Addysg Cyfrwng Cymraeg

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 30 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:12, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Paul. Mae gwelliannau wrth addysgu Cymraeg fel ail iaith yn bwysig ledled Cymru, nid yn Sir Benfro yn unig, a bydd yn rhan bwysig o'n cwricwlwm diwygiedig, ein cyfleoedd dysgu proffesiynol a'n darpariaeth newydd addysg gychwynnol i athrawon. Cyfarfûm â chynrychiolwyr, gyda fy swyddogion a chynrychiolwyr o Sir Benfro cyn toriad yr haf i drafod pa gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r awdurdod addysg lleol hwnnw i helpu i wella safonau yn gyffredinol.