Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 30 Medi 2020.
Weinidog, dangosodd adroddiad gan Estyn yn gynharach eleni fod angen gwella safonau llythrennedd, rhifedd a Chymraeg ail iaith mewn oddeutu hanner yr ysgolion cynradd a'r holl ysgolion uwchradd a arolygwyd ers 2017 yn Sir Benfro. O gofio bod gwasanaethau addysg llywodraeth leol Sir Benfro yn peri pryder ac yn galw am weithredu dilynol, a allwch chi ddweud wrthym pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r awdurdod lleol, a chonsortia rhanbarthol yn wir ynglŷn â chodi safonau a gwella canlyniadau, yn enwedig mewn perthynas ag addysgu Cymraeg fel ail iaith?