Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 30 Medi 2020.
Fel cymaint o ddatblygiadau ynni môr, mae'n cael ei gefnogi gan arbenigedd ysgol eigioneg Prifysgol Bangor, ysgol sydd ag enw da am ragoriaeth ryngwladol, ac ysgol sydd wedi'i lleoli ym Mhorthaethwy ym Môn. A gaf i ddiolch yn fan hyn i'r Llywodraeth am ymateb yn bositif i fy ngalwadau i am gytundeb newydd efo'r brifysgol i sicrhau dyfodol eu llong ymchwil nhw y Prince Madog? Mi fydd angen mwy o gefnogaeth i sicrhau dyfodol yr adnodd yma mewn blynyddoedd i ddod—adnodd sy’n bwysig nid yn unig i ddatblygiadau Môn, ond i’n huchelgeisiau cenedlaethol ni o ran ynni môr.
Awn ni'n ôl i'r tir. Dewn ni i Gaerwen, lle mae parc gwyddoniaeth M-Sparc, eto'n rhan o Brifysgol Bangor, yn dangos beth mae uchelgais yn gallu ei wneud—mae fy nheyrnged i yn fan hyn i'n rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, am ddelifro hwnnw. Mae'r ffaith bod M-Sparc wedi llenwi mor sydyn efo arloeswyr sydd wedi penderfynu mai yn Ynys Môn mae eu dyfodol nhw yn ysbrydoliaeth. Dwi'n edrych ymlaen i weld cymal nesaf y datblygiad, a'r cymal nesaf wedyn, yn digwydd fel datganiad o hyder yn ein dyfodol uwch-dechnolegol ac arloesol ni ar yr ynys.
Un datblygiad nad oes gennym ni ddim lleoliad corfforol iddo fo eto, ond un dwi'n edrych ymlaen i'w ddelifro gan Lywodraeth Plaid Cymru, ydy pencadlys y corff ynni cyhoeddus newydd Ynni Cymru, corff fydd yn gallu cynnig cymaint i ni, dwi'n meddwl—yn cydlynu datblygiadau ynni, yn arwain ar y gwaith o greu Cymru wirioneddol wyrdd, yn cynnwys rhaglen retroffitio cartrefi cenedlaethol, ac yn ceisio gyrru prisiau ynni glân hefyd i lawr i bobl Cymru. A lle gwell na'r ynys ynni i fod yn gartref i'r corff newydd yma?
Dyma i chi ddatblygiad ynni arall y byddai Ynni Cymru am helpu ei ddelifro. Mae yna waith hynod o gyffrous wedi bod yn digwydd, dan arweiniad Menter Môn eto, dan y teitl 'ynys hydrogen'. Mi arweiniais i ddadl yn y Senedd ym mis Chwefror yn amlinellu manteision hydrogen o ran yr agenda datgarboneiddio, a hynny ar y diwrnod y cafodd cymdeithas newydd Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru ei lansio. Wel, yn barod, drwy waith hydrogen Môn, rydym ni'n gweld sgôp mawr i ddatblygu hydrogen ar yr ynys, a hynny yn defnyddio ynni glân i'w gynhyrchu o, wedi'i gynhyrchu yn lleol. Eto, dwi'n gofyn i chi, Weinidog, ystyried sut all Llywodraeth Cymru helpu delifro hyn, ac mae yna res o bartneriaid yn barod i'w gefnogi hefyd.
Ond tra bod yna botensial mawr ym maes ynni, gadewch i fi ddod â ni'n ôl at y melinau gwynt yna. Mae traddodiad cynhyrchu bwyd Môn yn un arall sydd yn gryf—mae o'n gryf iawn o hyd, ac yn cryfhau. Dwi wedi bod yn trio pwyso ar y Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu parc cynhyrchu bwyd ym Môn—mae'n ddatblygiad perffaith i ni. Ac er mai efo Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig dwi wedi bod yn trafod hyn, mi liciwn i'ch tynnu chithau i mewn fel Gweinidog economi. Beth sydd yn digwydd ar hyn o bryd ydy bod nifer fawr, impressive iawn, a dweud y gwir, o gwmnïau—mwy a mwy o gwmnïau—wedi bod yn gwario ar droi eiddo busnes arall yn llefydd addas i gynhyrchu bwyd. Dwi'n dal yn grediniol y byddai'n well paratoi eiddo pwrpasol ar eu cyfer nhw, a chreu hyb, neu hybs hyd yn oed, cynhyrchu bwyd allai fod yn ffenest siop gyhoeddus hefyd i'r sector yma. Mae'r ganolfan technoleg bwyd yng Ngholeg Menai yn ganolfan eithriadol, wedi'i thyfu'n ddiweddar, ac mi ddylen ni yn lleol fod yn creu y gofod a darparu'r gefnogaeth i fusnesau sy'n dechrau eu taith yno i dyfu a datblygu a chyflogi ym Môn.
Mae'r diwydiant cynhyrchu bwyd yn mynd law yn llaw wrth gwrs efo'r sector amaeth ym Môn, sydd heb ei ail. Mae'n helpu i greu'r ddelwedd werdd yna—delwedd sydd mor bwysig o ran twristiaeth hefyd. Does gen i ddim amser i ganolbwyntio gormod ar dwristiaeth yn fan hyn, ond i ddweud ei fod e mor, mor bwysig i ni. A beth wnaf i ei ddweud ydy mor bwysig ydy hi ein bod ni yn creu diwydiant twristiaeth sydd yn wirioneddol gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ond hefyd yn ddiwylliannol, ac yn gynaliadwy o ran bod yn sensitif i mor fregus ydy'n marchnad dai ni, testun cyfoes iawn ar hyn o bryd. Dwi'n wirioneddol falch o weld beth sy'n teimlo fel trafodaeth go iawn yn dechrau ar hynny o fewn y sector dwristiaeth ym Môn ac yn ehangach. Rŵan, dwi'n meddwl, ydy'r amser i wneud hyn.
Os caf i fynd yn ôl at amaeth, rydym ni'n dod at un o'r heriau mawr sy'n ein wynebu ni, a'r her honno ydy ein hymadawiad ni o'r Undeb Ewropeaidd. Roeddwn i'n rhyfeddu gweld Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn yn pleidleisio yn erbyn gwelliannau i'r Bil Amaeth yn Nhŷ'r Cyffredin yn ddiweddar fyddai wedi helpu i warchod buddiannau ffermwyr ym Môn wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mi fyddai'r gwelliannau wedi gwneud yn siŵr bod mewnforion amaethyddol dan gytundebau masnach newydd yn gorfod cyrraedd yr un safonau uchel â ffermwyr Môn. Mae gwrthod gwelliannau felly yn tanseilio'r ffermwyr y mae hi yn eu cynrychioli. Ac mae hynny, wrth gwrs, ar ben pryderon am golli marchnad oherwydd Brexit.
Ac mae Brexit yn dod â fi at borthladd Caergybi. Mi dyfodd masnach drwy'r porthladd yn rhyfeddol ar ôl creu'r farchnad sengl. Caergybi ydy'r ail borthladd roll-on, roll-off prysuraf ym Mhrydain. Mae wedi siapio economi a chymeriad yr ardal—dros 1,000 yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol, a llawer mwy'n anuniongyrchol. Ac mae yna nerfusrwydd go iawn o edrych ar gymal 4 o'r Bil masnach fewnol a'r effaith mae hynny'n debyg o'i gael ar symud llif masnach sy'n dod o Ogledd Iwerddon ar hyn o bryd—rhyw draean o'r traffig i gyd—a symud hwnnw o bosib yn fwy uniongyrchol o Ogledd Iwerddon i Loegr neu i'r Alban.
Os ydy trafferthion, gwaith papur, arafwch yn digwydd—. Maen nhw'n sôn am ddatblygiadau yn Kent ar y newyddion drwy'r amser; prin oes yna sôn am ddatblygu adnoddau yng Nghaergybi. Wythnosau sydd yna i fynd. Mae o'n dweud popeth am agwedd Llywodraeth Prydain tuag at borthladd Caergybi. Mae'r pethau yma'n fy llenwi i a phobl Môn ag ofn, ac mae angen datrysiad. Ond mi wnaf i bopeth i wthio ar Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig i sicrhau bod gennym ni ddyfodol ffyniannus, er gwaethaf Brexit.
I gloi, Llywydd, newyddion da iawn ym Môn y penwythnos diwethaf—rydym ni wedi llwyddo i ddenu Gemau yr Ynysoedd i Ynys Môn yn 2025, neu o bosib rhyw flwyddyn neu ddwy yn hwyrach erbyn hyn, yn dibynnu ar COVID. Maen nhw'n gemau sydd yn gemau hapus iawn, yn tynnu cystadleuwyr—miloedd ohonyn nhw—o ynysoedd ar draws y byd yn un o'r campau mwyaf o'i fath yn y byd o ran multisports. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Llywodraeth am addo cefnogaeth i hwnnw, ac yn ddiolchgar i gyngor Môn. Mae yna griw bach ohonom ni fel pwyllgor wedi bod yn gweithio'n galed i gyrraedd at y pwynt yma, ac yn enwedig, wrth gwrs, mae fy niolch i i wirfoddolwyr Gemau yr Ynysoedd, sy'n gweithio mor galed.
Ond, mewn dyddiau llwm, mae'n dda cael rhywbeth i edrych ymlaen ato fo, ac mi fydd o yn rhywbeth i ni fel cymuned ym Môn edrych ymlaen ato fo. A'r neges heddiw yma, efo'r gefnogaeth iawn gan y Llywodraeth, ac efo ysbryd o fenter oddi mewn: mae yna ddyfodol disglair iawn yn economaidd i edrych ymlaen ato fo yn Ynys Môn heddiw.