Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 30 Medi 2020.
Ie, Weinidog, roeddwn yn gwrando ar eich ymateb i Jayne Bryant a'r sylw hwnnw nad yw ysgolion a cholegau yn fectorau ar gyfer lledaeniad COVID. Serch hynny, rydym wedi gweld niferoedd sylweddol yn cael eu hanfon adref o rai ysgolion—200 mewn un achos, dros 400 mewn un arall. Rydych yn dweud eich bod yn monitro'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ond a ydych wedi dysgu unrhyw beth eto ynglŷn â pham yr ymddengys bod colegau addysg bellach yn gwneud yn well o ran sicrhau llai o addysg wyneb yn wyneb? Maent yn colli llai o fyfyrwyr nag ysgolion. Pam hynny?