1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 30 Medi 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg ôl-16 yn ddiogel yn ystod pandemig COVID-19? OQ55616
Diolch, Jayne. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer darparwyr addysg ôl-16 i'w helpu i weithredu'n ddiogel ar yr adeg hon. Mae’n rhaid i golegau a phrifysgolion gynnal asesiadau risg i sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith i reoli'r risg o drosglwyddo COVID-19 yn eu sefydliadau.
Diolch, Weinidog. Mae sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu mynychu'r ysgol neu'r coleg yn gam calonogol, a gwn fod y Gweinidog ac athrawon ledled Cymru wedi gweithio'n anhygoel o galed i sicrhau bod hyn wedi digwydd, ac yn parhau i ddigwydd, hyd yn oed yn yr amgylchiadau anodd a newidiol a welwn. Fodd bynnag, mae un pryder a fynegwyd wrthyf gan athrawon a disgyblion yn ymwneud ag addysg ôl-16 mewn ysgolion. Mae'r bobl ifanc sydd yn yr ysgol yn fwy tebygol o weithio'n rhan-amser a chysylltu’n gymdeithasol â phobl y tu allan i'w hysgol. Fodd bynnag, mae'r canllawiau a’r rheolau cadw pellter cymdeithasol yr un fath â'r hyn ydynt ar gyfer plant 11 oed. Ceir canfyddiad fod dosbarthiadau chweched dosbarth yn cynnwys llai o ddisgyblion, ond mewn rhai pynciau, mewn rhai ysgolion, deallaf fod dros 30 o fyfyrwyr mewn dosbarth. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â’r canllawiau ar gyfer myfyrwyr ôl-16 yng Nghymru, a beth a ddysgwyd, yn dilyn y mis cyntaf, a allai lywio cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Diolch yn fawr iawn, Jayne. Rydych yn llygad eich lle—mae gennym ddosbarthiadau chwech o bob lliw a llun, a gall maint dosbarthiadau amrywio'n sylweddol, ond mae'n wir, weithiau, mewn pynciau poblogaidd mewn ysgolion mawr, y gall dosbarthiadau chweched dosbarth gynnwys nifer o ddisgyblion. Rydym wedi dweud yn glir iawn yn ein canllawiau i ysgolion a cholegau y dylem geisio lleihau cysylltiadau rhwng grwpiau o fyfyrwyr ar yr adeg hon, ac mae'n bwysig iawn fod addysgwyr yn gallu cadw pellter cymdeithasol oddi wrth eu dosbarth.
Yn amlwg, rydym yn parhau i adolygu gweithrediad ysgolion a cholegau yn ofalus iawn, yn dilyn y mis cyntaf, mewn gwirionedd, o weithgarwch. Rwy'n falch o ddweud nad yw'r rhan fwyaf o ysgolion wedi cael achos, a lle rydym wedi cael achosion o COVID mewn disgyblion neu athrawon, achos unigol mewn un sefydliad ydyw fel arfer. Rydym wedi cael achosion yn ein colegau addysg bellach, ond rwy'n falch o ddweud, wrth weithio gyda thimau profi, olrhain a diogelu lleol, fod hynny wedi arwain at gyn lleied o darfu â phosibl ar ddysgu. Ond yn amlwg, rydym yn parhau i adolygu'r canllawiau i ysgolion a cholegau yn gyson o ganlyniad i'r profiadau dros y pedair wythnos ddiwethaf, ac rydym yn bwriadu adolygu’r canllawiau yng ngoleuni'r hyn rydym wedi'i ddysgu hyd yma. Yr hyn sy'n bwysig iawn i'w gofio yw mai'r cyngor hyd yn hyn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw nad oes unrhyw dystiolaeth fod ysgolion neu golegau'n fectorau ar gyfer lledaenu'r feirws, ac mae’r achosion a welsom mewn ysgolion yn adlewyrchiad o'r hyn a welwn yn ein cymunedau.
Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pa gymorth ychwanegol sydd ar waith i ddysgwyr a chanddynt bobl hynod agored i berygl COVID yn eu cartrefi? Mae gennyf ddysgwr yn fy etholaeth a hoffai barhau gyda'i haddysg ôl-16, ond yn anffodus mae ei choleg lleol wedi dweud wrthi fod yn rhaid iddi fynychu safle'r coleg er mwyn dilyn pynciau Safon Uwch o'i dewis. O ganlyniad i hynny, ni all gymryd rhan mewn addysg ar hyn o bryd. A ydych wedi gallu rhoi cyngor i golegau fel y gallant oresgyn y rhwystr y mae rhai pobl ifanc bellach yn ei wynebu o ganlyniad i fod â brodyr a chwiorydd neu eraill yn eu teuluoedd a allai fod yn hynod agored i berygl?
Diolch, Darren. Rydym wedi cael trafodaethau rheolaidd gydag ysgolion a cholegau ynghylch pa addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud i gefnogi myfyrwyr a allai fod yn agored iawn i niwed neu'n teimlo'n agored iawn i niwed ar hyn o bryd. Byddai'n bwysig i'r myfyriwr dan sylw gael trafodaeth gyda'i choleg, ond os hoffech ysgrifennu ataf, Darren, am yr achos penodol hwnnw, fe wnaf ymchwiliadau pellach.