Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 30 Medi 2020.
Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pa gymorth ychwanegol sydd ar waith i ddysgwyr a chanddynt bobl hynod agored i berygl COVID yn eu cartrefi? Mae gennyf ddysgwr yn fy etholaeth a hoffai barhau gyda'i haddysg ôl-16, ond yn anffodus mae ei choleg lleol wedi dweud wrthi fod yn rhaid iddi fynychu safle'r coleg er mwyn dilyn pynciau Safon Uwch o'i dewis. O ganlyniad i hynny, ni all gymryd rhan mewn addysg ar hyn o bryd. A ydych wedi gallu rhoi cyngor i golegau fel y gallant oresgyn y rhwystr y mae rhai pobl ifanc bellach yn ei wynebu o ganlyniad i fod â brodyr a chwiorydd neu eraill yn eu teuluoedd a allai fod yn hynod agored i berygl?