1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 30 Medi 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Suzy Davies.
Os gallech chi roi eich meicroffon ymlaen, Suzy Davies—iawn, dechreuwch eto.
Sori am hynny.
Ie, Weinidog, roeddwn yn gwrando ar eich ymateb i Jayne Bryant a'r sylw hwnnw nad yw ysgolion a cholegau yn fectorau ar gyfer lledaeniad COVID. Serch hynny, rydym wedi gweld niferoedd sylweddol yn cael eu hanfon adref o rai ysgolion—200 mewn un achos, dros 400 mewn un arall. Rydych yn dweud eich bod yn monitro'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ond a ydych wedi dysgu unrhyw beth eto ynglŷn â pham yr ymddengys bod colegau addysg bellach yn gwneud yn well o ran sicrhau llai o addysg wyneb yn wyneb? Maent yn colli llai o fyfyrwyr nag ysgolion. Pam hynny?
Diolch, Suzy. Fel y dywedoch chi, rydym yn cadw mewn cysylltiad agos â'n hawdurdodau addysg lleol a'n cyfarwyddwyr addysg. Ac yn yr achos y sonioch chi amdano—400 o ddisgyblion yn gadael ysgol—rwyf wedi siarad â'r pennaeth yn yr amgylchiadau hynny i ddeall pam y cododd y sefyllfa honno. Fel y dywedais yn fy ymateb i Jayne Bryant, dyna pam ein bod yn dysgu gwersi'r pedair wythnos hyn, lle mae ysgolion wedi gweithio'n anhygoel o galed i roi’r canllawiau rydym wedi eu darparu iddynt ar waith. Ond yn amlwg, yng ngoleuni'r profiadau hynny, mae angen inni ddeall beth arall y gallwn ei wneud, sut y gallwn wella ein canllawiau mewn ysgolion, fel y gallant gyfyngu ar nifer y cysylltiadau uniongyrchol, a pha gymorth arall y gallwn ei roi i ysgolion drwy ein timau profi, olrhain a diogelu, er mwyn gallu eu helpu i wneud penderfyniadau i sicrhau y gall myfyrwyr aros yn yr ysgol yn ddiogel, a pheidio ag amharu ar eu haddysg, a pha fyfyrwyr, yn wir, fydd yn gorfod ynysu. Felly rydym yn awyddus i adolygu ein canllawiau, ac fel y dywedais, i weithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r timau profi, olrhain a diogelu i sicrhau bod y cyngor a roddir i benaethiaid cystal ag y mae angen iddo fod, a bod gennym gysondeb ar draws y timau profi, olrhain a diogelu yng Nghymru.
Diolch. Credaf y byddai'n ddefnyddiol hefyd pe bai colegau mewn ardal benodol yn barod i siarad â rhai o'r penaethiaid mewn ysgolion yn eu hardal ynglŷn â rhai o'r syniadau da y maent wedi'u cael.
Mae addysg bellach ac addysg uwch wedi derbyn dros £20 miliwn yr un o bot COVID Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y bwlch cyllido a ragwelir o fwy na £400 miliwn ar gyfer addysg uwch. Nodwyd gennych yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf mai dyna un o'r rhesymau pam nad ydych yn cefnogi gostyngiad rhannol mewn ffioedd i fyfyrwyr sydd wedi colli peth o'r y profiad y maent wedi talu amdano. Ond fel y clywsom, mae rhai myfyrwyr yn gorfod aros yn eu hystafelloedd drud i fewngofnodi pan allent fod wedi gwneud hynny mewn amgylchedd mwy cyfarwydd a rhatach gartref—cartref y bydd llawer o fyfyrwyr yn ei adael am y tro cyntaf. Nid oes ceiniog o'r £27 miliwn ar gyfer addysg uwch wedi'i neilltuo ar gyfer cymorth i fyfyrwyr. Beth y mae prifysgolion yng Nghymru yn ei ddweud wrthych yn awr ynglŷn â faint o'r arian hwnnw sy'n cael ei ddarparu ar gyfer cymorth annisgwyl a chymorth emosiynol a lles meddyliol amserol i fyfyrwyr, ac a fyddant yn gofyn i chi ychwanegu at y £27 miliwn oherwydd hynny?
Suzy, fe fyddwch yn ymwybodol y bydd y £27 miliwn o arian ychwanegol rydym wedi'i roi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael ei ddarparu i'n sefydliadau gan y cyngor cyllido. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr ein cyngor cyllido ddoe ddiwethaf. Ac yn fy llythyr cylch gwaith atynt, mae cymorth iechyd meddwl ac emosiynol i fyfyrwyr yn flaenoriaeth i mi, a byddwn yn disgwyl i beth o'r £27 miliwn hwnnw gael ei ddefnyddio i gynorthwyo prifysgolion i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles cadarn i fyfyrwyr ar yr adeg hon, a hefyd, o bosibl, i ddefnyddio peth o'r cyllid hwnnw i sicrhau bod y trallod ariannol y gallai rhai myfyrwyr ei wynebu hefyd yn cael ei ystyried. Yn amlwg, mae gan fyfyrwyr o Gymru sy'n byw yng Nghymru ac sy'n astudio—wel, ble bynnag y maent yn astudio—hawl i'n rhaglen gymorth. Ond rwy'n cydnabod y byddai llawer o fyfyrwyr fel arfer yn ychwanegu at eu hincwm drwy swyddi rhan-amser, a allai fod yn anoddach i’w cael ar yr adeg hon. Felly, mae cymorth ariannol a chymorth iechyd meddwl yn flaenoriaeth i mi, ac yn flaenoriaeth i'r cyngor cyllido, ac rydym yn aros am gynigion gan sefydliadau Cymru i'r pot hwnnw o arian, er mwyn sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael.
Diolch. Mae honno’n neges dda a chryf i brifysgolion, felly rwy'n sicr yn gobeithio eu bod yn ei chlywed, oherwydd ar ryw adeg, wrth gwrs, byddwn yn craffu arnoch mewn perthynas â gwariant y £27 miliwn hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddwch am gael y sicrwydd hwnnw yn yr adroddiadau a gewch yn ôl gan brifysgolion maes o law.
Ar fater cysylltiedig—fe fyddwch yn ymwybodol o hyn—mynegwyd pryderon wrthyf, yn fy rhanbarth ac mewn mannau eraill, yn ymwneud â dryswch ynglŷn â myfyrwyr sy'n byw mewn tai amlfeddiannaeth mawr, oddi ar y campws. Nawr, mae peth eiddo yn amlwg yn aelwydydd un person mewn un adeilad, ond gall eraill ddweud yn gwbl onest eu bod yn un cartref dilys o ffrindiau, a’u bod yn rhannu'r holl gyfleusterau a'r costau fel teulu. Bydd hyn yn effeithio ar sut y gall deiliaid yr adeiladau hynny ymateb i gyfyngiadau symud, ac mae’n sicr fod gan y rhai yn y sefyllfa ddiwethaf fantais. Rwy'n derbyn bod hyn yn berthnasol i bobl nad ydynt yn fyfyrwyr hefyd. Ond a allwch ddweud wrthym pa mor bell y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd o ran caniatáu i fyfyrwyr unigol gael cartref estynedig cyfyngedig er lles eu hiechyd meddwl? Ac yn fwy cyffredinol, pa bryderon rydych wedi eu dwyn i sylw'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn â dealltwriaeth myfyrwyr ynghylch beth yw ystyr aelwyd estynedig, gan gofio bod gan bob un ohonynt eu teuluoedd eu hunain, a allai fod yn fwy na pharod i dderbyn eu plentyn eu hunain mewn swigen ond nid aelwyd gyfan o ffrindiau?
Diolch yn fawr. A gaf fi hysbysu'r Aelod nad oddi wrth sefydliadau unigol na'r cyngor cyllido yn unig rwy'n ceisio sicrwydd ynglŷn â lefelau’r cymorth y mae sefydliadau yn ei roi tuag at iechyd meddwl? Cyfarfûm yr wythnos hon ag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru i ddeall ganddynt sut y mae eu haelodau'n teimlo. Byddaf yn cyfarfod â hwy eto yr wythnos nesaf, a byddaf yn parhau i gyfarfod â hwy yn wythnosol er mwyn imi allu cael adroddiadau ganddynt ynglŷn â sut y mae eu haelodau'n teimlo. Felly, mae llawer o wirio a chydbwyso ynghlwm wrth sut rydym yn deall yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad.
Credaf ei bod yn bwysig iawn, Suzy, ein bod yn nodi'n glir na fydd myfyrwyr yn cael eu trin mewn ffordd lai ffafriol na thrigolion parhaol Cymru. Cymru yw eu cartref bellach. Ein disgwyliad yw eu bod yn cadw at reoliadau a chanllawiau Cymru, ond yn sicr, ni fyddwn yn rhoi cyfyngiadau ychwanegol ar waith. Yn wir, mewn rhai achosion, gan gydnabod rhai o'r heriau sydd ynghlwm wrth ddarpariaethau llety i fyfyrwyr—ar y campws ac oddi ar y campws—mae'r gallu i rannu cyfleusterau wedi'i wneud yn eithriad i rai o'r materion sydd ynghlwm wrth aelwydydd un person. Ond yn amlwg, byddwn yn parhau i weithio gyda'r Gweinidog tai i sicrhau bod y myfyrwyr y gellid eu disgrifio fel aelwydydd un person yn cael yr un ystyriaeth wrth edrych ar y materion ehangach sy'n gysylltiedig ag unigolion sy’n byw ar eu pen eu hunain yn ystod y pandemig—rhai a allai fod yn agored i niwed, rhai nad ydynt yn agored i niwed. Ond mae angen y cyswllt dynol hwnnw ar bob un ohonom, ac fel Llywodraeth, rydym yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o ganiatáu i hynny ddigwydd yn ddiogel, gan gydnabod y gall cyfnodau o ynysu i'r rheini sy'n byw ar eu pen eu hunain fod yn arbennig o heriol.
Llefarydd ar ran Plaid Cymru nawr. Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ddoe, Weinidog, dywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i gwestiwn gan Adam Price ynglŷn â myfyrwyr yn dychwelyd adref dros y Nadolig na fyddai’n trin myfyrwyr yn wahanol i unrhyw un arall. Nawr, rwy'n falch iawn o glywed yr hyn rydych newydd ei ddweud wrth Suzy Davies—na fyddwch yn eu trin yn llai ffafriol—ond byddwn yn awgrymu i'r Llywodraeth fod hwn yn grŵp unigryw iawn o ddinasyddion. Ni all fod llawer o grwpiau eraill o ddinasyddion a fydd yn symud mewn niferoedd mor fawr o un gymuned i'r llall ar adegau penodol.
Os bydd myfyriwr mewn sefyllfa lle byddant mewn prifysgol o dan gyfyngiadau symud dros y Nadolig, a yw hynny'n golygu na allant fynd adref? Mae popeth rydych newydd ei ddweud wrth Suzy Davies am les myfyrwyr a'u llesiant meddyliol ac emosiynol yn galonogol iawn, ond byddwn yn awgrymu i'r Llywodraeth fod angen trin myfyrwyr yn wahanol, ac efallai mai'r hyn sydd ei angen arnom yw system lle gellir profi pob myfyriwr cyn iddynt ddychwelyd adref ar gyfer y Nadolig, fel y gallent ynysu’n gymdeithasol ar ôl cyrraedd adref, os mai dyna fydd angen iddynt ei wneud—os cânt brawf positif. Fel arall, byddwn yn wynebu'r posibilrwydd o grwpiau o bobl ifanc neu bobl ifanc ar eu pen eu hunain dros wyliau'r Nadolig, a gwn na fyddech am weld hynny fwy nag y byddwn i.
Diolch, Helen Mary. Hoffwn roi sicrwydd i’r Siambr, ac yn wir, hoffwn roi sicrwydd i fyfyrwyr a rhieni fod sicrhau y bydd myfyrwyr sy’n preswylio ac yn astudio ym mhrifysgolion Cymru yn gallu dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig yn flaenoriaeth i mi, ac yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Dywedaf hynny fel Gweinidog, a dywedaf hynny fel mam sydd newydd anfon fy merch hynaf i’r brifysgol nos Sul. Credwch fi, efallai fod ganddi ei barn ei hun ynglŷn â dod adref ar gyfer y Nadolig, ond rwy’n hynod o awyddus iddi fod gartref gyda mi dros y Nadolig.
Felly, byddwn yn gweithio gyda'n Gweinidog iechyd, yn gweithio gyda'n sefydliadau unigol, ac yn wir, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y gellir rhoi'r amgylchiadau ar waith i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae SAGE, yn eu cyngor i Lywodraeth y DU, wedi dweud yn glir iawn fod angen mynd i’r afael â hyn ledled y DU gyfan oherwydd llif y myfyrwyr ar draws ein ffiniau. Bydd myfyrwyr unigol yn dymuno croesi ffiniau siroedd a gwledydd, felly mae angen i Lywodraethau weithio gyda'i gilydd i greu'r amgylchiadau a fydd yn caniatáu i hynny ddigwydd. Trafodais y mater hwn gyda’r Gweinidog prifysgolion yn Llywodraeth y DU ddoe. Byddaf yn ei drafod eto yfory gyda Gavin Williamson, ac rydym yn benderfynol o sicrhau y bydd myfyrwyr yn gallu dychwelyd adref pan fyddant yn dymuno gwneud hynny. Ond yn amlwg, mae angen inni roi'r amgylchiadau ar waith er mwyn iddynt allu gwneud hynny'n ddiogel.
Diolch, Weinidog. Felly, rydych yn dweud wrth y Siambr heddiw y byddwch yn trin myfyrwyr, o bosibl, yn wahanol i grwpiau eraill o bobl. Os yw hynny'n wir, rwy'n falch iawn o'i glywed. Rwy’n llwyr gefnogi eich pwynt ynglŷn â cheisio datblygu ymateb i hyn ar sail y DU gyfan, oherwydd yn amlwg, mae gennym gryn dipyn o lif trawsffiniol. Fodd bynnag, os bydd Llywodraeth y DU, gan weithredu fel Llywodraeth Lloegr, yn methu rhoi trefn ar eu hunain mewn perthynas â hyn, rwy'n dweud wrthych fy mod yn gobeithio y bydd cynllun B gan Lywodraeth Cymru.
Os caf droi, felly, at fyfyrwyr sydd yn y brifysgol ar hyn o bryd ond nad ydynt yn cael unrhyw addysgu wyneb yn wyneb neu ond ychydig o addysg wyneb yn wyneb, bydd rhai o'r myfyrwyr hynny'n dymuno dychwelyd adref a dysgu o bell oddi yno. Beth yw barn y Llywodraeth ar hynny ar hyn o bryd? Er enghraifft, os ydych, gadewch inni ddweud, yn fyfyriwr yn Aberystwyth a bod eich cartref yn RhCT, a oes gan y cyfryw fyfyriwr hawl i ddod o Aberystwyth i RhCT i astudio am gyfnod o wythnosau os ydynt yn teimlo bod angen iddynt wneud hynny, ac a oes ganddynt hawl wedyn i ddychwelyd i'r brifysgol pan fydd modd i ddysgu cyfunol a dysgu wyneb yn wyneb ailgychwyn? Credaf ei bod yn sefyllfa eithaf cymhleth i fyfyrwyr, a chredaf y byddent yn gwerthfawrogi mwy o eglurder.
Tybed a allwch roi syniad inni hefyd y prynhawn yma, Weinidog, gan y gwn y bydd eich bys ar y pwls mewn perthynas â hyn, faint o ddysgu cyfunol sy'n mynd rhagddo, faint o ddysgu wyneb yn wyneb y mae myfyrwyr yn ei wneud. Fel y gwyddoch, nid wyf yn cefnogi safbwynt y Ceidwadwyr sy’n awyddus i weld ffioedd yn cael eu had-dalu i fyfyrwyr, gan nad wyf yn credu y gall ein sefydliadau fforddio hynny, ond os yw myfyrwyr yn cael fawr iawn o addysg wyneb yn wyneb, os o gwbl, rwy'n credu y dylid caniatáu iddynt fynd adref i fod gyda’u teuluoedd, os gallwn wneud hynny’n ddiogel, er mwyn iddynt gael y cymorth emosiynol hwnnw. Bydd llawer ohonynt, yn enwedig myfyrwyr ar eu blwyddyn gyntaf wrth gwrs, yn hunanynysu gyda phobl nad ydynt erioed wedi cyfarfod â hwy o'r blaen o bosibl, ac nid yw hwnnw'n lle hapus i unigolyn 18 oed fod.
Yn gyntaf, o ran atal dysgu wyneb yn wyneb yn Aberystwyth, gwnaed y penderfyniad hwnnw yn hwyr nos Sul; bydd yn cael ei adolygu ddydd Gwener a gwn fod y brifysgol yn gobeithio gallu newid yn ôl i ddull dysgu cyfunol. Bydd cipolwg ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos i chi fod ein sefydliadau ledled Cymru eisoes yn darparu dull dysgu cyfunol, boed yn fyfyrwyr meddygol sydd yn ôl yn dysgu wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Caerdydd, neu fyfyrwyr peirianneg ym mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, neu fyfyrwyr hanes yn Abertawe, neu'n wir, rhywbeth sydd o ddiddordeb arbennig i mi, ein haddysg gychwynnol i athrawon, ein myfyrwyr addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd allan yn dysgu yn yr awyr agored fel rhan o'u cyfnod sefydlu yn y brifysgol ac yn datblygu eu sgiliau'n darparu gweithgareddau dysgu awyr agored. Felly, mae prifysgolion yn gweithio'n anhygoel o galed i ddarparu’r dull dysgu cyfunol hwnnw.
Yr hyn sy'n bwysig iawn i mi, Helen Mary, ac rwy'n siŵr ei fod yn bwysig i chithau, yw bod angen iddo fod yn brofiad o safon. Mae’n rhaid i ddarlithoedd a ddarperir ar-lein fod yn ddarlithoedd da ac yn brofiadau da, yn ogystal â'r cyswllt wyneb yn wyneb hwnnw. Dyna pam fy mod wedi cael sicrwydd gan CCAUC ddoe y byddant yn monitro ansawdd y dull dysgu cyfunol yn ofalus iawn. A gadewch imi ddweud, nid yng nghyd-destun dysgu yn unig y mae dysgu cyfunol a chyswllt wyneb yn wyneb yn bwysig. Mae'n rhan bwysig o sut y gall prifysgolion gadw llygad ar les eu myfyrwyr, drwy gael cyfle i'w gweld wyneb yn wyneb, a gwn fod llawer iawn o amser, ymdrech ac adnoddau wedi’u rhoi, er enghraifft, i ehangu ystadau prifysgolion a chreu mwy o le i ganiatáu i hynny ddigwydd yn ddiogel. Felly, er enghraifft, yn achos Aberystwyth, maent wedi ailgomisiynu adeiladau nad oeddent yn cael eu defnyddio mwyach fel y gallant ddarparu'r cyswllt wyneb yn wyneb hwnnw mewn grwpiau tiwtorial bach, a gwn eu bod yn awyddus i barhau i wneud hynny cyn gynted â phosibl.