig, cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol, neu'r lleoedd lleol ar gyfer grantiau natur, mae trefi ledled Cymru yn elwa o ymyrraeth draws-Lywodraethol.
Mae COVID-19 yn golygu bod yn rhaid i ni fod hyd yn oed yn fwy penderfynol ynghylch gweithredu ein hegwyddor o roi canol trefi yn gyntaf, gan gydweithio ac mewn partneriaeth o fewn a thu allan i'r Llywodraeth. Bydd angen ffordd newydd o weithio wrth wraidd y Llywodraeth. Mae fy nghyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru wedi cytuno mai canol y dref yn gyntaf fydd y lens ar gyfer ystyried pob syniad newydd. Mae hynny'n gofyn am ffyrdd newydd o weithio o fewn Llywodraeth Cymru a gyda'n partneriaid i sicrhau ein bod yn sylwi ar y cyfleoedd creadigol i ddod â chyfle economaidd a bywiogrwydd newydd yn ôl i ganol ein cymunedau.
Yn ogystal â hybu nifer yr ymwelwyr a chyflogaeth, mae lleoliadau canol trefi yn dod â manteision amgylcheddol, gyda chyfleoedd ar gyfer seilwaith gwyrdd, o ran mannau cyhoeddus a mannau ar gyfer ailddefnyddio ac atgyweirio, a chyd-leoli, gan leihau'r ddibyniaeth ar gymudo hir a theithiau ceir.
Mae'r Llywodraeth hon wedi egluro ei hymrwymiad i alluogi pobl i weithio'n agosach i'w cartrefi, gan weithio mewn ffordd a allai wella bywoliaeth a ffyrdd o fyw. Mae mannau neu ganolfannau cydweithredol sydd wedi'u cydleoli yng nghanol trefi yn cefnogi adfywio a gweithgarwch economaidd ac yn sail i'n dull gweithredu canol tref yn gyntaf.
Dros y blynyddoedd, wrth i'r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn byw newid, felly hefyd y ffordd yr ydym ni'n defnyddio canol ein trefi. Er mwyn ein helpu i ymateb i her y newid hwn a chydnabod nad Llywodraeth yn unig sydd â'r holl atebion neu rôl i'w chwarae, yr wyf wedi sefydlu'r grŵp gweithredu gweinidogol ar ganol trefi, gydag arbenigedd allanol, gyda chefnogaeth grwpiau gweithredu rhanbarthol amlddisgyblaethol i nodi a blaenoriaethu camau gweithredu a fydd yn cryfhau canol ein trefi yn y tymor byr a'r tymor hir.
Mae ymgysylltu a grymuso cymunedau yn ganolog i hyn. Nid yw hyn yn ymwneud â lleoedd yn unig ond y bobl sy'n eu gwneud, ac mae ond yn iawn iddynt lunio eu dyfodol. Bydd y grŵp gweithredu yn blaenoriaethu'r mater hwn ac rydym hefyd yn cynnal ymgyrch gyfathrebu i ymgysylltu â busnesau a chymunedau lleol a chysylltu â'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn marchnata canol eu trefi.
Nid oes amheuaeth gennym i gyd fod canol trefi ledled y DU yn wynebu heriau. Yma yng Nghymru, mae eu cefnogi drwy COVID-19 ac yn y dyfodol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae ein trefi'n bwysig; maen nhw o bwys i mi ac maen nhw o bwys i bobl ledled Cymru. Nid canolfannau busnes a masnach yn unig ydyn nhw, er mor bwysig yw hynny, maen nhw'n leoedd sy'n bwysig i ni ar lefel lawer mwy cynhenid, lleoedd sy'n rhan o bwy ydym ni ac o ble yr ydym ni'n dod. Lleoedd yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld nid yn unig yn goroesi ond yn dod yn ôl yn well, gan ailddatgan ein balchder i ddod â manteision i'n cymunedau, ein heconomi a'n hamgylchedd lleol.