Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 30 Medi 2020.
Mi ges i fy magu yn Ynys Môn. Roedd gan yr ynys wastad dynfa arna i, ond am wn i, pan wnes i gyfarfod y ferch o Fôn fuasai'n dod yn wraig i fi maes o law y cafodd y berthynas ei selio unwaith ac am byth, a dyna wnaeth yn eithaf siŵr mai mynd yn ôl i Fôn fuaswn i i fagu fy mhlant innau. Ac ie, mynd yn ôl oedd o, achos fel cymaint o'n pobl ifanc ni, mi adawais i i brifysgol, i waith yng Nghaerdydd, Llundain am gyfnod, ond dwi'n gwybod nad ydy pawb ddim yn teimlo bod yr un cyfle ganddyn nhw i fynd yn ôl, neu i beidio â gadael yn y lle cyntaf.
Cyfle i gadw'n pobl ifanc ni, neu i ddenu rhai yn ôl oedd y brif apêl yn Wylfa Newydd yn lleol. Wrth gwrs, doedd o ddim yn cael ei gefnogi gan bawb, o bell ffordd. Cannoedd o swyddi hirdymor, cyfnod llewyrchus iawn yn ystod yr adeiladu, ond cyfnod hynod, hynod heriol hefyd—cyfnod a allai, heb fesurau lliniaru cadarn iawn, iawn, gael effaith drom ar ein cymunedau ni. A gwthio am y lliniaru yna, i ddyrchafu y budd lleol, cyfleon am swyddi lleol—dyna oedd yn flaenoriaethau i fi, wastad, wrth ddelio efo'r datblygiad hwnnw, a hynny'n gweithio'n agos iawn efo'r cyngor sir. Ac mi oedd y datblygwr yn deall pwysigrwydd y pethau yna; dwi'n grediniol yn hynny. Ond rŵan, wrth gwrs, mae'r datblygiad yna ar stop—ergyd economaidd fawr o ran y swyddi a'r refeniw lleol oedd yn cael eu haddo. Does dim dianc oddi wrth hynny. Ac mi fydda i'n cario ymlaen, wrth gwrs, i weithio, trafod efo cwmni Horizon wrth iddyn nhw ystyried a oes yna fodd, neu sut, i atgyfodi'r cynllun. Ond mae'n rhaid inni fod yn barod i ystyried bod gennym ni gyd-destun newydd rŵan, cyd-destun lle dydy dibynnu ar un buddsoddiad enfawr fel hyn ddim yn gallu cael ei weld fel yr ateb i'r holl gwestiynau, ac yn sicr, mae yna beryglon mawr mewn codi gobeithion pobl eto, heb fod yna seiliau cadarn iawn i wneud hynny, a dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn cytuno efo fi yn hynny o beth.
Felly, mae eisiau edrych ar ein cryfderau eraill ni a'r cyfleon eraill. Dwi wedi clywed rhai yn dweud bod yna flynyddoedd wedi'u colli, wedi'u gwastraffu—blynyddoedd a allai fod wedi eu defnyddio yn datblygu cynlluniau newydd amgen. Wel, y newyddion da—a dwi wastad wedi dadlau hyn—ydy nad oedd pob wy yn yr un fasged yn Ynys Môn. Efallai nad oedden nhw'n hawlio'r un penawdau, cweit, efallai eu bod nhw'n llawer llai, o edrych arnyn nhw'n unigol—llawer llai—ond o'u cymryd efo'i gilydd, mae yna fentrau eraill hynod gyffrous sydd ar y gweill ym Môn sydd wedi bod yn ddistaw bach yn codi momentwm yn y blynyddoedd diwethaf, a rŵan, fwy nag erioed, mae angen cefnogaeth i'w gwireddu nhw.
Felly, ymhle y dechreuaf i? Dwi am ddechrau efo ynni. Mae'r rhaglen ynys ynni yn un sy'n dal yn fyw ac yn iach; rydyn ni'n ynys sydd wedi arloesi dros y canrifoedd mewn ynni adnewyddol. Mae pawb yn gwybod mai Môn ydy mam Cymru, ond er mwyn darparu bwyd ar gyfer ei phlant, mi oedd yna bron i hanner cant o felinau gwynt yn malu gwenith ar draws yr ynys dros y blynyddoedd. Wrth ddatgan budd anuniongyrchol, nid yn unig bod fy mam-yng-nghyfraith i'n arfer rhedeg bwyty yn un o felinau enwocaf Môn, Melin Llynon, a bod fy nheulu-yng-nghyfraith wedi bod yn rhan o ddatblygu ynni gwynt ar yr ynys yn y 1990au, rydyn ni fel ynys rŵan yn edrych tua'r môr—mae'n golygon ni tua'r môr. Mae'r archwaeth am ynni glân yn tyfu, a phan fydd y ffermydd gwynt nesaf yn y môr oddi ar arfordir y gogledd yn datblygu, i'r gorllewin o'r rhai presennol, wel, gadewch inni wneud yn siŵr mai Caergybi fydd y porthladd i'w gwasanaethu nhw, fel mae Mostyn wedi gwasanaethu'r ffermydd gwynt mwy dwyreiniol mor effeithiol.
Ac o dan y môr, gadewch inni helpu i gael cynllun barcudion gwynt Minesto dros y llinell, i droi eu gwaith ymchwil nhw yn fenter fasnachol lwyddiannus fydd yn creu swyddi da eto yng Nghaergybi. Mae eisiau sicrhau bod cynllun ynni Morlais yn cael bwrw yn ei flaen—ardal brofi technoleg ynni cerrynt fydd yn dod â budd lleol o ran swyddi a buddsoddiad, a chaniatáu ymchwil o bwysigrwydd rhyngwladol. Ac mae'n cael ei redeg fel menter gymdeithasol, gan Fenter Môn, fydd yn cyfeirio'r budd economaidd at ein cymunedau a'n pobl ifanc ni. Oes, mae eisiau ei ddatblygu fo'n ofalus, yn bwyllog—mae'n wir am bob technoleg newydd—ond mae angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth i helpu sicrhau'r buddsoddiad angenrheidiol yma iddo fo allu mynd ymlaen i'r cam nesaf, ac felly, hefyd, Llywodraeth Prydain.