Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 30 Medi 2020.
Diolch am eich cwestiwn. Er ein bod wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion mewn rhai ardaloedd, nid yw'r cyngor penodol i bobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn flaenorol wedi newid ar hyn o bryd. Nid oes angen iddynt roi camau gwarchod caeth ar waith yn awr. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ymgysylltu â phrif swyddogion meddygol ledled y DU ynglŷn â chyngor i'r grŵp hwn ar leihau eu risg o niwed, a byddwn yn ysgrifennu at y rheini sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol yn y dyddiau nesaf.