Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 30 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:14, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod, Lywydd, fod digon o sgyrsiau aeddfed yn digwydd ynglŷn â sut y gallwn gyflawni targedau Cymraeg 2050. Rwy’n gwbl ymwybodol o lwyddiant y model trochi yn helpu plant i ddysgu Cymraeg. Mae fy mhlant fy hun wedi elwa ohono. Nid oes unrhyw beth yn y Bil ar hyn o bryd a fydd yn atal trochi rhag digwydd, ond rwy’n ymwybodol o bryderon ynglŷn â sut y gallai’r Bil, yn anfwriadol, wneud trochi neu’r cynnydd mewn trochi yn anoddach ac felly, fel y dywedais, rwy’n barod i wrando ar y pryderon hynny ac i ymgysylltu'n gadarnhaol â'r bobl sy'n ymgysylltu'n gadarnhaol â mi.